a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Polisi Masnach: Materion Cymru
  4. Datganiad: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd
  5. Datganiad: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016/17
  6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod
  7. Datganiad: Sut y mae Technoleg Ddigidol yn Gwella Gofal Sylfaenol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Senedd
  2. 'Fe wnes i danysgrifio i wasanaeth am £5 y mis'

    Mae AC Llanelli Lee Waters yn dweud "Rydw i wedi gweld y dyfodol ac mae'n gweithio. Neithiwr fe ges i fy ymgynghoriad meddyg teulu ar-lein cyntaf.

    "Fe wnes i danysgrifio i wasanaeth am £5 y mis, ac fe gefais i apwyntiad o fewn awr".

    Lee Waters
  3. 'Papur wedi ei wasgu yn eu poced i'w roi i'r meddyg teulu'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod gormod o gleifion yn dal i adael ysbyty gyda darn o bapur wedi ei wasgu yn eu poced i'w roi i'r meddyg teulu.

    Rhun ap Iorwerth
  4. 'Yr angen i gael mynediad cyflym ac effeithiol i wybodaeth bersonol'

    Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu data, ac yn crybwyll ei phrofiad personol hi fel claf i amlygu'r angen i gael mynediad cyflym ac effeithiol i wybodaeth bersonol.

  5. 'Y defnydd o dechnoleg ddigidol ddim ar y raddfa y byddwn i'n ei ddisgwyl'

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud "er bod yna dystiolaeth glir o'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol, dyw e'n dal ddim ar y raddfa y byddwn i'n ei ddisgwyl".

  6. Sut y mae Technoleg Ddigidol yn Gwella Gofal Sylfaenol

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw datganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Sut y mae Technoleg Ddigidol yn Gwella Gofal Sylfaenol.

    Technoleg Ddigidol
  7. 'Fe wnaeth ein llywodraeth ddechrau gwanhau ein pleidlais'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud "ychydig dros 50 mlynedd wedi i fenywod bleidleisio yn y wlad hon am y tro cyntaf un, fe wnaeth ein llywodraeth ni ddechrau gwanhau ein pleidlais a'i rhoi ymaith ddarn wrth ddarn ynghyd â llywodraethiant ein glwad i fiwrocratiaid anetholedig".

    Michelle Brown
  8. 'Dylai cydraddoldeb rhywedd fod wrth galon yr agenda wleidyddol'

    Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud y dylai'r angen am gydraddoldeb rhywedd fod wrth galon yr agenda wleidyddol yng Nghymru.

    Sian Gwenllian
  9. 'Pleidlais i fenywod ddim yn bleidlais i bob menyw'

    Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn atgoffa ACau nad yw "pleidlais i fenywod yn bleidlais i bob menyw", gan grybwyll Irac fel enghraifft o wlad lle nad yw merched yn gallu pleidleisio mewn rhyw chwarter o seddi seneddol.

    Suzy Davies
  10. £300,000 i nodi Canmlwyddiant Rhoi'r Bleidlais i Fenywod

    Mae Julie James yn cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron i £300,000 i nodi Canmlwyddiant Rhoi'r Bleidlais i Fenywod gydag amrywiol weithgareddau ar y themâu Dathlu, Addysgu a Chymryd Rhan.

    Mae'n dweud y bydd cymunedau ledled Cymru yn medru gwneud cais am grantiau ar gyfer digwyddiadau i ddathlu llwyddiannau menywod. Bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd bleidleisio er mwyn penderfynu pa ddwy fenyw ddylai gael eu cofio mewn cerflun am eu cyfraniad i gymdeithas a hanes Cymru.

  11. Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Arweinydd y Tŷ, Julie James: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod.

    Ar Chwefror 6 1918 cafodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ei phasio yn y DU.

    Fe olygodd y ddeddf bod rhai merched dros 30 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf.

    Pleidlais i ferched
    View more on twitter
  12. 'Angen cyd-weithio er mwyn ymateb yn effeithiol i'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamblo'

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod "gamblo yn cael ei reoleiddio'n bennaf ar lefel llywodraeth y DU, gyda nifer o gyrff y DU yn cael cyfrifoldeb am wahanol agweddau o gamblo.

    "Bydd angen cyd-weithio er mwyn ymateb yn effeithiol i'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamblo", meddai.

    Mae'n ychwanegu, "fe fyddwn ni'n edrych i ddefnyddio unrhyw bwerau newydd yng Nghymru mewn modd synhwyrol a chymesur i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamblo sy'n broblem."

