a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Chwaraeon Cymru
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cymunedau Cryf - Camau Nesaf
  5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth
  6. Dadl: Morlynnoedd Llanw
  7. Dadl: Setliad yr Heddlu 2017-18

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.  

Y Senedd
BBC

Mesur Addysg Uwch ac Ymchwil

Mae'r aelodau yn y Siambr yn cytuno:

y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Mesur Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd 43 o blaid, ac 8 yn erbyn. 

Addysg Uwch
PA

Byddai datganoli plismona 'yn wael i Gymru'

Ochneidio o rai rhannau o'r Siambr wrth i'r Ceidwadwr Mark Isherwood orffen ei araith drwy ddweud y byddai "datganoli plismona yn wael i Gymru".

Yr Heddlu
Getty Images

Gostyngiad o ran cyllid

Mae'r arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi ei osod ar £349.9 miliwn.

Mae hyn yn ostyngiad o 1.4% ar gyfer pob un o'r pedwar Comisiynnydd o gymharu gyda'r setliad yn 2016-17.  

Yr Heddlu
BBC

Ariannu'r Heddlu

Dadl ar Setliad yr Heddlu 2017-18

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Setliad yr Heddlu 2017-18. 

Mae Jane Hutt yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018 (Setliad Terfynol - Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). 

Heddlu
BBC

'Potensial o fudd mawr i Gymru'

Mae Mark Reckless UKIP yn ychwanegu ei gefnogaeth i Adroddiad Hendry ac "i'r ynni'r dyfodol yma sydd â'r potensial o fudd mawr i Gymru".

Mark Reckless
BBC

Diwydiant mawr nesa Cymru

Mae AC Castell-nedd Jeremy Miles yn dweud bod prosiect Morlyn Bae Abertawe wedi "dal y dychymyg".

Mae'n ychwanegu, "fe gafodd Cymru fodern ei hadeiladu ar ynni, a gallai technoleg ynni llanw glan fod y diwydiant mawr nesaf yng Nghymru". 

Jeremy Miles
BBC

Gan Adolygiad Hendry 'bopeth yr oeddwn i eisiau ei glywed'

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod gan Adolygiad Hendry "bopeth yr oeddwn i eisiau ei glywed" gyda neges glir i Lywodraeth y DU, ac mae'n croesawu cefnogaeth draws-bleidiol yn y Cynulliad i Forlyn Llanw Bae Abertawe.

David Melding
BBC

Adroddiad Hendry

Mae adroddiad annibynnol Charles Hendry gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf yn argymell adeiladu morlyn llanw gwerth £1.3bn ym Mae Abertawe.

Dywedodd Charles Hendry y gallai morlynnoedd llanw fod yn "ddiwydiant newydd cyffrous a phwysig i'r Deyrnas Unedig".

"Ar ôl astudio'r dystiolaeth a siarad â phobl allweddol ar y ddwy ochr, fy marn i yw y dylen ni gymryd y cyfle nawr i symud 'mlaen â'r dechnoleg," meddai.

Ychwanegodd fodd bynnag y dylid aros i'r morlyn yn Abertawe gael ei adeiladu ac yna asesu ei effaith, cyn cymeradwyo prosiectau mwy mewn rhannau eraill o'r DU.

Llun artist
Tidal Lagoon Power

Trydar ar forlynnoedd llanw

Dadl ar Forlynnoedd Llanw

Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar Forlynnoedd Llanw.

Mae Jane Hutt, Paul Davies a Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Croesawu Adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni môr-lynnoedd llanw ym Mhrydain.

2. Cydnabod yr angen i Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer môr-lynnoedd llanw.

3. Cydnabod, wrth sicrhau y trawsnewidiad i economi carbon isel, y dylai Cymru gael cymaint o fanteision economaidd â phosib o'r diwydiant ynni môr-lynnoedd llanw a thechnolegau llanw eraill, ar yr amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol. 

Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon

Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017.

Doedd dim gwrthwynebiad.

Dosbarth
Thinkstock

Addysg Gychwynnol i Athrawon

Rhagfarn nawdd

Mae Huw Irranca-Davies yn cyfeirio at y Papur Gwyn a gafodd ei ysgrifennu yn 1965 gan Weinidog y Celfyddydau ar y pryd, Jennie Lee, wnaeth ddod i'r casgliad bod rhagfarn nawdd tuag at Lundain yn broblem.

