A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd. Fe fydd yn ôl yfory am 08:00. Diolch yn fawr am ddilyn ein diweddariadau drwy gydol y dydd. Pob hwyl am y tro.
S4C: Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu adroddiad
Golwg 360
Dywed Golwg 360 fod Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu adroddiad ar ddarlledu yng Nghymru gan grŵp o Aelodau Seneddol, sy’n nodi pwysigrwydd darlledu i’r iaith Gymraeg.
Dywedodd Meri Huws, fod yr adroddiad yn “ategu’r hyn” y bu’n galw amdano dros S4C, “sef yr angen am feddylfryd newydd ynghylch cyllido a’r angen am fuddsoddi pellach nawr a thros gyfnod o amser.”
Roedd yr adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn codi’r angen am adolygiad annibynnol “brys” i ddyfodol S4C.
Ddydd Iau, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug gan ail swyddog, dan yr enw Operative 28, roddodd dystiolaeth o'r tu ôl i sgrîn yn yr achos yn erbyn John Arthur Jones.
Mae Mr Jones, 66 oed, yn gwadu 13 cyhuddiad o beryglu awyrennau yn RAF Mona rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014.
BBCCopyright: BBC
Mae Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.Image caption: Mae Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae David Craig Ellis, 41 oed, yn cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddio Alec Warburton, oedd yn 59 oed, mewn tŷ yn Sgeti, Abertawe.
bbcCopyright: bbc
Mwy o ymateb i farwolaeth A.S.
BBC Cymru Fyw
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi bod yn ymateb i farwolaeth Jo Cox A.S.
Dywedodd ei bod wedi marw yn gwasanaethu ei hetholwyr a'i chymuned, a bod y newyddion am ei marwolaeth yn ofnadwy.
BBCCopyright: BBC
Ymosodiad: A.S. wedi marw
BBC Cymru Fyw
Mae'r heddlu newydd gyhoeddi bod yr Aelod Seneddol Llafur dros Batley a Spen, Jo Cox, wedi marw yn dilyn dioddef ymosodiad yn gynharach heddiw.
Mae dyn wedi ei arestio ac nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Ymosodiad ar A.S: Bryant yn mynegi ei 'ddicter'
Golwg 360
Mae golwg360 wedi cyfeirio at A.S. Llafur y Rhondda, sydd wedi mynegi ei “ddicter a’i dristwch” fod yr AS Llafur Jo Cox wedi cael ei saethu a'i thrywanu gan ymosodwr.
Hi yw’r “ymladdwraig fwya’ angerddol tros gyfiawnder yr ydw i’n ei nabod gartre’ neu dramor,” meddai Chris Bryant, sy’n arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin tros Lafur.
Mewn negeseuon trydar, roedd yn “gobeithio a gweddïo” y bydd yr AS yn iawn ar ôl y digwyddiad yn ei hetholaeth.
Gyrru'n beryglus: Cyhuddo dyn
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn o yrru'n beryglus, gyrru tra bod wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a methu a darparu gwaed ar gyfer ei brofi yn dilyn digwyddiad yng Nghaerffili neithiwr.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi dilyn cerbyd drwy'r dref ar gyflymder o 70mya neithiwr, cyn i'r car fynd yn sownd mewn twnel i gerddwyr.
Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechniaeth ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys ynadon yng Nghasnewydd fis nesaf.
Ymgyrchu wedi ei ohirio
BBC Cymru Fyw
Yn dilyn yr ymosodiad ar Jo Cox A.S. heddiw mae'r ymgyrchu gwleidyddol cyn y refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i ben am y tro.
Newyddion arall y dydd
BBC Cymru Fyw
Mae gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn ymateb yn dilyn yr ymosodiad ar yr Aelod Seneddol Llafur dros Batley a Spen, Jo Cox yn gynharach heddiw. Mae hi mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Dywedodd Gweinidog Llafur yr wrthblaid ar Gymru, Nia Griffith, na ddylai unrhyw wleidydd ofni gwneud eu gwaith yn dilyn yr ymosodiad.
Ychwanegodd fod y newyddion yn sioc fawr ar hyn o bryd ond eu bod yn ceisio ymdopi gyda'r sefyllfa.
