a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Tîm mwyaf llwyddiannus Cymru erioed yn cyrraedd 'nôl i Gaerdydd
  2. Y dathliadau'n cynnwys taith bws trwy'r ddinas a chyngerdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd
  3. BBC Cymru'n fyw gyda'r tîm yr holl ffordd

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    Dyna ni am heno. Diolch yn fawr am ymuno â ni i ddathlu llwyddiant aruthrol y tîm cenedlaethol dros y mis diwethaf.

    Ond nid dyma'r diwedd. Dim ond deufis i fynd nes dechrau'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd Rwsia 2018!

    Pob hwyl, a nos da!

    Diolch
  2. Y garfan yn cyd-ganu'r anthem

    Chwaraewyr
  3. Diweddglo addas i ddiwrnod anhygoel

    Gwawr Edwards yn canu'r anthem i gloi'r dathliadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Video content

    Video caption: ANTHEM
  4. Gyda'n Gilydd. Yn Gryfach

    Stadiwm
  5. Geiriau caredig gan y capten a'r rheolwr

    Ashley Williams am Coleman: "Mae'n arweinydd anhygoel i ni. Mae'n ein hysbrydoli ond yn gwneud i ni ymlacio hefyd ar yr un adeg."

    Chris Coleman: "Mae gen i dîm grêt o chwaraewyr sydd gyda deheuad enfawr i wneud yn dda ar gyfer eu cenedl."

  6. Aaron Ramsey yn annerch y dorf

    Stadiwm
  7. Bale yn chwifio i'w ferch

    Mae merch Gareth Bale, Alba wedi dod yn enwog am symud yn gyflym.

    Daeth hi ar y cae wedi'r gêm yn erbyn Rwsia a dywedodd Bale ei fod yn cael trafferth ei dal!

    Mae hi yn y dorf a dyma ei thad yn chwifio ati.

    Gareth Bale
  8. Y stadiwm yn llawn dop

    Stadiwm
  9. Croeso arwrol i Gareth Bale

    Video content

    Video caption: Croeso gan y dorf i Gareth Bale
  10. Y chwaraewyr yn diolch am y gefnogaeth

    Clapio
  11. Y chwaraewyr yn cael eu cyflwyno i'r dorf

    Video content

    Video caption: Y dorf yn stadiwm Caerdydd yn croesawu'r tîm.
  12. Ac mae'r dorf yn y stadiwm yn mwynhau!

    Y dorf
  13. 'Mis anhygoel'

    Mae Ffion newydd gyrraedd yn ôl o Ffrainc y bore 'ma, ac yn syth allan ar strydoedd Caerdydd a hi!

    Video content

    Video caption: 'Mis anhygoel'