a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  3. Dadl Plaid Cymru ar iechyd a gofal cymdeithasol
  4. Dadl y Ceidwadwyr ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
  5. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yr Undeb Ewropeaidd.
  6. Dadl Fer: Ymgyrch refferendwm yr UE

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl Fawr

    A dyna ddiwedd Senedd Fyw am heddiw.

    Beth bynnag fo canlyniad y Refferendwm yfory ar yr Undeb Ewropeaidd, fe fyddwn ni'n ôl ddydd Mawrth nesa Mehefin 28. 

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Aros neu adael?

    Ac yn ola Dadl Fer gan AC Llafur dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan. Mae'r ddadl hon hefyd am yr Undeb Ewropeaidd ond o safbwynt gwahanol.

    "Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?"    

    Baner Cymru a Baner yr Undeb Ewropeaidd
  3. Stori â rhybudd

    Wrth i ni gyrraedd cyfnod pleidleisio, dylai pob AC newydd ddysgu gwers gan y camgymeriad a wnaed gan aelod bron yn union 10 mlynedd yn ôl, ar 20 Mehefin 2006. 

    Galwodd Plaid Cymru am ymchwiliad cyhoeddus i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, er bod y llywodraeth wedi datgan bod hyn yn ddiangen gan fod ymchwiliadau mewnol eisoes yn cael eu cynnal.

    Y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons AC fu'n arwain dadl y llywodraeth yn erbyn yr ymchwiliad, ond fe wnaeth gamgymeriad wrth bleidleisio gyda'r wrthblaid am ymchwiliad. 

    Cafodd y cynnig o blaid ymchwiliad ei basio o 28 pleidlais i 26. 

    Bu cryn dipyn o wawdio yn y Siambr pan gyfaddefodd Dr Gibbons ei fod wedi gwneud camgymeriad. Dywedodd y Llywydd ei fod yn gwerthfawrogi gonestrwydd y gweinidog, ond nad oedd yn gallu newid y canlyniad. 

    Fe ychwanegwyd at rwystredigaeth y llywodraeth yn hwyrach, pan ddangosodd y record bleidleisio nad oedd rhagflaenydd Dr Gibbons, Jane Hutt, wedi pleidleisio o gwbl yn ystod y sesiwn.

    Dr Brian Gibbons
  4. Cynnig UKIP wedi ei drechu

    Mae cynnig UKIP bod y Cynulliad Cenedlaethol:

    "Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n gadael yr Undeb Ewropeaidd"

    wedi cael ei drechu. Roedd 10 o blaid y cynnig a 38 yn erbyn.  

    y bleidlais
  5. 'Rhwng biwrocratiaeth a democratiaeth'

    Wrth ymateb i'r ddadl mae Neil Hamilton yn dweud ei fod "wedi rhyfeddu at bobl yn y Siambr sydd â barn wahanol i mi".

    Mae'n dweud bod y ddadl yn sylfaenol "rhwng biwrocratiaeth a democratiaeth".

  6. 'Trosglwyddo cyfrifoldebau'

    Mae Steffan Lewis, Plaid Cymru, yn dweud y byddai pleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â throsglwyddo cyfrifoldebau oddi wrth y bartneriaeth Ewropeaidd i ddwylo llywodraeth San Steffan, fyddai'n rhydd i wneud fel y mynnant i gymunedau Cymreig".

    Steffan Lewis
  7. 'Undod'

    "Dylai ardaloedd gwanaf Ewrop gael cymorth gan yr ardaloedd cryfa, ac mae Cymru yn elwa o hynny" medd aelod Llafur Llanelli, Lee Waters.

    Lee Waters
  8. 'Ateb y 1940au i broblem y 1930au'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn " ateb y 1940au i broblem y 1930au" a bod yr UE wedi cael ei greu i ddatrys problem sydd ddim bellach yn berthnasol yn yr unfed ganrif ar ddeg.

