Ymunwch â ni 'fory am fwy o'r diweddara' o'r Eisteddfod a thu hwnt.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, fe fedrwch chi gadw golwg ar ein tudalen Eisteddfod arbennig am y straeon diweddara' o'r maes, gan gynnwys y trefniadau parcio ar gyfer dydd Mawrth.
Hwyl fawr i chi - a llongyfarchiadau i enillydd y Goron, Gwion Hallam.
BBCCopyright: BBC
Y Coroni: Geiriau 'yn arhosol'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Esboniodd Gwion Hallam hefyd ar S4C mai pedwar o'r pobl fuodd e'n gweithio gyda nhw mewn cartref sydd tu ôl i'r llysenw: elwyn/annie/janet/jiws.
Roedd un ohonyn nhw - Elwyn - yn cofio barddoniaeth, er na fyddai'n aml yn medru cofio beth ddigwyddodd yn fwy diweddar.
"Mae 'na rhwybeth am eiriau sydd, falle, yn arhosol", meddai Gwion.
Y Coroni: 'Her enfawr'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ar S4C, mae Gwion Hallam wedi bod yn esbonio ychydig o'r cefndir i'w bryddest.
"Fues i mewn dau gartref dros y flwyddyn ddiwetha' yn gweithio gyda phobl sydd â dementia, ac yn sgwennu barddoniaeth gyda nhw," meddai.
"O'dd e'n her enfawr. O'n i'n teimlo allan o 'nyfnder, ond ro'n i mor freintiedig i gael gweithio gyda nhw... Ac fe wnaeth e'n sbarduno i sgwennu."
Mae'r seremoni yn dirwyn i ben yn y dull traddodiadol. Mae pawb yn canu'r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.
Ar ei diwedd mae'r Osgordd yn gadael y llwyfan.
Y Coroni: Y ddawns flodau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r ddawns flodau yn un o uchafbwyntiau prif ddefodau'r Eisteddfod.
Mared Wyn Hughes sy'n cyflwyno'r Corn Hirlas. Macwyaid y Llys ydy Bradley
Richard Jones a Rhodri Morris Williams.
Mae'r Flodeugerdd yn cael ei chyflwyno gan Eurgain Sara Lloyd. Gyda hi wrth ei hochr mae Morynion y Llys - Elliw Mair Huws a Greta Fflur Keen.
Daw merched y Ddawns Flodau eleni o Ysgolion Cynradd lleol - Bodedern, Bryngwran, Llanfairpwll, Llanfechell,
Llannerch-y-medd, Morswyn, Goronwy Owen, Y Borth, Y Graig a Santes Gwenfaen.
Cafodd y dawnswyr eu hyfforddi gan Mair Jones, Mary Evans,
Lowri Angharad, Fiona Bridle ac Olwen Green.
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: 'Agorodd pob drws'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"I ti Gwion, agorodd pob drws", meddai'r Prifardd Cen wrth gyfeirio at ymateb y bardd i'r testun "Trwy Ddrych".
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Cyfarch y Bardd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Huw Alun sy'n cyfarch y bardd buddugol efo Cân y Coroni. Cafodd y geiriau eu cyfansoddi gan y diweddar Brifardd Gerallt Lloyd Owen, brawd yr Archdderwydd.
Mae'r Prifardd Cen hefyd yn annerch y bardd. Enillodd y Goron yn Eisteddfod y Bala yn 1997.
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Coron ar ei ben
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Nawr mae ganddon ni Brifardd yn swyddogol!
BBCCopyright: BBC
Y Coroni: Cefndir y Prifardd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd yn dweud bod Gwion Hallam heb farddoni rhyw lawer dros y blynyddoedd dwytha', er iddo ddod yn agos i'r brig yn Eisteddfod Maldwyn 2003.
Yn ddiweddar, bu’n gweithio ar
brosiect llenyddiaeth yn y gymuned ar ran Llenyddiaeth Cymru, gan ymweld â
chartrefi a gweithio gyda phobl â dementia.
Mae'r Archdderwydd yn dweud hefyd bod y bardd yn awyddus i ddiolch i Gwen Lasarus am ei berswadio i wneud y
gwaith yn y cartrefi ac ailgynnau’r awydd i farddoni ynddo.
Caiff y gwaith ei gyflwyno i'w wraig, Leri.
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Mwy am Gwion Hallam
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Felly pwy'n union yw'r bardd buddugol?
Yn wreiddiol o Rydaman, mae Gwion
Hallam yn byw yn Y Felinheli gyda’i wraig Eleri a’u plant, Noa, Moi, Twm a
Nedw.
