a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru
  6. Dadl Plaid Cymru: senedd genedlaethol Cymru
  7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: mewnfudo
  8. Dadl Fer: Yr heriau aml-ochrog sy'n deillio o dlodi yng Nghymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mehefin 27.

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Yr heriau aml-ochrog sy'n deillio o dlodi

Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn yma dadl fer gan Vikki Howells.

A'r pwnc: Yr heriau aml-ochrog sy'n deillio o dlodi yng Nghymru.

Tlodi
BBC

Dileu holl gynigion UKIP ar fewnfudo

Mae'r ACau yn dileu holl gynigion UKIP ar fewnfudo ac yn pleidleisio o blaid gwelliant 3, sef gwelliant y llywodraeth yn eu lle.

y bleidlais
BBC

Senedd Genedlaethol Cymru

Mae cynnig Plaid Cymru bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

  • datgan ei hun fel Senedd Genedlaethol Cymru.
  • Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

yn cael ei basio

y bleidlais
BBC

Gwelliant 3 - dileu holl gynigion UKIP

Yn ôl y disgwyl mae Jane Hutt ar ran y llywodraeth hefyd yn cynnig dileu holl gynigion UKIP a rhoi yn eu lle:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

Jane Hutt
BBC

'Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn ffafrio nyrsys iau o dramor'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud "mae yna filoedd o nyrsys sydd dros 40 oed sydd wedi gadael i gael teuluoedd ac sydd bellach eisiau dychwelyd i nyrsio, ond sy'n methu gwneud hynny oherwydd eu bod yn darganfod bod y Gwasanaeth Iechyd yn ffafrio nyrsys iau o dramor.. y gwir yw rydyn ni eisiau nyrsys rhatach felly rydyn ni'n parhau i ysbeilio gwledydd trydydd byd i gwrdd ag ein anghenion".

Mae'n honni bod y Ceidwadwyr "mewn helynt" ynghylch mewnfudo.

David Rowlands
BBC

Gwelliant 2 - dileu holl gynigion UKIP

Ar ran Plaid Cymru mae Steffan Lewis yn cynnig dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.

2. Yn credu y dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.

3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.

Steffan Lewis
BBC

Gwelliant y Ceidwadwyr - dileu holl gynigion UKIP

Ar ran y Ceidwadwyr mae Andrew RT Davies yn cynnig dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.

2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r disgleiriaf a'r goreuon o bob cwr o'r byd.

3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo'r wlad.

Andrew RT Davies
BBC

Dadl ar fewnfudo

Nawr dadl gan UKIP ar fewnfudo.

Mae UKIP yn credu:

a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU;

b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o'r tu fewn iddo;

c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;

d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.

Mewnfudo
BBC

'Buddiannau Cymreig sy'n cael eu rhannu'

Ar ran y llywodraeth mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford yn dweud y bydd Llafur yn pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru oherwydd ei fod yn "mynegu rhai buddiannau Cymreig sy'n cael eu rhannu".

Mae'n dweud bod gwelliannau'r Ceidwadwyr wedi cael eu drafftio "fel petai'r etholiad cyffredinol heb ddigwydd".

Mark Drakeford
BBC

'Hollol afrealistig'

Mae aweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud "nad oes gan ei blaid anhawster" yn cefnogi dau bwynt cyntaf cynnig Plaid Cymru, ond mae'r trydydd meddai yn "hollol afrealistig".

Neil Hamilton
BBC

'Sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu datganoli'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn tynnu sylw at Bapur Polisi Llywodraeth y DU 'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union' sy'n nodi "ein bod eisoes wedi ymrwymo na chaiff unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu tynnu oddi arnynt ac y byddwn yn defnyddio'r cyfle i ddwyn y broses o wneud penderfyniadau yn ôl i'r DU i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu datganoli".

Mae'n dweud bod "Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir am ei bwriad i gael cytundeb wedi'i deilwra sy'n gweithio i'r DU gyfan, sy'n sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd bosibl o ran tariff a rhwystr â'n cymdogion Ewropeaidd, drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol".

Mark Isherwood
bbc

Dadl: Senedd Genedlaethol Cymru

Am yr awr nesaf yn y Siambr dadl gan Blaid Cymru sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.

