a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad ar y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Banc Datblygu Cymru
  5. Datganiad ar Strategaeth Tlodi Plant Cymru - Adroddiad Cynnydd 2016
  6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Codau Cyfraith Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.  

    Y Senedd
  2. Y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol

    Mae'r aelodau yn cytuno y dylai "Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

  3. Y Mesur Cyllid Troseddol

    Mae'r aelodau yn cytuno y dylai "Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

  4. Inffograffeg Cynulliad Digidol

    I'r sawl a fyddai'n gwerthfawrogi adnodd rhyngweithiol am Aelodau Cynulliad y gorffennol a’r presennol...   

    View more on twitter
  5. Diwygiadau i 'helpu i wella mynediad at gyfiawnder'

    Mae’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno "rhaglen sylweddol" i adeiladu corff neilltuol o Gyfreithiau Cymreig. 

    Bydd y cyfreithiau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru yn cael eu casglu ynghyd a'u gosod mewn corff neilltuol o gyfreithiau Cymreig yn hytrach na mewn cyfreithiau sydd hefyd yn berthnasol i Loegr neu weddill y DU. 

    Bydd hyn yn golygu bod cyfreithiau mewn meysydd fel addysg, trethi, llywodraeth leol, cynllunio a thai yn cael eu cydgrynhoi ac yn dod yn rhan o gôd cyfreithiol Cymreig, ac y bydd yn haws dod o hyd iddynt a'u deall. 

    Ar ôl eu codeiddio bydd yr holl gyfreithiau, o Ddeddfau'r Cynulliad i ganllawiau, am y tro cyntaf yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd ac ar gael mewn un lle - ar wefan Cyfraith Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

    Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud y bydd y diwygiadau yn helpu i wella mynediad at gyfiawnder a chynyddu effeithlonrwydd.

    Bydd y broses o ddechrau cydgrynhoi a chodeiddio Cyfreithiau Cymreig yn cychwyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn mabwysiadu Rhaglen Cydgrynhoi a Chodeiddio ffurfiol o'r 6ed Cynulliad ymlaen.

    Y Gyfraith
  6. Codau Cyfraith Cymru

    Mae'r datganiad olaf heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw: Codau Cyfraith Cymru.  

    Mick Antoniw
  7. 72,000 o blant yn byw mewn tai lle nad oedd neb yn gweithio

    Mae Cymru yn "gwneud cynnydd" tuag at gyflawni amcanion tlodi plant mewn nifer o feysydd, ond mae dal angen i ni wneud mwy", medd Mr Sargeant.

    "Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy. Yn 2015, roedd dal bron i 72,000 o blant yn byw mewn tai lle nad oedd neb yn gweithio, ac mae tlodi ymhlith cartrefi lle mae yna bobl yn gweithio yn broblem sydd ar gynnydd", meddai.

    Am y tro cyntaf mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd yn cyflawni ei nod o ddod â diwedd i dlodi plant erbyn 2020.

    Mae Mr Sargeant yn dweud bod diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn rhannol i'w beio am rwystro uchelgeisiau Llywodraeth Cymru.

    Carl Sargeant
  8. 5 amcan allweddol

    Ym mis Ebrill fe ddywedodd y llywodraeth "Ein huchelgais yw dileu tlodi plant erbyn 2020." 

    Mae ein Strategaeth ddiwygiedig, meddid, ar gyfer Tlodi Plant yn cynnwys 5 amcan allweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant a gwella deilliannau ar gyfer teuluoedd ar incwm isel yng Nghymru:

    •Lleihau nifer y teuluoedd sy'n byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio.

    •Cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi ar incwm isel.

    •Lleihau'r anghydraddoldeb sy'n bodoli o ran iechyd, addysg a sefyllfa economaidd plant a theuluoedd drwy wella'r canlyniadau ar gyfer y bobl dlotaf. 

    •Defnyddio pob opsiwn posibl i greu economi a marchnad lafur gref sy'n cefnogi'r agenda ar gyfer mynd i'r afael â thlodi ac sy'n lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru.

    •Cefnogi teuluoedd sy'n byw mewn tlodi er mwyn cynyddu lefelau incwm teuluoedd drwy gynnig cyngor am ddyledion ac am arian, camau gweithredu i fynd i'r afael â'r premiwm tlodi a chamau gweithredu i leihau effaith diwygiadau lles. 

    Plant
  9. Strategaeth Tlodi Plant Cymru

    Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Strategaeth Tlodi Plant Cymru - Adroddiad Cynnydd 2016. 

