a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru
  6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
  7. Dadl gan Aelodau Unigol: Sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy
  8. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau bancio
  9. Dadl Fer: Mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni am yr wythnos. 

Dyw'r Cynulliad ddim yn eistedd yr wythnos nesaf am ei bod hi'n hanner tymor. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Chwefror 28. 

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru

Ac yna olaf yn y Siambr y prynhawn yma Dadl Fer gan Caroline Jones. 

A'r pwnc: Mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, gweithio mewn partneriaeth.

'Cam arwyddocaol ymlaen yn sicrhau dyfodol cynaliadwy'

Mae gweithwyr dur Tata wedi pleidleisio i dderbyn newidiadau i'w cynlluniau pensiwn.

Mae'r newidiau yn rhan o gynnig gan Tata i gadw'r busnes ar agor, ond gydag amodau pensiwn llai hael.

O dan y cynllun, bydd Tata hefyd yn buddsoddi £1bn yng ngwaith dur Port Talbot, a bydd dim diswyddiadau gorfodol.

Fe benderfynodd bron i dri chwarter aelodau undebau Community, GMB ac Unite dderbyn y cynllun.

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod y cyhoeddiad yn "gam arwyddocaol ymlaen yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i fusnesau yn y DU".

Gwaith Tata ym Mhort Talbot
Reuters

Cwestiwn Brys - Balot gweithlu Tata

Nawr cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Mae David Rees yn gofyn: Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel?

Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Getty Images

Uchelgeisiau am 'system ariannol gynhwysfawr a sy'n gweithio'n dda'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn siarad am waith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys "cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda."

Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi'r "gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."

Wrth ymateb i awgrym gan Blaid Cymru ynghylch banc y bobl, mae Mr Skates yn dweud mae "trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru i asesu syniad o'r fath, ond dylai gwaith o'r fath ddigwydd wrth ystyreid creu banc datblygu i Gymru."  

Ken Skates
BBC

'Swnio'n llawer rhy debyg i sefydliad o ogledd Corea'

Mae David Rowlands yn dweud nad yw UKIP yn "sicr iawn ynghylch y dyhead o gael banc y bobl i Gymru, sy'n swnio yn llawer rhy debyg i sefydliad o ogledd Corea". 

David Rowlands
BBC

Datblygu model bancio cymunedol yng Nghymru

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn croesawu "'y model bancio cymuned a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance" a hefyd cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.

Mae e hefyd yn dweud y dylai ACau groesawu adolygiad annibynnol, "Access to Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016.

Banciau
BBC/REUTERS

'Banc y bobl'

Mae Plaid Cymru yn galw am sefydlu 'Banc y bobl'.

Yn ôl y blaid, mae disgwyl i fanciau'r stryd fawr gau 36 o ganghennau yng Nghymru eleni.

Dadl ar wasanaethau bancio

Nawr dadl gan Blaid Cymru ar wasanaethau bancio. 

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod y Cynulliad: 

1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael gafael arnynt. 

2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a 

ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol.   

Mae cangen NatWest Rhuthun ymhlith y rhai sydd wedi'u clustnodi i gau yn 2017
Google
Mae cangen NatWest Rhuthun ymhlith y rhai sydd wedi'u clustnodi i gau yn 2017

Y cynnig wedi ei basio heb wrthwynebiad

Mae'r cynnig ar hawliau a derbyn pobl LGBT wedi ei basio yn ddi-wrthwynebiad gan ACau.  

'Pobl ddewr wedi brwydro'

"Fy mrwydr i am gydraddoldeb yw eich brwydr chi am gydraddoldeb", medd AC Castell-nedd Jeremy Miles.

Mae'n ychwanegu bod "cynnydd yn cael ei gyflawni oherwydd bod pobl ddewr wedi brwydro: fe wnaethon nhw wrthod eistedd yng nghefn y bws".

Mae'n gorffen drwy ddweud, "mae pobl sy'n gwylio'r ddadl hon heddiw yn dal i aros am gydraddoldeb, ein gwaith ni yw rhoi gobaith iddyn nhw".

Jeremy Miles
BBC

'Wedi eu haddysgu heb wybod ei bod hi'n iawn i fod nhw'u hunain'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn dweud bod "cenhedlaeth gyfan wedi cael eu haddysgu heb gael gwybod ei bod hi'n iawn i fod nhw'u hunain".    

