a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad: Ein Cenhadaeth Genedlaethol - Cynllun Gweithredu 2017-2021
  3. Datganiad: Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy
  4. Datganiad: Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol 2017-2020
  5. Datganiad: Ynni
  6. Dadl: Data - Cynyddu Agoredrwydd ac Argaeledd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Siwan Richards

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ddiwedd ar y trafodion yn y senedd heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl fory.

    Y Senedd
  2. Galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU

    Dywed Sian Gwenllian ar ran Plaid Cymru y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.

    Sian Gwenllian
  3. 'Geiriau gwag' y cynllun

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn mynegi pryder mai "geiriau gwag" sydd yn y cynllun.

  4. 'Gwneud mwy o ddefnydd o ddata agored'

    Dywed y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James bod "cynnydd da" wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â "chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch".

    Dywed mai uchelgais Llywodraeth Cymru yw "tynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy".

    Ychwanega mai nod Llywodraeth Cymru yw "addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw".

    Julie James
  5. Dadl ar fod yn fwy agored a hygyrch gyda data

    Eitem ola'r diwrnod yw dadl ar fod yn fwy agored a hygyrch gyda data wrth gyflwyno'r cynllun data agored.

  6. 'Polisi ofnadwy'

    Meddai Neil Hamilton UKIP, gyda'r "ardoll wyrdd ar filiau trydan" mae hyn yn "bolisi ofnadwy i osod mwy o gostau ar y rheiny sy'n lleiaf abl i wrthsefyll".

    Neil Hamilton
  7. 'Diffyg uchelgais' gan Lywodraeth Cymru

    Dywedodd y Ceidwadwr David Melding a Simon Thomas Plaid Cymru bod diffyg uchelgais gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â thargedau ynni adnewyddadwy yn yr Alban.

  8. Targedau newydd ar gyfer ynni glân

    Dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn awyddus i weld Cymru yn cynhyrchu 70 y cant o’r trydan y mae’n ei ddefnyddio gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

    Meddai hefyd:

    “Yn ail, rwy’n gosod targed i un Gigawatt o ynni adnewyddadwy gael ei gynhyrchu’n lleol erbyn 2030.

    “Yn olaf, erbyn 2020 rwy’n disgwyl y bydd gan brosiectau ynni adnewyddadwy newydd o leiaf un elfen o berchnogaeth leol."

    Lesley Griffiths
  9. Datganiad ar ynni

    Ynni yw pwnc datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

  10. Nod y cynllun

    Yn ôl Vaughan Gething, bydd y cynllun yn helpu sicrhau bod gofal prydlon ar gael i bobl â chyflwr niwrolegol. Bydd wedi ei deilwra yn unol â “gwerthoedd, amcanion ac amgylchiadau’r” claf.

    Caiff ei roi ar waith gan grŵp sy’n cynnwys y gwasanaeth iechyd, y llywodraeth a phartneriaid yn y trydydd sector.

    Mae cyflyrau niwrolegol hirdymor yn effeithio ar fwy na 100,000 o bobl yng Nghymru.

    Mae’r cyflyrau’n amrywio o barlys yr ymennydd, dystroffi’r cyhyrau, clefyd Parkinson a sglerosis ymledol i epilepsi.

    more than 100,000 people in Wales are affected with a long term neurological condition
  11. Datganiad ar gynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol

    Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Vaughan Gething sydd yn gwneud datganiad nawr. Y testun dan sylw yw'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol 2017-2020.

  12. Goblygiadau amgylcheddol i'r cynllun coch

    Mae’r aelod Llafur Delyn Hannah Blythyn yn mynegu pryderon ei hetholwyr am effeithiau amgylcheddol y cynllun coch gan ei fod yn torri trwy dir fferm a choedlannau yn eu hardal.

    Hannah Blythyn AC
  13. Pryderon am gynllun teithio newydd y gogledd

    Mae’r Ceidwadwr Mark Isherwood wedi beirniadu’r cynllun i greu canolfannau teithio integredig newydd yng ngogledd Cymru. Wrth eu lleoli ym Mangor, Abergele, Rhyl a Llanelwy mae'n dweud y bydd y cynllun yn “anwybyddu ardal enfawr rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy”.

    Mark Isherwood AC
  14. Golau gwyrdd i'r llwybr coch

    Mae’r Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn cyhoeddi mai'r llwybr coch yw'r opsiwn y mae'n ei ffafrio ar gyfer cynllun coridor Glannau Dyfrdwy sydd werth £250m.

