a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Ymchwiliadau'r Pwyllgor
  6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17
  7. Dadl Plaid Cymru ar wasanaethau gofal cymdeithasol
  8. Dadl Fer: Taro'r Fargen Ddinesig – y camau nesaf i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Chwefror 7.

    Y Senedd
  2. Cefndir

    Mae cynllun gwerth £1.2bn i hybu twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Caerdydd.  

    Byddai Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gweld £734m yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun Metro a £495m ar brosiectau eraill.  

  3. Dadl Fer: Taro'r Fargen Ddinesig

    Ac yna olaf yn y Siambr y prynhawn yma Dadl Fer gan Nick Ramsay.

    A'r pwnc: Taro'r Fargen Ddinesig - y camau nesaf i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

    Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  4. 'Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant'

    Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dweud bod y llywodraeth wedi ei hymrwymo i "ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru".

    Mae hi hefyd yn cyfeirio at y "buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18" a'r "gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar draws Cymru". 

    Rebecca Evans
  5. Cefndir: Gallai cost gofal 'orfodi cynghorau i uno'

    Fe allai'r gost gynyddol o dalu am wasanaethau gofal orfodi rhai awdurdodau lleol i uno, yn ôl prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

    Dywed Steve Thomas fod disgwyl i gost gofal ddyblu dros y 15 mlynedd nesaf.

    Yn y cyfamser, meddai, bydd cyllidebau cynghorau yn parhau i ostwng.

    Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd £10m o arian ychwanegol ar gael er mwyn sicrhau fod y sector gofal cymdeithasol "yn gynaliadwy."

  6. Ysbytai bach yn 'hanfodol'

    Mae Caroline Jones UKIP yn dweud bod ysbytai bach (yn aml mewn ardaloedd gwledig) yn "hanfodol", ac yn galw am "wrthdroi penderfyniad i gau'r ysbytai, a hefyd gynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol".

    Caroline Jones
  7. 'Lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol'

    Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn siarad am  "rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol".

    Mae'r galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr.        

    Suzy Davies
  8. Dadl ar wasanaethau gofal cymdeithasol

    Am yr awr nesaf dadl gan Blaid Cymru ar wasanaethau gofal cymdeithasol. 

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy.

    2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.

    3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty. 

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.  

    Gofal cymdeithasol
  9. 'Fydd mwy o ddiwrnodau anodd cyn diwedd y Gaeaf'

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cydnabod "Mae yna ddyddiau anodd wedi bod ac fe fydd yna fwy o ddyddiau anodd cyn diwedd y Gaeaf." 

  10. Gwahaniaeth barn

    Mae'r pwyllgor, sy'n cael ei gadeirio gan Dai Lloyd, hefyd yn tynnu sylw at wahaniaeth barn o fewn y gwasanaeth.

    Mae'r adroddiad yn dweud:

    "Yn benodol o ran y gaeaf hwn, roedd gwahaniaeth barn ymhlith y darparwyr ynghylch pa mor barod ydynt; mae hyn, ynddo’i hun, yn achos peth pryder. Ar ôl y sylw eang a’r craffu a fu ar y pwysau ar wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, dylai’r holl sector fod yn fwy hyderus bod y broblem yn cael ei rheoli a bod modd ymdopi. 

    "Efallai fod y ffaith nad yw hyn yn wir yn deillio’n rhannol o ddiffyg cyfathrebu rhwng yr holl bartïon perthnasol, er gwaethaf y ffaith fod trefniadau, fel cynlluniau integredig, wedi’u sefydlu."

    Dai Lloyd
  11. Casgliadau'r adroddiad

    Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ei bod hi'n "amlwg o’r dystiolaeth a glywsom nad yw llawer o’r elfennau sy’n rhoi GIG Cymru o dan bwysau yn gyfyngedig i un cyfnod neu dymor, ond eu bod yn hytrach yn bresennol gydol y flwyddyn. 

    "Serch hynny, mae’n amlwg hefyd bod cynnydd sydyn a thymhorol yn y galw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, sy’n rhoi system sydd eisoes yn gweithio i’w heithaf o dan ragor o straen.

    "O ganlyniad, yn sylfaenol, mae cynllunio at y cyfnod hwn yn golygu ceisio cyfyngu ar effeithiau’r cynnydd sydyn hwn yn y galw ond gan ddal i ddarparu gwasanaethau craidd eraill, gan gynnwys elfennau dewisol."

  12. Dadl: Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf

    Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

    Mae'n ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17.  

    Gallwch weld yr adroddiad fan hyn.

    Ysbyty
  13. 'Pobl wrth galon ein hymchwiliadau'

    Mae Mr Ramsay yn dweud bod y pwyllgor yn "bwriadu rhoi pobl yn gadarn wrth galon pob un ymchwiliad gan ein pwyllgor".

  14. Ymchwiliadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

    Am yr hanner awr nesaf mae'r aelodau yn gwrando ar ddatganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay ar Ymchwiliadau'r Pwyllgor.

    Nick Ramsay
  15. Cynllun cyflawni gofal iechyd

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cyfeirio at y Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid 2013-2018 - Law yn Llaw at Iechyd - sy'n amlinelli cyfres o weithredoedd i wella iechyd llygaid plant ac oedolion.

    Vaughan Gething
  16. Cwestiwn Brys - Gwasanaeth gofal llygaid

    Nawr cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn i'r Ysgrifennydd am ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru.

    Mae cleifion yn cael niwed oherwydd problemau sylweddol yng ngwasanaethau gofal llygaid y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

    Mae'r ddogfen gan Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd yn dweud nad oes digon o lefydd yn y gwasanaethau llygaid i gyrraedd y galw yn ysbytai Cymru a bod y gwasanaethau yn "fregus".

    Yn ôl yr adroddiad, mae hyn yn arwain at gleifion yn gorfod disgwyl yn hirach am driniaeth allai arwain at "niwed gellid ei osgoi i gleifion".

    Prawf llygaid
  17. 'Dylai data cyflog fod ar gael i weithwyr y sector cyhoeddus'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud y dylai data cyflog ar bob lefel fod ar gael i weithwyr yn y sector cyhoeddus fel y gallen nhw fynnu eu hawliau cyflog cyfartal.

    Mae Mr Sargeant yn dweud bod "llawer o ddata allan yna ynghylch cyflog a graddfeydd cyflog".

    Michelle Brown
  18. 'Methiant' i orfodi rheolaeth ariannol

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn codi mater Cymunedau'n Gyntaf a "methiant" Llywodraeth Cymru i orfodi rheolaeth ariannol.

    Mae Mr Sargeant yn dweud bod ei swyddogion yn parhau i drafod gyda NSA Afan a'r heddlu. 

    Mark Isherwood
  19. 'Goblygiadau anuniongyrchol i NSA Afan heb gyllid'

    Ar fater yr elusen adfywio cymunedol ym Mhort Talbot NSA Afan, sydd ddim bellach yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, mae Mr Sargeant yn dweud ei fod yn "ymwybodol o'r goblygiadau anuniongyrchol i NSA Afan yn nhermau gwasanaethau i'r gymuned leol" a bod ei swyddogion mewn trafodaethau gyda'r cynogr.

    Roedd NSA Afan, sydd wedi ei lleoli yn ardal Sandfields yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy'r cynlluniau Cymunedau'n Gyntaf a Chymunedau dros Waith. 

    NSA Afan