a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Arrivederci!

    A dyna ni am heddiw.  Mae hefyd yn ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru, fydd yn gorffen yn ail yn y tabl eleni.  Ymlaen nawr at daith yr haf i Seland Newydd ym mis Mehefin!

    Cymru
  2. Buddugoliaeth wych

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Buddugoliaeth wych i Gymru. Trueni mawr am y golled yr wythnos ddiwetha'. Ond grêt g weld chwaraewyr ifanc yn rhoi dyfnder i'r garfan. 65-14 i Gymru. Beth arall alla' i ddweud? Gwych!!"

  3. Sgôr terfynol: Cymru 67-14 Yr Eidal

    Y gair ola' yn bendant i Priestland y tro hwn, gyda'r trosiad i gloi'r gêm a sicrhau'r fuddugoliaeth orau erioed gan Gymru dros yr Eidalwyr.

  4. Cymru 65-14 Yr Eidal

    Ac mae 'na fwy...Gareth Davies yn croesi am nawfed cais i goroni'r cyfan i Gymru.

    Gareth Davies
  5. Cymru 60-14 Yr Eidal

    Ai Priestland fydd â'r gair ola'?  Mae'n trosi a mynd â Chymru at 60 pwynt.

  6. Cymru 58-14 Yr Eidal

    Ross Moriarty yn sgorio ei ail gais yn y gêm, funud o'r diwedd.

    Ross Moriarty
  7. North yw'r seren

    George North sydd wedi'i enwi yn Seren y Gêm heddiw - haeddianol iawn i'r gŵr o Fôn.

    George North
  8. C'môn Cymru?

    Mae Elin Roberts yn siarad ar ran holl drigolion Mam Cymru yma rwy'n credu...

    View more on twitter
  9. Cymru 51-14 Yr Eidal

    Ross Moriarty yn croesi'r llinell a Rhys Priestland yn trosi'n llwyddiannus ar ei ymgais gynta'.  Ymdrech wych.  Yr Eidalwyr yn amlwg wedi blino erbyn hyn.

  10. Rhy rhwydd!

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Cais arall arbennig i Gymru. Rhy rhwydd erbyn hyn...Hyfryd i weld y bois ifanc yn dod oddi ar y fainc. Angen dyfnderd yn y garfan. Ond dau gais i'r Eidalwyr   Fydd Sion Edwards ddim yn hapus!"

  11. Pob un eilydd ar y cae

    Pob un o eilyddion Cymru ar y cae erbyn hyn, wrth i Gareth Davies gymryd lle Rhys Webb.

  12. Cymru 46-14 Yr Eidal

    Yr Eidalwyr yn croesi unwaith yn rhagor - dy'n nhw heb roi'r ffidil yn y to!  Amddiffyn eitha' gwael gan olwyr Cymru.  Kelly Haimona yn trosi'n llwyddiannus eto.

  13. Eilyddio

    Chwech eilydd i Gymru ar y cae erbyn hyn.  Yn eu plith ma' Rhys Priestland yn cymryd lle Dan Biggar, Jake Ball yn lle Bradley Davies, Ken Owens yn lle Scott Baldwin, Aaron Jarvis yn lle Samson Lee, a Gethin Jenkins yn lle Rob Evans.

  14. Cymru 46-7 Yr Eidal

    Liam Williams yn sgorio i fynd â Chymru dros y deugain.  Yr Eidalwyr yn rhoi gormod o le i Gymru.  Biggar yn llwyddo hefo'r trosiad y tro hwn - saith allan o wyth iddo hyd yma.

    Liam Williams
  15. Cymru 39-7 Yr Eidal

    Mae gan Yr Eidal bwyntiau ar y bwrdd - diolch i gais gan Guglielmo Palazzani. Rhywbeth i'w cefnogwyr floeddio amdano o'r diwedd.

  16. North 'nôl!

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "George North..... Nes i ddweud wythnos diwetha' ei fod e'n ôl. Mae e yn ôl....!!!"

  17. Cymru 39-0 Yr Eidal

    George North yn cyrraedd am gais arall i Gymru - ei bedwerydd yn ystod yr ymgyrch.  A'r trosiad yn llwyddiannus y tro hwn.

    George North
  18. Y cais gorau eto

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Cais gorau'r gêm hyd yma. 20 cymal a cydweithio gwych rhwng y blaenwyr a'r olwyr!!  Arbennig. Jamie Roberts yn allweddol unwaith eto."