"Wel, joies i honna! Wy ddim yn siŵr y bydde'r nifer fwyaf o bobl 'di darogan buddugoliaeth - o'r sgôr yna hefyd - i'r crysau Cochion.
"Wy'n falch on i'n anghywir 'fyd! Hwb aruthrol i'r garfan sy'n cadw'u lle yn 8 ucha' detholion y byd. A fe fydd y momentwm 'da nhw hefyd i ddod â'u hymgyrch i ben 'da buddugoliaeth arall (gobeithio!) mas ym Mharis y Sadwrn nesaf.
" Ond ma'r canlyniad hefyd yn golygu bo' Lloegr yn ishte'n hapus ar frig tabl y 6 Gwlad.
" Ond am heno - rhyddhad. A dathlu! Gwych Cymru!!
Buddugoliaeth: Cymru 22-9 Iwerddon
Amddiffyn arwrol a Chymru yn sicrhau buddugoliaeth yng Nghaerdydd.
Cymru am bwynt bonws!
George North ar rediad cryf arall yn yr eiliadau olaf.
Post update
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Arwrol gan Gymru!! Cymru yn wych yn cadw'u disgyblaeth! A'r hen ben Jamie Roberts yn taflu'i hunan dros y llinell!! Joio hon! "
Cymru 22-9 Iwerddon
Cic Halfpenny yn rhoi Cymru ymhellach ar y blaen.
Cais i Gymru. Cymru 22-Iwerddon 9
Cais i Jamie Roberts. Ar ôl yr holl bwysau, Cymru'n torri'n rhydd.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Dal i amddiffyn
Sgrym 5 i Iwerddon, Cymru yn parhau i amddiffyn ond am ba hyd?
'Nerfau'n rhacs'
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Mowredd!! Ma' nerfau i'n rhacs a ma' dros 10 munud i
fynd!
"Ma'n rhaid i Gymru geisio cadw'u nerfau nhw fan hyn - gobeitho y caiff yr
eilyddion argraff gadarnhaol ar y gêm.
"Falch gweld Faletau 'mla'n. Welwn ni Sam
Davies tybed?"
Pwysau ac eilyddio
Gwaith amddiffynnol cryf gan Halfpenny yn atal y Gwyddelod eto. Ond Cymru yn methu â chlirio a'r pwysau yn parhau. Jamie Roberts yn cymryd lle Scott Williams yn y canol. Taulupe Faletau hefyd ar y cae.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Eilyddio
Luke Charteris yn cymryd lle Jake Ball yn yr ail reng.
Parhau'n agos
I mewn i'r chwarter olaf, ac un sgôr sydd ynddi. Tacl bwysig gan Moriarty yn atal Sexton. Pwyso gan Iwerddon ond Cymru yn adennill y bêl ac yn cicio i fyny'r cae. Amser am seibiant.
Cymru 15-9 Iwerddon
Cic gosb i Iwerddon, a'r Gwyddelod yn ôl o fewn chwe phwynt.
Sexton yn ôl
Jonathan Sexton ôl ar y cae ar ôl ei gerdyn melyn. Iwerddon yn dechrau ymosod eto.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
'Dechrau perffaith'
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Y dechre perffaith i'r ail hanner! Amynedd, pwyso, manteisio ar Iwerddon lawr i 14 dyn - a George North yn ymateb i'w feirniadaeth yn y modd gorau posib!
"Ma' Cymru ar dân - a ma' nghwpan i'n hanner llawn tro 'ma! Gwych!
Cymru 15-6 Iwerddon
Leigh Halfpenny yn rhoi Cymru naw pwynt ar y blaen.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Ail gais i North: Cymru 13-6 Iwerddon
Ail gais i North ac i Gymru. Cymru yn torri'n rhydd ar ôl bod yn amddiffyn. Cwrsio da gan Halfpenny yn sicrhau safle a llinell fanteisiol i Gymru.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
George North a Rhys Webb yn dathlu ail gaisImage caption: George North a Rhys Webb yn dathlu ail gais
Cymru 8-5 Iwerddon.
Y gêm yna i'r ddau dîm ei hennill. Iwerddon yn dechrau’r ail hanner.
'Digon o ymdrech'
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Diwedd cyffrous i'r hanner cyntaf, a Chymru a'u trwynau ar y bla'n.
"Ry' ni 'di gweld digon o ymdrech gan Gymru yn ymosodol ac amddiffynnol yn y 40 munud agoriadol, mewn gêm gystadleuol a chyffrous.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn
Buddugoliaeth i Gymru!
Bydd Rob Howley ac aelodau'r tîm hyfforddi yn cysgu'n dawel heno gan edrych ymlaen at y gêm olaf yn erbyn Ffrainc ym Mharis wythnos i fory.
