Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth.
Y tywyd heno...
Tywydd, BBC Cymru
Dywed Llyr Griffiths-Davies:
"Heno bydd y glaw’n y gorllewin yn parhau ac yn symud tua’r gogledd. Dros nos, fe fydd y glaw’n clirio, ‘da’r tymheredd isa’n 15C. Niwl a tharth yn ffurfio mewn manne erbyn y bore."
Teyrngedau i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd
BBC Cymru Fyw
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn ifanc fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Ngwynedd dros y penwythnos.
Mae wedi ei enwi'n lleol fel Guto Pugh, 21 oed, o Fachynlleth a bu farw yn y digwyddiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo fore Sadwrn.
Gordyfiant yn effeithio ar ddiogelwch y ffyrdd
Cyngor Ynys Môn
Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu hannog i chwarae eu rhan yn y gwaith o fynd i’r afael efo dail a choed sy’n gordyfu allan i’r ffordd.
Mae cwynion dros yr haf am lystyfiant sy’n tyfu allan o erddi a chaeau wedi arwain Swyddogion Priffyrdd i rybuddio pobl am yr effeithiau posibl ar ddiogelwch y ffyrdd.
Mae Syr Derek Jones yn camu o'r neilltu yn ei swydd fel ysgrifennydd parhaol i Lywodraeth Cymru wedi pedair blynedd.
BBCCopyright: BBC
Amina Al-Jeffery dal heb ddychwelyd
Golwg 360
Dywed Golwg360 fod merch 21 oed o Abertawe sy’n honni ei bod wedi’i ‘charcharu gan ei thad yn Saudi Arabia’ dal heb ddychwelyd i’r DU.
Daw hyn er gwaethaf gorchymyn gan farnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain ar 3 Awst y dylai tad Amina Al-Jeffery, yr academydd Mohammed Al-Jeffery, sicrhau ei bod yn dychwelyd yn ddiogel i Brydain erbyn 11 Medi.
Yr haul ar ei ffordd nôl!
Twitter
Mae Derek Brockway wedi trydar rhagolygon y tywydd ar gyfer Cymru dros y dyddiau nesaf: phew!
Yr ardaloedd dan fygythiad yw o gwmpas afonydd Conwy, Dyfi, Dysynni, Mawddach (ac Wnion) a Glaslyn (a Dwyryd).
Parch yn y Ffrinj
BBC Cymru Fyw
Mae hi'n gyfnod Gŵyl Ffrinj Caeredin ac unwaith eto eleni, mae nifer o Gymry yn perfformio yno. Yn eu plith, mae'r actores Carys Eleri - wyneb cyfarwydd i ni fel y Parch Myfanwy Elfed yn y gyfres 'Parch' ar S4C. Mae hi'n perfformio yn y ddrama 'Yuri' yn yr ŵyl - drama sydd wedi derbyn adolygiadau rhagorol.
Mae gwyddonwyr o brifysgolion Bangor a Rhydychen wedi darganfod bod sidan pry cop yn eu galluogi i weld yn fanylach.
ThinkstockCopyright: Thinkstock
Rhybudd ar draethau
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd a Gwylwyr y Glannau wedi uno i gyhoeddi rhybudd i bobl yn dilyn penwythnos o ddigwyddiadau trasig ar draethau'r DU.
Daeth y rhybudd wedi i luniau ymddangos o fechgyn ifanc yn chwarae ar forglawdd ym Mhorthcawl - dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod yn ffodus i fod yn fyw.
Dywed Davies fod ganddo ddewis clir i'w wneud - chwarae yn Lloegr a rhoi'r gorau i chwarae yn rhyngwladol, neu dychwelyd i Gymru. Fe arwyddodd gytundeb deuol gyda'r Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
A dyna ni...
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth.
Y tywyd heno...
Tywydd, BBC Cymru
Dywed Llyr Griffiths-Davies:
"Heno bydd y glaw’n y gorllewin yn parhau ac yn symud tua’r gogledd. Dros nos, fe fydd y glaw’n clirio, ‘da’r tymheredd isa’n 15C. Niwl a tharth yn ffurfio mewn manne erbyn y bore."
Teyrngedau i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd
BBC Cymru Fyw
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn ifanc fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Ngwynedd dros y penwythnos.
Mae wedi ei enwi'n lleol fel Guto Pugh, 21 oed, o Fachynlleth a bu farw yn y digwyddiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo fore Sadwrn.
Gordyfiant yn effeithio ar ddiogelwch y ffyrdd
Cyngor Ynys Môn
Mae trigolion Ynys Môn yn cael eu hannog i chwarae eu rhan yn y gwaith o fynd i’r afael efo dail a choed sy’n gordyfu allan i’r ffordd.
Mae cwynion dros yr haf am lystyfiant sy’n tyfu allan o erddi a chaeau wedi arwain Swyddogion Priffyrdd i rybuddio pobl am yr effeithiau posibl ar ddiogelwch y ffyrdd.
Gŵyl gerddoriaeth: Arestio chwech
Daily Post
Dywed y Daily Post fod pump o bobl wedi cael eu harestio am droseddau yn ymwneud a chyffuriau, ac un am gario arf bygythiol, a hynny ar ôl i'r heddlu dargedu modurwyr oedd yn teithio i ŵyl gerddoriaeth dros y penwythnos.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn targedu cerbydau oedd ar y ffordd i Glass Butter Beach yn Llanbedrog dros y penwythnos.