Cymal 28 yn foment ddiffiniol

Mae Mark Reckless UKIP yn dweud mai'r hyn wnaeth iddo fe ymgyrchu o blaid hawliau LGBT oedd pan y gwnaeth y Senedd yn San Steffen basio Cymal 28 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 1988, a oedd yn gwahardd ysgolion rhag hyrwyddo gwrwgydiaeth.

Mark Reckless
BBC

Tri AC agored hoyw neu lesbiaidd yn 'garreg filltir'

Mae ethol y tri AC agored hoyw neu lesbiaidd cyntaf wedi ei ddisgrifio fel "carreg filltir mewn democratiaeth" gan elusen.  

Dywedodd Stonewall Cymru ei fod wedi "cymryd mwy o amser" i'r Cynulliad gynrychioli'r gymuned hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws na San Steffan.

Y tri yw Hannah Blythyn, AC Delyn (Llafur), Jeremy Miles, AC Castell-nedd (Llafur) yn ogystal ag Adam Price o Blaid Cymru.

'Rydyn ni'n anweledig mewn talpiau mawr o amser'

Mae Adam Price yn dweud "fel Cymry hoyw a lesbiaidd, rydyn ni wedi cael ein hepgor o'n hanes, Hanes Cymru.

"Rydyn ni'n anweledig mewn talpiau mawr o amser."

Ond mae'n gorffen drwy ddweud, "rydyn ni wastad wedi bod yma, rydyn ni'n rhan o'r genedl yma, rhan o'i hanes hi, ac rydyn ni'n rhan o'i dyfodol hefyd".

Adam Price
BBC

Doedd gan un AC ddim llawer y gallai hi uniaethu â nhw

Mae Hannah Blythyn, aelod Llafur Delyn, sy'n un o dri gwleidydd hoyw gafodd eu hethol i'r Cynulliad y llynedd, yn cyfeirio at yr arddangosfa Icons and Allies gafodd ei lansio yn y Senedd heddiw. Mae'n arddangosfa yn dathlu a nodi cyfraniad Cymru at ddiwygiadau cymdeithasol a chyfreithiol yn y DU ac at hyrwyddo hawliau dynol pobl LGBT.  

Mae'n dweud, tra'n tyfu fyny yng ngogledd Cymru 20 mlynedd yn ôl, doedd ganddi ond rhai pobl y gallai hi uniaethu ei hun â nhw.

Mae hi'n disgrifio ei theimladau yn ystod digwyddiad wedi iddi gael ei hethol pan gafodd ei galw yn rhywun yr oedd pobl ifanc fel hi'i hun yn ei hedmygu.

Fe ddywedodd rhywun wrthi: "Mae dau berson ifanc sy'n hoyw wedi gweld beth ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth anfeth iddyn nhw".

 Mae rhai o'r 20 o bobl sydd wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfa yn cynnwys y gwleidydd Leo Abse a'r cyn lõwr ac ymgyrchydd undeb Dai Donovan, wnaeth drafod cyd-weithio gyda chriw hawliau hoyw wnaeth gefnogi'r glowyr yn ystod streic 1984-5. Cafodd ei stori ei chynnwys yn y ffilm Pride yn 2014.  

Hannah Blythyn
BBC

Chwefror yw Mis Hanes LGBT

Dadl ar hawliau a chyfraniad pobl LGBT

Nesaf yn y Siambr dadl gan Aelodau Unigol ar hawliau a chyfraniad pobl LGBT. 

Mae Hannah Blythyn, Jeremy Miles, Suzy Davies ac Adam Price yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.

2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad. 

3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn. 

4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau. 

5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu. 

6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy. 

Argymhellion i Lywodraeth Cymru ac ymatebion

Mae Carl Sargeant yn dweud bod y llywodraeth yn derbyn neu'r rhannol dderbyn pob un o'r 16 o argymhellion.

Carl Sargeant
BBC

Deddf Trais yn erbyn Merched - y cefndir

'Problemau difrifol yn gweithredu'r ddeddf'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod yr adroddiad yn dangos "problemau difrifol yn gweithredu'r ddeddf" wrth i gynghorau "stryffaglian gyda lefelau staffio ac arian".

