a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. 

    Y Senedd
  2. A48 i gau i'r ddau gyfeiriad

    Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd fforddd yr A48 ar gau i'r ddau gyfeiriad o droad Nantycaws i Gaerfyrddin o 7pm nos Wener yma tan 6am fore Llun. 

    Fe fydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio trwy Nantycaws a Llangynnwr.

    Mae Lesley Griffiths yn dweud "nad oedd y penderfyniad i gau'r ffordd yn un rhwydd, ond roedd cwblhau'r gwaith dros y penwythnos yn debygol o leihau'r effeithiau ar y cyhoedd."

    Mae hefyd yn cadarnhau y bydd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliad i pam y gwnaeth 140,000 litr o olew cerosin ollwng o bibell sydd yn eiddo i gwmni Valero.

    Lesley Griffiths
  3. Arllwysiad olew yn Nantycaws

    Ac yn olaf heddiw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

    Arllwysiad Olew yn Nantycaws,Caerfyrddin.

    Ddydd Mawrth diwethaf, fe ddaeth i'r amlwg fod cerosin wedi gollwng i nant Pibwr o bibell sydd wedi ei gosod o dan yr A48. 

    Ddydd Sadwrn fe wnaeth Lesley Griffiths ymweld â'r safle lle mae'r bibell sydd wedi'i thorri.  

    Mewn llythr i aelodau'r Cynulliad fe wnaeth hi gadarnhau bod yr arllwysiad yn fwy nag a dybiwyd yn wreiddiol. Fe wnaeth 140,000 o litrau o cerosin ollwng i'r afon gerllaw.

    Mae nifer fawr o bysgod marw wedi'u darganfod yn Nant Pibwr, gan gynnwys llysywod pendwll a phenbyliaid
    Image caption: Mae nifer fawr o bysgod marw wedi'u darganfod yn Nant Pibwr, gan gynnwys llysywod pendwll a phenbyliaid
  4. 'Sarhad ar y miliynau'

    Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud ei bod hi'n "sarhad ar y miliynau o bobl wnaeth bleidleisio o blaid Brexit oherwydd eu hofnau am effeithiau cymdeithasol mewnfudo ar raddfa gyflym, i alw eu cymhelliad yn un hiliol."

  5. 'Gan addysg grefyddol rôl allweddol'

    Mae Darren Millar yn dweud "Rydw i'n credu bod gan addysg grefyddol rôl allweddol yn cynorthwyo i ddelio gyda throseddau casineb yn y dyfodol."

    Darren Millar
  6. Angen gwneud mwy

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn dweud "bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud."

    Mae hefyd yn dweud y "dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru."

    Mark Isherwood
  7. Troseddau casineb 60% yn uwch

    Mae ffigyrau ddaeth i sylw BBC Cymru fis diwethaf yn dangos bod troseddau casineb gafodd eu cofnodi yng Nghymru 60% yn uwch adeg cyfnod Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd nag yr oedden nhw yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

    Fe gafodd dros 600 o ddigwyddiadau eu cofnodi ym Mehefin a Gorffennaf 2016. 

    Troseddau casineb
  8. Troseddau yn erbyn pobl ar sail eu hunaniaeth

    Mae troseddau casineb yn droseddau yn erbyn unigolyn neu grŵp o bobl ar sail eu hunaniaeth. 

    Mae dioddefwyr yn gallu cael eu targedu ar sail

    • anabledd 
    • hil 
    • crefydd 
    • cyfeiriadedd rhywiol 
    • hunaniaeth o ran rhywedd 
    • oedran

    Gallwch weld fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru fan hyn.

  9. Taclo troseddau casineb

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Ddadl: Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb - Cynnydd a Heriau.

    Troseddau casineb
  10. 'Prosiect cymhleth'

    Mae Julie James yn dweud wrth aelodau'r Cynulliad:

    "Mae hwn yn brosiect cymhleth... ac mae'n parhau'n heriol. Mae angen i BT Openreach gynnal y momentwm os yw am gyrraedd y targedau sydd dan gytundeb."

    Mae hi hefyd yn rhybuddio:

    "allwn ni ddim darparu cysylltedd ffeibr ar unrhyw gost, gan fod darparu gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus yn holl bwysig."

    Julie James
  11. Cyflymu Cymru

    Nawr datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James: Band Eang Cyflym Iawn yng Nghymru. 

