a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad: Ymgyngoriadau ar Deithio Rhatach ar Fysiau
  4. Datganiad: Y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi'i Gynllunio
  5. Datganiad: Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020
  6. Datganiad: Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Gwenllian Grigg

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl am y tro

    A dyna ddiwedd ar y Cyfarfod Llawn am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ei hôl bore fory gyda chyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymeithasol a Chwaraeon.

    Senedd
  2. Comisiynu adolygiad o'r Gronfa Gofal Integredig

    Cyhoeddodd Rebecca Evans ei bod wedi penderfynu comisiynu "adolygiad eang" ar y Gronfa Gofal Integredig yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

    Y pwrpas fydd ddeall y modd mae byrddau rhanbarthol yn gwario'u harian, a buddion hynny.

    "Dyma wasanaethau hollbwysig sy'n delio gyda rhai o'n bobl mwyaf bregus ni."

    Rebecca Evans
  3. Datganiad ar Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans sydd â datganiad ola'r sesiwn: Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar gynigion am ddeddfau newydd i wella'r ffordd mae'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu rheoli ac yn cydweithio.

    Mae'r cynlluniau'n cynnwys "dyletswydd ansawdd" byrddau iechyd a chreu cyrff cryfach na'r cynghorau iechyd cymunedol i gynrhychioli lleisiau cleifion.

  4. Gwneud y Gymraeg yn 'opsiwn real'

    Gofynnodd Jeremy Miles i'r Gweinidog beth fyddai e'n hoffi ei weld yn digwydd ar lawr gwlad i ysgogi'r galw am addysg Gymraeg mewn cynulleidfa fwy eang.

    Dywedodd y Gweinidog ei fod e wedi gweld manteision addysg Gymraeg o fewn ei deulu ei hun, ac mae sicrhau mynediad i addysg Gymraeg i bawb, a'i wneud yn opsiwn real yn hollbwysig.

    Jeremy
  5. 'Mae'r iaith Gymraeg yn eiddo i bawb'

    Dywedodd Alun Davies bod angen newid profiad pobl o'r iaith Gymraeg.

    "Mae'r iaith Gymraeg yn eiddo i bawb", meddai, ond cydnabyddodd nad oedd pawb yn teimlo hynny ar hyn o bryd.

  6. 'Creu'r galw yw craidd y polisi'

    Canmolodd Neil Hamilton y gweinidog ar ei egni ar ei waith ar y mater hwn.

    "Creu'r galw yw craidd y polisi," meddai.

    Gofynnodd i'r gweinidog i ymhelaethu ar y modd mae Cymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion, a sut mae sicrhau fod siarad Cymraeg yn cael ei weld fel peth naturiol.

    Yn ychwanegol, gofynnodd sut mae sicrhau digon o athrawon i ddysgu'r iaith.

  7. 'Wedi siomi gyda diffyg uchelgais'

    Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar ei fod wedi ei siomi gyda "diffyg uchelgais" rhai o gynigion awdurodau addysg lleol, a chroesawodd yr adroddiad gan Aled Roberts.

    Galwodd am gyhoeddi'r gohebiaeth rhwng y gweinidog ac awdurdodau lleol "fel ein bod ni'n gallu gweld ar beth y gwnaethoch chi eu herio nhw".

    Darren Millar
  8. Angen 'arweiniad cryf a dewr'

    Diolchodd Llyr Gruffydd i Aled Roberts am ei waith ar yr adolygiad.

    Cytunodd bod yn rhaid addasu a moderneiddio wrth gynllunio, a bod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, athrawon a rhieni, ond bod yn rhaid i'r llywodraeth ddangos arweiniad cryf a dewr.

    "Heb hynny, yna dwi'n ofni y byddwn ni'n cychwyn o fan o wendid."

    Croesawodd fod y Gweinidog yn derbyn y 18 argymhellaid yn adroddiad Mr Roberts, ond galwodd am fwy o eglurder ar lawer o gynlluniau'r Llywodraeth.

    Llyr Gruffydd
  9. Angen i gynlluniau 'adlewyrchu uchelgais Cymraeg 2050

    Dywedodd Gweinidog y Gymraeg Alun Davies bod angen i gynlluniau awdurdodau ym maes addysg adlewyrchu uchelgais Cymraeg 2050.

    "Mae angen ystyried dulliau arloesol", meddai.

    "Bydd y Llywodraeth yn archwilio opsiynau ar gategoreiddio ysgolion yn ieithyddol.

    Dywedodd hefyd bod angen sicrhau niferoedd digonol o fewn ein gweithlu addysg.

    Ychwanegodd y bydd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynlluniau yn gweithio i Gymru Gyfan.

