a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl gan Aelodau Unigol: Iechyd y cyhoedd
  6. Dadl y Ceidwadwyr: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU
  7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid
  8. Dadl Fer: Casnewydd – dinas ar i fyny

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Rhagfyr 13.   

    Bae Caerdydd
  2. Dadl Fer: Casnewydd - dinas ar i fyny

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan John Griffiths.

    A'r pwnc: Casnewydd - dinas ar i fyny. 

    Tynnu sylw at adfywiad, twf a photensial dyfodol Casnewydd a'r cyffiniau. 

    Mae Datblygiad Friars Walk, Casnewydd wedi 'denu 10 miliwn mewn blwyddyn'
    Image caption: Mae Datblygiad Friars Walk, Casnewydd wedi 'denu 10 miliwn mewn blwyddyn'
  3. 'Moment anferth i ddur yng Nghymru a Phrydain'

    Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod hon "yn foment anferth i ddur yng Nghymru a Phrydain", ac mae'n disgrifio'r cyhoeddiad gan Waith Dur Tata fel "cam arwyddocaol iawn".

    Mae'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru heddiw yn darparu dros £4 miliwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant, "yr elfen gyntaf mewn pecyn cymorth ehangach ar gyfer y cwmni".

    Gwaith Dur Port Talbot
  4. Tata: Addewid i gadw swyddi

    Mae cwmni dur Tata y prynhawn yma wedi addo cadw swyddi a pharhau i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill yn y DU.

    Roedd Tata wedi dweud ym mis Mawrth y bydden nhw'n gwerthu eu holl safleoedd ym Mhrydain yn sgil colledion enfawr.

    Bu cynrychiolwyr o undebau Community, Unite a'r GMB yn cwrdd ddydd Mercher er mwyn trafod cytundeb posib gyda chwmni Tata a fyddai'n sicrhau dyfodol y safleoedd dur.

    Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys:

    • Gwarant am bum mlynedd y bydd y ddwy ffwrnais bresennol yn parhau i gael eu defnyddio ar safle Port Talbot.
    • Buddsoddiad o £1bn yn cael ei wneud dros gyfnod o ddeng mlynedd er mwyn cefnogi gweithfeydd Port Talbot, a safleoedd sydd yn dibynnu ar y gwaith hwnnw.

    Mae Adam Price yn gofyn am eglurhad ar y buddsoddiad £1bn - a ydy e'n amodol, ac a ydy e'n ddigon, o gofio oedran y safle ym Mhort Talbot.

    Ymgyrch gweithwyr dur
  5. Cwestiwn Brys 3: Trafodaethau rhwng Tata a'r undebau

    Mae'r trydydd cwestiwn brys gan Adam Price:

    A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am ganlyniad trafodaethau diweddar rhwng Tata Steel a’r Undebau ynghylch dyfodol ei weithgareddau yng Nghymru a Phrydain?

    Mae dros 4,000 yn gweithio ar y safle ym Mhort Talbot
    Image caption: Mae dros 4,000 yn gweithio ar y safle ym Mhort Talbot
  6. Ymgynghoriad ar 'y ffordd orau ymlaen'

    Mae David Melding yn dweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant Llafur, felly fe fydd yna ymgynghoriad gyda'r pleidiau eraill "am y ffordd orau ymlaen".

    David Melding
  7. Gwelliannau Plaid Cymru

    Ar ran Plaid Cymru mae Sian Gwenllian yn cynnig y gwelliannau canlynol:       

    • Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan asiantau gosod.
    • Angen ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
    • Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y byddai mesur ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi.
    Sian Gwenllian
  8. Llywodraeth Cymru i 'ystyried' gwahardd ffioedd gosod

    Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth o fod yn araf yn ymateb wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi y byddai'n gwahardd ffioedd gosod yn Lloegr.

    Allwedd tŷ
  9. Dadl UKIP

    Nawr Dadl gan UKIP. 

    Mae Neil Hamilton a Gareth Bennett yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn Lloegr.

    2. Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod. 

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    (a) cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban; 

    (b) cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:

    (i) tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a 

    (ii) landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr ysgol eiddo.   

    Gareth Bennett
  10. Llymder wedi gwaethygu anghydraddoldeb

    Ar ran Llafur mae Arweinydd y Tŷ Jane Hutt yn dweud bod llymder wedi gwaethygu anghydraddoldeb.

    Mae'n beirniadu Llywodraeth y DU am beidio cydnabod "yr angen am fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref."