    Llywodraeth Cymru a BT sy'n cyflwyno'r cynllun ar y cyd, Superfast Cymru/Cyflymu Cymru.

    Bwriad y cynllun yw sicrhau bod band eang cyflym yn cyrraedd 96% o fusnesau a chartrefi oedd yn methu cael y gwasanaeth gan gwmnïau masnachol.

    Yn gynharach eleni fe wnaeth aelod seneddol Aberconwy Guto Bebb ddweud bod dryswch yn tanseilio'r prosiect, ac etholwyr yn cael gwybodaeth anghyson ynghylch ydyn nhw'n gallu ei dderbyn ai peidio.   

    Band eang
  12. Darogan Prif Weinidog y dyfodol?

    Mae yna chwerthin yn y Siambr wrth i'r aelod Llafur Joyce Watson wneud yr un camgymeriad â'r aelod Ceidwadol Angela Burns a galw Vaughan Gething yn Brif Weinidog.

    Joyce Watson
  13. 'Cynyddu'r cyllid i dros £600m'

    Mae Vaughan Gething yn dweud "Rydyn ni wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw faes arall yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac mae'r cyllid wedi cynyddu i dros £600m yn 2016-17," meddai.

    Vaughan Gething
  14. Un o bob pedwar yn debygol o ddioddef iechyd meddwl

    Nesa datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. 

    Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn aros yn rhy hir am gymorth seicolegol - dyna ddywedodd clymblaid newydd o elusennau iechyd meddwl yn gynharach yn y mis. 

    Yn ôl " Mae angen i ni siarad Cymru " mae hanner y bobl yn aros dros dri mis cyn cael ei sesiwn therapi siarad cyntaf. 

    Mae un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn debygol o ddioddef materion iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywyd.  

    Iechyd meddwl
  15. Pwyllgor Monitro Rhaglen

    Mae nifer o aelodau yn cyfeirio at benodiad yr aelod Llafur Julie Morgan yn gadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglen ar gyfer y rhaglenni Strwythurol Ewropeaidd a Datblygu Gwledig 2014–2020. Mae'r pwyllgor yn monitro'r defnydd o grantiau yr UE yng Nghymru.

    Mae hi'n olynu ei chyd-aelod Llafur Mick Antoniw, gafodd ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol ym mis Mehefin.

    Mae Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, addysg, gwleidyddiaeth ac elusennau.

    Mrs Morgan yw'r trydydd aelod i ymgymryd â'r rôl mewn llai na blwyddyn, wedi i Jenny Rathbone gael ei diswyddo fis Hydref diwethaf am feirniadu polisi'r llywodraeth ar ffordd liniaru'r M4.

    Julie Morgan
  16. £850,000 yn rhagor o gyllid yr UE

    Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol,yn cyhoeddi bod £850,000 yn rhagor o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn mynd i fod ar gael i helpu sector peirianneg Cymru i symud ymlaen yn hyderus.

    Mae'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i weithredu ar alwadau am warant gydol oes, lawn ar gyfer pob cynllun strwythurol a chynllun a ariennir gan fuddsoddiad Ewropeaidd. 

    "Dyma’r unig benderfyniad cywir a rhesymegol, a fydd yn rhoi cysondeb i gymunedau, busnesau a buddsoddwyr Cymru wrth i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy," meddai.

    Mark Drakeford
  17. Cyllid yr Undeb Ewropeaidd

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar Gyllid yr UE. 

    Cyllid yr UE
  18. Cefndir: Cymunedau'n Gyntaf

    Fe gafodd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu yn 2001 i gynorthwyo pobl oedd yn byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

    Amcangyfrifir bod tua 20% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf.

    Yn 2010 fe wnaeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad gyhoeddi un o'r adroddiadau mwyaf damniol am y rhaglen, gan ddweud nad oedd y rhaglen wedi llwyddo i gyflawni gwerth am arian.

    Pan oedd yn weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, galwodd Carl Sargeant am archwiliad i bob partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf yng Nghymru yn dilyn adroddiad "annifyr" ynglŷn â chamreolaeth ariannol.

    Port Talbot yw un o'r ardaloedd sydd wedi cael arian o'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf
    Image caption: Port Talbot yw un o'r ardaloedd sydd wedi cael arian o'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf