a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol
  4. Datganiad ar weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
  5. Datganiad Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar Ddarlledu yng Nghymru
  6. Datganiad ar Arolwg Iechyd Cymru
  7. Datganiad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn nesaf.

    Y Senedd
  2. Lleihau gwastraff bwyd

    Mae Simon Thomas yn siarad am leihau gwastraff bwyd.

    Mae'r elusen lleihau gwastraff WRAP yn amcangyfrif bod cyfanswm y bwyd a'r diod sy'n cael eu taflu gan werthwyr a chyfanwerthwyr tua 250,000 tunnell y flwyddyn ym Mhrydain.

  3. Dros hanner ffordd tuag at y targed ar gyfer 2020

    Mae Lesley Griffiths yn dweud eu bod yn gwneud yn well na'r disgwyl a'u bod dros hanner ffordd tuag at gyrraedd targed 2020 i gynyddu'r gwerthiant i £7 biliwn.

    Cadwyn gyflenwi bwyd Cymru yw un o sectorau busnes mwyaf Cymru. Cyflogir dros 170,000 o bobl y o fewn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod drwyddi draw. Amcangyfrifir fod cyfanswm gwerth y sector i economi Cymru, o ystyried y sectorau amaethyddol, prosesu a manwerthu, dros £1 biliwn y flwyddyn.

    Lesley Griffiths
  4. Tuag at Dwf Cynaliadwy

    Ac yna olaf datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Y wybodaeth ddiweddaraf am "Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020". 

    Yn 2014 fe gafodd cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru addewid y byddai'r cynllun gweithredu yn cynyddu gwerthiant dros 30% dros chwe blynedd.

    Y gweinidog oedd â'r cyfrifoldeb am y diwydiant ar y pryd oedd Alun Davies, ac fe ddywedodd bryd hynny ei fod eisiau i'r llywodraeth gael ei dal i gyfrif os na fyddai'n cwrdd â'r targedau.

    Roedd e eisiau i'r gwerthiant gynyddu i £7 biliwn erbyn 2020.  

  5. Un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru yn ordew

    Yn ôl  Arolwg Iechyd Cymru 2015 mae un o bob pedwar o oedolion yng Nghymru yn ordew, a bron i 60% dros bwysau.

    Mae meddygon a gwleidyddion yn dweud bod y ffigyrau yn adlewyrchu mor ddifrifol yw cyflwr iechyd cyhoeddus.

    Ond mae nifer yr oedolion sy'n smygu wedi gostwng i'w lefel isa 19% ac mae'r nifer sy'n gor-yfed mewn pyliau hefyd wedi gostwng.

    Mae dros hanner oedolion Cymru yn cael eu trin ar gyfer salwch; 

    20% o oedolion yn cael eu trin ar gyfer pwysedd gwaed uchel, 13% ar gyfer salwch meddwl.

    Fe wnaeth cyfanswm o 13,700 o oedolion a 2,600 o blant gymryd rhan yn yr arolwg.

    Mae nifer y plant ac oedolion gordew yng Nghymru ar gynnydd
  6. Datganiad ar Arolwg Iechyd Cymru

    Y pwnc nesa dan sylw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, ar Arolwg Iechyd Cymru. 

    Mae'r arolwg yn darparu gwybodaeth am statws iechyd, salwch, ffordd o fyw, defnydd o'r gwasanaeth iechyd a phlant.   

    Vaughan Gething
  7. 'Adolygiad o S4C ochr yn ochr â’r Adolygiad o Siarter y BBC?'

    "Yn fy marn i roedd y sylw gafodd etholiad y Cynulliad ar wasanaeth rhwydwaith y BBC yn annigonol" meddai Alun Davies.

    Mae'n croesawu'r ffaith y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli ar fwrdd unedol newydd y BBC.

    O ran dyfodol S4C mae'n dweud ei bod hi'n hollbwysig bod S4C yn cael digon o gyllid yn ogystal ag annibyniaeth o ran golygu a rheoli. 

    Mae'n croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C , ond mae'n dweud y dylai hyn gael ei wneud ochr yn ochr â’r Adolygiad o Siarter y BBC yn hytrach na wedyn. Rydyn ni’n disgwyl cymryd rhan lawn yn yr adolygiad o S4C, meddai,  gan gynnwys y broses o ddatblygu’r cylch gorchwyl.”

  8. 'Mae angen newid diwylliannol o fewn y BBC'

    Mae Alun Davies yn dweud bod angen i fwy gael ei wneud i sicrhau bod rhagor o gynhyrchiadau yn dod o'r tu allan i Lundain, ac yn cael eu dosrannu i genhedloedd a rhanbarthau Prydain.

    Mae'n cydnabod bod yna welliannau, ond yn dweud bod gormod o benderfyniadau yn parhau i gael eu gwneud y tu mewn i ffiniau'r M25. Mae angen newid diwylliannol o fewn y BBC, meddai.

    Alun Davies
  9. Ariannu'r BBC

    Yn gynharach yn y mis datgelwyd bod dwy dreian o aelodau'r Cynulliad wedi arwyddo llythyr at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Arglwydd Hall yn mynnu ei fod yn yn "benodol" ynglŷn â faint yn union o arian ychwanegol fydd yn dod i BBC Cymru.

    Ym mis Mai fe wnaeth Arglwydd Hall ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones, gan ddweud fod y Gorfforaeth yn bwriadu darparu arian ychwanegol i'r BBC yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Yn ôl y BBC byddai'r gorfforaeth yn cadarnhau cyfran yr arian yn ystod y misoedd nesaf. 