BBCCopyright: BBC
Diwrnod o eithafion
Tywydd, BBC Cymru
Mae'r tywydd yn adlewychu hwyl pawb ar hyn o bryd yn ôl Rhian Haf, "Fe ddaeth y cymylau i Lens yn Ffrainc, ond yma yng Nghymru fe wnaeth hi godi'n eitha braf mewn mannau yn y gogledd a'r gorllewin, ond da ni di cael nifer fawr o gawodydd trymion yn y de a'r canolbarth pnawn ma fydd yn parhau tan yn hwyrach heno cyn troi'n sychach."
Coleman yn ymateb
BBC Cymru Fyw
Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Chris Coleman:
"Mae colli'r gêm ar ôl bod ar y blaen ar yr egwyl, yn enwedig o ystyried y modd y collon ni, yn dor-calonnus ond mae'n rhaid i ni godi eto.
Fe ildiodd Lloegr yn y funud olaf yn erbyn Rwsia a dangos cymeriad i ddod nôl heddiw...fe allwn ni wneud yr un peth yn erbyn Rwsia ddydd Llun.
Pe bai rhywun wedi dweud wrthon ni cyn y gystadleuaeth y bydden ni'n dal gyda chyfle i fynd drwodd yn y gêm grŵp olaf, fe fydden ni wedi bod yn ddigon bodlon - dyna'r sefyllfa o'n blaenau ni."
Bale: "Wrth reswm, 'da ni'n siomedig, ond yn parhau yn gryf. Tydi'r twrnamaint ddim drosodd eto. Rydym yn mynd ymlaen i'r gêm nesa' yn gryfach nag erioed, ac fe ymladdwn hyd nes ein bod yn llwyddo."
paCopyright: pa
Siom!
BBC Cymru Fyw
Roedd y siom yn amlwg i Eirian Castle o Ystalyfera yn dilyn y canlyniad heddiw.
Video content
Video caption: Eirian Castle o YstalyferaEirian Castle o Ystalyfera
Mae'r siom yn amlwg
BBC Cymru Fyw
Cefnogwyr Cymru'n gadael y stadiwm yn Lens braidd yn ddigalon a dweud y lleiaf!
BBCCopyright: BBC
Lloegr yn 'rhy gryf'
BBC Cymru Fyw
Mae cyn chwaraewr Cymru John Hartson wedi dweud bod Lloegr yn rhy gryf i Gymru heddiw - ac roedd Cymru wedi disgwyl gormod o ddibynnu ar gôl Gareth Bale yn unig i gipio buddugoliaeth.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd
BBC Cymru Fyw
A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd. Fe fydd yn ôl yfory am 08:00. Diolch yn fawr am ddilyn ein diweddariadau drwy gydol y dydd. Pob hwyl am y tro.
S4C: Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu adroddiad
Golwg 360
Dywed Golwg 360 fod Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu adroddiad ar ddarlledu yng Nghymru gan grŵp o Aelodau Seneddol, sy’n nodi pwysigrwydd darlledu i’r iaith Gymraeg.
Dywedodd Meri Huws, fod yr adroddiad yn “ategu’r hyn” y bu’n galw amdano dros S4C, “sef yr angen am feddylfryd newydd ynghylch cyllido a’r angen am fuddsoddi pellach nawr a thros gyfnod o amser.”
Roedd yr adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn codi’r angen am adolygiad annibynnol “brys” i ddyfodol S4C.
Achos fflachio golau: Heddwas yn rhoi tystiolaeth
BBC Cymru Fyw
Fe fu pedwar heddwas cudd yn rhan o'r gwaith o gadw golwg ar gartref dyn ar Ynys Môn sy'n cael ei amau o fflachio goleuadau pwerus at awyrennau.
Ddydd Iau, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug gan ail swyddog, dan yr enw Operative 28, roddodd dystiolaeth o'r tu ôl i sgrîn yn yr achos yn erbyn John Arthur Jones.
Mae Mr Jones, 66 oed, yn gwadu 13 cyhuddiad o beryglu awyrennau yn RAF Mona rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014.
Diffynydd 'wedi ei gamdrin pan yn blentyn'
BBC Cymru Fyw
Mae dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio'i landlord wedi dweud wrth reithgor mai un o'r rhesymau y collodd reolaeth ar ei hun a'i ladd, oedd iddo gael ei gamdrin yn rhywiol pan yn blentyn.
Mae David Craig Ellis, 41 oed, yn cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddio Alec Warburton, oedd yn 59 oed, mewn tŷ yn Sgeti, Abertawe.
Mwy o ymateb i farwolaeth A.S.
BBC Cymru Fyw
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi bod yn ymateb i farwolaeth Jo Cox A.S.
