a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol
  4. Datganiadau 90 Eiliad
  5. Dadl Plaid Cymru: Newid hinsawdd
  6. Dadl y Ceidwadwyr: Band eang
  7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Canser yr ysgyfaint
  8. Dadl Fer: Economi gogledd Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf 8 Tachwedd.

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Economi newydd i Ogledd Cymru

Ac yn olaf Dadl Fer gan Hannah Blythyn.

Y Pwnc: Economi newydd i Ogledd Cymru:

'Gwella cydweithredu trawsffiniol a gwneud i ddatganoli weithio ar gyfer sectorau allweddol ledled Gogledd Cymru.'  

Hannah Blythyn
BBC

'Gwelliant aruthrol yng nghyfraddau goroesi am flwyddyn'

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod yna "welliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru."

Mae'n tynnu sylw at y "£240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar gyfer gofal diwedd oes."

Vaughan Gething
BBC

Buddsoddiad mewn gwasanaethau diagnostig a gofal diwedd oes

Mae Rhun ap Iorwerth yn tynnu sylw at y "buddsoddiad mewn gwasanaethau diagnostig a gofal diwedd oes a gafodd ei gyflawni gan Blaid Cymru yn y trafodaethau ar gyllideb ddrafft 2017-18, ac yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i wella'r gwasanaethau hyn."

Rhun ap Iorwerth
BBC

Mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud bod nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint ymhlith menywod yng Nghymru wedi cynyddu dros draean yn ystod y degawd diwethaf.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.

Angela Burns
BBC

Cefndir

Mae canran y bobl sy'n byw am bum mlynedd neu fwy wedi diagnosis o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru yn llai nac yng ngweddill y DU.

Yn ôl ffigyrau mewn adroddiad gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU, dim ond 6.6% o ddioddefwyr sy'n goroesi'r salwch yn y tymor hir.

Mae hyn yn cymharu â 9.8% yn yr Alban, 10.5% yng Ngogledd Iwerddon a 16% yn Lloegr.

Mae mwy o gleifion canser yng Nghymru yn marw o ganser yr ysgyfaint nag unrhyw ganser arall, gyda bron i 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn, mwy na marwolaethau o ganser y fron a'r coluddyn gyda'i gilydd.

Mae'r sefydliad yn galw am "welliant sylweddol" gan lywodraethau'r DU i godi'r ganran honno i 25%.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod eisoes yn gweithio ar rai o argymhellion yr adroddiad.

Canser yr ysgyfaint
Thinkstock

Dadl ar ganser yr ysgyfaint

Nawr Dadl gan UKIP ar ganser yr ysgyfaint. 

Mae Caroline Jones yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.

2. Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

(a) gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru;

(b) gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig;

(c) sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes; 

(d) sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a'u gweithredu; ac

(e) gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol gael gafael arnynt.  

Caroline Jones
BBC

'Sefydlu ac ariannu cynllun dal popeth'

Mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i "archwilio sefydlu ac ariannu cynllun dal popeth i alluogi awdurdodau lleol i ariannu cynllun wedi'i deilwra er mwyn sicrhau nad oes yr un cartref na busnes yng Nghymru heb y gallu i gysylltu â band eang y genhedlaeth nesaf."

Dai Lloyd
BBC

Cyffro o weld fan Openreach

"Rydw i'n cyffroi pan rydw i'n gweld fan Openreach yn parcio mewn gwahanol leoliadau yn fy etholaeth" medd yr aelod Ceidwadol Russell George.

Russell George
BBC

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru a BT yn cyd-weithio ar brosiect Cyflymu Cymru.

Bwriad y cynllun yw sicrhau bod band eang cyflym yn cyrraedd 96% o fusnesau a chartrefi oedd yn methu cael y gwasanaeth gan gwmnïau masnachol. 

Yn gynharach eleni fe wnaeth aelod seneddol Aberconwy Guto Bebb ddweud bod dryswch yn tanseilio'r prosiect, ac etholwyr yn cael gwybodaeth anghyson ynghylch ydyn nhw'n gallu ei dderbyn ai peidio.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, yr FUW, wedi galw am adolygiad o Cyflymu Cymru oherwydd mae'r undeb yn dweud bod y "bwlch digidol" rhwng Cymru wledig a gweddill y wlad yn mynd yn fwy.

