a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Hawliau Dynol
  6. Dadl Plaid Cymru: Aelwydydd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan
  7. Dadl y Ceidwadwyr: Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015
  8. Dadl Fer: Cofrestr cam-drin anifeiliaid

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nadolig Llawen

    Dyna ni am heddiw, ac am eleni.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ionawr 10 2017. 

    Nadolig Llawen i chi gyd.

    Siôn Corn
  2. Dadl Fer

    Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Bethan Jenkins.

    A'r pwnc: Pam mae angen cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru. 

    Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd hi'n rhoi "ystyriaeth ddifrifol" i'r mater.

    Ceffylau
  3. 'Gwell gwneud cyhoeddiadau yn y Siambr'

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud "mai'r wers o'r ddeng munud ddiwethaf yw, os yw polisïau'r llywodraeth yn mynd i gael eu pecynnu fel cyhoeddiadau, mae'n well iddyn nhw gael eu gwneud yma yn y Siambr."

    Llywydd
  4. Cwestiwn brys 3: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru

    Mae yna drydydd cwestiwn brys nawr, a hynny i’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

    Mae Adam Price yn gofyn a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gwerth sawl biliwn o bunnoedd, a gyhoeddwyd heddiw.

    Roedd yna chwerthin yn y Siambr pan alwodd y Llywydd e, yn Adam brys, wrth ei gyflwyno.

    Bore yma fe wnaeth Ken Skates amlinellu ei gynlluniau ar gyfer buddsoddiad mewn gwasanaethau trafnidiaeth dros y pum mlynedd nesaf.

    Mae cynlluniau yn cynnwys gwella ffyrdd yr M4, A55, A40 a'r A494, cynlluniau metro de a gogledd Cymru, masnachfraint rheilffordd newydd, cronfa datblygu porthladdoedd, datblygu trydedd pont dros y Fenai a gwasanaethau bws gwell.

    Dywedodd Mr Skates: "Mae'r holl agenda yn dod â heriau ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ffantastig am rwydwaith fwy, gwell ac integredig sy'n cyrraedd anghenion pobl dros Gymru."

    Adam Price
  5. 'Hynod siomedig'

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn cydnabod bod y canlyniadau "yn hynod siomedig, yn syml, ddim yn ddigon da."

    "Dydyn ni ddim eto - yn rieni, gwneuthurwyr polisi, athrawon a disgyblion - lle rydyn ni eisiau bod.

    "Does dim byd all unrhyw un ddweud yn y Siambr wneud i mi deimlo'n fwy siomedig."

    Kirsty Williams
  6. 'Canlyniadau hynod anffoddhaol Pisa'

    Mae Mark Reckless UKIP yn dweud ei bod hi'n "annerbyniol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adroddiad nad ydyn nhw am ei rannu, fel tarian am ganlyniadau hynod anfoddhaol Pisa".

    Mae gwelliant y llywodraeth yn nodi "sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol."

    Mark Reckless
  7. 'Polisïau addysg annigonol gan Lafur'

    Ar ran Plaid Cymru mae Llyr Gruffydd yn dadlau bod canlyniadau Pisa o ganlyniad i 16 mlynedd o "bolisïau addysg annigonol gan Lafur."

    Mae'n annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda diwygiadau i'r cwricwlwm a datblygiad athrawon.

    Logo Pisa
  8. 'Litani o fethiannau gan y naill lywodraeth Lafur ar ôl y llall'

    Roedd canlyniadau diweddaraf profion Pisa yn dangos bod disgyblion 15 oed yng Nghymru yn sgorio'n is na'r cyfartaledd rhyngwladol mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth am y trydydd tro yn olynol.

    Mae llefarydd Addysg y Ceidwadwyr Darren Millar yn dweud bod y ffigyrau yn "gosod Cymru, unwaith eto, yn hanner isa tabl cynghrair addysg y byd, ac yn ail-gadarnhau statws Cymru fel system berfformio ysgol gwaetha'r DU."

    Mae'n disgrifio "litani o fethiannau gan y naill lywodraeth Lafur ar ôl y llall."

    Darren Millar
  9. Dadl ar asesu myfyrwyr

    Mae' aelodau nawr yn gwrando ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar asesu myfyrwyr. 

    Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.

    2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018. 

    Myfyrwyr
  10. 'Ymrwymiad cyfrannol'

    Mae Carl Sargeant yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig Plaid Cymru "sy'n adlewyrchu'r gwaith sydd eisioes yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, a chynghorau a'n hymrwymiad cyfrannol i fynd â hyn ymhellach."

  11. Ffigyrau 'llwm'

    Mae David Melding yn dweud mai ôl-ddyledion rhent sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o bobl yn colli eu cartrefi, nid ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac yn rhyfeddol meddai, "mae dros dri chwarter o denatiaid sy'n colli'u cartrefi yn dal yn ddi-waith chwe mis yn ddiweddarach."

