a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mehefin 20.

    Y Senedd
  2. Datblygu cysylltiadau rhyngwladol Cymru

    Mae Jeremy Miles yn galw am "rwydwaith byd-eang o bŵer Cymreig meddal".

    Fel enghraifft mae'n cyfeirio at ymweliad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i Batagonia i nodi 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry ymsefydlu yn y Wladfa.

    Jeremy Miles
  3. Dadl Fer: Cymru yn y Byd

    Ac yn ola yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Jeremy Miles.

    A'r pwnc: Cymru yn y Byd - meithrin cysylltiadau rhyngwladol Cymru.

    Baner Cymru
  4. Mesur Arfaethedig Aelod - Y Mesur Awtistiaeth (Cymru)

    Mae ACau yn pleidleisio o blaid cynnig Paul Davies i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod - Y Mesur Awtistiaeth (Cymru).

    Fe bleidleisiodd 40 aelod o blaid y cynnig, fe wnaeth naw ymatal, doedd neb yn erbyn.

    Roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymatal.

    Mae gan Paul Davies 13 mis i gyflwyno mesur ffurfiol ar gyfer ystyriaeth bellach, mesur allai ddod yn ddeddf.

    Awtistiaeth
  5. Adlewyrchu bywyd Cymru

    Mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn cytuno gyda'r adroddiad sy'n dweud y dylai BBC Cymru wneud mwy i adlewyrchu bywyd yng Nghymru yn eu rhaglenni.

    Mae'n cwestiynu, er enghraifft, pam nad yw'r arwyddion yn y ddrama ysbyty Casualty, sy'n cael ei ffilmio yn stiwdios BBC Cymru ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd, yn ddwyieithog "yn wahanol i bob ysbyty arall yng Nghymru".

    Dai Lloyd
  6. 11 o Argymhellion

    Cadeirydd y pwyllgor Bethan Jenkins sy'n cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 11 o argymhellion.

    Mae hi'n atgoffa ACau bod y pwyllgor ym mis Chwefror wedi galw ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ddarparu £30 miliwn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer dramâu Saesneg a darlledu am Gymru.

    Mae'n cyfeirio at gyhoeddiad y BBC am sianel deledu newydd a chyllid i'r Alban, a fydd yn cael £19m o arian newydd a rhaglen newyddion nosweithiol am 9pm - cyhoeddiad ddaeth wedi i'r BBC ddweud eu bod yn buddsoddi £8.5m yn ychwanegol y flwyddyn mewn rhaglenni teledu Cymreig - gan ddweud bod hyn yn llai na'r £30m y gwnaeth y pwyllgor alw amdano.

    Bethan Jenkins
  7. Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu

    Dyma ragair adroddiad y pwyllgor.

    "Er nad yw’r rhan fwyaf o agweddau ar bolisi cyfryngau a darlledu yn cael eu datganoli i Gymru, mae rôl darlledwyr a’r cyfryngau yng Nghymru o bwysigrwydd diwylliannol a gwleidyddol enfawr. Er efallai nad yw’r materion hyn wedi’u datganoli yn ffurfiol, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddiddordeb clir a dilys yn dwyn darlledwyr, a’r cyfryngau yn fwy cyffredinol, i gyfrif: yn arbennig mewn perthynas â’r ffordd y mae Cymru a chymdeithas Cymru yn cael eu portreadu a’u hadlewyrchu gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus.

    "Cafodd pwysigrwydd y maes hwn ei gydnabod yn y Cynulliad diwethaf pan argymhellodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylai’r Cynulliad hwn sefydlu Pwyllgor gyda ffocws penodol ar gyfathrebu, darlledu a’r cyfryngau. Ffurfiwyd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn sgil yr argymhelliad hwnnw. Rydym yn bwriadu ystyried pob agwedd ar ddarlledu a’r cyfryngau yn ystod y Cynulliad hwn.

    "Yn y tymor byr i ganolig rydym yn bwriadu cynnal Ymchwiliadau’r Pwyllgor i ystyried y canlynol:

     adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C;

     cyfryngau lleol a newyddiaduraeth newyddion lleol yng Nghymru;

     radio masnachol yng Nghymru; a’r

     portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU."

  8. Dadl ar ddarlledu yng Nghymru

    Am yr awr nesaf yn y Siambr mae'r aelodau yn cael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru.

    Mae Bethan Jennkins yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Y Darlun Mawr - Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

    2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i'r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.

    Darlledu
  9. Mesur y pump aelod wedi ei basio

    Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

    1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.

  10. Targed o gael gwared â Hepatitis B a C erbyn 2030

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud "gyda'n gilydd gyda'r Gwasanaeth Iechyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd anferth yn y driniaeth a'r rheolaeth o hepatitis feirol".

    Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi'u hymrwymo i darged Sefydliad Iechyd y Byd o gael gwared â Hepatitis B a C erbyn 2030.