    Map o Gymru a logo yr Undeb Ewropeaidd
  9. Yr Undeb Ewropeaidd - Dadl dros adael

    Wrth i'r ddwy ymgyrch o blaid aros a gadael yr Undeb Ewropeaidd fwrw ati ar ddiwrnod llawn ola'r ymgyrchu mae gan UKIP ddadl ar yr UE. Mae Neil Hamilton yn cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

    "Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n gadael yr Undeb Ewropeaidd." 

    Wythnos yn ôl yn y Senedd fe gafodd cynnig bod y Cynulliad: 

    "Yn credu bod Cymru yn gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus petai'n parhau yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd" ei basio. Roedd 44 o blaid y cynnig 9 yn erbyn.

  10. 'Tymor Pum-mlynedd llawn'

    Fe fydd cynghorwyr sy'n cael eu hethol yn yr etholiadau llywodraeth leol flwyddyn nesa yn gallu disgwyl gwasanaethu am dymor pum-mlynedd llawn, medd Mr Drakeford.

  11. 'Does dim modd cynnal y status quo mewn llywodraeth leol'

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, yn dweud nad oes modd "cynnal y status quo mewn llywodraeth leol" gyda chynnydd yn y gofynion a llai o arian. Ond mae'n cydnabod nad oes consensws ynglŷn a map llywodraeth leol. 

    Mark Drakeford
  12. Galw am bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol

    Mae Sian Gwenllian yn cyfeirio at Adroddiad Sunderland ar drefniadau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, gafodd ei gyhoeddi yng Ngorffennaf 2002.

    Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn "sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol." 

  13. Diwygio llywodraeth leol

    Mae disgwyl cynllun newydd ar ad-drefnu cynghorau i gael ei gyflwyno erbyn yr Hydref - dyna ddywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol newydd yn gynharach y mis hwn. Dywedodd Mark Drakeford nad oedd cynllun bellach i dorri nifer y cynghorau o 22 i 8 neu 9.

  14. Dadl y Ceidwadwyr ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

    Dyma rai o'r cynigion mae'r Ceidwadwyr yn eu rhoi gerbronyn y ddadl: Cynnig bod y Cynulliad:

    Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru; Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol;

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.  

  15. 'Y darlun yn gwella yng Nghymru o ran trosglwyddo cleifion'

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, yn dweud bod "y darlun yn gwella yng Nghymru yn nhermau oedi gyda throsglwyddo cleifion, hyn mewn cyferbyniad â Lloegr".

    Vaughan Gething
  16. 'Dewch â gwasanaethau yn agosach at gartrefi pobl'

    Mae aelod UKIP Caroline Jones yn gresynu at gau ysbytai cymuned ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac ailsefydlu ysbytai cymuned pan fydd hynny'n bosibl er mwyn dwyn gwasanaethau yn nes at gartrefi pobl.

    Caroline Jones
  17. 'Asesiadau aros yn y cartref o gymorth i bobl flaen gynllunio'

    Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno asesiadau aros yn y cartref gwirfoddol i hybu byw'n annibynnol a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol. 

    Gwely ysbyty
  18. Angen mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol

    Mae Rhun ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a "chynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd". 

    Rhun ap Iorwerth
  19. Yr heriau i'r Gwasanaeth Iechyd wrth ofalu am boblogaeth hŷn

    Pwnc Dadl Plaid Cymru yw'r heriau i'r Gwasanaeth Iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.

    Mae poblogaeth Prydain yn heneddio - ac erbyn 2050 bydd chwarter y boblogaeth dros 65 oed. Mae'r mater yn fwy fwy amlwg yma yng Nghymru. Mae disgwyl i dros dreian o boblogaeth Cymru fod dros 60 erbyn 2055, ac erbyn 2069 y bobl hynny dros 75 fydd y gyfran fwya o oedran y boblogaeth gyfan.