a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Datganiad gan weinidog yr economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth: Diweddariad ar Tata Steel.
  4. Dadl Cyfnod 4 ar Fesur yr Amgylchedd (Cymru).
  5. Dadl Cyfnod 3 ar Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

Dyna ddiwedd cyfnod 3 Mesur Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a diwedd y cyfarfod llawn am heddiw.

Bydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.

Senedd
BBC

Adeiladau Eglwysig

Gwelliant 68 gan Bethan Jenkins unwaith eto, a gefnogir gan y Ceidwadwr Darren Millar yn nodi "Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu rhestr sydd ar gael yn gyhoeddus o adeiladau eglwysig yng Nghymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol yn eu barn hwy" yn cwympo.

Dywed Ken Skates nad oes ei angen a'i fod yn cynnwys elfen o ddyblygu.

Enwau lleoedd hanesyddol

Gwelliant 62 gan yr aelod Plaid Cymru Bethan Jenkins - i hepgor 'enwau lleoedd hanesyddol’ a'i gyfnewid am ‘o’r enwau cyfredol a hanesyddol a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer lleoedd, tirnodau ac adeiladau’ - yn cwympo. 

Dywed Ken Skates y byddai'n drwm ar adnoddau a gallai arwain at enwau cyfredol, sydd yn aml yn enwau busnes, yn disodli enwau hanesyddol.

Bethan Jenkins
BBC

Adfer costau

Nifer o welliannau gan y Ceidwadwr Suzy Davies yn ymwneud ag adfer costau sydd yn gysylltiedig ag adeiladau rhestredig yn cael eu gwrthod.

Roedd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates wedi dweud y byddant yn effeithio ar allu'r cynghorau i adfer costau a hefyd yn arwain at anghydfod cyfreithiol.

Suzy Davies
BBC

Gwelliant 8 yn cwympo

Pleidleisiodd aelodau yn erbyn gwelliant 8 gan y Democrat Rhyddfrydol Peter Black. 

Byddai wedi cynnwys rhan newydd yn cynnwys: "Rhaid i awdurdod lleol lunio, cynnal a chyhoeddi cofrestr (y “gofrestr leol”) o adeiladau o ddiddordeb lleol arbennig, ynghyd ag unrhyw addasiadau neu ddiwygiadau iddynt." 

Un o resymau'r llywodraeth am beidio â chefnogi oedd y gost. 

Peter Black
BBC

Cynnal Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol

Nod y mesur yw ei gwneud hi'n haws i berchnogion reoli eu hadeiladau rhestredig drwy gyflwyno cynlluniau rheolaeth a fydd yn cael gwared ar yr angen am fwy nag un cais cynllunio. 

Bydd rhaid i gynghorau hefyd gynnal Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol i hysbysu penderfyniadau cynllunio agos, a hefyd sefydlu cofrestr o barciau a gerddi sy'n genedlaethol bwysig. 

Anoddach i ddianc rhag erlyniad?

Bwriad y gyfraith newydd i warchod henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru yw eu gwneud hi'n anoddach i rheiny sy'n achosi difrod i ddianc rhag erlyniad. 

Daw hyn ar ôl 119 o achosion o ddifrod ar safleoedd rhwng 2006 a 2012 lle cafodd dim ond un person eu herlyn. 

Bydd y mesur yn rhoi pwerau i weinidogion i orfodi'r rheiny sydd yn difrodi, i gyflawni'r atgyweirio. 

Yn 2013 cafodd difrod sylweddol ei wneud i ddarn o Glawdd Offa ger Y Waun, Wrecsam.

Difrod: Y ffos wedi diflannu
Mark Williams
Difrod: Y ffos wedi diflannu

Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol

Yr eitem olaf heddiw yw'r Ddadl Cyfnod 3 ar Fesur yr Amgylchedd Hanesyddol.

Dim gwrthwynebiad i'r cynnig

Pasiwyd y Mesur Amgylchedd yn ddi-wrthwynebiad.

'Llongyfarch Llywodraeth Cymru'

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas "Dwi'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu ystod o ddeddfwriaeth sy'n cymharu ag unrhyw beth y mae unrhyw Senedd yn unrhyw le arall yn y byd wedi eu cynhyrchu".

Yr ymateb i'r Mesur

Er eu bod yn gefnogol i'r rhesymau y tu ôl i'r mesur, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol dyw e ddim yn ddigon uchelgeisiol.

Yn ôl y Ceidwadwyr mae cyfle wedi ei golli.