    David Melding
  12. 'Bydd 16 o blant yn colli eu cartrefi'

    Mae Bethan Jenkins yn dweud:

    “Rhwng y ddadl hon a’r Nadolig, bydd 16 o blant yn colli eu cartrefi yn dilyn cael eu troi allan.

    “Bydd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymreig yn gwario dros £600,000 yn delio gyda chanlyniadau hyn.

    “Mae’r plant yn debygol o wynebu oes o sgil-effeithiau ar eu hiechyd, eu haddysg, ac o ganlyniad eu lefelau incwm. 

    “Mae hi’n iawn fod Llywodraeth Cymru wedi eu canmol am gyflwyno dyletswydd i atal digartrefedd ar awdurdodau lleol.

    “Ond dim ond rhan o’r hyn y dylid ei wneud i atal pobl rhag cael eu troi allan ac atal digartrefedd yw deddfwriaeth. Mae llawer mwy y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leo lei wneud i sicrhau fod gennym bolisi ‘dim troi allan’ i blant.

    Bethan Jenkins
  13. Dadl ar blant yn wynebu cael eu troi allan

    Nesaf y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

    Mae'n ddadl an Blaid Cymru ar blant yn wynebu cael eu troi allan. 

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan yng Nghymru. 

    Plant
  14. Mater hawliau dynol wedi bod 'yn benbleth'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn amlygu materion o ddiddordeb, yn arbennig "i mi oherwydd mae holl fater hawliau dynol wedi tueddu i fod yn benbleth i mi dros y blynyddoedd." 

    Mae'n dweud ei fod yn gweithio mewn canolfan alw pan gafodd y Ddeddf Hawliau Dynol 1988 ei chyflwyno, ond na wnaeth e sylwi ar unrhyw welliannau mewn hawliau cyflogaeth.

    Gareth Bennett
  15. Ffocws yr ymchwiliad

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn croesawu'r ymchwiliad, ac yn gofyn i ba raddau y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb ehangach sy'n berthnasol o ran hawliau dynol.

    Mae John Griffiths yn dweud mai heddiw yw lansiad yr ymchwiliad, ac y bydd pob math o fudiadau yn codi nifer o faterion, ac y bydd nifer o'r rheini ar sail yr hyn y mae Mark Isherwood wedi ei godi. 

  16. 'Brwydro i gadw hawliau merched wedi Brexit'

    Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud un elfen benodol o'r ymchwiliad a fydd o arwyddocad mawr fydd cydraddoldeb rhwng dynion a merched.

    Mae'n dadlau bod hawliau merched dan fygythiad yn dilyn y bleidlais Brexit, ac yn pwysleisio'r pwysigrwydd o ymladd i gadw'r hawliau "sydd ganddon ni'n barod."

    Sian Gwenllian
  17. Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

    Yn ôl y pwyllgor mae 2,872 o geiswyr lloches yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n byw’n bennaf yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. 

    Nid yw'n hysbys faint o ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, gan nad yw’n ofynnol i geiswyr lloches sydd wedi cael statws ffoaduriaid fyw mewn ardal benodol, a gallant symud i fannau eraill. 

    Fodd bynnag, mae 112 o ffoaduriaid o Syria wedi’u cartrefu yng Nghymru’n benodol ers mis Hydref 2015 yn sgil y rhyfel cartref yn Syria, o gymharu ag 862 yn yr Alban.   

    Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw:

    I ystyried:

    • cyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru i ailsefydlu ffoaduriaid drwy Gynllun Llywodraeth y DU ar Adleoli Pobl o Syria sy'n Agored i Niwed; 
    • effeithiolrwydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches,
    • cymorth ac eiriolaeth sydd ar gael i blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yng Nghymru; a'r
    • rôl ac effeithiolrwydd Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod ffoaduriaid a cheisiwyr lloches yn integreiddio yng nghymunedau Cymru.
  18. Hawliau Dynol

    Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths, ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Hawliau Dynol.  

    Mae’r Pwyllgor wedi bod yn ystyried faint o gymorth sydd ar gael ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a pha mor dda y mae Cymru yn ymateb i’r nifer fawr o bobol sy’n ffoi o Syria oherwydd y rhyfel cartref.

    John Griffiths
  19. Datganiadau 90 Eiliad

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol. 

  20. Cwestiwn brys 2:

    Mae'r ail gwestiwn i’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

    Mae Neil Hamilton yn gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad am y cyhoeddiad heddiw ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru arfaethedig yr M4.

    Roedd disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau ar 1 Tachwedd, ond roedd oedi wrth i Lywodraeth Cymru ail-ystyried tystiolaeth.

    Bellach, bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i gynllun i adeiladu ffordd osgoi'r M4 o amgylch Casnewydd yn dechrau ar 28 Chwefror.

    M4