a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. 

    Y Senedd
  2. 'Camdriniaeth o ddynion yn cael ei oddef'

    Mae aelod Plaid Cymru Neil McEvoy yn dweud "Rydw i'n dueddol o deimlo bod camdriniaeth o ddynion yn cael ei goddef yng Nghymru, Mae camdrin emosiynol o ddynion yn cael ei ganiatau."

    "Cymerwch Heddlu'r De fel enghraifft, mae'n amhosib eu cael i dderbyn cwyn oddi wrth ddyn sy'n cael ei gamdrin yn emosiynol."

    Neil McEvoy
  3. 'Angen ymdrechion sylweddol'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn cynnig bod y Cynulliad yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.  

    Mae hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.   

    Mark Isherwood
  4. Hyrwyddo hawliau mamau beichiog a mamau newydd

    Mae Bethan Jenkins ar ran Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well. 

    Mae hi hefyd yn cyfeirio at y "clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18." 

  5. 'Tuag at Gymru Decach'

    Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016, 'Tuag at Gymru Decach'.false

    Mae'r Comisiwn yn dweud bod eu dadansoddiad wedi nodi saith her allweddol mae angen eu trafod yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r rhain, meddai'r aelodau yn anghydraddoldebau a chamdriniaethau hawliau dynol pwysig, wedi'u hymwreiddio, a fydd angen ymdrechion sylweddol gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ac unigolion i'w lleihau. 

    Yr heriau allweddol a nodwyd gan A yw Cymru'n Decach? 

    • Cau bylchau cyrhaeddiad mewn addysg. 
    • Annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg mewn cyflogaeth. 
    • Gwella amodau byw mewn cymunedau cydlynol. 
    • Cynyddu mynediad i gyfiawnder ac annog cyfranogiad democrataidd. 
    • Gwella mynediad i wasanaethau iechyd y meddwl a chymorth i bobl sy'n profi iechyd meddyliol gwael. 
    • Atal cam-drin, esgeulustod a chamdriniaeth mewn gofal a'r ddalfa.
    • Cael gwared ar drais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.    
  6. Stynt cyhoeddusrwydd costus?

    Mae aelod UKIP David Rowlands yn mynegi gobaith na fydd y tasglu yn "stynt cyhoeddusrwydd costus".

    David Rowlands
  7. 'Angen canlyniadau go iawn'

    "Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu yr hyn yr ydych chi yn ei wneud yn llwyr, ond rydyn ni angen canlyniadau go iawn," medd Bethan Jenkins Plaid Cymru.

    Bethan Jenkins
  8. 'Ffurfiau newydd o drosglwyddo prosiect'

    Mae Alun Davies yn dweud ei fod yn ystyried ffurfiau newydd o drosglwyddo prosiect ar gyfer adfywiad economaidd o'r Cymoedd, ond nid strwythurau newydd er mwyn dim ond hynny.

    Mae'n ychwanegu y bydd yn ystyried cryfhau aelodaeth y tasglu.

  9. Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd - y diweddaraf

    Nawr datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ar y wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd. 

    Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Alun Davies gyhoeddi y byddai Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn cael ei sefydlu.

    Gan ddefnyddio cryfderau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector a gallu Llywodraeth Cymru i sbarduno newid, dywedodd Mr Davies y byddai'r Tasglu'n gweithio yn ystod tymor y Cynulliad hwn i arwain ar waith adfywio a thwf cynaliadwy yn y Cymoedd ac i sicrhau canlyniadau mesuradwy a fydd yn gwella bywydau pobl sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. 

    Ei nod, meddai, yw sicrhau canlyniadau penodol a fydd yn canolbwyntio ar wella safon byw pobl sy'n byw ar hyd a lled Cymoedd y De.  

    Alun Davies
  10. Gwrthod amcangyfrifon newydd am anghenion tai?

    Mae'r Ceidwadwr David Melding yn disgrifio'r datganiad fel "grual tenau".

    Mae'n cyhuddo'r Llywodraeth o wrthod yr amcanyfrifon newydd ar gyfer anghenion tai yn "adroddiad gwych" yr Athro Holman ar anghenion a galw yn y dyfodol am dai yng Nghymru.

  11. Y cynlluniau

    Yn ôl Mr Sargeant mae'r cynlluniau i gyflawni'r nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys y canlynol:

    • Parhau i gefnogi gwaith adeiladu ar gyfer tai cymdeithasol i'r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed drwy gynlluniau dibynadwy sydd eisoes wedi'u profi, gan gynnwys y Grant Tai Cymdeithasol.
    • Cefnogi gwaith adeiladu ar gyfer mwy na 6,000 o gartrefi drwy'r cynllun Cymorth i Brynu. Bydd Cam II y cynllun yn sicrhau bod £290 miliwn yn cael eu buddsoddi tan 2021.  
    • Datblygu rhaglen adeiladu tai fwy uchelgeisiol - sy'n uchelgeisiol o ran cynllun, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi y byddwn yn eu darparu.
    • Cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau ar gyfer tai, er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion o ran tai. 
    • Datblygu cynllun Rhentu i Brynu a fydd yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dyheu am brynu cartref eu hunain, ond sy'n ei chael yn anodd i gynilo blaendal sylweddol.
    • Hybu sawl ffordd o allu perchen ar dŷ am gost fforddiadwy. Yn enwedig ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf mewn ardaloedd lle y maent yn aml yn methu â phrynu cartref oherwydd bod gwerthoedd yr eiddo lleol yn uchel. 
  12. £1.3 biliwn wedi ei glustnodi dros dymor y llywodraeth hon

    Mae Carl Sargeant yn dweud bod £1.3 biliwn wedi ei glustnodi dros dymor y llywodraeth hon i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy a chyflawni'r dasg o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru yn dangos uchelgais y llywodraeth yn y maes hwn. 