Honna Llyr Gruffydd o Blaid Cymru ei fod wedi llwyddo i gyflwyno achos dros ddeddfwriaeth gryfach i leihau allyriadau carbon yng Nghymru.

Newidiadau i'r ffordd o reoli adnoddau naturiol

Mae'r aelodau wedi cyrraedd dadl Cyfnod 4 ar Fesur yr Amgylchedd.

Yn ogystal â chynnig newidiadau i'r ffordd y caiff adnoddau naturiol eu rheoli, mae'r mesur yn cyflwyno cyfreithiau mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, rheoli gwastraff, pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn a thrwyddedu morol.

Amgylchedd Cymru
BBC

Cymeradwyo Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg

Mae'r aelodau wedi cymeradwyo'r rheoliadau. Doedd dim gwrthwynebiad. 

Eithrio rhai celloedd mewn carchardai?

Pwrpas Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2016 yw diwygio Rheoliadau 2007 i eithrio celloedd penodol mewn carchardai yng Nghymru o'r gwaharddiad ysmygu am gyfnod cyfyngedig, "fel y gall carchardai yng Nghymru gael eu cefnogi i fod yn weithredol ddi-fwg mewn modd saff a diogel yn ystod cyfnod yr eithriad."

Cyfarfod Tasglu Dur Tata

Yn ôl Edwina Hart fe gafodd ail gyfarfod Tasglu Dur Tata ei gynnal ddoe. 

Fe wnaeth y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Arglwydd Bourne, gynrychioli llywodraeth Prydain yn y cyfarfod yng Nghaerdydd. 

Dywed Ms Hart y bydd hi'n sefydlu grwp arbennig i edrych ar y cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad ac ystyried yr opsiynau ar gyfer datblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar yr ardal yn benodol.

Edwina Hart
BBC

Y diweddara ar gwmni Dur Tata

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gweinidog yr economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth ar gwmni Dur Tata

Fis diwetha fe gyhoeddodd y cwmni y byddai 750 o swyddi'n cael eu colli yn y gwaith ym Mhort Talbot, a chyfanswm o 1,050 trwy Brydain.

Tata, Port Talbot
PA

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae Jane Hutt yn amlinelli busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesa.

Mae AC'au wedi gofyn am ddatganiadau ar ddyfodol nifer o faterion - gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, y Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr, a gwasanaethau i bobl sy'n cael triniaeth am ganser.

'Dyna sosialiaeth' medd y prif weinidog

"Dyna sosialiaeth, chi'n iawn" ymateb y prif weinidog i gwestiwn ar y rhaglen Dechrau'n Deg - sy'n rhan o raglen llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd sydd a phlant dan 4 oed ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

'Achub' 1,700 o swyddi

Yn ol y prif weinidog byddai 1,700 o swyddi wedi cael eu colli petai Maes Awyr Caerdydd wedi cau.

Y cyswllt awyr rhwng Caerdydd a Môn - 'anrhefnus ar y gorau'

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, mae'r gwasanaeth awyren rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi bod yn "anhrefnus ar y gorau." 

Wrth ymateb dywed Carwyn Jones nad oedd toriad yn y teithiau awyr dwywaith y dydd fis diwethaf, cyn i gwmni newydd Citywing gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth. 

Mae'r gwasanaeth hedfan tocyn dychwel ddwy waith y dydd yn cael £1.2m o gymorth blynyddol.
AirTeamImages.com
Mae'r gwasanaeth hedfan tocyn dychwel ddwy waith y dydd yn cael £1.2m o gymorth blynyddol.

Llywodraeth Cymru - tan gyflawni ar adeiladu tai?

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams mae record llywodraeth Cymru ar adeiladu tai yn waeth na record y Cenedlaetholwyr yn yr Alban a'r Toriaid yn Lloegr.

Dywed bod 90,000 o bobl yng Nghymru ar restrau aros am dai.   

Kirsty Williams
BBC

Toriadau i rai gwasanaethau iechyd meddwl

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, mae rhai byrddau iechyd wedi torri cyllidebau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

Ond wrth ymateb dywed y prif weinidog nad yw llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r toriadau hyn.

Leanne Wood
BBC

Llythyr at Iain Duncan Smith

Dywed y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod wedi ysgrifennu at Iain Duncan Smith, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ers 2010, i ofyn iddo ollwng apêl yn erbyn dyfarniad llys ar yr hyn a elwir yn dreth ystafell wely.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddyfarnodd y Llys Apêl bod y dreth yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n diodde’ trais yn y cartref a theulu llanc ifanc anabl. 

