a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  3. Datganiadau 90 Eiliad
  4. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18
  5. Dadl Plaid Cymru: Gweithwyr o dramor yn y GIG
  6. Dadl Plaid Cymru: Cynllun Pensiwn y Glowyr
  7. Dadl y Ceidwadwyr: Pobl hŷn
  8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tollau ar bontydd Hafren
  9. Dadl Fer: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru
  10. Dadl Fer: Colli gwaith ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl dydd Mawrth nesaf 22 Tachwedd.   

    Y Senedd
  2. Dadl fer ar golli gwaith ymchwil y galon yng Nghaerdydd

    Ac mae'r ail ddadl fer gan Julie Morgan.

    Y pwnc: Colli gwaith ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd.

    Y llynedd fe gafodd cynlluniau i gwared â 63 o academyddion meddygol o ysgol feddygol fwya Cymru eu labeli yn"abswrd".

    Julie Morgan
  3. Dadl fer: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru

    Ac yn ola heddiw dwy ddadl fer. 

    Mae'r cyntaf gan Hefin David. 

    A'r pwnc: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru.    

    Hefin David
  4. Cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei basio

    Y bleidlais
  5. Dychwelyd i ddwylo cyhoeddus

    Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud y dylai'r tollau gael eu diddymu yn syth pan fydd pontydd Hafren yn dychwelyd i ddwylo cyhoeddus.

    "Ddylai Llywodraeth y DU ddim gwneud elw o'r pontydd" meddai.

    Ken Skates
  6. 'Ffyrdd gorlawn o draffig'

    Mae aelod Llafur Llanelli Lee Waters yn dweud y byddai'r "llifddorau yn agor" os yw'r tollau yn cael eu diddymu, gan arwain at "ffyrdd gorlawn o draffig" o amgylch twneli Brynglas ac ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4.

    Mae'n credu y dylid cadw rhai tollau ar gyfer talu am welliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel prosiect Metro De Cymru.

    Lee Waters
  7. 'Treth annheg' ar fodurwyr

    Mae gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maen nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu tollau sy'n daladwy ar y croesfannau. 

    Mae Llefarydd Isadeiledd y blaid Dai Lloyd yn dweud bod y tollau yn "dreth annheg" ar fodurwyr sy'n defnyddio'r pontydd yn gyson, ac yn "anfon y neges anghywir i fuddsoddwyr posib."

    Dai Lloyd
  8. Cadarnhau drwy gyllidebau presennol?

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn yn dweud y dylai defnydd o'r pontydd heb dollau fod yn "flaenoriaeth" os y gellir cadarnhau dyfodol hirdymor y ddwy bont drwy gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau trafnidiaeth eraill ledled Cymru,

  9. Gweithgaredd economaidd

    Mae Mark Reckless UKIP yn dweud y byddai cael gwared â'r "dreth ychwanegol y mae pawb yn ei dalu am wneud busnes yng Nghymru" yn cael "effaith gadarnhaol" ar weithgaredd economaidd a hygyrchedd Cymru.

    Mark Reckless
  10. Cefndir

    Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i yrwyr dalu o leiaf £6.60 i deithio o Loegr i Gymru.  

    Yn 2017 fe fydd y ddwy bont yn dychwelyd i ddwylo Llywodraeth y DU, a'r llywodraeth honno fydd â chyfrifoldeb amdanyn nhw.

    Mae Llywodraeth y DU wedi addo haneru cost y tollau pan fydd y pontydd yn dychwelyd i'w pherchnogaeth.  

  11. Dadl ar ddiddymu tollau ar bontydd Hafren

    Am yr awr nesa dadl gan UKIP ar bontydd Hafren, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.  

    Tollau Pont Hafren
  12. 'Oedi sy'n mynd ymlaen gyda Llywodraeth y DU'

    Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans yn atgoffa aelodau'r Cynulliad o ymrwymiad y llywodraeth i gynyddu'r terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o'u hasedau pan fyddan nhw'n symud i ofal preswyl. 

    Mae hi hefyd yn beirniadu yr "oedi sy'n mynd ymlaen gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio trefniadau am dalu am ofal."

    Rebecca Evan
  13. 'Gweithred statudol yn angenrheidiol'

    Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr.

    "Mae gweithred statudol yn angenrheidiol" meddai.

    Gareth Bennett
  14. 'Angen i leisiau pobl hŷn gael eu clywed'

    Mae Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru yn dweud bod angen cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o weithio tuag at ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

    Mae hefyd yn cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus ac yn dweud bod angen  'adeiladu rhagor o dai â chymorth er mwyn ehangu dewis ac ategu gofal preswyl a sefydliadol.' 

    Mae'n ychwanegu bod 'gweithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddau ac awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau, cam-werthu a ffyrdd eraill o ymelwad ariannol.'   

    Rhun ap Iorwerth
  15. Dadl ar bobl hŷn

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig am bobl hŷn.  

    Mae Paul Davies yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.

    2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. 

    3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes a'u cartrefi i gostau gofal. 

    4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. 

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

    (a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn; 

    (b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau; ac 

    (c) Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n ystyriol o ddementia.  

    Pobl hŷn
  16. Carwyn Jones wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae Jane Hutt yn dweud bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn cefnogi safiad Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) yn galw am adolygiad.

    Cafodd cynnig Plaid Cymru ei basio heb welliant, felly mae aelodau'r Cynulliad wedi cefnogi yr alwad gan gyn-lowyr am adolygiad o'u trefniant pensiwn, gan ddadlau y dylen nhw gael cyfran uwch o arian gwarged.

    Jane Hutt
  17. 'Taliadau bonws i aelodau'

    Mae'r aelod Ceidwadol Paul Davies yn dweud bod "bodolaeth gwarant wedi galluogi'r ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn ffordd sydd wedi cynhyrchu gwargedion a thaliadau bonws, o ganlyniad, i aelodau."  

    Paul Davies
  18. Delio gyda'r anghyfiawnder

    Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud ei fod yn ceisio delio gyda'r anghyfiawnder sydd yn digwydd bob dydd o'r wythnos.

    Credir bod tua 25,000 o lowyr yn derbyn y pensiwn yng Nghymru.  

    Steffan Lewis
  19. Cefndir

    Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth y DU yn cymryd 50% o'r arian dros ben o Gronfa Bensiwn y Glowyr (MPS) fel rhan o'u gwarant.

    Yn ôl y llywodraeth mae'r pensiynau 30% yn uwch nag y bydden nhw petai'r gwarant hwnnw ddim yn bodoli.

    Ond mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi galw am adolygu'r trefniant hwnnw, gan ddweud y dylai mwy o'r arian dros ben fynd i ymddiriedolwyr.

    Ers 1994 mae Llywodraeth y DU wedi derbyn £3.35bn o'r cynllun.  

    Glöwr
  20. Dadl ar Gynllun Pensiwn y Glowyr

    Nawr gan dadl arall gan Blaid Cymru ar Gynllun Pensiwn y Glowyr. 

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    1. Yn nodi bod adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau presennol sy'n golygu ei bod yn cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn 2014 yn unig. 

    2. Yn galw am adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged 50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel y caiff ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr. 

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU o'r trefniadau gwarged MPS a cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd MPS. 

    Glofa