a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  2. Cwestiynau Amserol
  3. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17
  4. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru?
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.
  7. Dadl Fer: a all Cymru atal problem gorlifo sydyn?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Iolo Cheung

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni ddiwedd y llif byw yma ar Senedd Fyw am heddiw.

    Byddwn ni'n dychwelyd i ddod â'r diweddaraf o'r Siambr ddydd Mawrth 3 Hydref.

    Senedd
  2. 'Buddsoddi £144m i leihau risg llifogydd'

    Mewn ymateb dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths ei bod yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn eu hymdrechion.

    Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £144m dros dymor y Cynulliad presennol er mwyn buddsoddi er mwyn lleihau risg o lifogydd ac erydiad arfordirol.

    lesley griffiths
  3. 'Angen mwy o goed a llwyni'

    Mae Ms Watson yn awgrymu y dylid ailystyried rheolau cynllunio yn ymwneud â gwaith arwynebu y tu allan i dai.

    Dywedodd fod rheolau eitha' caeth ynglŷn â pha ddeunyddiau sy'n cael eu caniatáu o flaen tai, ond fod dim cyfyngiadau o gwbl ar beth sy' cael ei ganiatáu yn y cefn.

    Ychwanegodd Mike Hedges fod torri coed a llwyni yn gallu gwaethygu'r broblem.

    joyce watson
  4. Dadl fer ar broblemau gorlifo

    Mae dadl olaf y dydd yn cael ei chyflwyno gan Joyce Watson AC.

    Mae hi am fod yn trafod 'Dŵr ffo o'r mynydd ac ar ein ffyrdd – a all Cymru atal problem gorlifo sydyn?'

    llifogydd
  5. Gwrthod cynnig y Ceidwadwyr

    Mae ACau wedi pleidleisio o 38 i 17 yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr yn y ddadl, ac wedi pleidleisio o 29 i 26 o blaid gwelliannau Jane Hutt i bwynt 2 a 3.

    Mae'r cynnig sydd wedi ei basio yn darllen fel a ganlyn felly:

    1. Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.

    2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu'r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion.

    3. Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU.

  6. Cynllun economaidd erbyn y Nadolig

    Dywedodd Mr Jones fod 'na welliannau wedi bod ar rai mesuriadau iechyd, a bod Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mewn ysgolion newydd.

    Ychwanegodd y bydd cynllun gweithredu economaidd y llywodraeth yn cael ei gyhoeddi erbyn y Nadolig.

    "Mae angen bod yn bositif am ein gwlad ni," meddai.

  7. Ymosod ar record Llywodraeth San Steffan

    Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones nawr yn cael cyfle i ymateb i'r sylwadau ar y strategaeth ffyniant.

    Dywedodd fod cyllideb Cymru wedi ei dorri gan Lywodraeth San Steffan tra bod y "goeden arian hud" wedi llwyddo i ganfod cyllid ar gyfer Gogledd Iwerddon.

    Mynnodd hefyd fod angen i'r Ceidwadwyr Cymreig "ddylanwadu" ar Lywodraeth y DU i gymeradwyo'r morlyn ym Mae Abertawe.

    carwyn jones
  8. 'Cynlluniau uchelgeisiol ddim wastad yn cael eu gwireddu'

    Mae Caroline Jones o UKIP yn dweud ei bod yn "siomedig nad oes targedau mesuradwy" ar iechyd yn y strategaeth.

    "Dyw'r cynlluniau uchelgeisiol ddim wastad yn cael eu gwireddu," meddai.

    Ychwanegodd fod safon y gofal iechyd yn aml "yn dibynnu ar eich cod post".

    caroline jones
  9. 'Ble mae'r strategaeth economaidd?'

    Wrth siarad o blaid gwelliannau Rhun ap Iorwerth yn y ddadl, dywedodd Adam Price o Blaid Cymru fod ACau "heb gael y strategaeth economaidd gafodd ei addo i ni".

    Mae un o'r gwelliannau yn "gresynu at oedi parhaus Llywodraeth Cymru yn y broses o gyhoeddi ei strategaeth economaidd a'i methiant i ymgynghori â'r gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill ar ei chynnwys".

    adam price
  10. Dadl ar strategaeth 'Ffyniant i bawb'

    Bydd dadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma'n canolbwyntio ar strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.

    Maen nhw'n dweud fod "diffyg manylion yn y ddogfen" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i "amlinellu targedau penodol a mesuradwy" erbyn 2021 ym maes yr economi, addysg ac iechyd.

    Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies sut mae'r strategaeth yn wahanol i eraill y mae'r Llywodraeth Lafur wedi eu cyhoeddi yn y gorffennol.

    andrew rt davies
  11. 'Cronfa ffyniant yn Geffyll Troea'

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod llawer o drafod ynglŷn â sefydlu cronfa ffyniant ar y cyd er mwyn dosrannu cyllid rhanbarthol wedi Brexit.

    Ond mae'n dweud y gallai cronfa o'r fath fod yn "Geffyl Troea" er mwyn cymryd rhagor o bwerau datganoledig yn ôl.