Huw Irranca-Davies
BBC

Cefndir

Fis diwethaf fe wnaeth yr arweinydd cerddorol a sylfaenydd y Proms Cymreig, Owain Arwel Hughes, rybuddio pwyllgor o aelodau'r Cynulliad na fydd Cymru'n parhau'n genedl gerddorol os "nad yw'r argyfwng ariannu gwersi cerdd mewn ysgolion yn cael ei ddatrys".  

Dywedodd Mr Hughes wrth ACau nad mater o chwarae cerdd er mwyn mwynhau'n unig neu er mwyn gyrfa oedd yn bwysig, ond dywedodd ei fod yn hanfodol i ddatblygiad plant ac ni ddylai fod yn ddibynnol ar deuluoedd yn gallu fforddio talu am wersi ac offerynnau.

"Fe ddylai pawb gael yr un cyfle, heb amheuaeth o gwbl," meddai.

Cerddor ifanc
BBC

Gwaddol ar gyfer Cerddoriaeth

Cronfa £1m i annog ysgolion i ddatblygu cerddorion ifanc

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: Sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n sefydlu cronfa newydd gwerth £1m er mwyn annog plant i ddod yn gerddorion.

Gobaith gweinidogion yw y bydd cyrff yn y sector breifat a'r sector gyhoeddus yn cyfrannu i'r gronfa, gyda'r gobaith o wneud y taliadau cyntaf i gefnogi cerddorion ifanc erbyn 2020.

Mae'r £1m yn cael ei roi i Gyngor Celfyddydau Cymru, y corff sy'n gyfrifol am lansio'r gronfa.

Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Ms Williams a Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.   

Cerddor ifanc
BBC

Aelod Llafur yn cael ei gyhuddo o 'ddychryn pobl'

Mae aelod Llafur Dwyrain Abertawe, Mike Hedges, yn rhestru cynlluniau y mae e'n credu fydd nawr yn gorffen, ond mae Mr Sargeant yn dweud ei bod hi "braidd yn anffodus" bod Mr Hedges yn "defnyddio'r math yna o iaith i ddychryn pobl". 

Mike Hedges
BBC

'Swyddi o ansawdd gwell, hyfforddi ac uwch-grefftio pobl'

Mae Gareth Bennett UKIP yn codi pryderon ynghylch tlodi o fewn gwaith, ac yn siarad am yr angen am swyddi o ansawdd gwell, hyfforddi ac "uwch-grefftio pobl". 

Gareth Bennett
BBC

'Cerdded i ffwrdd oddi wrth ein cymunedau tlotaf'

Mae Leanne Wood yn honni bod Mr Sargeant wedi dweud yn 2011 bod Cymunedau'n Gyntaf ond yn ddiogel gyda'r blaid Lafur.

Mae hi'n dweud bod diffyg cynllun i gymryd lle Cymunedau'n Gyntaf, yn "gywilyddus", a'i fod e yn "cerdded i ffwrdd oddi wrth ein cymunedau tlotaf".

Mae e yn ei chyhuddo hi o "wleidydda tlodi".

Cefnogaeth ar gyfer y 'rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur'

Mae Mr Sargeant yn dweud y bydd cyllid ar lefel o 70% o gyfanswm yr arian presennol yn cael ei ddarparu i raglen Cymunedau yn Gyntaf tan fis Mawrth 2018. Bydd cronfa etifeddol o £6m y flwyddyn yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill 2018, a fydd yn galluogi rhai o brosiectau mwyaf effeithiol y rhaglen i barhau.

Mae'n ychwanegu y bydd grant newydd gwerth £12m y flwyddyn hefyd yn cael ei lansio, "i helpu'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur". 

Arian
BBC

Cymunedau'n Gyntaf i dod i ben yn raddol

Mae Mr Sargeant yn cadarnhau y bydd y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn dod i ben yn raddol.

Maw'n dweud: "Er ei bod hi'n glir bod Cymunedau'n Gyntaf wedi bod yn llwyddiannus yn ei effaith ar nifer o unigolion, ni chafodd effaith ar lefelau tlodi drwyddo draw yn y cymunedau hyn, lefelau sy'n parhau'n uchel".  

Carl Sargeant
BBC

Datganiad: Cymunedau Cryf - Camau Nesaf

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Cymunedau Cryf - Camau Nesaf.

Ym mis Hydref fe ddywedodd Carl Sargeant wrth aelodau'r Cynulliad ei fod â'i "fryd ar gael gwared" ar gynllun gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, Cymunedau'n Gyntaf.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Sargeant nad oedd yn meddwl mai'r cynllun - sy'n canolbwyntio ar ariannu ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru - yw'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â thlodi.

