a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

    Y Senedd
  2. 'Diffyg gorfodaeth effeithiol'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud "mae ganddon ni nifer o reoliadau yng Nghymru sy'n ceisio delio gyda'r problemau o ddiffyg cydraddoldeb.

    "Y cwestiwn yw pa mor effeithiol ydyn nhw yn ymarferol a pha mor effeithiol y gallan nhw gael eu gwneud i fod?"

    Mae'n ychwanegu, "weithiau mae'r Cynulliad yn deddfu mewn modd briodol at ei gilydd, ond rhywsut mewn cyfnod byr mae yna ddiffyg gorfodaeth effeithiol."

  3. 'Cymru ddim yn wlad gydradd'

    Meddai Sian Gwenllian, "Dydy Cymru ddim yn wlad gydradd, ac mae'n drawiadol nad oes fawr o gynnydd wedi bod yn nifer y dangosyddion yn yr adroddiad."

    Mae'n dweud hefyd bod yr adroddiad yn amserol o gofio bod yr Arlywydd Trump wedi gosod gwaharddiad teithio dros dro yn yr Unol Daleithiau ar bobl o saith o wledydd Mwslemaidd yn bennaf. 

  4. 'Amcanion a chanlyniadau mesuradwy'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn galw ar Lywodraeth Cymru "i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol."

    Mae e hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol."

    Mark Isherwood
  5. Dadl: Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016

    Ac yn olaf heddiw mae'r aelodau yn cael dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016. 

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad: 

    1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016, a

    2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal. 

    Carl Sargeant
  6. Cymeradwyo Rheoliadau Safonau'r Gymraeg

    Mae'r aelodau yn y Siambr yn cymeradwyo Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017.

  7. 'Y Rheoliadau yn mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r prif bryderon'

    Mae Bethan Jenkins, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn dweud ar ran y pwyllgor bod y "Rheoliadau diwygiedig yn mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r prif bryderon a nodwyd mewn perthynas â'r Rheoliadau Rhif 3, er nad ydynt yn mynd i'r afael â phob un ohonynt".

    Mae'r Pwyllgor yn cytuno "cyhyd ag y bydd y Gweinidog yn parhau i adolygu’r modd y caiff y Rheoliadau diwygiedig eu rhoi ar waith ac, fel yr addawodd, y bydd yn cyflwyno rheoliadau diwygio os daw’n amlwg bod angen gwneud hynny, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r Cynulliad gymeradwyo’r Rheoliadau". 

    Bethan Jenkins
  8. Rheoliadau Safonau'r Gymraeg

    Nesaf mae'r llywodraeth yn cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017. 

    Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad 27 o gyrff yn y sector addysg.

    Diben y Rheoliadau yw cymryd lle Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 a wrthodwyd gan y Pedwerydd Cynulliad y llynedd.   

    Bryd hynny, roedd 26 aelod o blaid, 26 yn erbyn gyda phleidlais fwrw y Dirprwy Lywydd yn erbyn. 

    Y Gymraeg
  9. Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn unol â'r fersiwn ddrafft.  

  10. 'Pam nad yw'r Llywodraeth wedi cynnig y syniadau yma'n barod?'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod adroddiad Hazelkorn yn "wych", ond mae'n gofyn "pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig y syniadau yma'n barod", gan fod yr adroddiad yn trafod "gofynion sylfaenol llywodraeth".

    Michelle Brown
  11. 'Stratedigaethau wedi methu cyflawni canlyniadau arwyddocaol'

    Mae'r aelod Ceidwadol Paul Davies yn dweud bod "pentwr o ddogfennau polisi strategol wedi'u cynhyrchu gan y naill lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru, ond mae'r stratedigaethau hynny wedi methu cyflawni canlyniadau arwyddocaol i ddysgwyr."

    Mae'n croesawu Adolygiad Hazelkorn ac yn dweud "mae'n bwysig ein bod ni'n cydio yn y cyfle hwn".

    Paul Davies
  12. 'Tegwch rhwng addysg academaidd a galwedigaethol'

    Mae Llyr Gruffydd yn dweud bod Plaid Cymru yn "cefnogi byrdwn cyffredinol" datganiad yr Ysgrifennydd Addysg, ac wedi'i hymrwymo i degwch rhwng addysg academaidd a galwedigaethol. Mae'r blaid hefydd meddai wedi'i hymrwymo i gael gwared â llawer o'r gystadleuaeth wastraffus sydd wedi ymddangos mewn addysg ôl-16." 

