a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Y Senedd
  2. Ddim yn cefnogi'r gwelliannau

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeantyn dweud nad yw'r llywodraeth yn cefnogi'r gwelliannau oherwydd y bydd yn ystyried yr adroddiad dros yr wythnosau nesaf.

    Carl Sargeant
  3. Atebolrwydd gwell

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud y bydd ei blaid yn cefnogi'r alwad i drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Gomisiynydd Plant Cymru i'r Cynulliad gan y bydd yn arwain at well atebolrwydd.

  4. 'Angen gwneud mwy na "nodi'r" adroddiad blynyddol

    Mae Llyr Gruffydd yn dweud bod angen i'r Cynulliad wneud mwy na "nodi'r" adroddiad blynyddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac yn benodol y rhai sy'n berthnasol i:

    a) gwella profiadau plant o ofal iechyd meddwl; 

    b) cyflwyno trefn weithredu genedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol fel mater o flaenoriaeth; ac 

    c) cryfhau'r gofynion cofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref.

    Mae e hefyd yn galw ar i'r cyfrifoldeb am Gomisynydd Plant Cymru gael ei drosglwyddo i Gynulliad Cymru.

  5. 'Beth Nesa’ | What Next'

    Yn ei hadroddiad mae'r Comisiynydd Plant Sally Holland yn dweud hyn "Beth Nesa’ | What Next oedd ein hymgynghoriad mwyaf erioed â phlant a phobl ifanc. Amlygodd dros 7000 o ymatebwyr fod llawer iawn o blant a phobl ifanc Cymru’n byw bywydau diogel, hapus ac egnïol, ac yn teimlo bod yr oedolion o’u cwmpas yn gwrando arnyn nhw ac yn eu parchu. 

    "Serch hynny, mae grwpiau mawr o blant sy’n colli mas mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyw sefyllfa plant yng Nghymru ddim yn gyfartal, ac rwyf fi’n gyfrifol am ganfod y rhwystrau a’r pethau sy’n atal plant rhag bod y gorau gallan nhw fod. Ymhlith y rhwystrau mae camwahaniaethu, diffyg gwasanaethau digonol, peidio â chael gwrandawiad, a phrofi camdriniaeth ac esgeuluso. 

    "Yn ystod fy chwe blynedd arall fel comisiynydd, bydda i’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod cynifer â phosib o’r rhwystrau hynny’n cael eu chwalu." 

    Mae'r Athro Sally Holland wedi bod yn y swydd ers mis Ebrill 2015.

    Sally Holland
  6. Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd

    Mae rhai aelodau Cynulliad sydd ar y Pwyllgor Iechyd wedi dweud eu bod wedi'u "siomi" na fydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn ymddangos o flaen y pwyllgor tan ddydd Iau yma, wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad i ystyried pa mor barod yw'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar gyfer y Gaeaf.

  7. 'Gwasanaethau cadarn a gwydn'

    Mae Mr Gething yn dweud "na ddylai unrhywun esgus y bydd y Gaeaf yn hawdd, ond rydw i'n grediniol bod y paratoadau mawr yn lleol a chenedlaethol yn golygu gwasanaethau cadarn a gwydn fel bod pobl yn gallu cael mynediad i'r gofal mae nhw ei angen, pryd fyddan nhw ei angen."

    Gwely ysbyty
  8. Dan bwysau

    Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cynnal ymchwiliad i ystyried pa mor barod yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddelio gyda'r pwysau yn ystod y gaeaf.

    Fe fydd adrannau brys ysbytai yng Nghymru wedi'u hymestyn ac yn brin o adnoddau y gaeaf hwn - dyna mae un meddyg blaenllaw wedi ei ddweud wrth aelodau Cynulliad. 

    Ond mae Dr Robin Roop o'r Coleg Brenhinol Meddyginiaeth Frys yn pwysleisio ei bod hi mwy na thebyg bellach yn gyffredin i adrannau brys fod wedi eu hymestyn.

    Ysbyty
  9. Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf

    Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf. 

    Vaughan Gething
  10. 'Blwyddyn antur hynod lwyddiannus'

    Mae David Rowlands UKIP yn llongyfarch Ysgrifennyddd y Cabinet am "flwyddyn antur hynod lwyddiannus." 

    Mae'n ychwanegu bod "digon o chwedlau yng Nghymru".

    David Rowlands
  11. Croeso Cymru wedi 'dod yn bell'

    Mae Russell George yn dweud bod Croeso Cymru "wedi dod yn bell iawn ers yr hysbyseb gwarthus am 'dir anhygoel o wael o ran signal ffonau symudol'."

    Russell George
  12. Rhestr o "chwedleuon'

    Mae Neil McEvoy yn galarnadu y proffeil isel sydd gan Ddiwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25.

    Mae'n gofyn pwy sy'n gwybod am Sycharth ger Croesoswallt, safle palas Owain Glyndŵr, neu'r bardd Dafydd ap Gwilym (c 1320-70).

    Mae'n disgrifio Owain Glyndŵr fel "tad democratiaeth Gymreig". 

    Owain Glyndŵr
  13. Ydi'r cyhoedd wedi cael eu symbylu?

    "Mae ein llysgenhadon antur wedi symbylu'r cyhoedd," medd Mr Skates.

    Blwyddyn Antur 2016 oedd y gynta mewn cyfres o flynyddoedd thematig, "i ddarparu ffocws ar gyfer datblygiad cynnyrch a hybu Cymru i 2018."

    Mae gwifren wib Zip World ger Bethesda, Gwynedd, yn denu miloedd
    Image caption: Mae gwifren wib Zip World ger Bethesda, Gwynedd, yn denu miloedd
  14. Blwyddyn Chwedlau

    Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Blwyddyn Chwedlau 2017.

    Yn ôl y llywodraeth mae Blwyddyn Chwedlau yn dilyn llwyddiant Blwyddyn Antur 2016 a’i nod yw codi proffil sector twristiaeth Cymru a’r atyniadau sydd yma er mwyn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr yma yn 2017.  

    Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth Mr Skates ddweud "na fyddai'n golygu mwy o ddreigiau."

    Fe wnaeth Draig Cadw dreulio'r Haf yn ymweld a chestyll, ac fe wnaeth y corff ddweud bod yna gynnydd o 22% yn nifer y teuluoedd wnaeth ymweld â safleoedd. 

    Ken Skates
  15. Trethi ar gyflogwyr i dalu am brentisiaethau

    Mae Llefarydd y Ceidwadwyr ar sgiliau Mohammad Asghar yn canmol Llywodraeth Prydain am y cyhoeddiad bod Cymru yn mynd i gael tua £130m y flwyddyn o'i chyfran o drethi ar gyflogwyr Prydeinig i dalu am brentisiaethau, rhywbeth gaiff ei gyflwyno ym mis Ebrill.

    Mohammad Asghar
  16. Cyhoeddi cynllun cyflogadwyedd yn y flwyddyn newydd

    Mae Julie James yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun cyflogadwyedd, a'i bod hi'n bwriadu ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Bydd y cynllun meddai, yn gosod manylion ynghylch sut mae'r llywodraeth yn mynd i greu'r amodau ar gyfer cyflwyno gwell cyflogadwyedd a sut fyddan nhw'n mesur llwyddiant.

  17. Cyflogadwyedd

    Nesa yn y Siambr datganiad gan y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: Cyflogadwyedd.

    Y tro diwethaf iddi wneud datganiad yn y Siambr ar Gefnogaeth Cyflogadwyedd yng Nghymru oedd Gorffennaf 2016.

    Julie James
  18. Dim gwrthdroi penderfyniadau diweddar

    "Nid fy mwriad yw ail-edrych ar benderfyniadau sydd eisioes wedi eu gwneud" medd Kirsty Williams wedi i Michelle Brown UKIP alw am wrthdroi penderfyniadau diweddar i gau ysgolion bach yng y Gogledd.

    Michelle Brown
    Image caption: Michelle Brown
  19. 'Taith arw' i ysgolion gwledig

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud bod ysgolion gwledig yng Nghymru wedi cael "taith arw" yn y blynyddoedd diwethaf, a bod "gormod o ysgolion da wedi cael eu gorfodi i gau."

    Darren Millar