    Yn y llythyr at Arglwydd Hall roedd y 41 aelod oedd yn cynnwys aelodau o'r Blaid Lafur, UKIP, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn dweud fod angen i'r BBC fod yn glir ynglŷn â faint yn union yn ychwanegol fydd ar gael.

    BBC CYMRU, Llandaf, Caerdydd
  10. Datganiad ar Ddarlledu yng Nghymru

    Nawr datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, ar Ddarlledu yng Nghymru.

  11. 'Camau sylweddol wedi eu cymryd ond llawer mwy i'w wneud'

    Mae Carl Sargeant yn dweud wrth y Siambr, “er ein bod wedi cymryd camau sylweddol, mae yna lawer o feysydd o hyd lle mae angen bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, a hynny cyn gynted â phosibl.

    "I ddechrau, bydda’ i’n ymgynghori ynghylch Strategaeth Genedlaethol newydd a’r mesurau cynnydd a pherfformiad cysylltiedig.

    "Fe gaiff y Strategaeth ei defnyddio i lunio fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau rhanbarthol sy’n seiliedig ar anghenion. Rydyn ni’n disgwyl i’r awdurdodau lleol a’u partneriaid ein helpu i greu cymdeithas lle mae pawb yn gallu byw heb ofn."

    Carl Sargeant
  12. Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

    Yr eitem nesa gerbron y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, ar y cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. 

    Y llynedd, fe ddywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wrth y BBC bod dros 30,000 o bobl dros 60 yng Nghymru wedi dioddef trais yn y cartref.

    Trais yn erbyn merched
  13. Gallai rhan newydd o'r M4 'gael ei hagor erbyn Hydref 2021'

    Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn Sefydliad Lysaghts, Casnewydd a bydd yn agored i’r cyhoedd.  

    Bydd Arolygydd Annibynnol yn adolygu’r cynigion yn fanwl ar gyfer y Llwybr Du, sef y llwybr sy'n cael ei ffafrio gan y llywodraeth, a bydd yn ystyried y cynigion eraill hefyd.

    Os fydd yr Arolygydd yn argymell y dylai’r cynllun symud ymlaen i’r cam adeiladu, gallai'r rhan newydd hon o’r M4 agor yn Hydref 2021.

  14. Yr ymchwiliad cyhoeddus i ystyried pob llwybr posib

    Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer llwybr newydd yr M4 yn ystyried sawl cynllun gan gynnwys y llwybr glas yn ôl Mr Skates.

    Mae disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau yn yr Hydref ac ar 18 Gorffennaf bydd rhag-gyfarfod yn cael ei gynnal. Mae disgwyl i'r ymchwiliad bara tua 5 mis.

    Mae Ken Skates yn dweud y bydd Arolygydd Annibynnol yn adolygu’r galw am y cynllun ac yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.  Bydd yr ymchwiliad yn clywed tystiolaeth gan arbenigwyr technegol yn ogystal â chan y rheini sy’n cefnogi ac yn gwrthwynebu’r cynllun.

    Y llwybr du y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio
    Image caption: Y llwybr du y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio
  15. Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus i'r M4 yng Nghasnewydd

    Mae manylion ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun dadleuol ar gyfer llwybr newydd yr M4 yn cael eu datgelu. 

    Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd er mwyn lleihau tagfeydd traffig ar yr M4. 

    Ken Skates fel Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith sydd nawr yn gyfrifol am drafnidiaeth
    Image caption: Ken Skates fel Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith sydd nawr yn gyfrifol am drafnidiaeth
  16. Cymeradwyo penodiad Mr Antoniw

    Mae'r Cynulliad wedi cymeradwyo penodiad Mr Antoniw.

    Roedd yr aelod Llafur dros Bontypridd yn gyfreithiwr gyda chwmni Thompsons, sy'n arbenigo mewn cyfraith undebau llafur, cyn cael ei ethol i'r Cynulliad bum mlynedd nol.   

    Doedd ei ragflaenydd Theo Huckle, a oedd yn y swydd rhwng 2011-2016, ddim yn aelod o'r Cynulliad. Mae penodiad Mr Antoniw yn nodi bod y swydd bellach yn ôl dan law gwleidydd etholedig.

  17. Cynnig i benodi Mick Antoniw yn Gwnsler Cyffredinol

    Nesa cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Mick Antoniw AC yn Gwnsler Cyffredinol.

    Mae Aelod Cynulliad Pontyrpidd Mick Antoniw yn cael ei enwebu i olynu Theo Huckle fel prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth, y Cwnsler Cyffredinol. 

    Y Cwnsler Cyffredinol yw Swyddog y Gyfraith Llywodraeth Cymru, sef prif gynghorydd cyfreithiol a chynrychiolydd y Llywodraeth yn y llysoedd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio hefyd i gynnal trefn y gyfraith. Mae gan y rôl nifer o swyddogaethau statudol penodol pwysig, a bydd rhai'n cael eu hymarfer yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac er budd y cyhoedd. 

    Mick Antoniw
  18. Cynigion am ddatganiad

    Ymhlith y cynigion am ddatganiad gan Jane Hutt mae'r rhain:

    cwblhau dosbarthiad gwasanaeth y we fyd-eang cyflym iawn yng Nghymru,

    trafodaethau gyda'r heddlu ynglŷn a'r casineb sy'n cael ei fynegi ar wefannau cymdeithasol am bobl ym myd cyhoeddus,

    a datganiad ar blant sy'n ceisio lloches.

  19. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Yr eitem nesa yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. Mae Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Jane Hutt, yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf. 

    Jane Hutt