Mae Domingo'r lama yn cario bin ar ei gefn i gludo sbwriel o'r strydoedd ac mae'n eiddo i Richard Haggerty a Paola Albertazzi a oedd wedi cael llond bol ar weld llanast ar y ffordd.
Eryri yn ei holl ogoniant
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae ffotograffydd gwadd Cymru Fyw y mis yma, Awen Morris, wedi tynnu lluniau o'i milltir sgwâr yn ardal Llanberis yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd: "Rydym eisoes yn buddsoddi yn sylweddol yng Nghymru gan gynhyrchu mwy o raglenni ar gyfer y DU gyfan na'n targedau, ac rydym wedi cyhoeddi mesurau pellach fydd yn sicrhau bod ein hallbwn yn adlewyrchu Cymru'n gryfach.
Ychwanegodd bod y BBC yn buddsoddi "degau o filiynau bob blwyddyn mewn teledu cyfrwng Cymraeg", ac y byddai'r buddsoddiad newydd o £8.5m yn helpu i ddarparu "130 awr yn ychwanegol o gynnwys".
"Rydym yn credu y bydd y buddsoddiad hwn wir yn drawsnewidiol ac yn ein galluogi i wasanaethu ein cynulleidfaoedd hyd yn oed yn well.
"Mae anghenion cynulleidfaoedd yn Yr Alban yn wahanol ac o'r herwydd, mae dewisiadau gwahanol wedi eu gwneud sydd yn gofyn wedyn am lefelau gwahanol o ariannu."
Beiciwr modur yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad
Wales Online
Mae WalesOnline yn dweud bod beiciwr modur wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanrhymni yng Nghaerdydd. Mae'r heddlu wedi cau Llanrumney Avenue wedi'r digwyddiad.
Dirwy i gwmni bysus
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni bws oedd yn rhan o ddamwain yn Ffrainc ym mis Gorffennaf y llynedd pan gafodd 15 o blant ysgol eu hanafu wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiadau oedd ddim yn ymwneud â'r digwyddiad.
Fe wnaeth Express Motors bledio'n euog o beidio sicrhau bod gyrrwr wedi cael digon o orffwys ac o beidio cofrestru gwaith arall oedd wedi ei wneud gan Melvyn Lane ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad yn Ffrainc. Cafodd y cwmni ddirwy o £1,250 gydag ardoll o £125 a £600 o gostau.
Sefydlwyd cronfa wedi marwolaeth Sue Owen a bydd £7,349.31 o'r arian a gasglwyd hyd yma yn cael ei roi i Uned Hergest Ysbyty Gynwedd.
Llun TeuluCopyright: Llun Teulu
LImage caption: L
Buddsoddiad BBC: 'Briwsion i Gymru'
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r cyhoeddiad am fuddsoddiad gan y BBC yng Nghymru a'r Alban, gan alw eto am ddatganoli darlledu.
"Mae yna sianel newydd i'r Alban, a dim ond brwsion i ni yng Nghymru," meddai cadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.
"Mae'r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo'r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg. Chawn ni ddim tegwch i'r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain, mae'n bryd datganoli darlledu."
120 mlwyddiant Glaniad Abergwaun
Twitter
Mae cyfrif Twitter Arfordir Penfro yn nodi 220 mlynedd ers i'r 1,400 o filwyr o Ffrainc lanio ger Abergwaun.
Gyda help trigolion yr ardal llwyddwyd i roi stop ar eu bwriad i ymosod drwy fartsio i Fryste.
Mae'r Rhyl Journal wedi llongyfarch Martin Barnett, sydd o Fae Cinmel yn wreiddiol, sydd wedi ymuno â chriw dethol o fynyddwyr sydd wedi dringo'r mynyddoedd uchaf ar y saith cyfandir.
Mae Martin wedi gadael Cymru ers blynyddoedd lawer, ond mae'n dweud ei fod yn falch o'r ffaith iddo fynd â'r Ddraig Goch gydag ef i bob copa.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna ddiwedd y llif byw am ddiwrnod arall.
Dewch yn ôl am fwy o 08:00 bore 'fory, ond tan hynny fe gewch chi'r diweddara' ar ein gwefan.