Mae Cymunedau'n Gyntaf yn gwario tua £30m bob blwyddyn, gyda dros £300m wedi ei wario ers pan gafodd ei sefydlu yn 2001. 

Yn 2015 fe ddaeth hi i'r amlwg fod un cynllun ym Merthyr Tudful wedi gwario'r mwyafrif o'i gyllideb o £1.5m ar gyflogau.  

Mae Port Talbot yn un ardal lle mae arian Cymunedau'n Gyntaf wedi cael ei wario
Getty Images
Mae Port Talbot yn un ardal lle mae arian Cymunedau'n Gyntaf wedi cael ei wario

Cadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru

Lawrence Conway, Cyn-Brif Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan sydd wedi ei benodi yn gadeirydd dros dro ar Chwaraeon Cymru.

Y cadeirydd a'r is-gadeirydd wedi eu gwahardd

Mae Rebecca Evans wedi gwahardd y cadeirydd Dr Paul Thomas a'r is-gadeirydd Adele Baumgardt "mewn gweithred niwtral".

Mae gweddill aelodau bwrdd presennol Chwaraeon Cymru yn parhau yn eu lle, o dan arweinyddiaeth dros dro. 

Mae hi'n adfer gweithgareddau'r bwrdd, a fydd yn galluogi i "nifer o gamau pwysig gael eu cymryd, er enghraifft, y broses o osod cyllideb cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill".

Rebecca Evans
BBC

Gwaith y bwrdd wedi ei atal

Ym mis Tachwedd cyhoeddodd Rebecca Evans AC, fod gwaith y bwrdd wedi ei atal tan ddiwedd y flwyddyn o leiaf.

Roedd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Dr Paul Thomas, wedi cyhuddo'r sefydliad o wario swm "annerbyniol" o arian ar y Bwrdd.

Roedd yr adolygiad mewnol gan Mr Thomas yn dweud bod y corff mewn perygl o "sefyll yn llonydd", gan gyhuddo rheolwyr o fod yn anfodlon gwrando a chysylltu gyda phobl allanol.  

Fe ddechreuodd swyddogion Llywodraeth Cymru ymchwiliad wyth wythnos i'r corff, sy'n hyrwyddo chwaraeon ar y lefel uchaf ac ar lawr gwlad.

Paul Thomas
Llywodraeth Cymru

Datganiad ar Chwaraeon Cymru

Nawr datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: Chwaraeon Cymru.

Chwaraeon Cymru
Chwaraeon Cymru

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Y Prif Weinidog wedi troi "ei lygaid oddi wrth y bêl'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod y Prif Weinidog wedi troi ei lygaid "oddi wrth y bêl" wrth ganiatáu i weinidog wneud penderfyniad ar Kancoat pan yr oedd hwnnw yn effeithio ar ei hetholaeth. 

Yn 2013 a 2014 fe wnaeth Edwina Hart - Gweinidog yr Economi ar y pryd - benderfynu cefnogi Kancoat ar waetha'r ffaith iddi gael gwybod bod gan y cwmni gynllun busnes "gwan".

Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru ddweud bod y gefnogaeth yn "gyson gyda'r côd gweinidogol", gan fod y cwmni, a oedd yn Waunarlwydd, y tu allan i etholaeth Mrs Hart, Gŵyr.

Ond fe wnaeth Syr Alistair Graham, cyn-gadeirydd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, ddweud bod swyddi posib i'w hetholwyr wedi arwain at wrthdaro buddiannau posib.

Roedd y cwmni wedi ei leoli ger y ffin â'i hetholaeth yng Ngŵyr.

Simon Thomas
BBC

'Rydyn ni'n dysgu trwy'r amser'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud y bydd yn ymateb yn llawn i adroddiad y pwyllgor ymhen amser. Ond mae'n dweud wrth ACau bod y llywodraeth yn debygol o dderbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion.

"Rydyn ni'n dysgu trwy'r amser", meddai.

Mae'n dweud bod "y panel buddsoddi wedi cael pethau'n anghywir". 

Ken Skates
BBC

'Pryderon difrifol' am fuddsoddi arian cyhoeddus

Mae grŵp o ACau wedi dweud bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am benderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £3m yng nghwmni Kancoat yn Abertawe.

Cyn mynd i'r wal, roedd Kancoat wedi derbyn help ariannol gwerth £3.4m, er i weision sifil rybuddio bod y cynllun busnes yn "wan".

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn dweud bod y llywodraeth wedi anwybyddu eu polisïau ar ddiwydrwydd dyladwy, cyn rhoi mwy o arian i'r cwmni.

