a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau – y chwe mis cyntaf
  4. Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: y Gymraeg a Llywodraeth Leol
  5. Cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn nesaf.

    Y Senedd
  2. Cynnig wedi ei wrthod

    Mae'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl wedi ei wrthod. Roedd 16 o blaid a 38 yn erbyn.

  3. Dirymu Rheoliadau Personau Anabl?

    Ac yn ola yn y Siambr heddiw cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016. 

    Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn cynnig bod y Cynulliad yn cytuno bod Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2016, yn cael ei ddirymu.

    Gallwch ddarllen rhagor am y rheoliadau yma. 

    Mark Isherwood
  4. Siomedig bod cynghorau yn herio rheolau'r iaith Gymraeg

    Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud ei bod hi'n "siomedig" bod cynghorau wedi cyflwyno dros 270 o heriau yn erbyn safonau sydd wedi'u gosod gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. 

    Cyngor Castell-nedd Port Talbot wnaeth herio fwya - 54 o weithiau ers i'r safonau gael eu creu ym mis Medi 2015, gan ddweud bod rhai ohonyn nhw yn "afresymol" ac "anghyfartal".

    Fe basiodd y Cynulliad y rheolau, gafodd eu hysgrifennu gan weision sifil, ddwy flynedd yn ôl.

    Fe wnaeth Llywodraeth Cymru herio rhai o'r safonau ym mis Mawrth.

    Baneri Cymru mewn swyddfa
  5. Fydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu cyflawni?

    Mae Sian Gwenllian yn croesawu argymhellion yr adroddiad ond yn mynegi pryder na fyddan nhw'n cael eu cyflawni.

    Sian Gwenllian
  6. Ystyried rôl yr iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth llywodraeth leol

    Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd barn awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar adroddiad ac argymhellion y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg ym maes Datblygu Economaidd a Gweinyddu Llywodraeth Leol. 

    Gofynwyd i'r gweithlu ystyried rôl yr iaith Gymraeg o fewn gweinyddiaeth llywodraeth leol ac fel iaith yn y gweithle, a rôl llywodraeth leol i gefnogi yr iaith Gymraeg.

  7. Datganiad ar y Gymraeg a Llywodraeth Leol

    Mae yna un datganiad ar ôl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, sy'n ystyried y Gymraeg a Llywodraeth Leol.

    Mark Drakeford
  8. 'Methu ymrwymo i godi arian ar gyfer mudiadau gwirfoddol'

    "Galla i ddim ymrwymo i godi arian ar gyfer mudiadau gwirfoddol" - geiriau Mr Sargeant wrth ymateb i'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood. 

  9. Dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr

    Mae Wythnos Wirfoddoli yn ddigwyddiad blynyddol ar ddechrau mis Mehefin. Mae'n dathlu cyfraniad miliynau o wirfoddolwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

  10. Datganiad ar Wythnos Wirfoddoli

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Carl Sargeant ar wythnos Wirfoddoli.

    Carl Sargeant
  11. Lleiafswm o 100,000 o brentisiaethau

    Mae Julie James yn rhoi targed o ddarparu lleiafswm o 100,000 o brentisiaethau, ond mae'n gwrthod ymrwymo i swm mwy penodol.

    Julie James
  12. Prentisiaethau yng Nghymru

    Mae Julie James yn gwneud ei datganiad cyntaf fel Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, ar brentisiaethau yng Nghymru.

  13. Targedau'r llywodraeth yn 'afrealistig'

    Dywed Nathan Gill bod targedau'r llywodraeth yn "afrealistig".

    Nathan Gill
  14. 'Cyflawniad uchel'

    Y Ceidwadwr David Melding yn cydnabod bod hwn yn "faes o gyflawniad uchel i'r llywodraeth".

    David Melding
  15. Dal i fod y 'Real Madrid o ran ailgylchu'?

    Nid yw Lesley Griffiths yn ailadrodd y gyfatebiaeth yr oedd ei rhagflaenydd Carl Sargeant mor hoff ohoni, mai Cymru yw'r "Real Madrid o ran ailgylchu".

  16. Manteision amgylcheddol 'anferth'

    Mae'r 'economi gylchol' yn golygu cynyrch sydd i fod yn fwy cynaliadwy oherwydd fod eu dyluniad yn defnyddio darnau sydd yn gallu cael eu ail-ddefnyddio, sy'n haws i ailgylchu.

    Yng Nghymru fe gafodd 56% o wastraff ei ailgylchu yn 2014/15 a'r amcan yw i ailgylchu 70% erbyn 2025.

    Yn ôl Lesley Griffiths fe allai newid arferion pobl gael 'manteision amgylcheddol anferth'.

  17. Ailgylchu i greu Economi Gylchol

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths yn gwneud datganiad a'r: Adeiladu ar ein Llwyddiant Ailgylchu i greu Economi Gylchol.

  18. Lloegr i ddilyn esiampl Cymru?

    Mae Dr Dai Lloyd, wnaeth geisio am y tro cyntaf i gyflwyno cyfraith ar ganiatâd tybiedig, wedi croesawu'r ffigurau, ac wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddilyn esiampl Cymru.

    Dai Lloyd
  19. Dwsinau o fywydau wedi eu hachub

    Mae Vaughan Gething yn dweud wrth yr aelodau bod y drefn newydd wedi achub dwsinau o fywydau ers ei chyflwyno.

    O'r 31 o bobl fu farw ac y cafodd eu horganau eu defnyddio rhwng Rhagfyr 2015 a Mai 2016, doedd 10 heb fynegi penderfyniad naill ffordd neu'r llall.  

    Mae'r ffigwr yn cymharu â 23 o bobl roddodd organau yn yr un cyfnod yn 2014/15 a 21 yn 2013/14 - hynny o dan yr hen drefn.