    Llyr Gruffydd
  13. 'Adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i brofi mewn systemau addysg llwyddiannus'

    Mae Kirsty Williams yn cyhoeddi y bydd awdurdod strategol newydd yn cael ei greu i oruchwylio sgiliau, cyllid ar gyfer ymchwil a'r sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru.

    Mae'n dweud wrth aelodau'r Cynulliad:

    "Daeth yr Athro Hazelkorn i'r casgliad nad yw'r system bresennol yn canolbwyntio'n ddigonol ar ddysgwyr ac nid yw'n llwyr sicrhau gwerth am arian. Roedd ei hadroddiad yn pwysleisio bod angen i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol weithredu fel un sector. 

    "Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r cynigion hyn, ac mae'r model a argymhellir yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i brofi mewn systemau addysg llwyddiannus. Rwyf am i Gymru fwynhau'r un manteision."

  14. Argymell sefydlu Awdurdod Addysg Drydyddol

    Mae'r Athro Hazelkorn yn argymell sefydlu un awdurdod newydd - a gaiff ei alw'n Awdurdod Addysg Drydyddol - fel un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydgysylltu i'r sector ôl-orfodol.

    Mae'n dweud er mwyn cyflawni hyn bod angen sefydlu awdurdod integredig newydd (yn lle CCAUC) gyda'r gallu, adnoddau a strwythur sefydliadol i lywio, goruchwylio a monitro newid systemig a gwelliant parhaus drwy'r sector ôl-orfodol cyfan.

    1.Bydd yr Awdurdod Addysg Drydyddol yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach a phrifysgolion i gyflawni ac ymateb i amcanion a blaenoriaethau cenedlaethol, ac arddel safbwynt cyfannol, gan sicrhau y caiff system addysg integredig a chydlynol ei chreu;

    2. Bydd yr Awdurdod Addysg Drydyddol yn cadw awdurdod ac ymreolaeth i wobrwyo ymchwil, yn enwedig ymchwil sy'n cyfrannu at economi Cymru;

    3. Bydd yr Awdurdod Addysg Drydyddol yn gyfrifol am fonitro arfer llywodraethu drwy'r system gyfan, prif gyfrifoldebau SABau a phrifysgolion a'r ffyrdd o sicrhau arfer llywodraethu da ac atebolrwydd llawn am y cyllid cyhoeddus a ddyrennir i'r sector;

    4. Bydd yr Awdurdod Addysg Drydyddol yn gyfrifol am sicrhau ansawdd drwy'r system ôl-orfodol gyfan.   

    Mae colegau addysg pellach fel hwn yng Nglyn Ebwy yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru
    Image caption: Mae colegau addysg pellach fel hwn yng Nglyn Ebwy yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru
  15. Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams ar yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru.

    Fe wnaeth yr Athro Hazelkorn gynnal archwiliad o'r trefniadau presennol ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.

    Kirsty Williams
  16. 'Mae gan bawb rhywfaint o gyfrifoldeb arweinyddiaeth'

    Mae Mark Drakeford yn dweud bod "gan bawb sy'n gweithio i awdurdod lleol rhywfaint o gyfrifoldeb arweinyddiaeth, a'r cwestiwn cyntaf ddylen nhw'i ofyn pan maen nhw'n dod ar draws problem yw nid 'i bwy ddylen i ddweud wrtho am y broblem' ond 'pa gyfraniad alla i ei wneud?' "

  17. 'Man cychwyn rhesymol'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod ei blaid "yn cefnogi'n fras y bwriad i leihau biwrocratiaeth llywodraeth leol", ac yn dweud bod y papur gwyn "yn sylfaen rhesymol ar sut i ddechrau trafodaethau gyda'r 22 awdurdod lleol".

    Gareth Bennett
  18. 'Plesio Plaid Cymru' gyda diwygio etholiadol

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Lywodraeth Leol, Janet Finch-Saunders, yn cyhuddo'r gweinidog o "blesio Plaid Cymru" gyda diwygio etholiadol.

    Mae'n dweud mai darparu gwasanaethau effeithiol a lefelau teg o dreth cyngor ddylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

    Janet Finch-Saunders
  19. 'Perygl o greu system mwy cymhleth a dryslyd'

    Meddai Sian Gwenllian o Blaid Cymru, "Mae'r papur gwyn a'ch agwedd gynhwysol chi i'w groesawu" ond mae hi hefyd yn rhybuddio bod "perygl o greu system fwy cymhleth a dryslyd".

    Sian Gwenllian