Er hynny y llynedd roedd adroddiad gan Ofcom yn dweud bod gan Gymru y nifer mwya o bobl sy'n derbyn band eang nag unrhyw un arall o'r cenhedloedd datganoledig.

Dadl ar fand eang

Am yr awr nesaf Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fand eang.

Mae Paul Davies yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu â chyflawni ei huchelgais yn rhaglen lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.

2. Yn cydnabod mai gan Cymru y mae'r cyfartaledd uchaf o bobl ym Mhrydain nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer defnyddio band eang.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau i sicrhau mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a signalau ffonau symudol; 

(b) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn seilwaith telathrebu a defnyddio rhwydwaith;

(c) ystyried y cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau ffonau symudol y genhedlaeth nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a 

(d) darparu amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael contract i ymestyn myneidad i fand eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.  

Band eang
Thinkstock

Aelodau'n cymeradwyo Cytundeb Paris

Mae'r cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon, yn cael ei basio yn ddi-wrthwynebiad.

Cynhadledd Newid Hinsawdd Marrakech

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwlerdig, Lesley Griffiths, a fydd yn mynd i'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Marrakech, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ei hymrwymo i chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Lesley Griffiths
BBC

Her i'r Cynulliad

Cefndir

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod Cymru wedi gostwng ei allyriadau 18% ers 1990, o gymharu gyda 46% yn yr Alban.

Y targed yw gostyngiad o 40% mewn allyriadau tŷ gwydr erbyn 2020.

Fis diwethaf fe wnaeth Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru ddweud wrth y BBC bod gweinidogion Cymru "heb gyflawni eto".

'Cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon'

Mae Simon Thomas yn galw ar y Cynulliad i gymeradwyo Cytundeb Paris ar newid hinsawdd.

Ym mis Rhagfyr 2015 fe wnaeth gweinidogion o Gymru fynychu cynhadledd ym Mharis ar newid hinsawdd, lle wnaeth arweinwyr y byd gytuno i gadw cynnydd yn nhymheredd y by "ymhell o dan 2C".

Ers hynny, mae 76 o seneddau wedi cadarnhau'r cytundeb, gan gynnwys India, Cheina, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud ei bod yn bwriadu gwneud hynny erbyn diwedd y flwyddyn.

fferm wynt
PAUL GILHAM/GETTY IMAGES

Dadl ar Newid Hinsawdd

Nesaf y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon.

2. Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i fynd â'r neges hon i'r Gynhadledd ar Newid Hinsawdd ym Marrakech ym mis Tachwedd 2016. 

Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Mae Neil McEvoy, Plaid Cymru, wedi'i ethol yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Rhun ap Iorwerth.

Mae Dafydd Elis-Thomas sy'n aelod Annibynnol bellach wedi ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. 

Datganiadau 90 Eiliad

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar Ddatganiadau 90 Eiliad. 

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd y byddai aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael cyfle i godi materion amserol mewn slotiau 90 eiliad newydd yn y Cyfarfod Llawn. 

Mae'r fenter hon, gafodd ei chynnig gan Elin Jones AC, y Llywydd, ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Busnes, yn golygu y bydd cyfnod o bum munud yn cael ei neilltuo bob dydd Mercher er mwyn i o leiaf dri Aelod wneud datganiad.

Y Cynulliad fydd y ddeddfwrfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r drefn hon, sydd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada. 

Caiff unrhyw Aelod wneud datganiad 90 eiliad ar unrhyw bwnc sy'n bwysig iddynt, a gellid defnyddio'r amser, er enghraifft, ar gyfer: 

  •  trafod materion sy'n peri pryder i'w hetholwyr;
  •  tynnu sylw at faterion lleol; 
  •  nodi dathliadau neu ddyddiadau pwysig; 
  •  dalu teyrngedau.   

Mae'r datganiad cyntaf un gan aelod Llafur Castell-nedd Jeremy Miles, ar Waith Haearn Castell-nedd a threftadaeth ddiwydiannol.

Jeremy Miles
BBC

'Angen sicrwydd am ddyfodol y gwaith'

Mae  Andrew RT Davies yn dweud bod y cynlluniau i gael gwared

â swyddi yn "ddinistriol" ac yn galw am sicrwydd ynghylch dyfodol y gwaith.

Mae'r cwmni yn cyflogi 1,100 o staff ar y safle ar Ystad Ddiwydiannol Penygarnddu, ac mae Ken Skates yn dweud ei fod wedi cael sicrwydd ynghylch y 700 o swyddi eraill.

