a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf 18 Hydref. 

    Y Senedd
  2. Rhwydwaith Menywod Seneddol y Gymanwlad

    Mae Menywod Seneddol y Gymanwlad yn dweud bod eu rhwydwaith yn darparu modd o: 

    • adeiladu ar ddawn/gallu menywod sydd wedi'u hethol i'r Senedd i fod yn fwy effeithiol yn eu rôl.
    • gwella ymwybyddiaeth a gallu pob aelod seneddol, boed ddyn neu ddynes. 
    • helpu senedd-dai i ddod yn sefydliadau mwy sensitif i ryw aelodau. 
  3. Dadl Fer

    Ac yn olaf heddiw Dadl Fer gan Joyce Watson.

    A'r pwnc: Ymuno â'r Achos: 

    Menywod, Cymru a'r Gymanwlad - rôl Menywod Seneddol y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE 

  4. Mesur awtistiaeth: dim cytundeb ar y cynnig

    Ar y cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn:

    "cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed Cynulliad"

    roedd 24 o'r aelodau o blaid, 27 yn erbyn a neb yn ymatal, felly ni chytunwyd ar y cynnig.

    Y bleidlais
  5. Her Hamilton i'r Llywodraeth Lafur

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud, "Os oes ganddoch chi ffordd well, cyflwynych un. Os nad oes ganddoch chi un, gadewch i ni bleidleisio o blaid y mesur."

  6. 'Dim byd wedi newid' ers 1999

    Mae Dr Dai Lloyd, sy'n cefnogi'r alwad am ddeddfwriaeth, yn dweud "Roedd diffyg gwasanaethau yn 1999, ac ry ni'n cael yr un dadleuon nawr. Does dim byd wedi newid."  

    Dai Lloyd
  7. 'Dim cysondeb ar draws Cymru'

    Mae Suzy Davies yn dweud bod yna "rai gwelliannau" yn y ddarpariaeth, ond nad oes cysondeb ar draws Cymru.  

    Suzy Davies
  8. Byddai deddf awtistiaeth yn darparu 'gwell eglurder'

    Mae Mark Isherwood yn dweud y byddai deddf awtistiaeth yn darparu "gwell eglurder" ar y gofal a'r gefnogaeth y gallai pobl sydd ag awtistiaeth ddisgwyl ei gael.

    Byddai hefyd, meddai, yn golygu y byddai Cymru "yn gyfartal â" Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

    Mark Isherwood
  9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awtistiaeth

    Nawr dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar awtistiaeth.

    Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesur awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed Cynulliad.      

    Mewn unigolion sydd ag awtistiaeth mae yna lai o weithgaredd yn yr amygdala, welir mewn coch, rhywbeth sy'n chwarae rhan flaenllaw yn prosesu emosiynau
    Image caption: Mewn unigolion sydd ag awtistiaeth mae yna lai o weithgaredd yn yr amygdala, welir mewn coch, rhywbeth sy'n chwarae rhan flaenllaw yn prosesu emosiynau
  10. Cefnogi egwyddorion y cynnig

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud ei fod yn cefnogi yr egwyddorion yn y cynnig heddiw.

    Vaughan Gething
  11. Amseroedd aros yn 'llawer rhy hir'

    Mae Llyr Gruffydd yn dweud bod amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc (CAMHS) yn "llawer rhy hir".

    Amseroedd aros
  12. 'Tristáu i weld y pwyslais cenedlgarol yma ar yr agenda'

    Wrth gyfeirio at alwad Plaid Cymru "i chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth", mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud ei bod hi wedi'i "thristáu i weld y pwyslais cenedlgarol yma ar yr agenda".

    Angela Burns
  13. Dadl Plaid Cymru ar iechyd meddwl

    Nesa gan Blaid Cymru ar iechyd meddwl.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. 

    2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl. 

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) parhau i fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith; 

    b) sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl. 

    Iechyd Meddwl
  14. 'Gweithio'n agos gyda BA'

    Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn dweud bod "Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda BA.

    "Fe fyddwn yn gofyn i Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru i weithio gyda'r holl staff sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn." 

    Mae'n ychwanegu, "Does ganddon ni ddim rheswm i feddwl bod yna broblem strwythurol sylfaenol." Does dim rheswm i weddill y staff ddychryn meddai. 

    Julie James
  15. British Airways yn cadarnhau eu bod yn ymgynghori

    Mae British Airways wedi cadarnhau eu bod yn ymgynghori ar gynlluniau i dorri 66 o swyddi o'u safle cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd. 

    Yn ol llefarydd ar ran y cwmni awyrennau, maen nhw wedi dechrau trafod gyda staff ac undebau ynghylch "ailstrwythuro posib er mwyn gallu parhau i gynnig gwasanaeth cynaliadwy a chystadleuol". 

    Mae BA yn gobeithio y bydd unrhyw ddiswyddiadau'n rhai gwirfoddol.

    Mae sied awyrennau anferth BAMC ar safle Maes Awyr Caerdydd yn darparu gwaith cynnal a chadw ar raddfa eang. Mae'n cyflogi dros 700 o staff.

    Bydd awyren newydd Boeing 787 Dreamliner BA yn cael ei chynnal a'i chadw yng Nghaerdydd
    Image caption: Bydd awyren newydd Boeing 787 Dreamliner BA yn cael ei chynnal a'i chadw yng Nghaerdydd
  16. Cwestiwn Brys

    Nawr cwestiwn brys gan Adam Price: 

    Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd?  

    Maes Awyr Caerdydd
  17. 'Consensws cyffredin ar draws y pleidiau'

    Mae'r aelod Llafur Jenny Rathbone yn dweud, "gan ei bod hi'n ymddangos bod yna gonsensws cyffredin ar draws yr holl bleidiau yma, rydw i eisiau cyflwyno .. efallai her i'r ddadl hon." 

    Dylai pob ysgol gael cynllun teithio llesol, meddai.

    Jenny Rathbone
  18. Cefndir: Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ddeddf gwbl arloesol a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru.

    Mae'r Ddeddf, meddid, - y cyntaf o'i bath yn y byd - yn ei gwneud hi'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol Cymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, a hefyd adeiladu a gwella eu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio bob blwyddyn.

    "Mae'n creu dyletswyddau newydd ar gyfer awdurdodau'r priffyrdd, fel eu bod yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr ac yn sicrhau gwell darpariaeth ar eu cyfer. Mae hefyd yn golygu ei bod hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo cerdded a beicio fel dull trafnidiaeth.

    "Trwy gysylltu safleoedd allweddol fel gweithleoedd, ysbytai, ysgolion ac ardaloedd siopa â llwybrau teithio llesol, bydd y Ddeddf yn annog pobl i ddibynnu llai ar eu ceir wrth wneud teithiau byr."

    Seiclo
  19. Dadl ar fanteision iechyd a lles gweithgareddau corfforol

    Am yr awr nesa mae yna ddadl gan Aelodau Unigol.

    Mae Lee Waters, Rhun ap Iorwerth, Huw Irranca-Davies a John Griffiths yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgareddau corfforol. 

    2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.

    3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran. 

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.

    Gweithgareddau corfforol