  10. Yn credu'n gryf yn 'y cydsyniad'

    Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod ei blaid yn credu'n gry yn "y cydsyniad" o Fanc Datblygu Cymru, ond mae'n galw am eglurder ynghylch ei orchwyl. 

    Mae Mr Skates yn dweud "y bydd y banc yn fwy nag arwyddbost fel y mae'r aelod yn ei ofni."

    David Rowlands
  11. Benthyciwr yn niffyg dim arall?

    Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn galw am sicrwydd na fydd y banc datblygu yn dod yn fenthyciwr yn niffyg dim arall. 

    Russell George
  12. Cyhoeddi'r cynllun busnes

    Mewn ymateb i alwad gan Adam Price Plaid Cymru i gyhoeddi'r cynllun busnes ar gyfer y banc datblygu, mae Mr Skates yn ymrwymo i wneud hynny pan fo'r cynllun wedi'i gwblhau.

    Mae Mr Skates yn dweud bod achos busnes ar gyfer y banc yn dal ar ffurf drafft, ond y byddai'n ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd wedi i Lywodraeth Cymru gasglu rhagor o adborth.

    Adam Price
    Image caption: Adam Price
  13. Cefndir: Cyllid Cymru

    Fe wnaeth adolygiad yn 2013 gan yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans godi cwestiynau am os oedd Cyllid Cymru'n gwneud digon i helpu economi Cymru, ac fe awgrymwyd y dylid creu banc datblygu i Gymru.  

    Ym mis Hydref fe ddaeth hi i'r amlwg bod is-gwmni i Cyllid Cymru, yn cystadlu am fusnes fel rhan o gynllun Pwerdy'r Gogledd yn Lloegr.

  14. Banc Datblygu yn agor flwyddyn nesaf

    Amcan y banc newydd yn ôl Ken Skates fydd darparu rhagor na £1biliwn o gymorth buddsoddi i fusnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn i fusnesau micro i ganolig yng Nghymru allu cael cyllid, gwasanaethau cymorth a chyngor rheoli’n rhwydd.

    Bydd y Banc Datblygu, meddid, yn creu ac yn diogelu dros 5500 o swyddi’r flwyddyn erbyn 2022 a bydd ei lefelau buddsoddi uniongyrchol blynyddol wedi cynyddu i £80m erbyn hynny. 

    Fis diwethaf, cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi ei ddymuniad i weld sefydlu pencadlys y Banc Datblygu yn y Gogledd.

    Ken Skates
  15. Banc Datblygu Cymru

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates ar y Banc Datblygu Cymru.

    Ym mis Medi dywedodd Ken Skates bod "pecyn ar gyfer busnesau sy'n cynnwys cronfa fusnes newydd gwerth £136 miliwn a sefydlu Banc Datblygu ar gyfer Cymru yn trawsnewid y cymorth ariannol sy'n cael ei gynnig i fusnesau yng Nghymru, yn dilyn y bleidlais i adael yr UE."

    Arian
  16. Gan y mesur 'lawer i'w argymell'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod gan y mesur "lawer i'w argymell", ond mae hi'n codi nifer o gwestiynau ynghylch ei weithredu, gan gynnwys prosesau, staff ac arian.  

    Michelle Brown
  17. Lefelau staffio, cyllid a mynediad i bobl broffesiynol

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar hefyd yn croeaswu'r mesur ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen i graffu ar y ddeddfwriaeth i sicrhau ei bod yn ymateb i bryderon allweddol ynghylch lefelau staffio, cyllid a mynediad i bobl broffesiynol ar gyfer y rheini sydd eu hangen nhw.

    Darren Millar
  18. Rhai o amcanion y Mesur

    • cyflwyno'r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn lle'r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’ (AAD)
    • creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY sy'n 0 i 25 oed, yn lle'r ddwy system wahanol sydd ar waith ar hyn o bryd
    • dileu'r system o ddatganiadau a chreu un cynllun (y cynllun datblygu unigol (CDU)) yn lle'r ystod o gynlluniau statudol ac anstatudol sydd gennym ar hyn o bryd o ran AAA/AAD ar gyfer dysgwyr, gan sicrhau hawliau teg beth bynnag yw lefel anghenion y dysgwr neu'r lleoliad addysg y mae'n ei fynychu
    • sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei hystyried drwy gydol y broses gynllunio i wneud yn siwr bod pawb yn ei gweld fel rhywbeth sy'n eu cynnwys, yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd iddynt, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth
    • annog cydweithio gwell rhwng asiantaethau, fel bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn ei le.
    Plant