a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Portiwgal 2-0 Cymru
  2. Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld
  3. Collins a King yn nhîm Cymru yn lle Davies a Ramsey
  4. Pepe wedi ei anafu, gyda Bruno Alves yn cymryd ei le
  5. Y gic gyntaf yn Lyon am 20:00 (amser Prydain)
  6. Yr enillydd i herio Ffrainc neu'r Almaen yn y ffeinal nos Sul
  7. Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Merci et au revoir!

    BBC Cymru Fyw

    Er i Gymru fethu a gwneud yr un cam olaf, mae'n rhaid diolch i Chris Coleman, Osian Roberts, eu tîm, a'r holl gefnogwyr sydd wedi bod yn cynrychioli'r wlad ar lwyfan y byd dros yr wythnosau diwethaf. 

    Pwy fysa'n meddwl bedair mlynedd yn ol y buasai Cymru'n cyrraedd rownd gyn derfynol un o gystadlaethau chwaraeon mwya’r byd? 

    Mae'r garfan wedi llwyddo i gydio yng nghalon a dychymyg cenedl, ac er fod y freuddwyd ar ben am rŵan, mae'r tîm wedi hoelio'u lle yn y llyfrau hanes.

    ffans
  2. 'Cefnogwyr wedi bod yn anhygoel'

    BBC Cymru Fyw

    John Hartson: "Mae cefnogwyr Cymru wedi bod yn anhygoel.

    "Mae pawb dros y byd yn siarad am pa mor dda mae'r chwaraewyr wedi gwneud.

    "Ond y cefnogwyr, dydyn nhw heb stopio, a dim trwbwl o gwbl, gwych gan bob un ohonyn nhw."

    Coleman
  3. Bale: 'Rhaid bod yn falch'

    BBC Cymru Fyw

    Gareth Bale: "Siomedig iawn, ond rhaid bod yn falch o'n hunain.

    "Rydyn ni wedi cyflawni llawer iawn fel grŵp, ond yn y pen draw, siomedig.

    Ychwanegodd: "Y cefnogwyr yw'r gorau yn y byd o bell ffordd, yn dal i ganu pan oedden ni'n colli."

    Bale
  4. Gair rhwng y Galacticos

    BBC Cymru Fyw

    Bale a Ronaldo
  5. Post update

    Wali Tomos

    Wel, ma'f daith wedi dod i ben, ond wyddoch chi be' hogia, ma' hi wedi bod yn gythfal o feid!!!!!!!!!!!!! Da bo.

  6. A dyna ni...

    Euro 2016

    Mae taith Cymru yn Euro 2016 drosodd.

    Portiwgal yn ennill o 2-0 yn y rownd gyn derfynol.

    bale
  7. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cic Rydd

    Cic rydd i Portiwgal, wedi i Joe Allen, daclo Quaresma yn galed.

  8. Portiwgal 2-0 Cymru

    Fe fydd o leiaf tri munud o amser ychwanegol.

  9. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cerdyn Melyn

    Cerdyn melyn i Gareth Bale am fynd i mewn i dacl gyda'i goes yn uchel.

    Bale
  10. Portiwgal 2-0 Cymru

    Eilyddio

    Ricardo Quaresma ymlaen yn lle Luis Nani.

  11. Portiwgal 2-0 Cymru

    Dim y tro hwn, ond mae Cymru'n bendant yn codi eu gêm.

    Mae pawb yn ymosod!

    Bale
  12. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cic Rydd

    Tacl galed ar Bale, cic rydd, ai dyma'r cyfle???

  13. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cymru yn ceisio codi tempo, wrth i ergydion ddechrau cyrraedd cwrt cosbi Portiwgal, oes 'na ddigon o amser?

    Ergyd wych gan Bale o 30 llath ond arbediad campus gan Rui Patricio.

  14. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cymru yn gwasgu a phwyso, ceisio gwneud yn fawr o bob cyfle.

  15. Portiwgal 2-0 Cymru

    Eilyddio

    Joao Moutinho ymlaen yn lle Adrien Silva gyda ychydig dros 10 munud yn weddill.

  16. Portiwgal 2-0 Cymru

    Eilyddio

    Andre Gomes o glwb Valencia ymlaen yn lle Renato Sanches i Portiwgal.

    Rentao Sanches
  17. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cerdyn Melyn

    Y dyfarnwr yn dangos y cerdyn melyn i Bruno Alves, wrth iddo wneud niwsans  o'i hun.

    Yna Cristiano yn cael cerdyn melyn hefyd am dacl ar Jonathan Williams.