a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

    Y Senedd
  2. Drakeford yn 'deilwng o Strictly'

    Mae Huw Irranca-Davies Llafur yn canmol yr Ysgrifennydd Cyllid am ei "droedio medrus" gyda'r Gyllideb, "byddai'n deilwng o 'Strictly'."

    Strictly
  3. Tynnu tonsils

    "Pam yr ydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o gael eich tonsils allan yn Ynys Môn na Wrecsam, y ddwy ardal yn rhan o'r un bwrdd iechyd?" gofynna Mike Hedges.

    Mike Hedges
  4. 'Setliad llywodraeth leol yn edrych yn fregus'

    Mae Mark Reckless UKIP yn dweud ei bod hi'n "gyllideb dal ymlaen" ac mae'n ychwanegu bod "y setliad llywodraeth leol yn edrych yn fregus ar gyfer blynyddoedd y dyfodol." 

    Mark Reckless
  5. Cefndir: Plaid a Llafur yn taro bargen

    Gan bod gan Lafur 29 o'r 60 o seddi yn y Cynulliad, roedd gweinidogion eisoes wedi cyhoeddi cytundeb £119m gyda Phlaid Cymru i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei phasio.  

    Cynhaliwyd trafodaethau cyllideb ôl-etholiadol yn gynharach eleni, wrth i Blaid Cymru gynorthwyo Carwyn Jones i barhau yn ei swydd fel prif weinidog.  

    Roedd y cytundeb yn cynnwys addewid o £30m ychwanegol i addysg uwch a phellach, a £5m i hybu'r iaith Gymraeg. 

    Llafur a Phlaid Cymru
  6. Y Gyllideb 'ddim yn diwallu anghenion pobl Cymru'

    Mae'r aelod Ceidwadol Nick Ramsay yn cynnig gwelliant ei blaid, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn diwallu anghenion pobl Cymru.

    Mae'n dweud bod "diffyg cydnabyddiaeth yn y Gyllideb Ddrafft o ddatganoli treth yn nodweddiadol o ddiffyg cynllunio ymlaen llaw y llywodraeth."

    Nick Ramsay
  7. Y Gyllideb Ddrafft: £240m ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd

    Mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi cyhoeddi cynnydd o £240m mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd, wrth gyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18.

    Cyfanswm y gyllideb yw tua £14.95bn, sydd ychydig yn llai na'r ffigwr ar gyfer 2015/16.

    Ond wrth gyhoeddi ei gyllideb gyntaf fel yr Ysgrifennydd Cyllid, rhybuddiodd Mark Drakeford y byddai "mwy o doriadau i ddod" yn y dyfodol oherwydd toriadau i wariant drwy'r DU.

    Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys £10m ar gyfer cynllun peilot Llywodraeth Cymru i gynnig 30 awr o ofal am ddim i blant tair a phedair oed.

    Ond mae toriadau i rai adrannau o fewn llywodraeth leol, cynlluniau cymunedol ac addysg, gan gynnwys dod â'r cynllun £20m, Her Ysgolion Cymru, i ben.

    Mark Drakeford
  8. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18

    Am y ddwy awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18. 

    Arian
  9. 'Mae angen mwy o wmff'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod y datganiad "o watedd isel, mae angen mwy o wmff."

    Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod y datganiad "yn hir iawn ar broses, byr ar fanylder a mwy na heb yn ddibwys yn nhermau targedau."

    "Oedd yna unrhyw beth newydd yn y datganiad?" gofynna Neil Hamilton UKIP.  

    David Melding
    Image caption: David Melding
  10. 'O danwyddau ffosil i wlad sy’n amlwg am ei hynni glân'

    Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gostwng cyfanswm yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru a symud oddi wrth ei "chysylltiad traddodiadol â thanwyddau ffosil i wlad sy’n amlwg am ei hynni glân."

    “Mae gan Gymru bosibiliadau enfawr i gynnal prosiectau sy’n cynhyrchu ynni ar raddfa fawr i’r Deyrnas Unedig, a gall olygu manteision mawr i Gymru.  

    “Os ydym i ddarparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, rydym angen amrywiol dechnolegau gwahanol, o lefel gymunedol i brosiectau mawr.  Rwy’n awyddus i symud yr agenda hon yn ei blaen fel y gall Gymru fanteisio ar y newid hwn yn hytrach na chael ei gadael ar ôl." 

    Lesley Griffiths
  11. Datganiad ar Ynni

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ar Ynni.

    Ynni
  12. 'Mae'n dda eich gweld chi'

    Mae yna chwerthin yn y Siambr wrth i Kirsty Williams ddweud wrth yr aelod annibynnol Nathan Gill, "Mae'n dda eich gweld chi."

    Fe adawodd Mr Gill grŵp UKIP yn y Cynulliad i eistedd fel aelod annibynnol ar gyfer Gogledd Cymru wedi iddo gael ei fygwth o gael ei ddiarddel am wrthod rhoi'r gorau i'w rôl fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.  

    Nathan Gill
  13. Llywodraeth Cymru 'heb syniadau newydd'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru "fynd yn ôl at y bwrdd llunio ac agor eu meddwl tuag at syniadau newydd ac agwedd wahanol."

    Mae'n cyhuddo'r llywodraeth o fod "heb syniadau newydd" ac mae'n galw ar y llywodraeth i "droi cyfeiriad oddi wrth eu llwybr o gyffredinedd."

    Michelle Brown
  14. Ystadegau

    Fe wnaeth 3,451 o ddisgyblion Cymru sefyll y profion.

    Fe wnaeth 140 o ysgolion gymryd rhan, 24 o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

    Fe wnaeth 350 o ddisgyblion sefyll prawf yn y Gymraeg.

    Profion
  15. 'Cyhuddiad damniol o berfformiad Llafur'

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud bod y canlyniadau yn adrodd "stori annymunol iawn" ac yn "gyhuddiad damniol o berfformiad Llafur."

  16. 'Sgandal ar raddfa aruthrol'

    Yn ôl yr aelod Ceidwadol Darren Millar, mae'r ffaith "bod ein canlyniadau yn 2015 yn waeth na rhai 2006 yn dynodi degawd o dangyflawni ac mae'n sgandal ar raddfa anferthol."

    Mae'n disgrifio cyfres "o fethiannau gan lywodraeth ar ôl llywodraeth yng Nghymru."

    Darren Millar
  17. Canlyniadau gwyddoniaeth yn 'hynod, hynod siomedig'

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud "Bydden ni i gyd wedi hoffi gweld cynnydd gwell.

    "Fe allwn ni i gyd gytuno yn y Siambr yma nad ydyn ni lle yr ydyn ni eisiau bod." 

    Mae'n ychwanegu bod y canlyniadau ar gyfer gwyddoniaeth "yn hynod, hynod siomedig."

    Kirsty Williams
  18. Canlyniadau PISA

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: Canlyniadau PISA.

    Disgyblion 15 oed sy'n sefyll y profion bob tair blynedd.

    Yn yr astudiaeth ryngwladol o berfformiad addysg, roedd sgôr disgyblion Cymru mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg yn is na chyfartaledd y 72 o wledydd neu economïau oedd yn rhan o'r profion.  

    Doedd disgyblion Cymru ddim wedi gwneud cystal yn y profion â'u cyfoedion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

    Dyma'r pedwerydd tro yn olynol i Gymru berfformio'n waeth na gwledydd eraill y DU.  

    Logo PISA