Roedd Kancoat yn gweithredu ar safle yn Waunarlwydd, Abertawe, ble roedd ffatri Alcoa gynt
BBC
Roedd Kancoat yn gweithredu ar safle yn Waunarlwydd, Abertawe, ble roedd ffatri Alcoa gynt

Cwestiwn Brys

Nawr cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Mae Russell George yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe.

Cwmni Kancoat
BBC

'Pwysau' ar ymgyrchwyr?

Mae Neil McEvoy Plaid Cymru yn cyfeirio at honiadau gan fudiad sy'n cynrychioli lobïwyr, bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ymgyrchwyr  i ymatal rhag dweud pethau nad ydyw'n cytuno gyda nhw.

Mae Daran Hill o Public Affairs Cymru yn dweud bod rhai o'i aelodau wedi wynebu "pwysau" oddi wrth y llywodraeth.

Mae'r Prif Weinidog yn ateb "Cyn belled ag yr ydyn ni yn y cwestiwn, dydyn ni ddim yn dweud wrth fudiadau beth y dylen nhw eu ddweud, neu beidio dweud". 

Neil McEvoy
BBC

'Mae'r gwynt yn chwythu, mae am ddim'

Os yw'r Unol Daleithiau nawr yn mynd i roi'r gorau i ymrwymiadau newid hinsawdd, beth yw'r "synnwyr" o Gymru yn parhau gyda'r ymrwymiadau, gofynna Mr Hamilton.

"Mae'r gwynt yn chwythu, mae am ddim," medd Mr Jones, gan ychwanegu nad yw'n gwybod beth yw dewis arall Mr Hamilton. 

Tyrbinau gwynt
Getty Images

'Diogelu'r cyflenwad ynni a lleihau newid hinsawdd yn mynd law yn llaw'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn gofyn pa wahaniaeth y mae'n ei wneud os yw Cymru yn ymrwymo i dargedau newid hinsawdd, rhywbeth y mae e'n honni sy'n fwrn ar bobl dlawd a bregus.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud nad yw newid hinsawdd yn "rhywbeth y gallwn ni ei ddiystyru", gan ychwanegu bod "diogelu'r cyflenwad ynni a lleihau newid hinsawdd yn mynd law yn llaw". 

Neil Hamilton
BBC

'Y trethdalwyr yn haeddu ymddiheuriad'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn "Onid ydych chi'n credu bod y trethdalwyr yn haeddu ymddiheuriad" wedi penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £3m yng nghwmni Kancoat yn Abertawe, cwmni aeth i'r wal.

Mae Carwyn Jones yn dweud "o'r prosiectau yr ydyn ni wedi eu cefnogi, dim ond 2.4% sydd wedi methu". 

"Chi oedd y Prif Weinidog ar y pryd .. roedd nifer o rybuddion yn tynnu sylw at y risg" medd Mr Davies.

Mae Mr Jones yn ateb drwy ddweud bod yn rhaid i lywodraeth dderbyn bod yna elfen o risg. 

Andrew RT Davies
BBC

'Ymgeiswyr y blaid Lafur yn gweithio'n agos gydag UKIP'

Mae Leanne Wood yn gofyn "a yw hi'n dderbyniol i chi bod yna ymgeiswyr o'r blaid Lafur yn gweithio'n agos gydag UKIP ar addysg cyfrwng Cymraeg?"

Mae Carwyn Jones yn cytuno bod y ffrae ynghylch Ysgol Llangennech wedi troi'n "wenwynig". Mae'n dweud bod yna sylwadau wedi eu gwneud gan wleidyddion nad yw'n cytuno â nhw. 

Leanne Wood
BBC

Yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad wedi dod yn 'wenwynig'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a oes rhaid i awdurdodau lleol o dan bolisïau'r llywodraeth, gynyddu nifer y llefydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud, oes.

Mae Ms Wood yn cyfeirio at bleidlais Cyngor Sir Caerfyrddin o blaid gwneud Ysgol Llangennech, ger Llanelli, yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg o fis Medi, ac yn dweud bod yr ymgyrch yn erbyn y penderfyniad wedi dod yn "wenwynig".

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn diolch i Gyngor Sir Caerfyrddin
BBC
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn diolch i Gyngor Sir Caerfyrddin

Casnewydd yn 'brifddinas diogelwch cyber'

Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn cynnig galw Casnewydd yn brifddinas diogelwch cyber Cymru. 

Steffan Lewis
BBC