a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf, Medi 20.

    Y Senedd
  2. 20,000 o lanlordiaid

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet Carl Sargeant yn dweud bod 20,000 o lanlordiaid eisioes wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, a'i bod hi'n ofynnol i bod un gydymffurfio erbyn Tachwedd 23.

  3. Rhentu Doeth Cymru

    Mae Ms Rathbone yn nodi mai dim ond 10 wythnos sydd yna i gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014, trwy broses Rhentu Doeth Cymru. 

  4. Dadl Fer

    Ac yn ola heddiw Dadl Fer gan yr aelod Llafur Jenny Rathbone.

    A fydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ddigonol i fynd i'r afael â landlordiaid diegwyddor?  

    Jenny Rathbone
  5. 'Llawer o bobl neu lawer o olew'

    Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud eich bod chi angen "llawer o bobl neu lawer o olew" er mwyn i bobl eich cymryd o ddifrif ar lwyfan y byd, 

    Carwyn Jones
  6. 'Cyn lleied â £3 yr awr'

    Mae David Rowlands UKIP yn dweud nad yw deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi amddiffyn mewnfudwyr sy'n gweithio yn y busnes golchu ceir yng Nghymru, " y mwyafrif ohonyn nhw'n gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am gyn lleied â £3 yr awr."

    David Rowlands
  7. Aelodaeth lawn o'r farchnad sengl

    Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud bod cadw aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn hanfodol i fusnesau Cymru.

    Steffan Lewis
  8. 'Canlyniad gorau posibl i Gymru'

    Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd."

    Mark Isherwood
  9. 'Araith hunangyfiawn, hunanfodlon'

    Mae aelod Llanelli Lee Waters yn dweud ei fod wedi clywed "araith hunangyfiawn, hunanfodlon" Neil Hamilton sawl gwaith o'r blaen.

    Lee Waters
  10. Dadl UKIP ar Brexit

    Am yr awr nesaf bydd yna ddadl arall ynglŷn â Brexit, y tro yma gan UKIP.

    Mae Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Cynulliad, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth.

    2. Yn croesawu'r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru. 

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau posibl i Gymru. 

    Neil Hamilton
  11. Recriwtio a chadw

    Ar ran y llywodraeth mae Vaughan Gething yn dweud bod 

    "cyfradd recriwtio a chadw yng Nghymru wedi parhau'n gyson, gyda staff er enghraifft yn gadael mewn niferoedd llai pan yn cymharu â Lloegr." 

    Vaughan Gething
  12. 'Llwyth gwaith anodd i'w reoli'

    Mae Caroline Jones UKIP yn dweud bod y llwyth gwaith sy'n anodd ei reoli, wedi golygu bod nifer o feddygon teulu wedi gadael eu proffesiwn.

    Caroline Jones
  13. Ysgolion meddygol Cymru

    Dywed Rhun ap Iorwerth bod angen i strategaeth recriwtio a chadw gynnwys ymrwymiad i godi nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio mewn ysgolion meddygol yng Nghymru.  

    Rhun ap Iorwerth
  14. Dadl y Ceidwadwyr ar y Gwasanaeth Iechyd

    Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod cadw'r gweithlu rheng flaen yn her fawr sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.

    2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i gynnydd diweddar yn nifer y swyddi meddygon gwag yn y GIG yng Nghymru. 

    3. Yn cydnabod, â phryder, bod salwch sy'n gysylltiedig â straen yn gynyddol gyfrifol am y ffaith bod staff gwasanaethau ambiwlansys yn absennol o'r gwaith, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar recriwtio a chadw staff yn y tymor hwy.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth glir, gynhwysfawr sy'n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu recriwtio a chadw staff rheng flaen ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â morâl isel y staff yn ystod y Pumed Cynulliad.  

    Y Gwasanaeth Iechyd
  15. 'Dyfodol neilltuol i Gymru'

    Ar ran y llywodraeth mae Mark Drakeford yn dweud "mae'n rhaid i ni lunio dyfodol Cymru ochr yn ochr ag eraill."

    "Rydyn ni angen dyfodol neilltuol i Gymru, ond nid dyfodol ar wahân."

    Mark Drakeford
  16. Nifer o seddi gwag

    Y Siambr
    Image caption: Nifer o seddi gwag yn y Siambr yn ystod dadl Plaid Cymru
  17. Dechrau Erthygl 50

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud ei bod hi'n "hanfodol i weithio'n flaengar gyda Llywodraeth Prydain a'r llywodraethau datganoledig eraill cyn galw Erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny."

    Nick Ramsay
  18. 'Dryswch'

    Mae Mr Price yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ddryswch ynghylch y cynllun Brexit sydd o'r budd mwya i Gymru."

    Baneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd
  19. Dadl Plaid Cymru

    Nawr y cyntaf o ddadleuon y prynhawn. 

    Mae Adam Price yn cynnig bod y Cynulliad:

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:

    (a) diogelu Cymru rhag canlyniadau negyddol a allai ddigwydd ar unwaith ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd;

    (b) cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy: 

    (i) creu asiantaeth ddatblygu i Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;

    (ii) sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion gwyrdd; 

    (iii) codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. 

    Adam Price
  20. Gwahardd smacio plant?

    Mae Mr Sargeant yn cadarnhau ei fwriad i "fwrw mlaen, ar sail cefnogaeth trawsbleidiol, â deddfwriaeth fydd yn cael gwared â'r amddiffyniad o gosb rhesymol" am fwrw plentyn.

    Fe gafodd cais i wahardd rhieni rhag smacio plant ei wrthwynebu gan weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2014.

    Smacio plant