Diolch am ddilyn y gêm ar Cymru Fyw - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Sylwebu'n troi'n farddoni
Sylwebaeth gan Gareth Charles ar Camp Lawn ar S4C yn plesio'r bardd Aneirin Karadog.
Cymru'n dathlu
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Wel, joies i honna! Wy ddim yn siŵr y bydde'r nifer fwyaf o bobl 'di darogan buddugoliaeth - o'r sgôr yna hefyd - i'r crysau Cochion.
"Wy'n falch on i'n anghywir 'fyd! Hwb aruthrol i'r garfan sy'n cadw'u lle yn 8 ucha' detholion y byd. A fe fydd y momentwm 'da nhw hefyd i ddod â'u hymgyrch i ben 'da buddugoliaeth arall (gobeithio!) mas ym Mharis y Sadwrn nesaf.
" Ond ma'r canlyniad hefyd yn golygu bo' Lloegr yn ishte'n hapus ar frig tabl y 6 Gwlad.
" Ond am heno - rhyddhad. A dathlu! Gwych Cymru!!
Buddugoliaeth: Cymru 22-9 Iwerddon
Amddiffyn arwrol a Chymru yn sicrhau buddugoliaeth yng Nghaerdydd.
Cymru am bwynt bonws!
George North ar rediad cryf arall yn yr eiliadau olaf.
Post update
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Arwrol gan Gymru!! Cymru yn wych yn cadw'u disgyblaeth! A'r hen ben Jamie Roberts yn taflu'i hunan dros y llinell!! Joio hon! "
Cymru 22-9 Iwerddon
Cic Halfpenny yn rhoi Cymru ymhellach ar y blaen.
Cais i Gymru. Cymru 22-Iwerddon 9
Cais i Jamie Roberts. Ar ôl yr holl bwysau, Cymru'n torri'n rhydd.
Dal i amddiffyn
Sgrym 5 i Iwerddon, Cymru yn parhau i amddiffyn ond am ba hyd?
'Nerfau'n rhacs'
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Mowredd!! Ma' nerfau i'n rhacs a ma' dros 10 munud i fynd!
"Ma'n rhaid i Gymru geisio cadw'u nerfau nhw fan hyn - gobeitho y caiff yr eilyddion argraff gadarnhaol ar y gêm.
"Falch gweld Faletau 'mla'n. Welwn ni Sam Davies tybed?"
Pwysau ac eilyddio
Gwaith amddiffynnol cryf gan Halfpenny yn atal y Gwyddelod eto. Ond Cymru yn methu â chlirio a'r pwysau yn parhau. Jamie Roberts yn cymryd lle Scott Williams yn y canol. Taulupe Faletau hefyd ar y cae.
Eilyddio
Luke Charteris yn cymryd lle Jake Ball yn yr ail reng.
Parhau'n agos
I mewn i'r chwarter olaf, ac un sgôr sydd ynddi. Tacl bwysig gan Moriarty yn atal Sexton. Pwyso gan Iwerddon ond Cymru yn adennill y bêl ac yn cicio i fyny'r cae. Amser am seibiant.
Cymru 15-9 Iwerddon
Cic gosb i Iwerddon, a'r Gwyddelod yn ôl o fewn chwe phwynt.
Sexton yn ôl
Jonathan Sexton ôl ar y cae ar ôl ei gerdyn melyn. Iwerddon yn dechrau ymosod eto.
'Dechrau perffaith'
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Y dechre perffaith i'r ail hanner! Amynedd, pwyso, manteisio ar Iwerddon lawr i 14 dyn - a George North yn ymateb i'w feirniadaeth yn y modd gorau posib!
"Ma' Cymru ar dân - a ma' nghwpan i'n hanner llawn tro 'ma! Gwych!
Cymru 15-6 Iwerddon
Leigh Halfpenny yn rhoi Cymru naw pwynt ar y blaen.
Ail gais i North: Cymru 13-6 Iwerddon
Ail gais i North ac i Gymru. Cymru yn torri'n rhydd ar ôl bod yn amddiffyn. Cwrsio da gan Halfpenny yn sicrhau safle a llinell fanteisiol i Gymru.
Cymru 8-5 Iwerddon.
Y gêm yna i'r ddau dîm ei hennill. Iwerddon yn dechrau’r ail hanner.
'Digon o ymdrech'
Bethan Clement
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru
"Diwedd cyffrous i'r hanner cyntaf, a Chymru a'u trwynau ar y bla'n.
"Ry' ni 'di gweld digon o ymdrech gan Gymru yn ymosodol ac amddiffynnol yn y 40 munud agoriadol, mewn gêm gystadleuol a chyffrous.
"Edrych 'mlaen at yr ail hanner!"