a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf 11 Hydref. 

    Y Senedd
  2. Tanau yn South Wales Wood Recycling

    Mae Mr Irranca-Davies yn cyfeirio at gyfarfod cymuned "gorlawn" yn Heol y Cyw pan wnaeth nifer o bobl fynegi pryder am dri thân yn South Wales Wood Recycling.

    Yn yr achos mwya diweddar fe aeth tua 3,000 tunnell o naddion coed fynd ar dân yn y gwaith yn Coity, ym Mhenybont. 

    Fe ddechreuodd y tân yn South Wales Wood Recycling in Heol Llan, Coity
    Image caption: Fe ddechreuodd y tân yn South Wales Wood Recycling in Heol Llan, Coity
  3. Dadl Fer

    Ac yn ola heddiw Dadl Fer gan Huw Irranca-Davies. 

    A'r pwnc: Diogelwch, storio a gwaredu biomas a chynnyrch pren halogedig gan gwmni South Wales Wood Recycling. 

    Huw Irranca-Davies
  4. 'O fudd mawr i Ganolbarth a Gogledd Cymru'

    Mae Ken Skates yn dweud y bydd Canolbarth a Gogledd Cymru yn "elwa'n sylweddol" o HS2.

  5. Beth nesa?

    Mae Dai Lloyd yn dweud " Dan ni 'di cael dadl gan UKIP ar ysgolion gramadeg sydd yn bod yn Lloegr a ddim yng Nghymru. 'Dan ni'n cael dadl heddiw ar HS2 sydd yn brosiect isadeiledd i Loegr, ddim yng Nghymru. Beth nesa? Beth fydd pwnc nesa dadl UKIP yn y lle yma?" 

  6. 'Prosiect seilwaith i Loegr'

    Ar ran Plaid Cymru mae Dai Lloyd yn dweud mai "prosiect seilwaith i Loegr yn unig yw prosiect HS2 ac y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol Barnett sy'n adlewyrchu hyn."

  7. Y manteision i bobl canolbarth a gogledd Cymru

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn dweud bod angen cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.

    Mae e hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.  

  8. Dadl UKIP ar y rhwydwaith rheilffordd

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl gan UKIP ar y rhwydwaith rheilffordd. 

    Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    Yn credu y dylid rhoi'r gorau i'r prosiect HS2 a defnyddio'r arbedion cyfalaf i wella'r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys:

    • ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru yn llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; 
    • diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn eang.   
    Mae disgwyl i HS2 gysylltu Llundain gyda Birmingham erbyn 2026, gan gyrraedd Manceinion a Leeds erbyn 2033
    Image caption: Mae disgwyl i HS2 gysylltu Llundain gyda Birmingham erbyn 2026, gan gyrraedd Manceinion a Leeds erbyn 2033
  9. Cael gwared â'r hawl i brynu

    Mae Carl Sargeant yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared â'r hawl i brynu yn gyfangwbl oherwydd bod y cynllun yn cynyddu'r pwysau ar y cyflenwad tai cymdeithasol, ac yn gorfodi nifer o bobl bregus i aros yn hirach am gartref.

    Carl Sargeant
  10. Bananarama

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud roedd "nifer ohonom ni yn yr ysgol yn hoffi Bananarama eithaf tipyn".  

    Bananarama
    Image caption: Bananarama, band o'r wythdegau
  11. Perchnogaeth cartref - 'nid yr unig opsiwn'

    Mae Bethan Jenkins yn dweud nad perchnogaeth cartref yw'r unig opsiwn, ac y dylai cartrefi cymdeithasol gael yr un statws â pherchnogaeth cartref.  

    Bethan Jenkins
  12. Cefndir: 'Hawl i brynu'

    Fis diwethaf cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor Môn yw'r diweddaraf i benderfynu dod â chynllun tai 'hawl i brynu' i ben.

    Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, gytuno i'r cais "er mwyn sicrhau bod y cartrefi ar gael i'r rheiny sydd eu hangen".