    Vaughan Gething
  11. Hepatitis C: Cefndir

    Mae hepatitis C yn firws sy'n gallu heintio'r afu. Os na chaiff ei drin, gall weithiau achosi niwed difrifol a allai fygwth ei fywyd i'r iau dros nifer o flynyddoedd.

    Fodd bynnag, gyda thriniaethau modern mae'n aml yn bosibl i wella yr haint, a bydd y rhan fwyaf o bobl ag ef ddisgwyliad oes arferol.

    Amcangyfrifir tua 215,000 o bobl yn y DU yn cael hepatitis C.

    Gallwch gael eu heintio ag ef os ydych yn dod i gysylltiad â gwaed rhywun sydd wedi'i heintio.

    Nid yw Hepatitis C yn cael unrhyw symptomau amlwg yn aml hyd nes yr iau wedi cael ei ddifrodi yn sylweddol. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl yn cael yr haint heb sylweddoli hynny.

    Pan fydd symptomau yn digwydd, gallant fod yn camgymryd am gyflwr arall. Gall symptomau gynnwys:

    Yr unig ffordd i wybod i sicrwydd os yw'r symptomau hyn yn cael eu hachosi gan hepatitis C yn cael prawf.

    Julie Morgan AC sy'n cyflwyno'r cynnig
    Image caption: Julie Morgan AC sy'n cyflwyno'r cynnig
  12. Dadl gan Aelodau Unigol - Hepatitis C

    Nawr dadl gan Aelodau Unigol.

    Mae

    Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Hefin David (Caerffili) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

    yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.

    Hepatitis C
  13. 'Angen i gyflyrau eraill i gael eu gwarchod hefyd'

    Mae aelod Llanelli Lee Waters yn dweud ei fod eisiau gweld gwell cefnogaeth ar gyfer awtistiaeth ac y bydd yn pleidleisio o blaid heddiw, ond mae'n pwysleisio ei fod eisiau i gyflyrau cysylltiedig i gael ei gwarchod hefyd, gan gyfeirio at drydar y derbyniodd y bore yma gan berson sydd â mab sydd â Dyspracsic ac hefyd ychydig o Aspergers, gan ddatgan bod y gefnogaeth wedi bod yn "esgeulusadwy".

    Lee Waters
  14. Ymatal yn 'biti mawr'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud ei bod hi'n "biti mawr" bod aelodau Llywodraeth Cymru yn mynd i ymatal.

  15. Pam ymatal?

    Mae sylwadau gan Lesley Griffiths yn datgan y bydd hi'n ymatal oherwydd confensiwn yn cael eu herio gan Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru, sy'n tynnu sylw at bleidlais flaenorol ar fesur aelod lle y gwnaeth nifer o aelodau'r llywodraeth bleidleisio yn erbyn.

    Ym mis Mawrth eleni fe wnaeth aelodau'r Cynulliad bleidleisio yn erbyn ymgais Dr Dai Lloyd i gyflwyno mesur ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol.

    Roedd AC Plaid Cymru wedi gobeithio cyflwyno deddf er mwyn "sicrhau na chaiff elfen allweddol o'n treftadaeth genedlaethol ei cholli".

    Ond fe bleidleisiodd ACau o 28 i 25 yn erbyn y cynnig, wedi i Lafur gwestiynu'r angen am y mesur.

    Roedd y Ceidwadwyr ac UKIP wedi datgan y bydden nhw'n cefnogi'r cynnig, gafodd ei ddewis ym mis Ionawr, wrth i ACau gymryd rhan mewn pleidlais ar hap i ddatblygu syniad yn fesur Cynulliad.

    Rhun ap Iorwerth
  16. Bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymatal yn y bleidlais

    Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans yn dweud bod £13m yn cael ei wario ar Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol dros y pedair blynedd nesaf.

    Mae hi'n mynnu bod yna nifer o bolisïau a deddfwriaeth ar gael yn barod i gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.

    Mae'n cadarnhau y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymatal yn y bleidlais heddiw.

    Rebecca Evans
  17. Gwasanaethau wedi bod yn 'anghyson'

    Mae Mr Davies yn hawlio fod gwasanaethau wedi bod yn "anghyson yn y gorffennol, ac mae angen deddfwriaeth i sicrhau fod y gwasanaethau yma yn cael eu sefydlu yn statudol".

    Mae Mr Davies yn apelio am gefnogaeth ei gyd-aelodau Cynulliad ar ôl ennill balot i gyflwyno mesur ger bron y Cynulliad.

    Os yn llwyddiannus fe fydd ganddo 13 mis i gyflwyno mesur ffurfiol ar gyfer ystyriaeth bellach.

    Dywedodd Mr Davies ei fod yn "obeithiol" y gallai ei argymhellion gael eu derbyn.

    Yn yr Hydref fe drechwyd ymgais gan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i gyflwyno mesur awtistiaeth.