    Jane Hutt
  11. 'Byw o fewn eich hincwm'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn beirniadu gwelliant Llafur sy'n gresynu "na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU Ddatganiad yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben".

    Mae Mr Hamilton yn dweud mewn realiti mae'n golygu "byw o fewn eich hincwm. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid ni gyd i wneud yn ein bywydau preifat."

    Neil Hamilton
  12. 'Teclyn pwysig ym mocs teclynnau Llywodraeth Cymru'

    Mae'r aelod Ceidwadol Nick Ramsay yn dweud ei fod yn cytuno gyda gwelliant Plaid Cymru ar y doll teithwyr awyr.

    Mae Mr Ramsay yn dweud y byddai'n "declyn pwysig ym mocs teclynnau Llywodraeth Cymru."

    Nick Ramsay
  13. Gwelliannau Plaid Cymru

    Ar ran Plaid Cymru mae Adam Price yn dweud eu bod yn gresynu: 

    • bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru.
    • at fethiant Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 fel prosiect seilwaith Lloegr yn unig,
    • at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr, 
    • at fethiant Llywodraeth y DU i ymrwymo i ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe.
  14. Dadl y Ceidwadwyr ar Ddatganiad yr Hydref

    Am yr awr nesaf mae'r aelodau'n gwrando ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Ddatganiad yr Hydref, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU; 

    2. Yn cydnabod y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar £436 miliwn yn ychwanegol erbyn 2020-21 i'w chyllidebau cyfalaf o Ddatganiad yr Hydref; 

    3. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac enillion ledled y DU;

    4. Yn nodi ymhellach y bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i £12,000 a £50,000 yn y drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18. 

  15. Gordewdra mewn plant - 10 cam i bwysau iach

    Mae nifer o aelodau yn cyfeirio at ordewdra ymhlith plant. Yn gynharach eleni fe wnaeth swyddogion iechyd yng Nghymru lansio rhestr 10 cam i daclo gordewdra ymhlith plant. 

    Ar hyn o bryd mae un o bob 4 plentyn yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew pan yn dechrau ysgol.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod eisiau i bob plentyn sy'n cael eu geni yng Nghymru i gynnal pwysau iach erbyn iddo/iddi ddechrau yn yr ysgol, ac maen nhw wedi paratoi 10 cam i helpu gyda hyn.   

  16. Dadl Aelodau Unigol ar Iechyd y Cyhoedd

    Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

    Mae'n ddadl gan Aelodau Unigol ar Iechyd y Cyhoedd. 

    Mae Jenny Rathbone, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells, Angela Burns, a Dai Lloyd yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    Yn nodi:

    a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd; 

    b) bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio; 

    c) nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud; 

    d) mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac 

    e) bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. 

    Gordewdra
  17. Datganiadau 90 Eiliad

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

  18. Cwestiwn Brys 2: Ffliw adar

    Mae'r ail gwestiwn brys gan Simon Thomas:

    A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar?   

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gorchymyn er mwyn ceisio atal ffliw adar rhag lledu o gyfandir Ewrop.

    Mae perchnogion dofednod wedi cael cyngor i fod yn ofalus er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r haint gan adar gwyllt.

    Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru: "Er nad oes unrhyw achosion o ffliw adar H5N8 wedi'u canfod yn y DU, rydw i wedi datgan Parth Atal am 30 diwrnod i leihau'r risg o haint gan adar gwyllt ac i roi amser i geidwaid dofednod ac adar caeth roi mesurau bioddiogelwch priodol yn eu lle.

    "Mesur rhagofalol ydi hwn. Rydyn ni'n monitro'r sefyllfa ledled Ewrop ac wedi cynyddu'r oruchwyliaeth mewn ymateb i'r risg uwch."

    Dofednod
  19. Gwasanaethau traws-ffiniol

    Mae Ken Skates yn dweud bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi cadarnhau y bydd "Llywodraeth Cymru naill ai'n cael cyfrifoldebau mewn perthynas â gwasanaethau traws-ffiniol neu fe fyddan nhw'n gallu eu cyflawni nhw ar ei ran."

  20. Cwestiwn Brys 1: Masnachfraint rheilffyrdd

    Mae'r cwestiwn brys cyntaf gan Dai Lloyd:

    A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe sy'n awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli'r fasnachfraint yn ei chyfanrwydd?   

    Dai Lloyd