Y penderfyniad yn 'hynod siomedig'

Mae Ken Skates yn dweud bod y penderfyniad yn "hynod siomedig".

Mae'r dweud bod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau gyda'r cwmni, ac yn ceisio "lleihau yr effaith" os y bydd y swyddi'n cael eu colli ar ôl y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod.

Ken Skates
BBC

Dyfodol safle pacio bwyd St Merryn Foods

Mae cwmni bwyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ddyfodol safle pacio bwyd yn ne Cymru, gan roi 350 o swyddi yn y fantol.

Bwriad cwmni 2 Sisters yw cau safle pacio bwyd St Merryn Foods ar stad ddiwydiannol Penygarnddu ym Merthyr Tudful a symud y gwaith i Loegr.

Dywedodd y cwmni bod "heriau difrifol" i'r sector cig yn y DU yn golygu bod safle pacio cig Merthyr "ddim yn gynaliadwy".

Cwestiwn Brys

Mae aelod Merthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden yn gofyn beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyhoeddiad bod 350 o swyddi mewn perygl oherwydd penderfyniad Grŵp 2 Sisters Food i symud ei holl wasanaethau manwerthu o Ferthyr Tudful i Gernyw.   

Dawn Bowden
BBC

'Symudiad tuag at awdurdodaeth wahanol yn anochel'

Wrth ymateb i Simon Thomas Plaid Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud ei bod hi'n "anochel y byddwn ni'n symud tuag at awdurdodaeth wahanol, ac yn y pendraw awdurdodaeth ar wahân" yng Nghymru.   

Mick Antoniw
BBC

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nawr cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Simon Thomas sydd â'r cwestiwn cyntaf: 

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch Mesur Cymru? 

San Steffan a'r Senedd
BBC

Siom bod Her Ysgolion Cymru yn dod i ben

Mae'r aelod Llafur Lee Waters yn mynegi siom bod Her Ysgolion Cymru yn dod i ben.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg yn dweud mai ymyriad tymor byr oedd bwriad y rhaglen.

Andrew RT Davies yn achosi 'trawma' heb grys

Mae'r aelodau yn trafod hyrwyddo rygbi cyffwrdd mewn ysgolion.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod nifer o bobl wedi teimlo trawma o'i weld e gyda'i grys wedi ei dynnu ym Mharc yr Arfau. Dyma fideo ohono yn ei chanol hi. Mae Senedd Fyw wedi penderfynu peidio dangos y ddelwedd dan sylw.

Wrth gyfeirio at y ddelwedd mae Kirsty Williams yn dweud 

"Ddydd Llun oedd Calan Gaeaf, nid heddiw". 

Andrew RT Davies
BBC

Sefyllfa addysg Gymraeg

Mae Michelle Brown UKIP yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwahodd Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i asesu a yw diwygiadau addysgol ar y trywydd cywir, ac yn gofyn "a yw hyn yn gyfaddefiad wedi 17 mlynedd bod Llywodraeth Cymru allan o'i dyfnder."

Wrth ochneidio cyn ymateb mae Kirsty Williams yn dweud "Dyw addysg Gymraeg ddim lle rydyn ni eisiau iddi fod" ac mae'n dweud ei bod eisiau i addysg yng Nghymru gael ei phrofi mewn cymhariaeth â'r safonau rhyngwladol gorau.

Kirsty Williams
BBC

Y ddarpariaeth orau o addysg ôl-16oed

Mae aelod Plaid Cymru Simon Thomas yn gofyn a yw hi wedi gallu ffurfio barn eto ynghylch ai'r ddarpariaeth orau ar gyfer addysg ôl-16 yw trwy batrwm ysgol wedi'i lleoli ar gampws neu trwy batrwm coleg addysg uwch.

Mae Kirsty Williams yn dweud nad yw'n hi'n credu mai ei swydd hi yw rhoi gorchymun i gymunedau unigol ynghylch natur yr ysgolion o fewn y cymunedau hynny.

Simon Thomas
BBC

Addysg uwchradd yn Sir Benfro

Mae'r cyntaf o'r cwestiynau a gyflwynwyd gan Paul Davies: 

A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu addysg uwchradd yn Sir Benfro?  

Addysg
BBC

Croeso nôl

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams. 

Nôl am 1.30pm

Mae'r pwyllgor nawr yn cwrdd yn breifat. 

