a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Addysg
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
  4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Setliad llywodraeth leol drafft
  6. Dadl Plaid Cymru: Twf economaidd
  7. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol: Tai
  8. Dadl Fer: Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni o'r Senedd am yr wythnos.

    Ymunwch â ni eto Ddydd Mawrth 2 Chwefror, tan hynny hwyl fawr.

    Senedd
  2. Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru

    Mae'r aelodau wedi cyrraedd eitem olaf y prynhawn sef y ddadl fer.

    Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns wedi dewis y pwnc 'Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru: Yr angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru a mwy o fuddsoddiad ynddynt.'

    Angela Burns
  3. 'Ar y trywydd cywir'

    Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths, yn dweud fod llywodraeth Cymru "ar y trywydd cywir" i gyrraedd ei thargedau ar dai fforddiadwy, ac wedi ymrwymo i'w cynllun Cymorth i Brynu

  4. Beirniadu 'treth ystafell wely'

    Roedd Jocelyn Davies yn ddirprwy weinidog dros dai ac adfywio rhwng 2007-11.

    Mae hi'n beirniadu'r hyn a elwir yn 'dreth ystafell wely' ac yn dweud fod angen defnyddio cartrefi gwag.

    Jocelyn Davies
  5. Targedau tai fforddiadwy

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn dadlau fod targedau llywodraeth Cymru "ymhell o fod yn ddigonol" o ran tai fforddiadwy a buddsoddi mewn tai cymdeithasol.  

    Mark Isherwood
  6. 'Argyfwng tai yng Nghymru'

    Mae Peter Black yn arwain dadl y Democratiaid Rhyddfrydol gan ddweud fod "argyfwng tai yng Nghymru."

    Mae Mr Black yn amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol.

    Tai
  7. 'Penderfyniadau cywir i gefnogi economi Cymru'

    Mae Gweinidog Economi Edwina Hart yn dweud y byddai angen araith yr un hyd ag un gan Fidel Castro i fynd i'r afael â'r cynnig yn iawn - ei hiraf a gofnodwyd erioed yn Ciwba yn cyrraedd saith awr a 10 munud! 

    Mae Ms Hart yn rhestri llawer o ystadegau sy'n dangos, meddai, fod  llywodraeth Cymru wedi cymryd y "penderfyniadau cywir i gefnogi economi Cymru".  

  8. Cau'r bwlch?

    Yr aelod Ceidwadol Suzy Davies yn cyhuddo gweinyddiaethau olynol llywodraeth Cymru o "fethu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant yn effeithiol".

    Mae Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwysleisio'r angen am fanc datblygu i Gymru i "gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru".  

  9. Cynllun economaidd hir dymor

    Wrth agor dadl Plaid Cymru, dywed Rhun ap Iorwerth fod cynllun economaidd hir dymor ei blaid yn cynnwys sefydlu corff fasnach newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol.  

    Rhun ap Iorwerth
  10. Toriadau i gyllido cynghorau lleol

    Mae'r aelod Plaid Cymru Simon Thomas yn cefnogi gosod uchafswm ar doriadau o 2.5%, syniad a ddaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli awdurdodau lleol. 

    Mae mwy na hanner cyllid awdurdodau lleol yn dod o grantiau gan lywodraeth Cymru, gyda'r gweddill yn dod o gyngor treth, trethi busnes a thaliadau am wasanaethau.

    Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews yn dweud mai fformiwla ar sail anghenion ydyw hi a'i fod "eto i gwrdd ag arweinydd cyngor sy'n credu fod y fformiwla yn ffafrio eu hawdurdod".

    Leighton Andrews
  11. Toriadau i gynghorau gwledig

    Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn feirniadol o gynlluniau llywodraeth Cymru i dorri'n sylweddol ar gyllid i awdurdodau lleol yng nghefn gwlad. 

    Cynghorau gwledig fydd fwya ar eu colled wedi i lywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Rhagfyr doriadau o hyd at 4% yng nghyllid pob awdurdod.

    Powys, Ceredigion a Sir Fynwy sy'n wynebu'r toriadau mwya. Dim ond gostyngiad o 0.1% fydd yng nghyllideb Cyngor Caerdydd. 

    Cynghorau
  12. Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad

    Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi ystyried cwyn a wnaed yn erbyn Mark Drakeford AC a Jenny Rathbone AC yn ymwneud â phenodi’r aelodau yn Gadeiryddion ar Bwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd Cymru Gyfan yn y gorffennol, a’r ffaith nad oedd y naill aelod na’r llall wedi cofrestru’r penodiad gyda’r Cofrestrydd.

    Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod y ddau aelod wedi torri’r cod ymddygiad. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn derbyn nad oedden nhw'n fwriadol wedi peidio a chofrestru er bod y wybodaeth o ddiddordeb cyhoeddus. Penderfynodd y Pwyllgor na ddylid cymryd camau pellach.

    Yn ogystal, mae’r pwyllgor wedi ystyried cwyn a wnaed yn erbyn Ann Jones AC oherwydd digwyddiad gafodd ei gynnal yn ei henw mewn ystafell gyfarfod yn y Senedd, a oedd yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod y rheolau wedi’u torri, penderfynodd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.

    Mae adroddiadau’r Comisiynydd i’w gweld yma:

  13. 'Ail-ddefnyddio canlyniadau Pisa'

    Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhuddo Simon Thomas o Blaid Cymru o " ail-ddefnyddio canlyniadau Pisa 2012 fel petai nhw wedi'u cyhoeddi ddoe".

    "Mae llawer wedi digwydd ers hynny" mynna Huw Lewis.

    Yn 2012 roedd canlyniadau Cymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is ar gyfartaledd na rhai Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. 

  14. Lefi 'treth cyflogaeth'?

    Mae'r Dirpwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James yn disgrifio'r ardoll newydd ar brentisiaethau - 0.5% o gostau cyflogau i gwmniau mawr - fel "treth cyflogaeth". 

    Mae disgwyl i'r lefi gael ei gyflwyno yn 2017 er mwyn ariannu prentisiaethau.

    Yn ôl y Canghellor George Osborne fe fydd y lefi prentisiaethau newydd o 0.5% ar gwmniau yn codi £3biliwn y flwyddyn ac yn ariannu tair miliwn o brentisiaethau.
    Image caption: Yn ôl y Canghellor George Osborne fe fydd y lefi yn codi £3 biliwn y flwyddyn ac yn ariannu tair miliwn o brentisiaethau.
  15. Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 'yn gwella'

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black yn mynegi pryder am ambiwlansis yn aros y tu allan ysbytai Treforys a Phenybont, yn enwedig ym mis Rhagfyr. 

    Yn ôl y Dirpwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething "mae'r sefyllfa yn gwella."

    Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod y gwasanaeth ambiwlans wedi ymateb i gyfanswm o 72.4% o alwadau brys yn y categori coch o fewn wyth munud ym mis Rhagfyr.

    Ambiwlansis
  16. Achubiaeth ariannol?

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar wedi gofyn i Mr Drakeford "a fydd e'n rhoi arian i fyrddau iechyd lleol fydd wedi gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol?"

    Wrth ymateb dywed y gweinidog iechyd "Fyddai ddim yn gadael i wasanaethau i gleifion yn unrhyw le yng Nghymru i ddiodde oherwydd yr her ariannol sy'n wynebu byrddau iechyd.

    "Efallai eich bod chi'n credu bod hynny'n gyfystyr a chael y byrddau iechyd allan o dwll, ond rydw i'n credu bod hynny'n ffordd synhwyrol o reoli ein cyllid er mwyn sicrhau mai anghenion cleifion yw'r flaenoriaeth a'u bod yn cael y gofal priodol."

  17. Anfodlonrwydd y Llywydd

    Ar ol gwrando ar y cofnod o'r cyfarfod llawn ddoe, mae'r Llywydd yn mynegi ei hanfodlonrwydd gyda defnydd arweinydd yr wrthblaid Andrew RT Davies o'r gair "mob" i ddisgrifio gwrthwynebwyr gwleidyddol.

    Rosemary Butler
  18. Croeso nôl

    Yr eitem gyntaf prynhawn yma yw Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

  19. Hwyl

    Dyna'r tro ola mae'n debyg i Huw Lewis ymddangos gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl am 1.30pm ar gyfer y cyfarfod llawn.

  20. Syniad newydd ar gyfer hyfforddi athrawon

    Wrth ymateb i gwestiwn am gyrsiau hyfforddi athrawon dywed Mr Lewis ei fod wedi " ystyried y syniad o gael ysgolion hyfforddi tebyg i'r drefn o ysbytai hyfforddi."

    Ond mae'n dweud bod hyn yn fater i'w olynydd.