Gareth Bennett
BBC

'Llywodraeth Cymru yn rhy araf wrth gyflawni'

Mae Sian Gwenllian sy'n aelod o'r pwyllgor yn dweud bod yr adroddiad yn dangos fod "Llywodraeth Cymru yn llawer rhy araf wrth gyflawni". 

16 o argymhellion

Mae Cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, yn amlinellu argymhellion y pwyllgor.

Roedd prif ganfyddiadau eu hadroddiad yn ymwneud â: 

  • chyflymder a chysondeb rhoi’r Ddeddf ar waith, yn arbennig o ran cyhoeddi canllawiau statudol, adnoddau a’r galw am wasanaethau, a chysoni gofynion y Ddeddf gyda deddfwriaeth arall;
  • pryderon am gynnwys ac amseriad y Strategaeth Genedlaethol;
  • sut y caiff addysg perthnasoedd iach ei ddarparu mewn ysgolion, ac mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch; 
  • capasiti, pŵer a dylanwad y Cynghorydd Cenedlaethol. 

Dadl ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Am yr awr nesaf y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. 

Trais yn erbyn merched
BBC

'Targedau penodol ar gyfer datblygu rhaglenni rhwydwaith am Gymru'

Mae Ms Jenkins yn dweud ei bod ac aelodau eraill o'r pwyllgor wedi "eu cyfareddu gydag ymateb cyhoeddus amddiffynnol iawn ITV" i'r argymhelliad bod "Stiwdios ITV yn dilyn y BBC ac yn addasu agwedd mwy rhagweithiol tuag at ddatblygu rhaglenni i'w darlledu ar rhwydwaith ITV", gan gynnwys gosod targedau penodol i ddatblygu rhaglenni sy'n adlewyrchu bywyd Cymreig ar gyfer cynulleidfaeodd ledled Prydain. 

Galwad am £30 miliwn ar gyfer dramau a rhaglenni Saesneg am Gymru

Mae Bethan Jenkins yn dweud y bydd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yn ymddangos gerbron y pwyllgor fis nesaf, a'i bod hi'n edrych ymlaen i'w ymateb i argymhelliad y pwyllgor y dylai "ddarparu £30m yn ychwanegol yn flynyddol ar gyfer dramau a rhaglenni Saesneg am Gymru".

BBC CYMRU WALES
BBC

Datganiad ar ddarlledu yng Nghymru

Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Jenkins: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru. 

Bethan Jenkins
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Angen 'gwroldeb, gonestrwydd ac arweinyddiaeth'

Mae Dawn Bowden yn gofyn pa gyflwyniadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu gwneud i lywodraeth y DU ynghylch statws cyfreithiol dinasyddion yr UE yng Nghymru.

Mae Mr Antoniw yn galw ar lywodraeth y DU i ddangos "gwroldeb, gonestrwydd ac arweinyddiaeth.

"All hi ddim fod yn iawn i ddefnyddio unigolion a theuluoedd fel sglodion bargeinio".

Dawn Bowden
BBC

Cefndir: 24 Amwythig

Mae'r cwestiwn yn ymwneud ag anghydfod undeb llafur yn y 70au, pan wnaeth y mudiad a oedd yn cael ei adnabod fel 24 Amwythig eu cyhuddo o nifer o droseddau wedi streic gweithwyr adeiladu genedlaethol. 

Roedd y gweithwyr adeiladu ddaeth yn adnabyddus fel 24 Amwythig yn cynnwys Ricky Tomlinson, sydd bellach yn actor teledu wnaeth ymddangos yn "The Role Family" a "Brookside". 

Fe wnaethon nhw bicedu safloedd adeiladu yn yr Amwythig yn y streic gweithwyr adeiladu genedlaethol gyntaf yn 1972.

Yn ddiweddarach fe gawson nhw'u cyhuddo o dan y Ddeddf Gynllwynio 1875 am droseddau'n cynnwys bygwth ac achosi difrod i eiddo. Fe gafodd chwech eu hanfon i garchar. 

Roedd Eric Tomlinson, sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw llwyfan Ricky (C), yn un o'r "24 Amwythig"
PA
Roedd Eric Tomlinson, sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw llwyfan Ricky (C), yn un o'r "24 Amwythig"

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nesaf cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw. 

Mae Hannah Blythyn yn gofyn iddo pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch achos 24 Amwythig?  