    Wrth annerch y siambr dywed :

    "Ar ôl ystyried yr holl agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gwrando ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n ffyddiog y gwnaiff y buddsoddiad sylweddol hwn fynd i'r afael â'r problemau ac ategu'r gwelliannau eraill yn ardal Glannau Dyfrdwy."

    Amcan y cynllun yw moderneiddio a lleddfu'r traffig ar yr A548.

    Ken Skates
  15. Mae'n rhaid i athrawon 'ddysgu o hyd'

    Mynega Michelle Brown o UKIP bryder fod rhai athrawon yn mynd i fod yn dysgu dau gwricwlwm ochr yn ochr. Roedd hi am wybod os oedd y gweinidog addysg wedi trafod hyn gyda nhw a pha gymorth oedd ar gael iddyn nhw.

    Mae'n rhaid i athrawon ddysgu o hyd, yn ôl Kirsty Williams, ac mae hi’n disgwyl i athrawon fod gyda’r disgyblion gorau yn y stafell ddosbarth. Esbonia fod y broses hon yn gweithio’n agos gydag athrawon ac y bydd yn gofyn eu barn nhw ar berfformiad y llywodraeth ym maes addysg flwyddyn ar ôl blwyddyn.

    Michelle Brown AC
  16. Croesawu amserlen newydd y cwricwlwm

    Dywed Llyr Gruffydd AC wrth ysgrifennydd y cabinet fod Plaid Cymru wedi rhybuddio ers sawl mis na ddylid rhuthro wrth gyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd. Gan fod athrawon ac arbenigwyr wedi mynegu pryder hefyd mae e’n falch iawn o groesawu’r amserlen newydd.

    Mae e hefyd yn tynnu sylw at y targed o gyflawni 500 ym mhob maes PISA erbyn 2021 wedi i Kirsty Williams AC ddweud o’r blaen nad “ei tharged hi” mo hynny.

    Llyr Gruffydd
  17. Gwella addysg yn 'genhadaeth genedlaethol'

    Noda arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies fod y datganiad yn achosi “peth gofid”. Mae hefyd yn codi cwestiynau am sut fydd y cynllun yn mynd i’r afael â'r holl blant sydd “yn cael eu gadael ar ôl”.

    Cydnabydda’r ysgrifennydd addysg fod gormod o amrywiadau o fewn y system bresennol . Pwysleisia serch hynny ei fod yn gyfrifoldeb ar bob plaid i fynd i’r afael â’r broblem gan ddatgan ei fod yn "genhadaeth genedlaethol".

  18. Rhaid sicrhau 'safonau dysgu uchel'

    Mae datganiad cyntaf y prynhawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams: "Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol - Cynllun Gweithredu 2017-2021".

    Cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg y bore 'ma y bydd newidiadau mawr i'r pynciau sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion yng Nghymru yn cael eu cyflwyno flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl.

    Amser i "roi adborth" yw hwn ac nid llaesu dwylo pwysleisia.

    Ychwanega taw'r "peth gorau allwn ni neud yw sicrhau safonau dysgu uchel ar draws ein holl ysgolion ni".

    Kirsty Williams AC
  19. Angen manylion am gais Euro 2020

    Gyda thîm pêl-droed cenedlaethol i fod yn falch ohoni a chymdeithas bêl-droed i fod yn falch ohoni mae’n rhaid i Gymru fod mewn sefyllfa gref i gynnig am rhai o gemau Euro 2020, dywed AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth. Mae e am glywed datganiad ynghylch y cais.

    Esbonia Jane Hutt AC fod ysgrifennydd y cabinet am ddiweddaru’r aelodau a noda ei bod hi’n cytuno ei bod hi’n addas gwneud hynny.

    Rhun ap Iorwerth AC
  20. Mwy o ddefnydd o'r banciau bwyd

    Galwa yr aelod Llafur Lynne Neagle am ddadl ar effeithiau diwygio lles ar wasanaethau yng Nghymru. Mae credyd cynhwysol eisoes wedi cael ei gyflwyno yn ei hetholaeth hi yn Nhorfaen ac mae wedi gweld fod tensiynau yn codi o ganlyniad i hyn. Rhaid i rai pobl aros am chwe wythnos i gael eu harian ac mae mwy o ddefnydd o fanciau bwyd o’r herwydd.

    Cytuna Jane Hutt AC fod y ddadl yn un gwerth ei chael – yn enwedig o ystyried y cyfraniad gwerthfawr y gallai Ms Neagle ei wneud. Esbonia fod Cymorth i Fenywod eisoes wedi mynegu pryder am y cynnydd mewn cam-drin domestig sy’n gallu digwydd pan fo straen ar deuluoedd.

    Jane Hutt AC