a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cymru yn gorffen ar frig y tabl
  2. Rwsia 0 - 3 Cymru (sgôr terfynol)
  3. Slofacia 0 - 0 Lloegr (sgôr terfynol)
  4. Ramsey (11'), Taylor (20') a Bale (67') yn sgorio i Gymru
  5. Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Welwn ni chi yno!

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw, gan gynnwys cymeriadau Bryncoch United yn dychwelyd ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn.

    Adieu de Toulouse, ont un bon voyage à Paris!  

    paris
  2. Hughes: Timau am osgoi Cymru

    Euro 2016

    Mae cyn reolwr Cymru Mark Hughes wedi dweud y bydd y timau eraill am osgoi Cymru yn y rownd nesa. 

    "Maen nhw wedi dangos heno fod ganddyn nhw ddigon o opsiynau i boeni unrhyw un," meddai. 

    Mark Hughes
    Image caption: Mark Hughes
  3. Post update

    Wali Tomos

    Negas i'f peffa 'Af y Mafc' o ychydig ffydd 'na. Gan y gwifion y ceif y gwif Dylan Jôs!!!!!! A mi fudish i basan ni'n ennill y gfŵp 'ndo. Dacia! bechod na foish i bfes afni!!!!! Dwi'n mynd i ddathlu. Nos da bawb.

  4. Perfformiad arbennig

    BBC Radio Cymru

    Perfformiad gorau erioed gan Gymru medd Malcolm Allen ar Radio Cymru. 

    Heno'n brawf o ysbryd y garfan medd y sylwebydd Dylan Griffiths.

  5. Ystadegyn pwysig gan 'Davey Boy'

    Twitter

  6. Ymlaen â'r daith

    BBC Cymru Fyw

    Mae gennych chi bum niwrnod i fwcio awyren neu dren. 

    Fe fydd Cymru yn chwarae ym Mharis ddydd Sadwrn.

    Ond mae'r parti eisoes wedi dechrau yn Toulouse.

  7. CREDWCH O!

    Euro 2016

    Gyda Zombie Nation yn atseinio yn y stadiwm, mae'r emosiwn yn ormod i nifer. 

    Mae'r cefnogwyr, y chwaraewyr a'u rheolwr yn dathlu yng nghornel Cymru o'r cae, wrth i'r newydd dorri fod y gêm yn St Etienne yn gorffen yn ddi-sgor. 

     MAE CYMRU YN GORFFEN AR FRIG GRŴP B!!!

    cefnogwyr
  8. A DYNA NI...

    MAE CYMRU YN MYND YMLAEN I ROWND YR 16 OLAF.

    'DI'R HOGIA DDIM YN BAROD I DDOD ADRA ETO!'

    cymru
  9. Rwsia 0-3 Cymru

    Euro 2016

    Dau funud o amser ychwanegol yn weddill yn Toulouse, ond mae gan Loegr a Slofacia bum munud o amser ychwanegol.

  10. Rwsia 0-3 Cymru

    'Does 'na ddim llawer o danwydd ar ôl yn nhanc chwaraewyr Rwsia wrth i ni gyrraedd munudau ola'r gem. Amddiffynwyr Cymru yn rhwystro unrhyw gyfle bosib. 

    rwsia
  11. Rwsia 0-3 Cymru

    Eilyddio

    Yr arwr yn gadael y cae.

    Gydag wyth munud o'r chwarae yn weddill mae Gareth Bale yn gadael y cae i atsain gorfoledd cefnogwyr Cymru. 

    Simon Church sy'n dod ymlaen yn ei le.

  12. Hir yw pob ymaros

    Euro 2016

    Mae'n tawelu 'chydig yn ardal y cefnogwyr yn Toulouse, wrth i gefnogwyr Cymru gyfri'r munudau cyn diwedd y gêm. Y sgôr yn parhau yn gyfartal yn gêm Lloegr v Slofacia. 

    cefngowyr
  13. Peidiwch temtio ffawd! (Ond ydi, mae hi)

    Twitter

  14. Post update

    Arthur Picton

    Ia iawn. Fodlon rwan???

  15. Post update

    Wali Tomos

    Musty Picton?