a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Canlyniad: Georgia 0-1 Cymru
  2. Gôl wych gan Tom Lawrence ar ddechrau'r ail hanner
  3. Cymru angen o leia' pedwar pwynt o'r ddwy gêm olaf yn Grŵp D
  4. Gareth Bale ddim yn rhan o'r garfan oherwydd anaf i'w goes

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl fawr tan nos Lun!

    BBC Cymru Fyw

    Fe fyddwn ni yn ôl ar gyfer y gêm ANFERTH yng Nghaerdydd nos Lun yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

    Bydd y Wal Goch mor gryf ag erioed yno wrth i Gymru geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

    Cofiwch ddod atom ni - fedrwn ni ddim disgwyl!!

    Cefnogwyr Cymru yn dathlu yn Tbilisi
  2. Georgia 0-1 Cymru

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Werth cofio'r dyfyniad bach yma - daliwch i gredu!

    View more on twitter
  3. Dyma fel y mae hi....

    Sgorio, S4C

    Yn ddiweddarach, bydd Serbia'n herio Awstria a Gweriniaeth Iwerddon yn croesawu Moldofa, ond fe fydd Cymru'n sicr yn ail yn y tabl ar ddiwedd y noson.

    View more on twitter
  4. Temptio ffawd....

    BBC Cymru Fyw

    Nawr te, beth am Awstria i guro Serbia yn ddiweddarach heno?

    Mae Cymru bwynt o frig y grwp bellach, ac fe fyddai Serbia'n colli'n rhoi cyfle i Gymru ennill y grwp ac archebu'u tocynnau i Rwsia.

  5. Jiws wrth ei fodd!

    Marc Lloyd Williams

    "Bendigedig. Tri phwynt oedd angen a tri phwynt a gafwyd, un cam ar y tro ac ymlaen a ni i Gaerdydd nos Lun. Mi fydd y stadiwm yn wirion bost, gobeithio bydd pwynt yn ddigon ond rhaid mynd allan am y fuddugoliaeth."

  6. Georgia 0-1 Cymru

    Chwiban Olaf

    MAE CYMRU WEDI ENNILL Y DRYDEDD YN OLYNOL.....

    GWERINIAETH IWERDDON NESAF'

    C'MON CYMRU!!!!!!!!!!!!

  7. Georgia 0-1 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    NA!!!!!

    Georgia â chyfle gwych, ond croesiad gwael pan oedd cyfle da i unioni'r sgor...

  8. Ben Woodburn ymlaen

    Eilyddio

    ...ac arwr heno hyd yma, Tom Lawrence, sy'n gadael.

  9. Sylwadau Jiws

    Marc Lloyd Williams

    "Gobeithio neith mellten ddim taro dwy waith yn erbyn Georgia o fewn blwyddyn. Mae'r tîm cartref am daflu popeth ati i gael gôl."

  10. Georgia 0-1 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    PERYGL!!!

    Georgia'n mynd amdani ac yn creu anhrefn yng nghwrt cosbi Cymru, ond yr amddiffyn yn dal yn gadarn!

  11. Sylwadau Jiws

    Marc Lloyd Williams

    "Angen cadw'r meddiant nawr, mynd ar bêl i'r corneli a gwastraffu cyn gymaint o amser mae'r dyfarnwr yn ei ganiatáu!"

  12. Georgia 0-1 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    Pum munud yn weddill - Robso-Kanu'n ennill tafliad yn hanner Georgia...

  13. Sylwadau Jiws

    Marc Lloyd Williams

    "Ledley efallai wedi blino, ond mi fuaswn i wedi tynnu Lawrence i ffwrdd a chau siop am y noson."

  14. David Edwards yn dod i'r maes

    Eilyddio

    ...a Joe Ledley sy'n gadael.

  15. Sylwadau Jiws

    Marc Lloyd Williams

    "Cyfle euraidd i Georgia ddod yn gyfartal, ond amddiffyn arwrol gan y capten."

  16. Georgia 0-1 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    Cyfle i Georgia!

    Merebashvili yn ergydio ond y bêl yn tasgu'n ffodus i freichiau Hennessey!