a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Cyllid
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl y Ceidwadwyr ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf
  6. Dadl y Ceidwadwyr ar lefelau gordewdra yng Nghymru
  7. Dadl Plaid Cymru ar sector addysg uwch Cymru
  8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar berthynas Prydain â'r UE wedi Brexit
  9. Dadl Fer: O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano

Y diweddaraf yn fyw

Gan Nia Harri a Gwenllian Grigg

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ionawr 17.

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Unigrwydd yng nghymunedau Cymru

    Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Joyce Watson. 

    A'r pwnc: O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano.   

    Unigrwydd
  3. Pleidlais ar ddyfodol Cymru o fewn y Farchnad Sengl

    Gwrthodwyd cynnig UKIP.

  4. Y farchnad sengl yw'r 'mater pwysicaf'

    Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud nad yw'n credu y gellir cael mynediad i'r farchnad sengl, ac ar yr un pryd ddweud eich bod eisiau rheolaeth lwyr o fewnfudo.

    "Rydych chi'n dewis y naill neu'r llall, ac rydw i wedi gwneud y dewis i ddweud fy mod i'n credu mai blaenoriaethu mynediad i'r farchnad sengl yw'r mater mwyaf pwysig i ni yng Nghymru.

    "Yr Undeb Ewropeaidd, o bell ffordd, yw ein marchnad fwyaf."

    Carwyn Jones
  5. 'Pryder cyhoeddus' ynglŷn â mewnfudo

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud y byddai nifer yn cytuno bod pryder y cyhoedd ynghylch mewnfudo yn ffactor anferth yn y bleidlais Brexit.

    Mae'n gofyn i Carwyn Jones a yw'n credu bod mynediad i'r farchnad sengl yn fwy pwysig fel mater na rhyddid i symud.

    Gareth Bennett
  6. Symud y tu hwnt i Brexit

    Mae'r aelod Llafur, Jeremy Miles, yn rhybuddio yn erbyn syrthio i'r trap o "gredu mai'r fersiwn presennol o ryddid i symud yw'r unig ffordd y gallwn ni fynegi ein rhyng-genedlaetholdeb fel gwlad."

    "2017 yw'r flwyddyn y mae angen i ni symud y tu hwnt i fecaneg Brexit a dechrau diffinio y wlad yr ydyn ni eisiau i Gymru fod ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd."

    Jeremy Miles
  7. Gwelliant 2

    Ar ran Plaid Cymru mae Adam Price yn cynnig:

    Dileu popeth a rhoi yn ei le:

    1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.

    2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyfethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.    

  8. Gwelliant 1

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn cynnig:

    Dileu popeth a rhoi yn ei le:

    1. Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus newydd â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru.

    2. Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy'n hanfodol i ddyfodol economi Cymru.

    3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy'n rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y dylai trefniadau cyfatebol gael eu cynnig i fusnesau'r UE sy'n masnachu ac yn gweithredu yn y DU. 

    Mark Isherwood
  9. 'Budd gorau Cymru yn San Steffan a Chaerdydd'

    Mae Neil Hamilton hefyd yn credu:

    a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a

    b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru. 

    4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE.

    5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn. 

  10. Gwersi gan Norwy?

    Mae Neil Hamilton yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE.

    2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio. 

    Neil Hamilton
  11. Dadl ar berthynas Cymru a'r Farchnad Sengl wedi Brexit

    Y ddadl nesaf yn y Siambr yw un Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig.

    A'r pwnc: aelodaeth Cymru o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd yn dilyn Brexit. 

    Brexit
  12. Yr Ysgrifennydd Addysg yn cefnogi'r cynnig

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn diolch i'r aelodau am eu cyfraniadau i ddadl Plaid Cymru.

    Mae'n dweud ei bod hi wedi ei hymrwymo i lwyddiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol prifysgolion Cymru, a'i bod hi'n cefnogi'r cynnig.

    Dylai myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion barhau i allu manteisio ar gyllid o raglenni yr Undeb Ewropeaidd, meddai. 

  13. Sut i gadw llwyddiant prifysgolion yr DU

    Mae David Melding yn dweud ei bod hi'n bwysig i ganolbwyntio ar beth sydd ei angen i gadw prifysgolion y DU fel mwy na thebyg y set ail orau o brifysgolion yn y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. 

    "Rydyn ni filtiroedd o flaen unrhyw wlad, ac eithrio yr Unol Daleithiau."

    David Melding
  14. Gwelliant y Ceidwadwyr ar addysg uwch

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Darren Millar yn cyflwyno y gwelliant canlynol:

    Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn eu lle:

    'a) manteisio i'r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru; 

    b) cefnogi mentrau cydweithredu sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid rhyngwladol; 

    c) archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau dwyochrog â'r UE i fynd i'r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru; 

    d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i'w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn y DU; 

  15. 'Diogelu cyllid yr Undeb Ewropeaidd'

    Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

    a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;

    b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;

    c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;

    d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU. 

  16. Sector Addysg Uwch 'llwyddiannus' yn hanfodol ar gyfer Cymru 'ffyniannus'

    Mae Llyr Gruffydd yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

    2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.

    3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.

    Llyr Gruffydd
  17. Dadl ar Sector Addysg Uwch Cymru

    Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn gwrando ar ddadl gan Blaid Cymru ar sector addysg uwch Cymru.

    Addysg Uwch
  18. Gordewdra: GIG 'methu goroesi' medd arbenigwr

    Ddoe fe wnaeth arbenigwr mewn gofal gordewdra ddweud na fydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ei ffurf bresennol, yn goroesi wrth i gyfraddau gordewdra gynyddu.

    Dywedodd Dr Zoe Harcombe bod ganddi bryderon am y costau a straen ychwanegol ar y GIG.

  19. Gwelliant 2 wedi ei gynnig yn ffurfiol

    Mae Dai Lloyd yn cynnig Gwelliant 2 ar ran Rhun ap Iorwerth: 

    Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

    Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau'n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o'r fath yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio'r pwerau hyn i fynd i'r afael â gordewdra.