Dywedodd ei bod wedi marw yn gwasanaethu ei hetholwyr a'i chymuned, a bod y newyddion am ei marwolaeth yn ofnadwy.
Ymosodiad: A.S. wedi marw
BBC Cymru Fyw
Mae'r heddlu newydd gyhoeddi bod yr Aelod Seneddol Llafur dros Batley a Spen, Jo Cox, wedi marw yn dilyn dioddef ymosodiad yn gynharach heddiw.
Mae dyn wedi ei arestio ac nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Ymosodiad ar A.S: Bryant yn mynegi ei 'ddicter'
Golwg 360
Mae golwg360 wedi cyfeirio at A.S. Llafur y Rhondda, sydd wedi mynegi ei “ddicter a’i dristwch” fod yr AS Llafur Jo Cox wedi cael ei saethu a'i thrywanu gan ymosodwr.
Hi yw’r “ymladdwraig fwya’ angerddol tros gyfiawnder yr ydw i’n ei nabod gartre’ neu dramor,” meddai Chris Bryant, sy’n arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin tros Lafur.
Mewn negeseuon trydar, roedd yn “gobeithio a gweddïo” y bydd yr AS yn iawn ar ôl y digwyddiad yn ei hetholaeth.
Gyrru'n beryglus: Cyhuddo dyn
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn o yrru'n beryglus, gyrru tra bod wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a methu a darparu gwaed ar gyfer ei brofi yn dilyn digwyddiad yng Nghaerffili neithiwr.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi dilyn cerbyd drwy'r dref ar gyflymder o 70mya neithiwr, cyn i'r car fynd yn sownd mewn twnel i gerddwyr.
Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechniaeth ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys ynadon yng Nghasnewydd fis nesaf.
Ymgyrchu wedi ei ohirio
BBC Cymru Fyw
Yn dilyn yr ymosodiad ar Jo Cox A.S. heddiw mae'r ymgyrchu gwleidyddol cyn y refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i ben am y tro.
Newyddion arall y dydd
BBC Cymru Fyw
Mae gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn ymateb yn dilyn yr ymosodiad ar yr Aelod Seneddol Llafur dros Batley a Spen, Jo Cox yn gynharach heddiw. Mae hi mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Dywedodd Gweinidog Llafur yr wrthblaid ar Gymru, Nia Griffith, na ddylai unrhyw wleidydd ofni gwneud eu gwaith yn dilyn yr ymosodiad.
Ychwanegodd fod y newyddion yn sioc fawr ar hyn o bryd ond eu bod yn ceisio ymdopi gyda'r sefyllfa.
Diwrnod o eithafion
Tywydd, BBC Cymru
Mae'r tywydd yn adlewychu hwyl pawb ar hyn o bryd yn ôl Rhian Haf, "Fe ddaeth y cymylau i Lens yn Ffrainc, ond yma yng Nghymru fe wnaeth hi godi'n eitha braf mewn mannau yn y gogledd a'r gorllewin, ond da ni di cael nifer fawr o gawodydd trymion yn y de a'r canolbarth pnawn ma fydd yn parhau tan yn hwyrach heno cyn troi'n sychach."
Coleman yn ymateb
BBC Cymru Fyw
Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Chris Coleman:
"Mae colli'r gêm ar ôl bod ar y blaen ar yr egwyl, yn enwedig o ystyried y modd y collon ni, yn dor-calonnus ond mae'n rhaid i ni godi eto.
Fe ildiodd Lloegr yn y funud olaf yn erbyn Rwsia a dangos cymeriad i ddod nôl heddiw...fe allwn ni wneud yr un peth yn erbyn Rwsia ddydd Llun.
Pe bai rhywun wedi dweud wrthon ni cyn y gystadleuaeth y bydden ni'n dal gyda chyfle i fynd drwodd yn y gêm grŵp olaf, fe fydden ni wedi bod yn ddigon bodlon - dyna'r sefyllfa o'n blaenau ni."
Eisiau dweud eich dweud?
Twitter
Gadewch e gyd mas!
Fyddwch chi'n teimlo'n llawer gwell.
Diolch i'r cefnogwyr
Euro 2016
Bu'r chwaraewyr yn diolch i'r cefnogwyr am eu cefnogaeth anhygoel p'nawn 'ma.
Gair o'r Gymdeithas
Twitter
Siomedigaethau lu....
BBC Radio Cymru
Geiriau Gareth Bale