Mae’n gweithio i gwmni teledu Darlun, ac wedi bod yn ffilmio yng
Nghonwy, Llambed a De Corea dros y misoedd diwethaf.
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Gwion Hallam yw'r Prifardd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
A dyma'r cyhoeddiad swyddogol: Gwion
Hallam yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Y Coroni: Y Pafiliwn ar ei draed
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r bardd yn cael ei arwain tua'r llwyfan i gymeradwyaeth y pafiliwn...
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Pwy yw'r bardd buddugol?
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Wedi caniad y cyrn gwlad, mae'r bardd buddugol ar ei draed...
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: elwyn/annie/janet/jiws yw'r bardd buddugol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Cymaint o bryddestau rhagorol, ond
dim ond un a all gipio'r goron", meddai'r beirniad.
"O drwch aden gwybedyn fe fydde Glenys wedi
hoffi medru coroni Coppi.
"Ond mae'n barod iawn serch hynny i gydsynio â Gwynne
a finne fod elwyn/annie/janet/jiws wedi ymdrin yn gynnil o feistrolgar a
sensitif ag un o felltithion duaf ein dydd.
"Ac
felly fe ryn ni'n tri yn unfryd o'r farn mai drych elwyn/annie/janet/jiws
'ddylai adlewyrchu wyneb haul a llygad goleuni yma eleni ym Modedern."
Ond mae'n dweud bod wyth cerdd yn haeddu lle yn y dosbarth cyntaf.
Mae "safon gyffredinol cystadleuaeth y goron
eleni yn rhagori ar yr hyn a gafwyd yn y gystadleuaeth hyd yn hyn", tybiai.
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Y Feirniadaeth
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r beirniad yn dweud bod gormod o "ddoethinebu" a "phregethu" yn rhai o'r cerddi.
bbcCopyright: bbc
Y Coroni: Y Feirniadaeth
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Mae'r tri ohonon ni'n llawen o gytûn inni gael eleni
nid un gerdd, ond nifer anarferol o gerddi, a lwyddodd i gyrraedd safon
aruchel", meddai'r beirniad.
bbcCopyright: bbc
Y gynulleidfa yn y Pafiliwn yn gwrando'n astud ar feirniadaeth M Wynn ThomasImage caption: Y gynulleidfa yn y Pafiliwn yn gwrando'n astud ar feirniadaeth M Wynn Thomas
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl fawr!
BBC Cymru Fyw
A dyna'r oll gan griw'r llif byw am heddiw.
Ymunwch â ni 'fory am fwy o'r diweddara' o'r Eisteddfod a thu hwnt.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, fe fedrwch chi gadw golwg ar ein tudalen Eisteddfod arbennig am y straeon diweddara' o'r maes, gan gynnwys y trefniadau parcio ar gyfer dydd Mawrth.
Hwyl fawr i chi - a llongyfarchiadau i enillydd y Goron, Gwion Hallam.
Y Coroni: Geiriau 'yn arhosol'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Esboniodd Gwion Hallam hefyd ar S4C mai pedwar o'r pobl fuodd e'n gweithio gyda nhw mewn cartref sydd tu ôl i'r llysenw: elwyn/annie/janet/jiws.
Roedd un ohonyn nhw - Elwyn - yn cofio barddoniaeth, er na fyddai'n aml yn medru cofio beth ddigwyddodd yn fwy diweddar.
"Mae 'na rhwybeth am eiriau sydd, falle, yn arhosol", meddai Gwion.
Y Coroni: 'Her enfawr'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ar S4C, mae Gwion Hallam wedi bod yn esbonio ychydig o'r cefndir i'w bryddest.
"Fues i mewn dau gartref dros y flwyddyn ddiwetha' yn gweithio gyda phobl sydd â dementia, ac yn sgwennu barddoniaeth gyda nhw," meddai.
"O'dd e'n her enfawr. O'n i'n teimlo allan o 'nyfnder, ond ro'n i mor freintiedig i gael gweithio gyda nhw... Ac fe wnaeth e'n sbarduno i sgwennu."
Y Coroni: Y gerdd fuddugol yn trafod dementia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Coroni: Llongyfarch y bardd ar-lein
Twitter
Y Coroni: Hen Wlad Fy Nhadau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r seremoni yn dirwyn i ben yn y dull traddodiadol. Mae pawb yn canu'r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.
Ar ei diwedd mae'r Osgordd yn gadael y llwyfan.
Y Coroni: Y ddawns flodau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r ddawns flodau yn un o uchafbwyntiau prif ddefodau'r Eisteddfod.
Mared Wyn Hughes sy'n cyflwyno'r Corn Hirlas. Macwyaid y Llys ydy Bradley Richard Jones a Rhodri Morris Williams.