    Alun Davies
  10. Addysg yn allweddol i gyrraedd y miliwn

    Mae twf addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried yn un o'r ffactorau allweddol ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac ym mis Awst 2017, cyhoeddwyd adolygiad o'r cynlluniau strategol gan Aled Roberts.

    Ymysg yr argymhellion yn yr adolygiad, mae galw am berthynas mwy agored a heriol rhwng Llywodraeth Cymru a’r holl randdeiliaid ar ddatblygu'r cynlluniau.

    Aled Roberts
    Image caption: Cyhoeddodd Aled Roberts yr adolygiad ym mis Awst
  11. Datganiad ar Adolygiad Cymraeg mewn Addysg

    Nawr, mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies yn gwneud datganiad ar Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020

    Cymraeg
    View more on twitter
  12. 'Pob achos yn wahanol'

    Mae Caroline Jones o UKIP yn dweud fod y ffaith nad yw 9% o gleifion yn mynd i apwyntiadau dilynol yn achos gofid, ond ychwanegodd fod "pob achos yn wahanol.

    Caroline Jones
  13. Y darlun 'ddim yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd'

    Dywedodd Rhun ap Iorweth nad yw'r darlun y mae Mr Gething yn ei roi o'r sefyllfa yn canu cloch gyda'r cyhoedd.

    "I lawer gormod o gleifion", meddai "yn enwedig ym maes orthopedeg ac offthalmoleg, yn enwedig yn ardal Betsi Cadwaladr, dydy clywed yr ysgrifennydd cabinet yn dweud fod pethau'n gwella ddim yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad."

    Rhun
  14. Pwysig gweld 'y gorau a'r gwaethaf'

    Gofynnodd Angela Burns o'r Ceidwadwyr am weld canlyniadau o'r cynlluniau peilot i gyd, boed rheiny'n dangos yr arfer gorau neu'r arfer gwaethaf.

    Aeth ymlaen i ofyn hefyd sut mae'r Llywodraeth yn monitro arfer gorau o fewn y gwasanaeth iechyd.

    Angela Burns
  15. Rhaglen i 'wella profiad y claf'

    Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi'i Gynllunio

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y rhaglen yw:

    • lleihau'r amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth drwy ymroi i reoli capasiti a galw
    • lleihau nifer yr ymweliadau ag ymgynghorwyr gan gleifion drwy gynorthwyo meddygon teulu i reoli pobl yn y gymuned.
    • lleihau'r amrywiadau o ran arferion ar draws gwasanaethau'r GIG yng Nghymru drwy adnabod a rhannu meysydd lle ceir arferion da, a nodir yng nghynlluniau gweithredu'r rhaglen.
    gofal cleifion
  16. 'Angen edrych ar geir trydanol di-yrrwr'

    Tra'n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws, dywedodd Eluned Morgan bod rhaid edrych i'r dyfodol ac at geir trydanol heb yrwyr.

    Galwodd ar y Llywodraeth i ystyried y gwahaniaethau rhwng ardaloedd dinesig a gwledig, a sicrhau y bydd pobl yng ngefn gwlad yn gallu elwa o'r datblygiadau.

    Diolchodd Ken Skates iddi am godi elfen "gyffrous" wrth edrych i'r dyfodol ym maes trafnidiaeth, gan ddweud eu bod yn edrych yn ofalus ar y datblygiadau.

    Eluned morgan
  17. Plaid Cymru'n cefnogi tocynnau teithio rhatach

    Dywedodd Dai Lloyd fod Plaid Cymru yn "llwyr gefnogi'r cynllun gostyngiadau", a gafodd ei gyflwyno gan y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.

    Gofynnodd am sicrhwydd na fydd newid i'r ddarpariaeth bresennol, ac na fydd y trothwy yn codi i bobl hŷn sy'n gymwys i gael gwasanaeth am ddim.

    Dai Lloyd
  18. 'Dim angen newid os yw'r system yn gweithio'

    Dywedodd Russell George nad oes angen newid y system os yw'n gweithio fel ag y mae.

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo teithiau bws am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, ac yn annog gweinidogion Llafur i wneud yr un fath.

    Russell George
  19. Ymgynghoriad cyhoeddus ar deithiau bws

    Mae Ken Skates yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch trefniadau rheoli gweinyddu tocynnau consesiynol gorfodol.

    Mae'n dweud bod "angen inni archwilio a ddylai cyfrifoldeb am y cynllun hwn barhau gyda'n hawdurdodau lleol, neu a ddylai'r cynllun gael ei weinyddu'n ganolog gan Lywodraeth Cymru."

    Ychwanegodd fod ymnrwymiad y Llywodraeth "i gynnal teithiau bws am ddim i bobl hŷn, pobl ag anableddau a rhai cyn-filwyr gwasanaeth anafedig" yn gadarn.

    Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn "edrych ar y ffordd orau o hwyluso defnydd bws ymhlith pobl ifanc".

    Ken Skates