Gwrthdrawiad ar yr M4
Lama'n casglu sbwriel
Daily Post
Mae anifeiliaid yn aml yn helpu pobl wrth eu gwaith, o ffermwyr gyda chŵn i'r heddlu a cheffylau. Ond dyma enghraifft sydd ychydig yn wahanol...
Mae 'na lama wedi bod yn helpu i gadw strydoedd Sir Ddinbych yn glir o sbwriel yn ôl y Daily Post.
Mae Domingo'r lama yn cario bin ar ei gefn i gludo sbwriel o'r strydoedd ac mae'n eiddo i Richard Haggerty a Paola Albertazzi a oedd wedi cael llond bol ar weld llanast ar y ffordd.
Eryri yn ei holl ogoniant
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae ffotograffydd gwadd Cymru Fyw y mis yma, Awen Morris, wedi tynnu lluniau o'i milltir sgwâr yn ardal Llanberis yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Capten yr Elyrch yn canmol Paul Clement
Golwg 360
Mae capten tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton, wedi canmol dulliau hyfforddi’r prif hyfforddwr Paul Clement meddai, Golwg 360.
Mae’r Elyrch wedi codi allan o’r tri isaf yn yr Uwch Gynghrair ar ôl buddugoliaethau dros Lerpwl, Southampton a Chaerlŷr ers iddo gael y swydd.
Storm Doris ar ei ffordd
Tywydd, BBC Cymru
Dylai'r glaw glirio yn hwyr heno cyn i storm Doris gyrraedd yn yr oriau mân gyda glaw trwm a gwyntoedd cryf.
Bydd y gwyntoedd cryfaf yng Nghymru yn y bore a dechrau'r p'nawn gyda hyrddiadau o rhwng 50 a 80mya cyn gostegu yn nes ymlaen.
Fe fydd hi'n waeth yn gogledd lle mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhoi rhybudd oren o wynt cryf - rhybudd melyn sydd yn y de.
Am fwy, ewch i wefan dywydd y BBC.
Gwynt cryf yn achosi trafferthion
Tad addysg Gymraeg?
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Gydag addysg Gymraeg yn dipyn o bwnc llosg ar hyn o bryd mae erthygl yn ein hadran gylchgrawn yn edrych ar gyfraniad ficer o Sir Frycheiniog i ddatblygiad ysgolion Cymraeg.
Roedd Thomas Price - neu 'Carnhuanawc' i roi ei lysenw llenyddol - yn ymgyrchydd cynnar dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ym myd addysg.
Colli swydd am regi ar gwsmer
Daily Post
Mae'r Daily Post yn dweud bod rheolwr siop sy'n gwerthu bwydydd iach yn Wrecsam wedi colli ei swydd am regi ar gwsmer a'i alw'n "dew".
Gwrthdrawiad: Cyhoeddi enw dyn fu farw
Heddlu De Cymru
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf nos Fawrth.
Roedd Thomas Cody, o Gilfynydd ger Pontypridd, yn deithiwr yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4119 ger Groes-faen.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth, a dylai unrhyw welodd y digwyddiad gysylltu gyda nhw ar 101.
Marwolaethau De Affrica: Heddlu'n 'gweithio o amgylch y cloc'
BBC Wales News
Mae'r heddlu yn Ne Affrica wedi dweud eu bod yn "gweithio o amgylch y cloc" i ddarganfod y rhai sy'n gyfrifol am farwolaeth cwpl o dde Cymru.
Cafodd Christine a Roger Solik, 57 a 66 oed, eu darganfod yn farw yn ardal Kwazulu-Natal, tua 50 milltir o'u cartref yn y wlad.
Fe wnaeth y cwpl o Gwm Cynon symud i Dde Affrica yn 1980.
La La Land a'r Cymro
BBC Radio Cymru
Beth yw'r cysylltiad rhwng y ffilm La La Land a Chymro o'r 19eg ganrif?
John Pierce Jones sy'n sôn ar raglen Bore Cothi am fywyd Griffith Jenkins Griffith o Ben-y-bont ar Ogwr a aeth i America yn 14 oed a rhoi ei enw i wahanol lefydd yn Los Angeles, gan gynnwys Arsyllfa Griffith a Griffith Park.
Arian BBC: Ymateb y gorfforaeth
BBC Cymru Wales
Mae llefarydd ar ran y BBC wedi ymateb yn dilyn beirniadaeth bod y gorfforaeth yn buddsoddi mwy yn Yr Alban nac yng Nghymru.