    "Hyd y gwn i dyw Llywodraeth Cymru heb gael unrhyw drafodaethau a Llywodraeth y DU ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu," meddai.

    mark drakeford
  12. 'Fframwaith cymorth gwladwriaethol tebyg i un yr UE'

    Yn eu hymateb i adroddiad y pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at eu papur gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' sydd yn amlinellu llawer o'u safbwyntiau ar adael yr UE.

    "Y mater pennaf i Gymru yw sicrhau mynediad llawn a dirwystr at Farchnad Sengl yr UE," meddai'r datganiad ysgrifenedig.

    "Mae’n debyg y bydd hyn yn golygu bod rhaid i’r DU fabwysiadu fframwaith cymorth gwladwriaethol sy’n debyg i un yr UE: mae blaenoriaethau cyd-drafod yr UE yn dangos y bydd hynny’n ofyniad mewn unrhyw gytundeb masnach."

  13. 'Angen meddwl mewn ffordd newydd'

    Mae Eluned Morgan wedi dweud ei bod yn "siomedig" gyda'r awydd "am fwy o'r un peth" gan bobl sydd yn elwa o gymorthdaliadau'r UE ar hyn o bryd.

    "Bydd rhaid i ni feddwl yn radical ac mewn ffordd newydd mewn perthynas â datblygu rhanbarthol yn y dyfodol," meddai.

    eluned morgan
  14. Galw am ddiffinio rhanbarthau Cymru wedi Brexit

    Yn ôl Steffan Lewis o Blaid Cymru mae angen cofio am yr addewid gafodd ei wneud adeg y refferendwm na fyddai Cymru ar ei cholled o ran cyllid ar ôl Brexit.

    Bydd hefyd angen ystyried beth fydd y rhanbarthau Cymreig ar ôl gadael yr UE a sut fyddan nhw'n gymwys ar gyfer cymorthdaliadau.

    "Mae angen cael pob cymuned yn barod am Brexit," meddai.

    steffan lewis
  15. 'Angen symud i ffwrdd o Gynllun A'

    Mae'r Ceidwadwr Suzy Davies yn atgoffa ACau fod gwariant Ewropeaidd yn dod i lai na 1% o weithgaredd economaidd yng Nghymru.

    Mae hefyd yn awgrymu fod angen "symud i ffwrdd o Gynllun A" o ddibynnu ar gyllid Ewropeaidd er mai "dyna mae pawb wedi arfer ag e".

    suzy davies
  16. 'Cymorth gwladwriaethol' ar ôl Brexit

    Cadeirydd y pwyllgor David Rees sydd yn cyflwyno'r adroddiad, sydd ag 17 o argymhellion.

    Mae un o'r argymhellion yn "galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei hymateb i'r adroddiad hwn, i nodi'r canlyniad a ffefrir ganddi ar gyfer rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael ar ôl i'r DU adael yr UE".

    Yn ei araith mae Mr Rees yn galw ar lywodraethau'r DU i ddod at ei gilydd er mwyn cytuno ar drefniant newydd "yn seiliedig ar angen" yn dilyn Brexit.

    david rees
  17. Cyllid rhanbarthol yng Nghymru wedi Brexit

    Mae'r ddadl nesaf yn ymwneud ag adroddiad gan bwyllgor arall - yn yr achos hwn ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ddyfodol polisi rhanbarthol.

    Mae'n ymwneud â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdopi i newidiadau i'r cyllid mae Cymru’n ei gael drwy bolisi rhanbarthol yr UE yn dilyn Brexit.

    arian ewropeaidd
  18. 'Proses gaffael fwyaf Llywodraeth Cymru'

    Mae Mr Skates yn dweud mai dyma'r broses gaffael fwyaf y mae Llywodraeth Cymru erioed wedi bod yn rhan ohoni.

    Ychwanegodd fod trafodaethau wedi bod gyda Tesco ac Aldi ynglŷn â defnyddio cymorthdaliadau i annog defnydd o gludiant rheilffordd.

  19. Agor proses dendro masnachfraint y rheilffyrdd

    Wrth ymateb i sylwadau Mark Isherwood yn gynharach, mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud y bydd "cap ar elw" ar y fasnachfraint, a bod hynny'n "hollol iawn".

    Mae hefyd yn dweud y bydd y broses dendro yn agor ddydd Iau, gyda'r bwriad o benderfynu ar gwmni yn gynnar y flwyddyn nesaf.

    ken skates
  20. Llywodraeth yn croesawu'r adroddiad

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor ar fasnachfraint reilffordd Cymru a'r Gororau.

    "Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, ac mae llawer o’r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y pwyllgor yn cyd-fynd â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y gwasanaeth rheilffyrdd newydd," meddai'r llywodraeth.

    "Ein gweledigaeth yw gwell rhwydwaith trafnidiaeth integredig o ansawdd uchel i Gymru."

    metro de cymru
    Image caption: Bydd cyfrifoldeb dros Fetro De Cymru hefyd yn rhan o'r fasnachfraint newydd