a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Sweden 3-0 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ymuno efo ni, Wali a'r criw prynhawn 'ma. Ymlaen â ni am Ffrainc rwan - ymunwch efo ni ar gyfer gêm Slofacia.

    Hwyl am y tro!

  2. Post update

    Wali Tomos

    Cweif, ia, ond tydi Slofacia ddim wedi dysgu dim o'f gêm yma!!!!!

  3. Y chwiban olaf

    Sweden 3-0 Cymru

    Crasfa i Gymru yn Stockholm. Bydd rhaid i'r hogia' drin eu clwyfa' cyn Slofacia nos Sadwrn nesa'.

  4. Post update

    Wali Tomos

    Emma Hughes? Tydi hynna'n ddim byd. Dwi 'di clwad Fadio Wêls yn deud ,'Gwyneth will experience a damp patch overnight'!

  5. GÔL!

    Sweden 3-0 Cymru

    Gareth Bale yn taro'r wal gyda chic rydd, ond eiliadau wedyn, Sweden yn mynd lawr y pen arall ac yn sgorio.

    Gôl ryngwladol gyntaf i Guidetti.

  6. Post update

    Arthur Picton

    O, perthyn agos! Fedra'i weld y tebygrwydd rwan!

  7. Perthyn i Emyr Huws?

    George Huws

    Ma fo'n berthyn i mi. Ma' cnithar hannar chwaer fi yn Anti i brawd yn cyfarth Emyr.    

  8. Wali methu deall chwaith...

    Wali Tomos

    Emyf Huws????? Yyyyy!

  9. Post update

    Arthur Picton

    Ddudish i do, Tecwyn!!!

  10. Eilyddio i Gymru

    Simon Church yn lle Sam Vokes.

    Emyr Huws, sydd ddim hyd yn oed yn y garfan ar gyfer Euro 2016, yn dod ymlaen yn lle Jonny Williams.

  11. Post update

    Tecwyn Parri

    Y newyddion diweddara' am Jean. Yn 'bord o Bordeaux!

  12. Post update

    Wali Tomos

    Ma' Iwan af Fadio Cymfu newydd ddeud fod Bale wedi disgyn.........yn ddyfn. Gesh dfawiad am eiliad!!!

  13. Eilyddio i Gymru

    David Edwards yn lle David Vaughan.

    James Collins yn lle James Chester.

    A Gareth Bale yn lle Andy King.

  14. Post update

    Wali Tomos

    Satan wedi mynd. Ofn Gafeth y Bêl!

  15. Ashley i lawr eto

    Y capten, Ashley Williams, yn aros i lawr ac yn derbyn triniaeth.

    Ar yr ochr bositif, mae Gareth Bale yn barod i ddod ar y cae...

  16. Zlatan i ffwrdd

    Wedi awr o chwarae, mae Zlatan Ibrahimovic wedi dod oddi ar y cae. Bydd amddiffynwyr Cymru'n falch o'i weld yn gadael, dwi'n siwr...

  17. Post update

    Arthur Picton

    Ma'n hen bryd i Gymru ddechra' rhychu. Dyna fydda Tarw Nefyn ac Orig wedi'i neud! 

  18. GÔL!

    Sweden 2-0 Cymru

    Un arall i Sweden yn dilyn cic gornel. Gall hyn droi'n flêr i Gymru...

    Lustig yn sgorio. Mae Gareth Bale yn cynhesu ar ochr y cae...