Dyna'r cyfan o ddadl yr arweinwyr o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Iau.
'Y gynulleidfa yn sêr y rhaglen'
Dadansoddiad Tomos Livingstone, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru.
Etholiad 2016
Mae'r Gwasanaeth Iechyd ar y papur pleidleisio - dyna oedd her Carwyn Jones yn ystod eiliadau agoriadol y drafodaeth heno.
Ac efallai am y tro cyntaf ers i'r ymgyrch ddechrau roedd iechyd yn cymryd ei le fel prif bwnc llosg yr etholiad.
Ond nid y gwleidyddion, efallai, oedd y sêr heno: gydag wythnos i fynd ail-adrodd eu polisïau ac ymosod cymaint â phosib ar y lleill oedd eu cymhelliad nhw; bydd pob un yn weddol fodlon eu bod wedi llwyddo, yn hynny o beth.
Na, y gynulleidfa wnaeth sicrhau fod hon yn rhaglen werth gwylio - digon o angerdd, a digon i ddweud wrth draddodi'u profiadau o'r gwasanaeth iechyd.
Efallai welwn ni'r ffocws ar wasanaethau cyhoeddus yn yr wythnos ddiwethaf sy heb, mewn gwirionedd, ddigwydd hyd yma.
Dechrau gweld wnaethon ni hefyd pa mor wahanol yw'r etholiad yma i'w gymharu â 2011 - mwy o bleidiau cystadleuol, mwy o bwerau i'r buddugwyr a llawer mwy o amrywiaeth polisi. Wythnos i fynd!
Bu'r arweinwyr hefyd yn ymateb i gwestiwn gan fyfyrwraig ynglŷn â dyfodol y drefn o dalu ffioedd i fyfyrwyr.
BBCCopyright: BBC
'Crud i'r yrfa'
Leanne Wood
Arweinydd Plaid Cymru
Angen creu gwasanaeth addysg "crud i'r yrfa"
'Gwario ar ddisgyblion'
Andrew RT Davies
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae angen sicrhau fod yr arian yn cael ei wario yn y dosbarthiadau ac ar ddisgyblion ac nid mewn mannau eraill.
Maint dosbarthiadau
Kirsty Williams
Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Os yw dosbarthiadau yn rhy fawr, mae'n amhosibl i athrawon roi'r sylw sydd ei angen i blant. Y targed yw lleihau dosbarthiadau i 25 o blant.
'Dim gwahaniaeth rhwng perfformiad ysgolion'
Carwyn Jones
Arweinydd Llafur Cymru
Angen sicrhau nad oes gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd tlotaf a mwyaf cyfoethog o ran perfformiad ysgolion.
Amddiffyn ysgolion gwledig
Alice Hooker-Stroud
Arweinydd Plaid Werdd Cymru
Mae angen canolbwyntio ar athrawon, a hefyd amddiffyn ysgolion gwledig.
'Ail gyflwyno ysgolion gramadeg'
Nathan Gill
Arweinydd UKIP Cymru
Angen system addysg sy'n ateb gofynion disgyblion, nid pawb sy'n gallu mynd i brifysgol. UKIP am ail gyflwyno ysgolion gramadeg.
Cwestiwn o'r gynulleidfa
Etholiad 2016
Ac mae'r cwestiwn nesaf o'r gynulleidfa oddi wrth Daxa Patel, mam sy'n poeni am faint dosbarthiadau.
"Sut fyddwch chi yn cefnogi athrawon ac ysgolion er mwyn sicrhau system addysg o'r safon gorau posib i Gymru?"
Y trydydd pwnc - addysg
Mae'r arweinwyr nawr yn cyrraedd y trydydd prif bwnc, sef addysg.
Gallwch weld safbwyntiau'r pleidiau ar addysg trwy glicio yma.
BBCCopyright: BBC
Trafod yr M4
Y drafodaeth ar yr economi yn un fywiog ac yn symud ymlaen i drafod traffordd yr M4 a thollau ar bontydd Hafren.
BBCCopyright: BBC
'Dyfodol disglair'
Kirsty Williams
Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Mae dyfodol disglair i'r ffwrneisi ym Mhort Talbot. Gellir ei droi i mewn i fusnes proffidiol.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
'Tariff uchel - bai Llywodraeth y DU'
Carwyn Jones
Arweinydd Llafur Cymru
Byddai'n gweithio'n galed i amddiffyn y diwydiant ond angen sicrhau pris ynni rhatach, dywedodd mai Llywodraeth Y Du ac nid Ewrop oedd yn gyfrifol am dariff uchel ar ddur.
'Cyfle enfawr'
Alice Hooker-Stroud
Arweinydd Plaid Werdd Cymru
Mae cyfle enfawr yng Nghymru i adeiladu ein seilwaith adnewyddadwy.
'Colli rheolaeth ar y tariff'
Nathan Gill
Arweinydd UKIP Cymru
Y tariff ar fewnforion y diwydiant dur wedi ei golli i Ewrop a dyna'r realiti.
Defnyddio dur Cymru
Leanne Wood
Arweinydd Plaid Cymru
Mae angen defnyddio dur a wnaed yng Nghymru ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru.
'Angen cydweithio rhwng y ddwy lywodraeth'
Andrew RT Davies
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Bwysig fod y ddwy lywodraeth, Cymru a San Steffan, yn gweithio gyda'i gilydd i achub y diwydiant dur .... ehangodd y ddadl i ddweud fod angen lleihau trethi busnes er mwyn rhoi hwb i economi Cymru
Cwestiwn o'r gynulleidfa - dur
Etholiad 2016
Mae Neil Woodcock, gweithiwr yn y diwydiant dur, yn gofyn: "Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i achub y diwydiant dur yng Nghymru? A chefnogi'r rhai sydd eisoes wedi colli eu swyddi?"
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl Fawr
Dyna'r cyfan o ddadl yr arweinwyr o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Iau.
'Y gynulleidfa yn sêr y rhaglen'
Dadansoddiad Tomos Livingstone, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru.
Etholiad 2016
Mae'r Gwasanaeth Iechyd ar y papur pleidleisio - dyna oedd her Carwyn Jones yn ystod eiliadau agoriadol y drafodaeth heno.
Ac efallai am y tro cyntaf ers i'r ymgyrch ddechrau roedd iechyd yn cymryd ei le fel prif bwnc llosg yr etholiad.
Ond nid y gwleidyddion, efallai, oedd y sêr heno: gydag wythnos i fynd ail-adrodd eu polisïau ac ymosod cymaint â phosib ar y lleill oedd eu cymhelliad nhw; bydd pob un yn weddol fodlon eu bod wedi llwyddo, yn hynny o beth.
Na, y gynulleidfa wnaeth sicrhau fod hon yn rhaglen werth gwylio - digon o angerdd, a digon i ddweud wrth draddodi'u profiadau o'r gwasanaeth iechyd.
Efallai welwn ni'r ffocws ar wasanaethau cyhoeddus yn yr wythnos ddiwethaf sy heb, mewn gwirionedd, ddigwydd hyd yma.
Dechrau gweld wnaethon ni hefyd pa mor wahanol yw'r etholiad yma i'w gymharu â 2011 - mwy o bleidiau cystadleuol, mwy o bwerau i'r buddugwyr a llawer mwy o amrywiaeth polisi. Wythnos i fynd!
O'r droellgell
Cemlyn Davies yn trydar
Ffioedd myfyrwyr