Llofruddiaeth dynes yn Llandaf: Cadw dyn yn y ddalfa
BBC Cymru Fyw
Mae dyn 23 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes yng Nghaerdydd.
Cafodd Jordan Matthews ei arestio ddydd Gwener, 19 Awst yn dilyn marwolaeth Xixi Bi, 24, mewn eiddo yn Heol Trelái, Llandaf.
Guidolin i geisio efelychu ei ddyddiau gyda Vicenza
The Daily Mail
Yn ôl y Daily Mail bydd rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin, yn ceisio efelychu ei lwyddiant gyda'r clwb Vicenza yn yr Eidal drwy ennill Cwpan y Gynghrair gyda'r Elyrch y tymor yma.
Enillodd Guidolin Coppa Italia gyda Vicenza yn 1997 i ennill tlws mawr cyntaf y clwb.
Dixon yn awyddus i greu argraff
South Wales Argus
Ar wefan y South Wales Argus mae canolwr y Dreigiau Jack Dixon wedi dweud ei fod yn awyddus i greu argraff y tymor hwn wedi tymor llawn anafiadau y llynedd. Cafodd Dixon anaf a gododd amheuaeth a fyddai'n gallu parhau i chwarae rygbi yn broffesiynol.
Brexit: 'Rhan ganolog' i brif was sifil nesaf Cymru
BBC Cymru Fyw
Bydd prif was sifil nesaf Cymru'n chwarae "rhan ganolog" yn y gwaith o gael y cytundeb gorau i'r wlad wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai hysbyseb am y swydd.
Mae Syr Derek Jones yn camu o'r neilltu yn ei swydd fel ysgrifennydd parhaol i Lywodraeth Cymru wedi pedair blynedd.
Amina Al-Jeffery dal heb ddychwelyd
Golwg 360
Dywed Golwg360 fod merch 21 oed o Abertawe sy’n honni ei bod wedi’i ‘charcharu gan ei thad yn Saudi Arabia’ dal heb ddychwelyd i’r DU.
Daw hyn er gwaethaf gorchymyn gan farnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain ar 3 Awst y dylai tad Amina Al-Jeffery, yr academydd Mohammed Al-Jeffery, sicrhau ei bod yn dychwelyd yn ddiogel i Brydain erbyn 11 Medi.
Yr haul ar ei ffordd nôl!
Twitter
Mae Derek Brockway wedi trydar rhagolygon y tywydd ar gyfer Cymru dros y dyddiau nesaf: phew!
Ffordd yr A55 wedi ail agor
Twitter
Rhybuddion am lifogydd posib
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 5 rhybudd i fod yn barod am lifogydd yng Nghymru.
Yr ardaloedd dan fygythiad yw o gwmpas afonydd Conwy, Dyfi, Dysynni, Mawddach (ac Wnion) a Glaslyn (a Dwyryd).
Parch yn y Ffrinj
BBC Cymru Fyw
Mae hi'n gyfnod Gŵyl Ffrinj Caeredin ac unwaith eto eleni, mae nifer o Gymry yn perfformio yno. Yn eu plith, mae'r actores Carys Eleri - wyneb cyfarwydd i ni fel y Parch Myfanwy Elfed yn y gyfres 'Parch' ar S4C. Mae hi'n perfformio yn y ddrama 'Yuri' yn yr ŵyl - drama sydd wedi derbyn adolygiadau rhagorol.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Carys yng nghanol ei phrysurdeb.
Lens o we pry cop gan wyddonwyr Bangor yn torri tir newydd
BBC Cymru Fyw
Mae gwe pry' cop wedi ei defnyddio i greu lens newydd sy'n galluogi gwyddonwyr i weld pethau oedd yn cael eu hystyried yn anweladwy yn y gorffennol.
Mae gwyddonwyr o brifysgolion Bangor a Rhydychen wedi darganfod bod sidan pry cop yn eu galluogi i weld yn fanylach.
Rhybudd ar draethau
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd a Gwylwyr y Glannau wedi uno i gyhoeddi rhybudd i bobl yn dilyn penwythnos o ddigwyddiadau trasig ar draethau'r DU.
Daeth y rhybudd wedi i luniau ymddangos o fechgyn ifanc yn chwarae ar forglawdd ym Mhorthcawl - dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod yn ffodus i fod yn fyw.
Damwain ar yr A55
Twitter
Bradley yn rhybuddio am chwarae yn Lloegr
Wales Online
Ar wefan WalesOnline mae ail-reng Cymru, Bradley Davies, yn rhybuddio ei gyd-chwaraewyr o Gymru am y peryglon o chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr.
Dywed Davies fod ganddo ddewis clir i'w wneud - chwarae yn Lloegr a rhoi'r gorau i chwarae yn rhyngwladol, neu dychwelyd i Gymru. Fe arwyddodd gytundeb deuol gyda'r Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru.
Gwasanaeth coffa i dad a mab
BBC Cymru Fyw
Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal yn Aberdaugleddau heddiw er cof am ddau bysgotwr lleol aeth ar goll ym mis Ebrill.
Aeth Gareth Willington, 59 oed, a'i fab Daniel, 32, ar goll ar ôl i'w cwch - yr Harvester - suddo oddi ar Benrhyn Dewi.
Dynes ar goll: Heddlu yn parhau i chwilio
Daily Post
Mae'r Daily Post wedi adrodd fod yr heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad dynes o Gaernarfon, yn parhau i chwilio safle hen chwarel ger y dref.
Mae Avril Whitfield wedi bod ar goll ars 1 Ebrill.