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn. 

'Torri calon yr archdderwydd'

Mae Alun Davies yn dweud bod "pobl eisiau mwynhau eu bywydau. Os ydyn ni'n gwario llawer o arian yn ceisio pregethu pwysigrwydd gwahanol dreigladau, dydyn ni ddim yn mynd i ddenu sylw pobl.. Byddai'n well gen i i rywun siarad Cymraeg yn hyderus ac i fod yn hapus i wneud hynny, hyd yn oes petai hynny yn torri calon yr archdderwydd." 

Geraint Lloyd Owen yw'r archdderwydd presennol
BBC

Cymariaethau gyda'r gwariant ar y Fasgeg

Mae Alun Davies yn dweud y byddai cymariaethau gyda'r gwariant ar y Fasgeg yng Ngwlad y Basg yn gamarweiniol  "oherwydd y bydden nhw'n cynnwys S4C a chyflogau gweision sifil."  

Yng Ngwlad y Basg mae yna ymdrech fawr i gael ysgolion i ddysgu trwy gyfrwng y Fasgeg ac i sefydlu ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol. 

O dan unbennaeth Franco fe gafodd y Fasgeg ei llethu.

Gwlad y Basg
Thinkstock

Gostyngiad o £0.150m yn y gyllideb

Mae nifer o gwestiynau yn cael eu gofyn am y gostyngiad o £0.150m yn y gyllideb.

Mae'r gweinidog yn dweud y bydd y rhan fwyaf o'r arbedion yn cael eu cyflawni wrth i'r cytundebau Pencampwyr Dwyieithog ddirwyn i ben, prosiect y mae Mr Davies yn cydnabod "sydd wedi bod yn eithaf llwyddiannus." 

arian
BBC

Targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Wrth ymateb i gwestiwn gan Bethan Jenkins am y targed o sicrhau bod yna filiwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae Mr Davies yn dweud "Rydw i'n hapus gyda'r gyllideb sydd ganddon ni. Wrth gwrs, does ganddon ni ddim strategaeth eto, rydyn ni'n ymgynghori ar hynny ar hyn o bryd".

Fe wnaeth cyfrifiad 2011 gofnodi bod gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg o 582,000 yn 2001 i 562,000, tua un o bob pump o'r boblogaeth.

Mae adroddiadau bod cymunedau traddodiadol Cymraeg eu hiaith wedi bod o dan fygythiad gan bobl ifanc yn symud i ffwrdd i chwilio am waith, a datblygiadau tai newydd yn denu dyfodiaid sydd ddim yn siarad yr iaith.

Cymraeg
BBC

Y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Nawr sesiwn graffu ar y gyllideb gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Yn ymuno gydag ef mae: 

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr Y Gymraeg, ac 

Awen Penri, Pennaeth Cangen y Gymraeg mewn Addysg. 

Bethan Webb, Alun Davies, Awen Penri
BBC

'Blwyddyn y chwedlau'

Fydd "blwyddyn y chwedlau" flwyddyn nesaf " ddim o angenrheidrwydd yn cynnwys rhagor o ddreigiau" medd Mr Skates wrth Bethan Jenkins.

Fe wnaeth Draig Cadw dreulio'r haf yn ymweld â chestyll, ac fe wnaeth y corff ddweud bod cynnydd o 22% o ran ymweliadau teuluoedd. 

Fe wnaeth ffigyrau Llywodraeth Cymru ddangos bod dros 600,000 o bobl wedi ymweld â safleoedd Cadw rhwng mis Gorffennaf a Medi - y nifer ucha erioed yn y chwarter hwnnw - tra bo'r ddraig yn cael ei harddangos.  

Draig
Cadw

Gostyngiad yng nghyllideb yr amgylchedd hanesyddol a naturiol

Mae aelod Llafur Delyn Hannah Blythyn yn gofyn am y gostyngiad o £0.104m yn y gyllideb ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a naturiol. Mae Mr Skates yn dweud bod disgwyl i hyn gael ei gyflenwi gan gynnydd mewn incwm gaiff ei gynhyrchu gan Cadw.

Cyllideb cyfalaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Ysgrifennydd yr Economi yn dweud bod y cynnydd o £7.780m yng nghyllideb cyfalaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys gwaith i gael gwared ag asbestos ac hefyd ar adeiladwaith allanol yr adeilad.

Llyfrgell Genedlaethol
BBC