'Tanbrisio a bychanu Cymru'

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn cyfeirio at staffio o fewn Awdurdod Refeniw Cymru. 

Mae'n dyfynnu'r prif weinidog wnaeth ddweud yr wythnos ddiwethaf:

"Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Awdurdod Refeniw Cymru ar hyn o bryd yn sgiliau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru i unrhyw raddau helaeth. Nid ydyn nhw yr un sgiliau â’r rhai sydd gan bobl ym Mhorthmadog. Mae'n rhaid i ni recriwtio o'r tu allan i Gymru, ar y cyfan, er mwyn i’r sgiliau hynny fod ar gael i ni pan fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn dechrau ym mis Ebrill." 

Mae'n ei gyhuddo o "bardduo, tanbrisio a bychanu Cymru".  

Sian Gwenllian
BBC

Cynllun gwrthbwyso madfallod dŵr i Gymru?

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod gan lywodraeth y DU bapur gwyn sy'n cynnig "cynllun gwrthbwyso madfallod dŵr a fyddai'n caniatáu i ddatblygwyr adeiladu ar safleoedd sy'n cynnwys pyllau madfallod dŵr ar yr amod eu bod yn talu am gynefinoedd madfallod dŵr da mewn mannau eraill". 

Mae'n gofyn a fyddai cynghorau yng Nghymru yn ymateb yn well i broblem prinder tai petai yna gynllun o'r fath yn cael ei gyflwyno yma.  

Mae Mr Drakeford yn dweud nad yw'n ymwybodol o'r cynllun, ond mae'n dweud ei fod yn sicr y byddai ei gyd-aelod Cabinet Carl Sargeant, sydd â chyfrifoldeb am dai, yn ymwybodol o hyn.

Mae madfallod dŵr cribog mawr wedi'u hamddiffyn o dan gyfraith yr UE a'r DU
Yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt
Mae madfallod dŵr cribog mawr wedi'u hamddiffyn o dan gyfraith yr UE a'r DU

'24 o gynigion wedi eu hepgor ac 13 wedi'u diwygio'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud bod y papur gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn "gwyro'n sylweddol oddi wrth y cynigion yn y mesur drafft blaenorol" gan fod 24 o gynigion wedi eu hepgor ac 13 wedi'u diwygio.  

Janet Finch-Saunders
BBC

Gofyn a gadael

Mae Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith fod Neil McEvoy wedi gadael y Siambr tra bo'r aelodau yn dal i drafod ei gwestiwn gwreiddiol, cwestiwn cynta'r prynhawn.

"Mae hyn wedi cael ei nodi", medd y Llywydd.

'Polisi llymder ddim yn gweithio'

Mae Mr Drakeford yn ymateb drwy ddweud bod yr adroddiad yn dangos nad yw "polisi llymder y mae llywodraeth y DU wedi'i gosod, yn gweithio".  

Mark Drakeford
BBC

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford. 

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd heddiw gan Neil McEvoy:

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r canfyddiadau yng Nghyllideb Werdd flynyddol ddiweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid? 

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cyfarfod yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.   

'Arafwch wrth weithredu Adroddiad Furlong'

Mae John Griffiths yn gofyn ynghylch gweithredu Adroddiad Furlong, ac mae Tim Pratt yn ateb "mae'n ymddangos yn araf iawn ar y foment.

"Mewn rhai rhannau o Gymru, dyw hi ddim yn ymddangos bod llawer yn digwydd."

Yn 2015 daeth adolygiad annibynnol, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i'r casgliad bod ansawdd hyfforddi athrawon wedi gwaethygu dros y 10 mlynedd flaenorol, a'i fod mewn sefyllfa ddifrifol. 

Yn ei adroddiad fe wnaeth yr Athro John Furlong ddweud bod Cymru ymhell ar eu hôl hi o ran ymarfer da i gymharu a rhannau eraill o'r DU, a bod yna "wacter" o ran arweinyddiaeth.    

John Griffiths
BBC

'Byddai prifathrawon yn wirion i anwybyddu negeseuon Estyn'

"Faint o sylw sy'n cael ei gymryd o Estyn?" gofynna Julie Morgan.

Mae Rob Williams yn ateb, "Llawer o sylw. Byddai prifathrawon yn wirion i anwybyddu negeseuon Estyn".

Rob Williams
BBC