Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesa 4 Hydref.
BBCCopyright: BBC
Gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru
Mae Eluned Morgan yn gobeithio dechrau trafodaeth, ar sail traws-bleidiol, ar wasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, gwasanaeth y mae hi'n gobeithio fyddai'n "cael ei garu a'i werthfawrogi fel y GIG."
BBCCopyright: BBC
Heriau i'r sector gofal yng Nghymru
Ac yn ola yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Eluned Morgan.
Y pwnc: Heriau i'r sector gofal yng Nghymru yn y dyfodol.
'Mandad i gyflawni'
Mae Jane Hutt yn ymateb ar ran y llywodraeth ac yn dweud "mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros ein rhaglen ac mae ganddon ni fandad i gyflawni'r rhaglen."
BBCCopyright: BBC
Neil Hamilton yn cael cerydd
Mae Neil Hamilton yn cael cerydd gan y Dirprwy Lywydd am gyfeirio at Joyce Watson fel "Joyless Watson".
Diffyg cynnwys
Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud hyn am y ddogfen, "hyd yn oed os ydyn ni'n derbyn mai dim ond 16 tudalen sydd i'r ddogfen... mae yna'n bendant ddiffyg cynnwys".
BBCCopyright: BBC
Rhaglen yr Wrthblaid
Mae Adam Price yn dadlau bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi "agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru".
Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos
Mae Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith bod Ysgrifennydd Iechyd San Steffan Jeremy Hunt wedi ennill brwydr Uchel Lys heddiw yn erbyn meddygon iau yn Lloegr a'u cytundeb newydd.
Fe fydd hyn yn golygu Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos meddai. "O leiaf mae Llywodraeth Prydain wedi gosod uchelgeisiau. Beth ydych chi wedi ei wneud yn y ddogfen hon?" ychwanega Mr Davies.
BBCCopyright: BBC
'Cyfleoedd bywyd'
Am yr awr nesa mae'r aelodau yn gwrando ar ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb.
'Methu rhagdybio proses y gyllideb'
"Rydw i'n cydnabod ysbryd y cynnig, ond allwn ni ddim rhagdybio proses y gyllideb" medd Carl Sargeant ar ran y llywodraeth.
BBCCopyright: BBC
Diogelu gwasanaethau ataliol allweddol
Mae Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr yn dweud bod ei blaid yn mynd gam ymhellach na Phlaid Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â'r rhaglen Cefnogi Pobl gan y gyllideb atal digartrefedd a'r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn, ac
cydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw'n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i'r gwasanaethau statudol ac yn llwyfan ar gyfer ffynonellau ariannu eraill i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith ataliol.
BBCCopyright: BBC
Nod y rhaglen
Yn ôl Llywodraeth Cymru nod y Rhaglen Cefnogi Pobl yw rhoi cymorth i:
bobl sy’n agored i niwed i fyw mor annibynnol ag y bo modd
rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain, mewn hosteli, tai â chymorth neu dai arbenigol eraill
atal problemau yn y lle cyntaf neu roi help mor gynnar ag y bo modd er mwyn osgoi rhoi cymaint o bwysau ar wasanaethau eraill megis iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
rhoi help ochr yn ochr â’r gofal personol neu feddygol fydd ei angen ar rai pobl
sicrhau bod gwasanaethau o safon yn cael eu darparu mor effeithiol ac mor effeithlon ag y bo modd drwy sicrhau bod sefydliadau sy’n cynllunio ac yn cyllido gwasanaethau a chyrff sy’n darparu gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd
hybu cydraddoldeb a lleihau anghydraddoldeb.
Dadl ar y Rhaglen Cefnogi Pobl
Yn ei hail ddadl mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.
'Cyllid ddim yn rhwystr'
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cadarnhau bod ei blaid yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.
"Rydyn ni wedi ein hymrwymo i sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i yrfa mewn nyrsio" meddai.
BBCCopyright: BBC
'Ymresymiad llywodraeth Prydain'
Mae Caroline Jones UKIP yn dweud nad yw hi'n deall rheswm llywodraeth Prydain dros gael gwared â'r fwrsariaeth.
Galwad am adolygiad "byr a phendant'
Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn galw am "adolygiad byr a phendant" o sut y mae modd gwneud y proffesiwn gofal iechyd yn fwy atyniadol.
Y fwrsariaeth nyrsio
Nesa dwy ddadl gan Blaid Cymru.
Mae'r cyntaf ar y fwrsariaeth nyrsio.
Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gadw'r fwrsariaeth nyrsio fel rhan o raglen ehangach i gynorthwyo rhagor o bobl o gefndiroedd incwm isel i gael gyrfaoedd yn GIG Cymru.
BBCCopyright: BBC
'Dim brechlyn flwyddyn nesaf'
Ar ran y llywodraeth mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd hi'n gwneud datganiad ar 18 Hydref ynghylch "agwedd newydd ar sut i gwared â TB".
"Gawn ni ddim brechlyn flwyddyn nesa" meddai wrth Simon Thomas, a "does ganddon ni ddim dyddiad pryd y cawn ni'r brechlyn".
BBCCopyright: BBC
Ffermwr yn ei ddagrau
Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn dweud bod ffermwraig oedd yn ceisio delio gyda TB buchol yn ei dagrau pan ffoniodd ei swyddfa yn wythnos ddiwethaf.
Mae Mr George yn darllen llythr gan y ffermwr sy'n dweud bod angen agwedd ddeubig gan y llywodraeth er mwyn cael gwared â'r clefyd.
BBCCopyright: BBC
Cefndir: TB buchol
Fe gafodd rhaglen frechu ei chyhoeddi gan weinidogion Llafur yn 2012, pan wnaethon nhw roi'r gorau i fwriad y llywodraeth glymblaid flaenorol Llafur/Plaid Cymru i ddifa moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys.
Y llynedd fe gafodd y cynllun i frechu moch daear yn erbyn TB buchol ei ohirio oherwydd prinder o ran cyflenwadau brechu.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl
A dyna ni am heddiw.