a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl Aelodau: contractau preswyl lesddaliad
  6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl
  7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru
  8. Dadl Fer: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos, ar ddiwrnod olaf Ionawr.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Chwefror 6.

    Y Senedd
  2. Arddangos manylion am eu lefel o hygyrchedd i bobl anabl

    Mae Suzy Davies yn galw am system lle mae'r holl fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn arddangos manylion am eu lefel o hygyrchedd i bobl anabl yn ogystal â gwybodaeth am pa offer achub bywyd sydd ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd os bydd argyfwng.

  3. Dadl Fer: Agor drysau

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Suzy Davies.

    A'r pwnc dan sylw: "Agor drysau - sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr".

    Person anabl
  4. Diddymu contractau preswyl lesddaliad - ACau yn pasio'r cynnig

    Mae'r aelodau yn pasio'r cynnig "y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru".

    y bleidlais
  5. Llywodraeth Cymru yn gwrthod pedwar o'r argymhellion

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething yn cyflwyno ymateb y llywodraeth.

    Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod pedwar o'r argymhellion.

  6. 27 o argymhellion

    Mae Cadeirydd y pwyllgor Lynne Neagle AC yn cyflwyno'r adroddiad

    sy'n gwneud 27 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw:

    "Bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu, ac yn darparu cyllid cenedlaethol ar gyfer, rhwydwaith clinigol a reolir dan arweiniad clinigwyr.

    "Dylai’r rhwydwaith gael yr adnoddau angenrheidiol gan gynnwys amser uwch staff clinigol a gweinyddol, a chyllideb hyfforddi. Bydd hyn yn ei alluogi i roi arweinyddiaeth, cydlyniant ac arbenigedd cenedlaethol ar gyfer datblygu ymhellach y gwasanaethau a’r gweithlu iechyd meddwl amenedigol, gan gynnwys mewn perthynas â safonau ansawdd, llwybrau gofal, cymwyseddau proffesiynol ac adnoddau hyfforddi.

    "Dylai’r rhwydwaith clinigol a reolir barhau â dull gweithredu amlddisgyblaethol y Gymuned Ymarfer gyfredol i annog a datblygu cydweithio a chyfathrebu effeithiol ymysg yr holl weithwyr proffesiynol perthnasol".

    Lynne Neagle
  7. Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru

    Y ddadl nesaf yn y Siambr yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru.

    View more on twitter
  8. Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru sy'n derbyn holl argymhellion y pwyllgor.

    Ken Skates
  9. 12 o argymhellion

    Mae'r pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw:

    "Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chyflwyno cynllun cymorth tebyg i’r waled oren ar gyfer pob gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yng Nghymru ac ymchwilio i ba mor ymarferol yw ei ddefnyddio mewn tacsis a cherbydau hurio preifat".

  10. Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl

    Mae'r aelodau nawr yn cael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl.

    Mae Cadeirydd y pwyllgor David Rowlands yn cynnig bod y Cynulliad:

    Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt.

    Pobl anabl
  11. 'Gweithio gydag adeiladwyr'

    Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans AC, yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag adeiladwyr i atal cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu rhag cael eu gwerthu fel lesddaliad.

    Mae'n dweud nad yw hi'n diystyru deddfwriaeth yn y dyfodol.

    Mae'n nodi bod lesddaliad yn ddaliadaeth ddilys ar gyfer rhai mathau o gartrefi modern fel fflatiau a rhandai.

    Rebecca Evans
  12. Beth yw lesddaliad?

    Math o ddeiliadaeth eiddo yw ‘lesddaliad’. Mae wedi bodoli ers canrifoedd yng Nghymru a Lloegr.

    Yn y bôn, tenantiaeth hirdymor yw perchenogaeth lesddaliad, gyda’r hawl i feddiannu a defnyddio’r eiddo am gyfnod hir, sef cyfnod y les – 99 neu 125 o flynyddoedd yn aml. Gellir prynu a gwerthu’r denantiaeth yn ystod y cyfnod. Pennir y cyfnod yn y dechrau, ac felly’n naturiol, mae’n lleihau fesul blwyddyn.

    Mae lesddeiliaid mewn blociau o fflatiau yn perchen ar yr hawl i fyw yno, ond mae’r gwaith o reoli’r bloc - yswiriant a chynnal a chadw a phethau felly - fel arfer yn aros yn nwylo’r person sy’n perchen ar yr eiddo yn ei gyfanrwydd. ‘Rhydd-ddeiliad’ yw’r enw am y person hwnnw. Fel arfer, mae’r les yn darparu bod y costau y mae’r rhydd-ddeiliad, neu asiant y rhydd-ddeiliad, yn mynd iddynt wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn yn cael eu talu’n llawn gan y lesddeiliaid. Gelwir hyn yn ‘dâl gwasanaeth’.

    Yn ôl Llywodraeth dros y blynyddoedd "mae lesddaliadau wedi cael eu beirniadu ac mae sawl darn o ddeddfwriaeth wedi’i gyflwyno i roi hawliau i lesddeiliaid. O ran y les ei hun, mae’n nodi ymrwymiadau ac amodau’r ddau barti sydd yn y contract".

  13. Gwahardd cytundebau lesddaliad 'deg canrif yn hwyr'

    Mae Mick Antoniw yn dweud bod gwahardd cytundebau lesddaliad ar gyfer cartrefi yng Nghymru yn "hir-ddisgwyliedig, deg canrif yn hwyr".

    Mae'n dadlau nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr nad yw lesddeiliaid, sy'n gallu wynebu rhenti tir sy'n cynyddu'n fawr, yn berchen y tir y mae eu cartrefi arnyn nhw.

    Mae Mr Antoniw yn amcangyfrif bod yna o leia 200,00 o eiddo ar brydles yng Nghymru, gyda rhagor yn cael eu hadeiladu yn y blynyddoedd diweddar.

    Mick Antoniw
  14. Cefnogaeth 13 o ACau trawsbleidiol

    Mae 13 o ACau trawsbleidiol yn cefnogi'r cynnig.

    Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Russell George (Sir Drefaldwyn) Jane Hutt (Bro Morgannwg) Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Lynne Neagle (Torfaen) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Vikki Howells (Cwm Cynon) Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

  15. Dadl ar Gontractau preswyl lesddaliad

    Fe symudwn ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    Mae'n ddadl aelodau ar Gontractau preswyl lesddaliad.

    Mae Mick Antoniw (Pontypridd)

    David Melding (Canol De Cymru)

    David Rees (Aberafan)

    Sian Gwenllian (Arfon)

    yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a

    a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a

    b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.

    2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.

    3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.

    View more on twitter
  16. Datganiadau 90 Eiliad

    Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

  17. Galw ar lywodraeth y DU i gyhoeddi'r astudiaethau gafodd eu rhyddhau i'r wasg

    Mae Simon Thomas a'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn galw ar lywodraeth y DU i gyhoeddi yr astudiaethau gafodd eu rhyddhau i'r wasg ar effaith economaidd Brexit.

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford