a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dyfodol polisïau gwledig ac amaethyddol
  6. Dadl gan Aelodau Unigol: Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016
  7. Dadl y Ceidwadwyr: Cyn-aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog
  8. Dadl Plaid Cymru: y Gymraeg
  9. Dadl Fer: Colli'r ddarpariaeth ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf 15 Tachwedd. 

    Y Senedd
  2. Gweld y weledigaeth

    Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yn dweud "Mae'n rhaid i ni gymryd y camau bwriadus os ydyn ni am weld y weledigaeth."

    Mae'n ychwanegu ei bod hi'n bwysig chwilio am gonsensws sy'n seiliedig ar weledigaeth, ond nid "consensws cysurus". 

    Alun Davies
  3. 'Un o'r rhesymau pam rydw i'n mwynhau bod yma'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn mynegi syndod bod y Llywodraeth yn ceisio dileu yr hyn mae'n alw yn "ddatganiad ffaith gan Blaid Cymru"  sy'n cynnig bod y Cynulliad yn "gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y blynyddoedd diwethaf."

    Mae'n dweud bod y cyfle i wella ei Gymraeg yn "un o'r rhesymau pam rydw i'n mwynhau bod yn y lle yma."

    Neil Hamilton
  4. Cymeradwyaeth

    Mae'r aelodau yn curo dwylo wedi i'r aelod Llafur Mike Hedges orffen ei araith yn y Gymraeg, er gwaetha'r ffaith iddo ddweud nad yw'n hyderus pan yn siarad Cymraeg yn gyhoeddus.

    Mike Hedges
  5. Y Gymraeg yn y gweithle

    Mae Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle.  

    Suzy Davies
  6. 'Rôl addysg yn hybu'r Gymraeg'

    Fe ddefnyddiodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd fis diwethaf i bwysleisio rôl addysg yn hybu'r Gymraeg.

    Yn eu maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad fe ddywedodd Plaid Cymru mai'r nod ddylai, yn y bôn, fod o "addysg cyfrwng Cymraeg i bawb." 

    Y Gymraeg
  7. 'Anferthedd y dasg'

    Mae Llyr Gruffydd yn dweud mai un o'r rhesymau dros gynnal y bleidlais hon yw i danlinellu "anferthedd y dasg" o bron â dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050.

    Llyr Gruffydd
  8. Nodi targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg

    Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    1. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    2. Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y blynyddoedd diwethaf. 

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn. 

  9. Dadl ar y Gymraeg

    Nawr Dadl Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg. 

    Fe gafodd ymgyrch i bron â dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050 ei datgelu gan y Prif Weinidog yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

    Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 yn 2001 i 562,000, tua un o bob pump o'r boblogaeth.

    Mae adroddiadau bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi bod o dan fygythiad oherwydd bod pobl ifanc yn symud i ffwrdd i chwilio am waith, a bod datblygiadau tai newydd yn denu pobl o'r tu allan sydd ddim yn siarad yr iaith.

    Y Gymraeg
  10. Camau wedi'u cymryd gyda chymuned y lluoedd arfog

    Mae gwelliannau'r Llywodraeth yn rhestru camau sydd wedi'u cymryd mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys: 

    a) gwaith amhrisiadwy Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd Arfog;

    b) datblygu'r llyfryn Croeso i Gymru ar gyfer personél presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd ynghylch cael eu hadleoli i Gymru;

    c) gwell cymorth ar gyfer y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd; 

    d) Llwybr Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog sy'n galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder, ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth; 

    e) y gwaith sy'n parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth iechyd a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y swm o £585,000 a roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob blwyddyn, nofio am ddim a'r ffaith y bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017. 

  11. 'Mae arnon ni gymaint iddyn nhw'

    Wrth gyfeirio at y rheini sydd wedi gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog mae Caroline Jones UKIP yn dweud "mae arnon ni gymaint iddyn nhw, mwy nag y gallwn ni fyth ei ad-dalu."

    Mae'n ychwanegu nad yw hi'n ddigon i "dalu gwasanaeth iddyn nhw unwaith y flwyddyn ar Ddydd y Cofio." 

  12. Materion iechyd meddwl

    Mae Mohammad Asghar yn dweud bod tua 5% o gyn-filwyr yn diodde o faterion iechyd meddwl.

    Mohammad Asghar
  13. 'Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol'

    Prif gasgliadau'r arolwg:

    • Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod tua 6.2 miliwn o bobl o fewn cymuned cyn-aelodau o'r lluoedd arfog ym Mhrydain. 
    • Mae bron i hanner yr oedolion o fewn y gymuned honno dros 75 oed. 
    • Mae tua 630,000 o'r aelodau hynny yn debygol o profi problemau wrth fynd o gwmpas y tu allan i'r cartref. 
    • Mae nifer fawr (tua 720,000) yn cael problemau gydag hunanofal, sy'n cynnwys blinder a phoen neu drafferth yn gofalu am eu hun. Mae trafferthion symud ac hunanofal yn cyrraedd penllanw ymhlith y bobl hynny sydd yn 75 neu'n hŷn. 
    • Mae iselder yn effeithio ar tua 480,000 o aelodau oedolion cymuned cyn-aelodau'r lluoedd arfog, tua 370,00 yn dweud eu bod yn teimlo'n unig a thua 350,000 wedi colli perthynas yn ddiweddar. 
  14. 'Hybu a hyrwyddo anghenion'

    Mae Bethan Jenkins yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ymchwilio i ffyrdd o hybu a hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddynt, gan edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill."

    Mae hefyd yn tynnu sylw at waith sefydliadau fel '65 Degrees North', sy'n helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn ymwybodol o sefydliadau o'r fath.  

    Bethan Jenkins
  15. 'Tegwch a pharch'

    Mae Mark Isherwood yn dweud y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch. 

    Mae hefyd yn dweud y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi'i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned honno. 

    Mark Isherwood
  16. Dadl: Cyn-aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog

    Nesa dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd arfog. 

    Mae'r cynnig yn nodi, yn ôl Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. 

    Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig mae tua 250,000 o gyn-filwyr o wahanol frwydrau yn byw yng Nghymru.

    Lluoedd arfog
  17. Un o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad

    Mae Simon Thomas yn dweud bod yr adroddiad "yn hawdd i'w ddarllen ond yn anodd i'w dderbyn".

    Mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod yn ôl ffigyrau gafodd eu casglu fel rhan o'r adroddiad. 

    Mae hanner cant o sefydliadau cadwraeth ac ymchwil wedi cynhyrchu'r adroddiad i danlinellu cyflwr byd natur ar draws y wlad.

    Er hynny, mae'r sefyllfa yn well yng Nghymru o gymharu gyda gweddill y DU. Ar draws y Deyrnas Unedig mae dros un o bobl 10 rhywogaeth bron â darfod.

    Mae rhywogaethau ymledol fel rhododendron yn fygythiad yn Eryri
    Image caption: Mae rhywogaethau ymledol fel rhododendron yn fygythiad yn Eryri
  18. Y sefyllfa

    Mae'r adroddiad yn nodi: 

    • Dros y tymor hir, prinhaodd 57% o rywogaethau o blanhigion fasgwlar a chynyddodd 43%. Nid oedd newid yn y patrwm hwn dros y tymor byr. 
    • Prinhaodd 60% o rywogaethau o loÿnnod byw a chynyddodd 40% dros y tymor hir, tra prinhaodd 37% o rywogaethau a chynyddodd 63% dros y tymor byr. 
    • Dros y tymor hir, prinhaodd 40% o rywogaethau o adar a chynyddodd 60%. Dros y tymor byr, prinhaodd 58% o rywogaethau a chynyddodd 42%. 
    • Aseswyd dros 5,000 o'r rhywogaethau yr ydym yn gwybod sydd yn ymgartrefu yng Nghymru wrth ddefnyddio meini prawf y Rhestr Goch gyfoes. Mae 354 (7%) mewn perygl o ddifodiant ym Mhrydain. 
    Mae rhywfaint o newyddion da, e.e. mae nifer y barcudiaid coch yng Nghymru yn cynyddu
    Image caption: Mae rhywfaint o newyddion da, e.e. mae nifer y barcudiaid coch yng Nghymru yn cynyddu
  19. Dadl ar Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016

    Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn.

    Mae'n ddadl gan Aelodau Unigol ar Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016. 

    Dyma'r ail gyhoeddiad o'i fath, yn dilyn y cyntaf yn 2013.  

    Simon Thomas, Huw Irranca-Davies,Vikki Howells, Sian Gwenllian a David Melding sy'n cynnig y ddadl.

    Pili pala prin - 60% o rywogaethau o loÿnnod byw wedi prinhau
    Image caption: Pili pala prin - 60% o rywogaethau o loÿnnod byw wedi prinhau