Mae'r Flodeugerdd yn cael ei chyflwyno gan Eurgain Sara Lloyd. Gyda hi wrth ei hochr mae Morynion y Llys - Elliw Mair Huws a Greta Fflur Keen.
Daw merched y Ddawns Flodau eleni o Ysgolion Cynradd lleol - Bodedern, Bryngwran, Llanfairpwll, Llanfechell, Llannerch-y-medd, Morswyn, Goronwy Owen, Y Borth, Y Graig a Santes Gwenfaen.
Cafodd y dawnswyr eu hyfforddi gan Mair Jones, Mary Evans, Lowri Angharad, Fiona Bridle ac Olwen Green.
Y Coroni: 'Agorodd pob drws'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"I ti Gwion, agorodd pob drws", meddai'r Prifardd Cen wrth gyfeirio at ymateb y bardd i'r testun "Trwy Ddrych".
Y Coroni: Cyfarch y Bardd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Huw Alun sy'n cyfarch y bardd buddugol efo Cân y Coroni. Cafodd y geiriau eu cyfansoddi gan y diweddar Brifardd Gerallt Lloyd Owen, brawd yr Archdderwydd.
Mae'r Prifardd Cen hefyd yn annerch y bardd. Enillodd y Goron yn Eisteddfod y Bala yn 1997.
Y Coroni: Coron ar ei ben
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Nawr mae ganddon ni Brifardd yn swyddogol!
Y Coroni: Cefndir y Prifardd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd yn dweud bod Gwion Hallam heb farddoni rhyw lawer dros y blynyddoedd dwytha', er iddo ddod yn agos i'r brig yn Eisteddfod Maldwyn 2003.
Yn ddiweddar, bu’n gweithio ar brosiect llenyddiaeth yn y gymuned ar ran Llenyddiaeth Cymru, gan ymweld â chartrefi a gweithio gyda phobl â dementia.
Mae'r Archdderwydd yn dweud hefyd bod y bardd yn awyddus i ddiolch i Gwen Lasarus am ei berswadio i wneud y gwaith yn y cartrefi ac ailgynnau’r awydd i farddoni ynddo.
Caiff y gwaith ei gyflwyno i'w wraig, Leri.
Y Coroni: Mwy am Gwion Hallam
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Felly pwy'n union yw'r bardd buddugol?
Yn wreiddiol o Rydaman, mae Gwion Hallam yn byw yn Y Felinheli gyda’i wraig Eleri a’u plant, Noa, Moi, Twm a Nedw.
Mae’n gweithio i gwmni teledu Darlun, ac wedi bod yn ffilmio yng Nghonwy, Llambed a De Corea dros y misoedd diwethaf.
Y Coroni: Gwion Hallam yw'r Prifardd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
A dyma'r cyhoeddiad swyddogol: Gwion Hallam yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Y Coroni: Y Pafiliwn ar ei draed
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r bardd yn cael ei arwain tua'r llwyfan i gymeradwyaeth y pafiliwn...
Y Coroni: Pwy yw'r bardd buddugol?
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Wedi caniad y cyrn gwlad, mae'r bardd buddugol ar ei draed...
Y Coroni: elwyn/annie/janet/jiws yw'r bardd buddugol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Cymaint o bryddestau rhagorol, ond dim ond un a all gipio'r goron", meddai'r beirniad.
"O drwch aden gwybedyn fe fydde Glenys wedi hoffi medru coroni Coppi.
"Ond mae'n barod iawn serch hynny i gydsynio â Gwynne a finne fod elwyn/annie/janet/jiws wedi ymdrin yn gynnil o feistrolgar a sensitif ag un o felltithion duaf ein dydd.
"Ac felly fe ryn ni'n tri yn unfryd o'r farn mai drych elwyn/annie/janet/jiws 'ddylai adlewyrchu wyneb haul a llygad goleuni yma eleni ym Modedern."
Y Coroni: Wyrion y beirniad yn gwylio'n eiddgar
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Coroni: Y Dosbarth Cyntaf
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ond mae'n dweud bod wyth cerdd yn haeddu lle yn y dosbarth cyntaf.
Mae "safon gyffredinol cystadleuaeth y goron eleni yn rhagori ar yr hyn a gafwyd yn y gystadleuaeth hyd yn hyn", tybiai.
Y Coroni: Y Feirniadaeth
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r beirniad yn dweud bod gormod o "ddoethinebu" a "phregethu" yn rhai o'r cerddi.
Y Coroni: Y Feirniadaeth
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Mae'r tri ohonon ni'n llawen o gytûn inni gael eleni nid un gerdd, ond nifer anarferol o gerddi, a lwyddodd i gyrraedd safon aruchel", meddai'r beirniad.