Dywedodd: "Rydym eisoes yn buddsoddi yn sylweddol yng Nghymru gan gynhyrchu mwy o raglenni ar gyfer y DU gyfan na'n targedau, ac rydym wedi cyhoeddi mesurau pellach fydd yn sicrhau bod ein hallbwn yn adlewyrchu Cymru'n gryfach.
Ychwanegodd bod y BBC yn buddsoddi "degau o filiynau bob blwyddyn mewn teledu cyfrwng Cymraeg", ac y byddai'r buddsoddiad newydd o £8.5m yn helpu i ddarparu "130 awr yn ychwanegol o gynnwys".
"Rydym yn credu y bydd y buddsoddiad hwn wir yn drawsnewidiol ac yn ein galluogi i wasanaethu ein cynulleidfaoedd hyd yn oed yn well.
"Mae anghenion cynulleidfaoedd yn Yr Alban yn wahanol ac o'r herwydd, mae dewisiadau gwahanol wedi eu gwneud sydd yn gofyn wedyn am lefelau gwahanol o ariannu."
Beiciwr modur yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad
Wales Online
Mae WalesOnline yn dweud bod beiciwr modur wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanrhymni yng Nghaerdydd. Mae'r heddlu wedi cau Llanrumney Avenue wedi'r digwyddiad.
Dirwy i gwmni bysus
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni bws oedd yn rhan o ddamwain yn Ffrainc ym mis Gorffennaf y llynedd pan gafodd 15 o blant ysgol eu hanafu wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiadau oedd ddim yn ymwneud â'r digwyddiad.
Fe wnaeth Express Motors bledio'n euog o beidio sicrhau bod gyrrwr wedi cael digon o orffwys ac o beidio cofrestru gwaith arall oedd wedi ei wneud gan Melvyn Lane ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad yn Ffrainc. Cafodd y cwmni ddirwy o £1,250 gydag ardoll o £125 a £600 o gostau.
Rhodd ariannol er cof am Sue Owen
Daily Post
Mae teulu nyrs a laddwyd pan ddisgynnodd gwrthrych o ben fan ar y ffordd ger Felinheli yn 2016 wedi sôn wrth y Daily Post am y gefngaeth hynod maen nhw wedi ei gael.
Sefydlwyd cronfa wedi marwolaeth Sue Owen a bydd £7,349.31 o'r arian a gasglwyd hyd yma yn cael ei roi i Uned Hergest Ysbyty Gynwedd.
Buddsoddiad BBC: 'Briwsion i Gymru'
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r cyhoeddiad am fuddsoddiad gan y BBC yng Nghymru a'r Alban, gan alw eto am ddatganoli darlledu.
"Mae yna sianel newydd i'r Alban, a dim ond brwsion i ni yng Nghymru," meddai cadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.
"Mae'r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo'r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg. Chawn ni ddim tegwch i'r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain, mae'n bryd datganoli darlledu."
120 mlwyddiant Glaniad Abergwaun
Twitter
Mae cyfrif Twitter Arfordir Penfro yn nodi 220 mlynedd ers i'r 1,400 o filwyr o Ffrainc lanio ger Abergwaun.
Gyda help trigolion yr ardal llwyddwyd i roi stop ar eu bwriad i ymosod drwy fartsio i Fryste.
Camp y saith mynydd
Rhyl, Prestatyn & Abergele Journal
Mae'r Rhyl Journal wedi llongyfarch Martin Barnett, sydd o Fae Cinmel yn wreiddiol, sydd wedi ymuno â chriw dethol o fynyddwyr sydd wedi dringo'r mynyddoedd uchaf ar y saith cyfandir.
Mae Martin wedi gadael Cymru ers blynyddoedd lawer, ond mae'n dweud ei fod yn falch o'r ffaith iddo fynd â'r Ddraig Goch gydag ef i bob copa.
Swyddi newydd i Abertawe
Wales Online
Fe ddywed WalesOnline bod cwmni bwydydd iach o China yn bwriadu sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd, ynghyd â chanolfan ymchwil a datblygu, yn Abertawe gan greu 38 o swyddi newydd.
Cafodd Acerchem International ei sefydlu yn Shanghai ac mae gan y cwmni gysylltiadau eisoes gyda Phrifysgol Abertawe.