Croeso nôl

Fe fydd sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn dechrau am 1.30pm

Hwyl

Mae'r pwyllgor nawr yn cyfarfod yn breifat.

Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd y prynhawn yma ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

Galw am ddatganoli treth teithwyr awyr

Yn ôl Roger Lewis byddai datganoli'r dreth ar deithwyr awyr yn golygu newid arwyddocaol o ran cynyddu'r cyfleuon i'r maes awyr.

Gwerth maes awyr er budd economaidd ehangach

Yn ôl Debra Barber ar ddechrau'r trafodaethau roedd cwmni Abertis yn sôn am tua £200m i brynu'r maes awyr,

Dywedodd bod gwerth y maes awyr yn cynnwys y budd economaidd ehangach i Gymru a nifer y swyddi yr oedd yn ei gynnal.

Debra Barber
BBC

Prynu'r maes awyr oedd y penderfyniad cywir

Yn ôl Roger Lewis mae'n amhosib dweud a wnaeth llywodraeth Cymru dalu'r pris iawn am y maes awyr - ond prynu'r maes awyr oedd y penderfyniad cywir. 

"A allai rhywun fod wedi talu llai? Efallai", meddai Mr Lewis. 

"A allai rhywun fod wedi talu mwy? Efallai", meddai. 

"Fyddwn ni fyth yn gwybod."

Oherwydd, meddai fyddwn ni fyth yn gwybod beth oedd teimladau'r gwerthwr. Ond rydych chi angen gwerthwr bodlon a phrynwr bodlon.

Ychwanegodd "Allwn ni wella ar werth y fenter yn y dyfodol? Gallwn."

Roger Lewis
BBC

'Pumed rhan o'r hyn oedd ei angen'

Debra Barber oedd y cyfarwyddwr gweithredu o dan Abertis, y perchennog blaenorol.  

O dan law cwmni Abertis, dywedodd i'r maes awyr gynnig rhaglen - gwerth £3m - ar gyfer newid seilwaith allweddol ac iddyn nhw gael tua pumed rhan o'r swm oedd ei angen. 

Roedd hyn yn golygu meddai eu bod ond yn gallu gwneud y gwaith oedd ei angen yn unol â rheolau.

Holdco - y cwmni sy'n cynnal y maes awyr

Mae Mr Lewis yn cyfeirio at Holdco sef y cwmni sy'n cynnal y maes awyr. 

Llywodraeth Cymru sydd bia'r cyfranddaliadau a sy'n goruchwylio gwaith y maes awyr. 

'Gwahoddiad i ystyried swydd y cadeirydd'

Wrth ymateb i gwestiwn gan gadeirydd y pwyllgor, Darren Millar, dywedodd Roger Lewis iddo "gael gwahoddiad i ystyried swydd y cadeirydd" ym Maes Awyr Caerdydd gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.  

'Cysylltiad agosach gyda Ynys Môn'

Dywed Roger Lewis ei fod eisiau "datblygu cysylltiadau agosach gyda'r maes awyr ar Ynys Môn".  

Maes Awyr Môn
Alann Fryer/Geograph

'Seilwaith yn diodde'

Yn ôl Debra Barber cyn i lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr, roedd teimlad cyffredinol bod y perchennog blaenorol, Abertis yn colli diddordeb yn y maes awyr, a bod seilwaith yn diodde. 

Tystion

Roger Lewis OBE – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd Debra Barber – Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd
BBC
Roger Lewis OBE – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd Debra Barber – Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd

Pwyllgor cyfrifon – maes awyr caerdydd.

Yr wythnos diwethaf, cafodd Llywodraeth Cymru ei chyhuddo o "wastraffu" miliynau o bunnau ar brynu Maes Awyr Caerdydd yn dilyn amcangyfrif bod ei werth gwreiddiol tua hanner y pris a dalwyd.

Bu cyngor gan gyfrifwyr KPMG bod ei werth masnachol rhwng £20m a £30m cyn iddo gael ei werthu i'r llywodraeth am £52m yn 2013.

Daw'r amcangyfrif yn rhan o adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan SwyddfaArchwilio Cymru. 

Maes Awyr Caerdydd
Maes Awyr Caerdydd

Bore da

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9am ac yn clywed tystiolaeth ar Faes Awyr Caerdydd.   

Senedd
BBC