a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r prif weinidog.
  2. Rheoliadau.
  3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Undebau Llafur y DU.
  4. Mesur yr Amgylchedd (Cymru) Cyfnod 3.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ddiwedd Cyfnod 3 Mesur yr Amgylchedd.

    Bydd Senedd Fyw nôl yfory ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Senedd
  2. Ailgylchu

    Mae'r grŵp hefyd yn edrych ar gyflwyno pwerau newydd, er mwyn cynyddu faint o ddeunyddiau sydd yn cael eu hailgylchu, gwella ansawdd y deunyddiau hynny a gwneud yn siŵr nad yw deunyddiau y gellid eu hailgylchu yn cael eu gwastraffu.

    Ailgylchu
  3. Bagiau siopa

    Rydym yn cyrraedd y grŵp olaf o welliannau.

    Byddai'r mesur yn ehangu pwerau Gweinidogion Cymru i’w caniatáu i osod tâl ar fathau eraill o fagiau siopa.

    Tra bod nifer y bagiau siopa untro sy’n cael eu cyflenwi wedi gostwng, mae data WRAP yn dangos cynnydd sylweddol yng ngwerthiant bagiau am oes yn ystod y cyfnod 2010-2013. 

    Er nad oedd y cynnydd hwnnw’n annisgwyl, bydd y mesur yn ehangu pwerau Gweinidogion Cymru er mwyn iddynt fedru gosod tâl ar fathau eraill o fagiau siopa megis bagiau am oes, yn ogystal â’r tâl presennol am fagiau untro, os bydd y dystiolaeth yn dangos bod cyflenwi a gwaredu’r mathau hynny o fagiau yn niweidio’r amgylchedd yn andwyol. 

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i Weinidogion Cymru ymateb i newidiadau yn ymddygiad cwsmeriaid yn y dyfodol neu unrhyw effeithiau anfwriadol y tâl presennol.

    Bagiau siopa
  4. Nwyon tŷ gwydr

    Mae'r aelodau yn cyrraedd grŵp 8. 

    Bydd y Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

    Y cytundeb rhyngwladol cyfredol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yw Protocol Kyoto 1997, sydd wedi rhoi rhwymedigaeth rwymol ar wledydd diwydiannol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy bennu targedau. Ac yntau wedi llofnodi Protocol Kyoto, ymrwymodd yr UE yn 2007 i sicrhau y byddai allyriadau nwyon tŷ gwydr 20 y cant yn is na lefelau 1990 erbyn 2020 ac 80% yn is erbyn 2050.   

  5. Diffiniad

    Mae grŵp 7 yn ymwneud â'r diffiniad o 'fioamrywiaeth' ac 'ecosystem'.

  6. Polisi cenedlaethol

    Mae'r aelodau wedi cyrraedd grŵp 4 o welliannau a elwir  'polisi adnoddau naturiol cenedlaethol'.

    Bydd hwn yn bolisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi'r blaenoriaethau a'r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. 

  7. Cynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru

    Dyma rannau allweddol y mesur, yn ôl Llywodraeth Cymru:

    • Rhan 1: Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol – mae’r rhan hon yn darparu deddfwriaeth fodern ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd sy’n helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu, ac sy’n hoelio sylw ar y cyfleoedd y mae’r adnoddau hynny’n eu rhoi inni.
    • Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd – mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu targedau statudol o ran lleihau allyriadau ac i gyflwyno cyllidebau carbon er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hynny.
    • Rhan 3: Codi Taliadau am Fagiau Siopa – mae’n rhoi’r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru fynd i’r afael ag unrhyw anawsterau a allai godi wrth weithredu’r cynllun llwyddiannus i godi tâl am fagiau siopa.
    • Rhan 4: Casglu a Gwaredu Gwastraff – mae’n gwella prosesau rheoli gwastraff drwy’n helpu i sicrhau bod mwy o wastraff busnes yn cael ei ailgylchu  a bod gwelliannau o ran trin gwastraff bwyd ac o ran faint o ynni sy’n cael ei adfer.
    • Rhannau 5 a 6: Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn a Thrwyddedu Morol – mae’r rhannau hyn yn egluro’r gyfraith sy’n ymdrin â rheoli pysgodfeydd pysgod cregyn a thrwyddedu morol.
    • Rhan 7: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Draenio Tir – mae’n egluro’r gyfraith sy’n ymdrin â systemau rheoleiddiol eraill ar gyfer yr amgylchedd, gan gynnwys rheoli perygl llifogydd a draenio tir.
  8. Gwelliannau

    Ceir rhestr o welliannau wedi'u didoli.

    Mae'r gwelliant cyntaf - rhif 68 - yn enw Llyr Gruffydd yn ceisio ychwanegu: "amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)".

  9. Mesur yr Amgylchedd

    Dadl Cyfnod 3 Mesur yr Amgylchedd (Cymru)  sydd ar y gweill. 

  10. Mesur Undebau Llafur

    Y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y cymal yn rhoi'r hawl i'r Senedd yn San Steffan i ddeddfu ar faterion yn y mesur sydd wedi eu datganoli.

  11. Amddiffyn eu swyddi

    Dywed Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol,  "nid yw gweithwyr yn streicio am resymau gwleidyddol, ond i amddiffyn eu swyddi sy'n talu."

  12. 'Ddim yn gwneud unrhyw synnwyr'

    Dywed arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood "nad yw'r mesur yn gwneud unrhyw synnwyr." 

    Ychwanega bod "undebau llafur yn llai tebygol o weithredu'n ddiwydiannol yma a byddwn yn dadlau bod hynny oherwydd eu bod yn rhan o bartneriaethau cymdeithasol." 

