a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw yn ol am 08:00 ddydd Iau.

  2. Glaw wedi cadw draw tan y p'nawn

    Sioe Môn

    Er gwaethaf ychydig o law ddiwedd p'nawn Mercher, fe gafwyd deuddydd gweddol braf yn Sioe Môn.

      Heno, bydd peth glaw i ddechrau yn y gogledd ond bydd gweddill y noson yn sych a chymylog. Bydd hi’n noson eithaf mwyn, y tymheredd isaf yn 11°C.  

    Ymbarel yn Sioe Môn
  3. Heddlu Gwent yn chwilio am leidr

    Heddlu Gwent

    Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth, yn dilyn lladrad yng Nghasnewydd nos Lun.

    Fe aeth y troseddwr i mewn i dŷ yn Dewsland Park Road toc wedi 19:00, gan ddwyn eitemau o emwaith.

    Mae’r lleidr wedi cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 40 oed, yn gsigwo crys-T llwyd a phâr o jîns glas.

  4. Hen beiriannau

    Sioe Môn

    Y digwyddiad olaf yn y prif gylch yn Sioe Môn oedd yr arddangosfa o hen geir a pheiriannau fferm.

    Ewch i weld ein horiel o weddill lluniau'r dydd yn yr adran Gylchgrawn.

    Hen gerbydau yn Sioe Môn
  5. Campau campus

    Sioe Môn

    Mae styntiau mentrus Moto Stunts International wedi bod yn atyniad poblogaidd iawn yn y prif gylch b'nawn ddoe a heddiw ar faes Sioe Môn.

    Moto Stunts International
  6. Dim medal i Thomas

    Y Gemau Olympaidd

    Ni lwyddodd y seiclwr Geraint Thomas i ennill medal yng nghystadleuaeth seiclo yn erbyn y cloc yn Rio heddiw.

  7. Pokémon Go yn denu mwy o ymwelwyr i Bortmeirion

    Golwg 360

    Mae pentref Portmeirion wedi cadarnhau bod mwy o ymwelwyr wedi bod yno eleni o ganlyniad i’r gêm gyfrifiadurol, Pokémon Go.

    Mae’n debyg bod gan y pentref ymwelwyr ‘Pokémon’ arbennig yn cuddio rhywle a bod hynny wedi denu mwy o bobol yno dros yr ha’ eleni.

    Nod y gêm yw chwilio am gymeriadau Pokémon trwy ddefnyddio camera ffôn clyfar a chipio’r cymeriadau drwy eu hychwanegu i’ch casgliad. Mae’r gêm yn boblogaidd iawn, gyda phobol o bob oedran yn cymryd rhan ledled y byd.

  8. Moniars yn morio

    Sioe Môn

    Dydi hi ddim yn Sioe Môn heb y Moniars  ...

    Arfon Wyn a'r Moniars
  9. Cwmni bysiau yn cau

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwmni bysiau Lewis o Lanrhystud wedi cyhoeddi ar eu gwefan y byddant yn cau eu drysau am y tro olaf ar ddydd Gwener 12 Awst, a hynny o achos rhesymau busnes sydd tu hwnt i'w rheolaeth.

     Mae'r cwmni wedi diolch i'w cwsmeriaid am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd. 

  10. Tân mewn gwesty yng Nghasnewydd

    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi bod yn delio gyda thân mewn gwesty yng Nghasnewydd.

    Mae ymladdwyr tân o Malpas, Maendy, Dyffryn, Cil-y-coed a Chwmbrân yn ymateb er mwyn ceisio diffodd y fflamau yn y New Inn Hotel ar Ffordd Cas-gwent yn y ddinas.

  11. Dyweddiad hapus

    Twitter

    Mae'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd Aled Haydn Jones wedi cytuno i briodi ei bartner, Emile. Llongyfarchiadau mawr i'r ddau.

    View more on twitter
  12. Limousins Môn

    Sioe Môn

    Dyfarnodd y beirniad, Dai Jones, mai gwartheg Limousin Peredur a Llŷr Hughes, Fferam Gyd, Ynys Môn, oedd pencampwyr grŵp yr holl fridiau yn Sioe Môn. Enillon nhw hefyd bencampwr gwrywaidd ifanc yr holl fridiau.

    Gwartheg Limousin
  13. Pynciau craidd: y bwlch rhwng bechgyn a merched yn tyfu

    Golwg 360

    Dywed golwg360 fod y bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched mewn pynciau craidd yn “frawychus” ac yn “annerbyniol”, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

    Yn ôl yr adroddiad, mae merched rhwng saith a 14 oed wedi perfformio’n well na bechgyn ym mhob pwnc a maes dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3.

    Eleni yw’r tro cyntaf ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn 2012 i’r bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched ehangu yn y Dangosyddion Cyfnod Sylfaen.

  14. Thomas wedi cychwyn

    Y Gemau Olympaidd

    Mae Geraint Thomas newydd gychwyn ar ei ymgais i ennill medal Olympaidd arall. Mae'r Cymro newydd ddechrau ar 54km yn erbyn y cloc. Pob lwc!

    thomas
  15. Profiad 'reit sbwci'

    BBC Cymru Fyw

    Dydy o ddim yn achlysur y mae nifer fawr ohonom ni wedi meddwl amdano... eto. Ond y cwestiwn sy'n cael ei ofyn mewn cyfres newydd o Er Cof a Chadw ar Radio Cymru ydy pa gerddoriaeth fyddech chi yn ei dymuno yn eich hangladd?

    Y gwestai cyntaf i ddewis ei chwe chân ydy'r cyflwynydd Mari Lovgreen. Mae hi wedi bod yn trafod y broses o ddethol y caneuon gyda Cymru Fyw.

    mari
  16. Medal i Bale

    Er nad oedd yn chwarae neithiwr, mae Gareth Bale wedi derbyn medal enillwyr SuperCup UEFA wedi i Real Madrid guro Sevilla yn y gêm yn Norwy. Mae'n ymddangos i fod yn reit falch am gael medal am wneud dim byd, ond mae'n haeddu rhywbeth ar ddiwedd haf arwrol tydi!

    View more on twitter
  17. Dyna well-iant

    Sioe Môn

    Wedi llwyddiant yn Sioe Llanelwedd eleni mae Mona o Lansannan yn gwneud yn siwr fod ei dafad bedigri Gymreig yn edrych ei gorau ar gyfer y p'nawn 'ma gyda gwellau draddodiadol.

    Mona yn torri gwlân dafad gyda gwellau