    Mae cynghorau Abertawe a Sir Gâr eisoes wedi cael yr hawl i atal rhagor rhag cael eu gwerthu, a hynny er mwyn gwarchod eu stoc tai.

    Mae disgwyl i weinidogion gyflwyno deddfwriaeth er mwyn cael gwared â 'hawl i brynu' ar draws Cymru gyfan dros y flwyddyn nesaf.

    Roedd diddymu'r polisi, sydd yn deillio o gyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog, yn un o addewidion y Blaid Lafur yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad eleni.  

    Yn ôl Cyngor Môn, mae bron i hanner eu stoc tai wedi cael ei werthu bellach, gan adael llai na 4,000 o gartrefi ar ôl
    Image caption: Yn ôl Cyngor Môn, mae bron i hanner eu stoc tai wedi cael ei werthu bellach, gan adael llai na 4,000 o gartrefi ar ôl
  13. Yr 'hawl i brynu'

    Am yr awr nesa dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr " hawl i brynu".  

    Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod 130,000 o deuluoedd wedi cael cyfle i brynu eu tŷ cyngor eu hunain ers i'r polisi 'hawl i brynu' gael ei gyflwyno yng Nghymru ym 1980. 

    David Melding
  14. Edrych yn fanylach ar fanteision sefydlu cronfa

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn ei gwneud hi'n glir na all y llywodraeth ymrwymo i roi arian o'r newydd cyn y bydd proses y gyllideb wedi ei chwblhau. Ond mae'n hapus meddai i edrych yn fanylach ar fanteision sefydlu cronfa i alluogi i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig parcio am ddim. 

  15. 'Yr aelodau Cynulliad Llafur yma Dduw'

    "Yr aelodau Cynulliad Llafur yma Dduw" mae Neil McEvoy yn ebychu.

    "Allwch chi fwrw mlaen â hi os gwelwch yn dda?" medd y Dirprwy Lywydd Ann Jones.

    Neil McEvoy
  16. Cyfarfod brecwast

    Roedd yna dwrw yn y Siambr wrth i Russell George ddweud iddo gael "cyfarfod brecwast" y bore yma.

    Fe wnaeth ei arweinydd Andrew RT Davies ddrysu rhwng Brexit a brecwast tra'n siarad yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham ddoe.

  17. Strategaeth adfywio hir dymor

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn gweld yr angen am hwb a symbyliad i'r stryd fawr yng Nghymru drwy ddatblygu "strategaeth adfywio hirdymor, yn ymgorffori polisi cynllunio, trafnidiaeth gyhoeddus, a meithrin cysylltiadau agosach rhwng busnesau manwerthu ac awdurdodau lleol."  

    Russell George
  18. Dadl ar bwysigrwydd stryd fawr fywiog ac amrywiol

    Mae ail ddadl Plaid Cymru ar bwysigrwydd stryd fawr fywiog ac amrywiol er mwyn cefnogi mentrau lleol.

    Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    • Yn cydnabod pa mor bwysig yw stryd fawr fywiog ac amrywiol er mwyn cefnogi mentrau lleol. 
    • Yn gresynu bod nifer y siopau gwag ar ein stryd fawr yn gyson uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU. 
    • Yn gresynu at golli asedion cymunedol neu wasanaethau lleol o ganlyniad i'r defnydd ysgafn o'r stryd fawr yng Nghymru. 
    • Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru, a rhoi hwb hanfodol i adfywio canol trefi. 
    Sian Gwenllian
  19. Galw am warant diamod

    Ar ran y llywodraeth mae Lesley Griffiths yn galw ar Lywodraeth y DU i roi gwarant diamod i ariannu pob prosiect a gontractiwyd o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ar ôl Datganiad yr Hydref tan 2023.

    Lesley Griffiths
  20. Brexit

    Mae Neil Hamilton yn dweud bod hwn yn gyfle gwych, "y byd yw ein wystrysen" meddai. 

    Wystrys