2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

View more on twitter

Y llywodraeth yn gwrthod un argymhelliad

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant yn rhoi ymateb y llywodraeth i'r adroddiad.

Mae un argymhelliad yn cael ei wrthod sef y bod y pwyllgor "yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn cynlluniau trafnidiaeth rhatach i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnwys plant, i’w galluogi i gael gwell mynediad i addysg, cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli".

Mae Mr Sargeant yn egluro pam iddo gael ei wrthod, sef oherwydd meddai, "mae ffoaduriaid eisoes yn gallu derbyn budd-daliadau gan gynnwys budd-daliadau ar gyfer teithio, ar yr un sail â thrigolion eraill yng Nghymru. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu gorfodi teithio rhatach ar gyfer ceiswyr lloches heb newid deddfwriaethol. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu cefnogaeth ariannol o £36.95 yr wythnos ar gyfer ceiswyr lloches, sy'n cynnwys swm bach iawn ar gyfer costau cludiant. Dylai unrhyw gyllid ar gyfer cludiant rhatach cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU".

Carl Sargeant
BBC

Gallai dod yn Genedl Noddfa 'annog llawer mwy o geiswyr lloches

Mae'n dod yn eglur mai aelod UKIP Gareth Bennett oedd yr aelod o'r pwyllgor wnaeth anghytuno gyda'r adroddiad.

Mae'n dweud "mae yna nifer o beryglon wrth wneud adroddiad o'r fath, un o'r peryglon hynny yw darparu gwasanaethau i ffoaduriaid sy'n mynd y tu hwn i wasanaethau sy'n cael eu darparu i aelodau cyffredin o'r cyhoedd".

Mae'n dweud y gallai dod yn Genedl Noddfa "annog llawer mwy o geiswyr lloches i geisio dod yma".

Un aelod o'r pwyllgor wedi methu cytuno ar yr adroddiad

Mae John Griffiths yn dweud wrth yr ACau bod un aelod ar y pwyllgor wedi methu cytuno ar yr adroddiad.

19 o argymhellion

Mae John Griffiths yn cyflwyno'r adroddiad i'r aelodau gan ddweud "Rydym wedi gwneud 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn".

Maent yn cynnwys:

 diweddaru a gwella’r dull strategol, drwy adolygu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, gan sicrhau bod y Bwrdd Gweithrediadau yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn agored, a pharatoi ar gyfer gweithredu Deddf Mewnfudo y DU;

 hwyluso gwaith integreiddio, drwy ddiweddaru’r Cynllun Cydlyniant Cymunedol, ehangu rôl cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol, ymestyn trafnidiaeth rhatach i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a gwella darpariaeth addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill;

 cefnogi ceiswyr lloches yn ystod y broses loches, drwy fonitro a datrys cwynion am lety lloches yn well, adolygu’r contract llety lloches cyn iddo gael ei adnewyddu nesaf, sicrhau bod landlordiaid ceiswyr lloches wedi’u cofrestru a’u harchwilio, a gwella’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael;

 cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches aflwyddiannus ar ôl y broses loches, drwy helpu ffoaduriaid i ganfod llety, a gwell mynediad i addysg a chyflogaeth a chamau i atal amddifadrwydd;

 diwallu anghenion penodol plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, drwy wasanaeth Gwarcheidiaeth, gan sicrhau bod capasiti a gallu ledled Cymru i gynnal asesiadau oed a phennu safonau gofynnol ar gyfer cymorth iechyd meddwl; a

 sicrhau mai Cymru yw ‘Cenedl Noddfa’ cynta’r byd.

John Griffiths
BBC

Dadl ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

Mae'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Mae Cadeirydd y pwyllgor John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.

View more on twitter

Craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb

Mae'r aelod yn cymeradwyo'r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017.

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Mynediad i gyffur Kadcyla ar gyfer cleifion canser y fron

Mae'r ail gwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

Mae Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro)yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru gael gafael ar y cyffur Kadcyla?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd triniaeth "arloesol sy'n ymestyn bywydau" pobl sydd â chanser y fron ar gael trwy'r GIG yng Nghymru.

Mae Kadcyla, sy'n gyfuniad o ddau gyffur, yn cael ei ddefnyddio ar bobl sydd â thiwmorau nad yw'n bosib eu tynnu gyda llawdriniaeth.

Fe wnaeth y gwneuthurwr, Roche, gyrraedd cytundeb i ddarparu'r cyffur yn Lloegr yn gynharach yn y mis.

Mae'r driniaeth yn ymestyn bywydau pobl o chwe mis ar gyfartaledd.

"Dyna'r rheswm dros gyflwyno cronfa triniaethau newydd gwerth £80m yng Nghymru", yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

Kadcyla
BBC

Gwelliant yn sgôr Cymru ym mhrofion PISA 2018

Mae Kirsty Williams yn dweud "Rydw i'n eglur fy mod i'n disgwyl gweld gwelliant yn sgôr Cymru ym mhrofion PISA 2018, ond yn arbennig rydw i eisiau gweld cynnydd mewn perfformiad sy'n uwch na'r 75ed canraddol".

Kirsty Williams
BBC

Targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018

Mae'r cwestiwn amserol cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Mae Darren Millar (Gorllewin Clwyd) yn gofyn awnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018?

Ddoe fe wnaeth Carwyn Jones fynnu bod y targed yn parhau i wella sgôr disgyblion Cymru yn y profion rhyngwladol, er gwaetha sylwadau'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, nad ei tharged hi oedd hyn.

Mae gweinidogion eisiau gweld disgyblion Cymru yn cyflawni sgôr o 500 mewn pob pwnc erbyn 2021 ym mhrofion Pisa.

Ddoe dywedodd Carwyn Jones bod Kirsty Williams yn syml yn dweud nad hi oedd y gweinidog pan gafodd y targed ei osod.

PISA
BBC

Cwestiynau Amserol

Nawr Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Profion sgrinio canser y coluddyn gwell

Mewn ymateb i Caroline Jones UKIP, mae Mr Gething yn dweud ei bod hi'n "rhy gynnar i asesu cyflwyno profion mwy cywir a hawdd eu trin ar gyfer sgrinio canser y coluddyn".

Disgwylir dechrau cyflwyno profion imiwnogemegol ysgarthol sylfaenol (FIT) o fewn y rhaglen ar gyfer sgrinio’r coluddyn yn ystod 2018/19.

Caroline Jones
BBC

Ymgyrch 'Hyfforddi.Gweithio.Byw'

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn codi mater cydbwysedd gwaith a bywyd o holl weithwyr y GIG.

Mae Mr Gething yn dweud bod yr ymgyrch "Hyfforddi.Gweithio.Byw", yn ogystal â chymhelliad ariannol a rhagor o ddiwylliant o gyd-weithio yng Nghymru hrwng llywodraeth a'r proffesiwn, yn helpu mater recriwtio.

Angela Burns
bbc

Ail-gofrestru meddygon yng Nghymru

Mae Rhun ap Iorwerth yn cyfeirio at enghreifftiau o feddygon sydd wedi cael eu hyfforddi yng Nghymru, sy'n ei chael hi'n anodd i gofrestru i ddychwelyd i Gymru ar ôl treulio cyfnod yn gweithio dramor.

Mae Vaughan Gething yn dweud "bod cydbwysedd rhwng sicrwydd y dylen ni ei angen yn nhermau cymhwyster proffesiynol meddygon a'u record flaenorol, a'i gwneud hi mor hawdd â phosibl iddyn nhw i ddod a darparu'r gwasanaeth yr ydyn ni ei angen".

Mae'n addo ystyried y mater.

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Llygredd awyr yng Nghaerdydd ar lefelau peryglus'

Mae Jenny Rathbone yn dweud bod llygredd awyr yng Nghaerdydd heddiw "ar lefelau peryglus oherwydd y cyfuniad o lefelau osôn a gronynnau o gerbydau".

Cwestiynau i'r Ysgrifennydd dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Nesaf yn y Siambr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Mae Jenny Rathbone yn gofyn pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar iechyd y cyhoedd a gaiff methu â datblygu dewisiadau amgen cynaliadwy i geir ar gyfer mynd â phlant i'r ysgol mewn ardaloedd trefol?

Jenny Rathbone
BBC

Y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd yr Economi i siarad gyda rheolwyr Tesco 'o fewn yr awr'

Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones ac Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn siarad gyda rheolwyr Tesco "o fewn yr awr nesaf", medd Mr Skates wrth ACau.