  13. Mae'n gallu cael 'effaith gwbl ddinistriol'

    Mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn dweud bod gamblo yn fater iechyd y cyhoedd sy'n dod yn fwyfwy difrifol yng Nghymru.

    Mae'n dweud bod gamblo yn gallu arwain at drafferthion ariannol a niwed, gan gynnwys gorbryder, straen, iselder ac at gamddefnyddio alcohol a sylweddau.

    "Mae’n gallu cael effaith gwbl ddinistriol ar y bobl sydd agosaf at yr unigolion hyn, ac ar gymunedau".

    Yn ôl ei adroddiad roedd 61% o oedolion yng Nghymru wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd 1.1% o'r boblogaeth, sef 30,000 o bobl, fod ganddynt broblem gamblo. Amcangyfrif bod 3.8% arall o bobl yng Nghymru mewn perygl o ddatblygu problem gamblo.

    Mae Dr Atherton yn galw am fwy o gymorth i'r rheini sy'n cael eu niweidio gan gamblo yng Nghymru.

    Mae'n gofyn am well ymchwil a monitro i weld beth yw effaith gamblo ar iechyd, ac am fwy o reoleiddio ar gamblo yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn gyfan.

    Dr Frank Atherton
    Image caption: Dr Frank Atherton
  14. Gamblo ac iechyd

    Dyma ail adroddiad blynyddol Dr Frank Atherton.

    Mae’r adroddiad blynyddol yn:

    • bwrw golwg ar iechyd cyffredinol poblogaeth Cymru
    • cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i reoli a chyfyngu ar y peryglon iechyd a achosir gan glefydau heintus, ffactorau amgylcheddol a digwyddiadau mawr
    • tynnu sylw at feysydd iechyd cyhoeddus sy’n dod i’r amlwg neu nad ydynt yn cael sylw digonol.

    Eleni mae’r adroddiad yn edrych ar y berthynas rhwng gamblo ac iechyd.

    Gamblo
  15. Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016/17

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016/17.

    Vaughan Gething
  16. Aros tan 2020 'ddim yn ddigon da'

    Mae Bethan Jenkins Plaid Cymru yn dweud nad yw'n ddigon da i aros tan 2020 i ystyried newidiadau i'r drefn blaenoriaethu.

    Bethan Jenkins
  17. 'Angen dyddiad fel targed'

    Mae'r Ceidwadwr David Melding yn galw am ddyddiad targed ar gyfer dileu cysgu ar y stryd yng Nghymru.

    David Melding
  18. Y cynnydd diweddar yn y niferoedd sy'n cysgu allan yn 'siomedig'

    Mae Rebecca Evans yn dweud bod y cynnydd diweddar yn y niferoedd sy'n cysgu allan "yn siom yn wyneb ein hymdrechion a'r arian rydyn ni wedi'i fuddsoddi. Ond dw i o'r farn ei fod, i raddau helaeth, yn adlewyrchu effeithiau cynyddol y cyni sy'n parhau, y cynnydd o ran tlodi mewn gwaith a'r camau sydd wedi'u cymryd i ddiwygio'r system les."

    Mae hi heddiw wedi cyhoeddi dwy ddogfen bolisi newydd heddiw, yn nodi dulliau newydd o fynd i'r afael â digartrefedd.

    Rebecca Evans
  19. Mynd i'r Afael â Digartrefedd

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans AC: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd.

    Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru'n awgrymu bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru wedi cynyddu.

    Cafodd 188 o bobl eu cyfri'n cysgu allan ar noson 9-10 Tachwedd 2017 - 33% yn uwch na'r un cyfnod yn 2016.

    A dros gyfnod o bythefnos o gyfrif ym mis Hydref 2017, cafodd 345 o bobl eu cyfri'n cysgu ar y strydoedd, sydd 10% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

    Ond mae elusen Shelter Cymru yn dweud bod y dull o gyfrif yn annibynadwy, ac nad yw'n rhoi darlun cyflawn o'r broblem.

    Mae'r llywodraeth yn cydnabod nad yw'r dull yn rhoi darlun llawn, ond yn rhoi amcan o'r sefyllfa.

    Digartrefedd
  20. 'Newidiadau yn hawdd i'w trin'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn galw am "ffordd ymlaen ymarferol i'r busnesau a fydd yn gorfod ymdogi gyda newidiadau ychwanegol - does neb yn gwadu y bydd yna newidiadau ychwanegol - ond maen nhw i gyd yn hawdd i'w trin".

    "Breuddwyd gwrach," yw ymateb Carwyn Jones.