    Dywed Ms Wood bod hyn wedi ei amlygu gyda'r streic gan feddygon iau yn ddiweddar a ddigwyddodd yn Lloegr yn unig.

    Am fwy ynghylch pam nad aeth meddygon iau Cymru ar streic, cliciwch yma.

    Llinell biced yn sir Hampshire
    Image caption: Llinell biced yn sir Hampshire
  13. Rheolau newydd ar gyfer gweithredu diwydiannol?

    Mae'r Mesur Undebau Llafur yn gosod rheolau newydd ar gyfer gweithredu diwydiannol, gan gynnwys dweud bod yn rhaid i 40% o'r rheiny sy'n gymwys i bleidleisio gefnogi streic mewn meysydd allweddol fel addysg ac iechyd.

    Mae Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r mesur yn gryf ac yn dadlau ei fod yn ymwneud â meysydd sy'n rhan o'u cyfrifoldebau nhw.

    Bydd Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio heddiw ar roi sêl bendith ar gymal fydd yn rhoi'r hawl i'r Senedd yn San Steffan i ddeddfu ar faterion yn y mesur sydd wedi eu datganoli.

    Mae disgwyl i'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn y cymal.

    Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews bod y mesur yn "creu problemau ar gyfer y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru".

    Leighton Andrews
  14. Mesur Undebau Llafur

    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Undebau Llafur y DU sydd ar y gweill, gyda Leighton Andrews yn cynnig.

  15. Cwestiynu teyrngarwch y Ceidwadwyr i Gymru

    Mae AC Ceidwadol wedi awgrymu fod yna broblem denu meddygon i weithio yng Nghymru oherwydd nad ydynt yn credu fod yr ysgolion yn ddigon da.

    Dywedodd Altaf Hussain, cyn lawfeddyg, nad yw meddygon ifanc o Loegr am symud i Gymru oherwydd nad "ydynt am weld eu plant yn cael eu haddysgu yma."

    Mewn ymateb dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod e'n wfftio'r sylw yn llwyr gan gwestiynu teyrngarwch y Ceidwadwyr i Gymru.

    Altaf Hussain
  16. Cwestiwn brys

    Simon Thomas, aelod Plaid Cymru dros ganolbarth a gorllewin Cymru, yn gofyn cwestiwn brys ar ddiogelu plant yn Sir Benfro yn dilyn achos Dylan Seabridge. 

    Bu farw Dylan Seabridge yn Sir Benfro yn 2011, ond does yna ddim wedi ei gyhoeddi ynglyn ag a fyddai'r awdurdodau wedi gallu helpu i atal ei farwolaeth.

    Clywodd y cwest i'w farwolaeth nad oedd e wedi cael unrhyw gysylltiad gyda'r awdurdodau yn y saith mlynedd cyn iddo farw.

    Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, bod y Cynulliad yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Dylan, "wedi rhoi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar y llyfr statud sy'n cryfhau gwasanaethau diogelu gan gynnwys y rhai a ddarperir i blant yn Sir Benfro".

    Mark Drakeford
  17. Her Ysgolion Cymru

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn holi am ysgolion sy'n tanberfformio. 

    Yn ôl Carwyn Jones mae rhaglen Her Ysgolion Cymru yn gweithio.

    Kirsty Williams
  18. Addysg uwch

    Dywed arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod toriadau i addysg uwch yn mynd i arwain at golli mwy o swyddi nag yn Tata Steel. 

    Meddai Carwyn Jones, "nid wyf yn derbyn y dylai fod unrhyw golledion swyddi" mewn addysg uwch, a bod cronfeydd wrth gefn sylweddol gan y sefydliadau addysg uwch.

    Bu Carwyn Jones hefyd yn amddiffyn polisi'r llywodraeth ar dalu cymhorthdal ffioedd i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn Lloegr.

    Roedd Carwyn Jones yn ymateb i sylw gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, fod y polisi presennol yn golygu fod gormod o arian o Gymru'n diweddu yng nghoffrau prifysgolion yr ochr arall i Glawdd Offa.

    Dywedodd Mr Jones: "Mae angen i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gystadlu am fyfyrwyr o Gymru, yn hytrach na chael y rhain ar blât."

    Leanne Wood
  19. Degau o filiynau o bunnoedd

    Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd 'na "wallau sylfaenol" wrth reoli, goruchwylio a chynghori Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a bod hynny wedi costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr Cymru.

    Cafodd y gronfa ei sefydlu yn gorff hyd braich gan Lywodraeth Cymru i werthu tir ar draws Cymru - gan gynnwys yn y gogledd, Sir Fynwy a Chaerdydd - a defnyddio'r arian, ar y cyd ag arian Ewropeaidd, i ailfuddsoddi mewn ardaloedd sydd angen eu hadfywio.

    Rhai o'r safleoedd
  20. Carwyn Jones yn ymddiheuro

    Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ymddiheuro i ACau am waith Cronfa Buddsoddi Cymru.

    Daw hyn wedi i un o bwyllgorau'r Cynulliad ddod i'r casgliad fod y tir wedi'i werthu am bris llawer rhy isel. Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd fod "gwallau sylfaenol" yn y modd yr oedd y corff hyd braich o'r llywodraeth, RIFW, wedi delio â'r gwerthiant.

    Meddai Mr Jones: "Roedd y ffordd y cafodd y gronfa ei rheoli yn llawer is na'r safonau rydym ni'n eu disgwyl - rwy'n ymddiheuro am hynny."

    Y safleoedd dan sylw
    Image caption: Y safleoedd dan sylw