Mae'n dweud ei fod wedi cael ei hysbysu o benderfyniad y cwmni 45 munud yn ôl.

Mae hyd at 1,200 o swyddi yng nghanolfan alwadau Tesco mewn peryg wrth i'r archfarchnad gyhoeddi bwriad i gau ei safle yng Nghaerdydd.

Y ganolfan ar Heol Maes Y Coed
Google
Y ganolfan ar Heol Maes Y Coed

Penderfyniad ar arian ar gyfer Cylchffordd Cymru ddydd Mawth nesaf

Mewn ymateb i Adam Price Plaid Cymru, mae Ken Skates yn dweud y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar drac rasio Cylchffordd Cymru ddydd Mawrth nesaf Mehefin 27.

Mae'r cwmni y tu ôl i'r cynllun wedi gofyn am sicrwydd o £210m gan y trethdalwyr - tua hanner cost y prosiect.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r oedi o gyfeiriad y llywodraeth, gyda disgwyl yn wreiddiol y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ym mis Mawrth

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

'Angen uwchraddio cyfleusterau ar draws Cymru'

Mae David Rowlands UKIP yn gofyn am gynlluniau gan Gyngor Caerdydd am arena aml-bwrpas fyddai'n gallu dal 20,000 o bobl. Mae Mr Skates yn dweud "nad yw er lles y genedl i wleidyddion droi rhanbarthau yn erbyn ei gilydd pan yn siarad am ba gyflysterau yr ydyn ni eu hangen".

Mae'n ychwanegu, "rydyn ni angen arena fawr yn y De.. ond rydw i'n deall yr angen i uwchraddio cyfleusterau ar draws Cymru".

Ken Skates
BBC

Ymwelwyr i'r Llyfrgell Genedlaethol

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn nodi bod ysgrifennydd yr economi yn awyddus i weld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae hi'n gofyn a yw ymwelwyr i'r wefan yn cyfrif yn yr ystadegau hynny.

Mae Mr Skates yn ymateb, " Rydw i eisiau gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r wefan ac i'r adeilad".

Suzy Davies
BBC

Cwestiynau heb rybudd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

'Hwb economaidd o tua £45m'

Mae Gareth Bennett yn nodi bod yna "rai cwynion gan breswylwyr a masnachwyr".

Mae Ken Skates yn dweud bod yr amcangyfrif ar yr "hwb economaidd i'r brifddinas-ranbarth yn tua £45m".

Gareth Bennett
BBC

Cwestiynau i Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith

Nawr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates.

Mae cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Gareth Bennett:

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lwyfannu Rownd Derfynol Pencampwriaeth UEFA a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar?

Carwyn Jones ac Ian Rush gyda'r tlws
BBC
Carwyn Jones ac Ian Rush gyda'r tlws

David Rowlands wedi ei ethol yn ddi-wrthwynebiad

Mae David Rowlands wedi ei ethol yn ddi-wrthwynebiad yn gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

David Rowlands
BBC

Mike Hedges wedi ei ethol yn ddi-wrthwynebiad

Mae Mike Hedges wedi ei ethol yn ddi-wrthwynebiad yn gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mike Hedges
BBC

Ffrae ymghylch cadeiryddion pwyllgorau

Roedd ffrae yn y cyfarfod llawn ddoe ynghylch nifer y cadeiryddion pwyllgorau gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Roedd y Ceidwadwr Paul Davies yn dweud ei fod yn "hynod siomedig" gyda'r newidiadau arfaethedig i benodi aelod Llafur yn gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac aelod UKIP yn gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

Yn ôl Paul Davies doedd hyn ddim yn adlewyrchu'r ffaith bod gan Blaid Cymru un cadeirydd yn fwy na'r Ceidwadwyr er bod y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad bellach yn fwy na Phlaid Cymru.

Daw hyn wedi i aelod UKIP Mark Reckless benderfynu ymuno gyda charfan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Mae Mr Reckless yn eistedd gyda'r Ceidwadwyr ond dyw e ddim wedi ymuno gyda'r blaid.

Mr Reckless oedd cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Croeso nôl i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau.

A'r eitem gyntaf y prynhawn yma yw enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau.

Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol:

(i) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (ii) Y Pwyllgor Deisebau.