    Mae Mr Sargeant yn ychwanegu hyn:

    “Mae adeiladu cartrefi yn sicrhau manteision pwysig sydd yn mynd yn gam ymhellach na dim ond rhoi to uwch pennau pobl.  Ochr yn ochr â'r dystiolaeth helaeth fod tai o ansawdd da yn sicrhau manteision iechyd ac addysg i blant ac i deuluoedd, mae adeiladu cartrefi ar gyfer pob deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein heconomi a'n cymunedau.” 

    Carl Sargeant
  13. 20,000 o Dai Fforddiadwy

    Nesa datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy.  

    Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi rhoi sylw i’r cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Medi y bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn cael eu hailddosbarthu fel cyrff sector cyhoeddus yn y cyfrifon cenedlaethol.

    Yn ôl y gwasanaeth ymchwil, “gallai’r penderfyniad hwn gael effaith negyddol ar allu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (yr hyn y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei alw’n gymdeithasau tai) i gael mynediad at gyllid preifat, ac o ganlyniad i hynny, eu gallu i ddatblygu tai fforddiadwy.” 

    Tai
  14. Ysbyty newydd yng Ngwent

    Datganiad arall nawr gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd: Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynllun ar gyfer codi ysbyty newydd i gleifion sydd angen gofal brys neu lawdriniaeth gymhleth yng Ngwent, ddeuddeg mlynedd wedi i'r prosiect gael ei gynnig.

    Fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £350m ar gyfer y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol (CGACh) yn Llanfrechfa Grange i'r dwyrain o Gwmbrân.

    Yn ôl Mr Gething fe ddylai'r ganolfan agor yn 2022.

    Cafodd y prosiect ei gyflwyno yn 2004 ond cafodd y cynllun ei ohirio yn 2009 cyn ail ymddangos ar yr agenda flwyddyn yn ddiweddarach.

    Mae'r ysbyty newydd yn rhan o gynlluniau i foderneiddio gwasanaethau iechyd sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

    Llun artist o'r ysbyty newydd
    Image caption: Llun artist o'r ysbyty newydd
  15. Dr Ruth Hussey i gadeirio'r adolygiad

    Mae Mr Gething yn cyhoeddi mai Dr Ruth Hussey fydd yn cadeirio'r adolygiad, a'i fod yn disgwyl i'r adolygiad gymryd tua blwyddyn i'w baratoi er mwyn caniatáu amser i weithredu argymhellion o fewn tymor y Cynulliad yma.

    Fe wnaeth Dr Ruth Hussey ymddeol yn gynharach eleni fel Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi bron i bedair blynedd yn y swydd.

    Yn ystod ei chyfnod yn y swydd fe wnaeth hi oruchwylio'r ymateb i argyfwng y frech goch yn Abertawe a'r gwaith i baratoi Cymru ar gyfer bygythiadau iechyd posib yn y dyfodol, fel argyfwng Ebola.

    Dr Ruth Hussey
  16. Iechyd a Gofal

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething ar yr Adolygiad Seneddol i Wasanaethau Iechyd a Gofal.

    Y Gwasnaeth Iechyd
  17. Maes Awyr Caerdydd i geisio am ragor o dir?

    Mae Andrew RT Davies yn gofyn pa gynlluniau a faint o arian sydd ar gael i Faes Awyr Caerdydd ar gyfer cynlluniau i ehangu. Mae'n dweud bod rhai o'i etholwyr yn yr ardal wedi dweud wrtho bod swyddogion sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau ynglŷn â chael gafael ar dir ychwanegol gan bobl sydd berchen tir ger y maes awyr. Mae'n dweud bod y maes awyr yn berchen ar 400 o aceri yn barod.

    Mae Jane Hutt yn ateb "Dydw i ddim yn ymwybodol o'r materion yr ydych chi yn eu codi ynglŷn â phosibiliadau ehangu."

    Maes Awyr Caerdydd
  18. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.  

    Jane Hutt
  19. Cwestiwn brys ar Orgreave

    Mae Lee Waters yn gofyn i'r Ysgrifennydd dros Gymunedau pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave. 

    Ddoe fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd ddweud wrth aelodau seneddol nad oedd ymchwiliad i'r gwrthdaro rhwng yr heddlu a glowyr yn ystod streic y glowyr 1984 o fudd i'r cyhoedd.

    Mae Carl Sargeant yn dweud bod y penderfyniad yn hynod siomedig.

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod Llafur yn "dal i geisio cicio pen-ôl y gaseg farw yma a bod Plaid Cymru nawr yn eu hannog nhw." Mae'n ychwanegu bod "Orgreave 32 mlynedd yn ôl a na fuodd neb farw."

    Cafwyd galwadau am ymchwiliad trwyadl i'r digwyddiadau yn Orgreave ger Sheffield yn 1984 yn ystod Streic y Glowyr.
    Image caption: Cafwyd galwadau am ymchwiliad trwyadl i'r digwyddiadau yn Orgreave ger Sheffield yn 1984 yn ystod Streic y Glowyr.