a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  3. Polisi Caffael - Ysgogi Gwelliant ac Ymgysylltu â Busnesau
  4. Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub o 2016 Ymlaen
  5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ar y rhaglen i ddileu TB
  6. Darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach sy'n deillio o'r Mesur Menter

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni am heddiw, ymunwch â ni bore fory am 9am ar gyfer y Pwyllgor Cymuendau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. 

    Bydd y pwyllgor yn parhau â'u hymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC.

    Tan hynny, nos da.

    Senedd
  2. 'Dirmyg'

    Dywed llefarydd materion gwledig Plaid Cymru Llŷr Gruffydd fod hyn yn "newyddion ysgytwol a fydd yn taflu dirmyg  ar y rhaglen o frechu moch daear. 

    "Dylai'r llywodraeth Lafur fod â chywilydd ei bod wedi galluogi hyn i ddigwydd."  

  3. Atal y prosiect brechu moch daear

    Mae'r Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd Rebecca Evans, yn cyhoeddi bod y cyflenwad o frechlynnau i imiwneiddio moch daear wedi cael ei "atal" oherwydd y prinder byd-eang o’r brechlyn BCG. 

    Dechreuodd llywodraeth Cymru ei rhaglen £4.6m i bara dros bum mlynedd i imiwneiddio moch daear yng ngogledd sir Benfro yn 2012. 

    Mochyn daear
  4. Rhaglen dileu'r diciâu

    Mae datganiad olaf y diwrnod gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Rebecca Evans, ar y rhaglen i ddileu diciâu.

    Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y gallai cynlluniau i gyhoeddi mapiau ar-lein o'r buchesi sydd wedi eu heintio â TB fygwth diogelwch eu haelodau.

    Mae llywodraeth Cymru yn dweud ei bod nhw yn bwriadu rhoi gwybodaeth ar ei gwefan sydd ddim yn mynd "yn groes i ofynion Deddf Diogelu Data 1998 a Chonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol."

    Mae ymateb chwyrn wedi bod gan rai ffermwyr ynglŷn â'r bwriad hwnnw.

  5. 'Arallgyferio wrth rolau traddodiadol'

    Mae Mr Andrews yn cynnig y dylai Awdurdodau Tân ac Achub, a diffoddwyr tân, "arallgyfeirio oddi wrth eu rolau traddodiadol". 

    Ochr yn ochr â'u gwaith diogelwch tân yn y cartref, dywed y fframwaith y gallent hefyd "helpu gyda'r risg o wenwyno carbon monocsid damweiniol, sy'n hawlio tua 30 o fywydau bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, neu edrych ar beryglon damweiniau yn y cartref."

  6. Ymlaen â ni!

    Tro'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews nesaf gyda'i ddatganiad ar Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub o 2016 Ymlaen.  

  7. Sefydlu gwasanaeth adborth i gyflenwyr

    Jane Hutt yn dweud ei bod wedi comisiynu gwaith i sefydlu gwasanaeth adborth i gyflenwyr "i ddarparu busnesau gyda mynediad at wasanaeth ymatebol i fynd i'r afael ag ymholiadau polisi ac adborth."

    Bydd Ms Hutt yn lansio'r gwasanaeth newydd ym mis Mawrth.  

  8. SQuID

    Mae Nick Ramsay yn holi'r gweinidog am SQuID.

    Ar gyfer yr y rheiny sy'n anghyfarwydd, dyma'r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr.

    Maent yn honni  "gwneud y broses gontractio yn haws i brynwyr a chyflenwyr, ac mae'n arbennig o ddefnyddiol i fusnesau bach."

    Math arall o 'squid'
    Image caption: Math arall o 'squid'
  9. Polisi Caffael

    Ymlaen at ddatganiad arall gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt, y tro hwn ar 'Bolisi Caffael - Ysgogi Gwelliant ac Ymgysylltu â Busnesau.'

  10. Cynnig am £150 miliwn

    Dywed y prif weinidog fod llywodraeth Cymru yn gwneud cynnig am £150 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

    Mae'n galw ar lywodraeth y DU i "gyflawni ar y Fargen Ddinesig".  

  11. Metro de Cymru

    Mae'r prif weinidog yn gwneud datganiad am y prosiect Metro ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer de Cymru gwerth £600 miliwn. 

    Mae ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau yn 2016 ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus o Ben-y-bont ar Ogwr at y ffin. 

    Dywedodd y prif weinidog ei fod ddoe wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ym Mhontypridd, addawodd amseroedd teithio cyflymach a gwasanaethau amlach. 

    Metro
  12. Dibenion gwleidyddol

    Yn ystod y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes mae Jane Hutt yn gwrthod honiad gan yr aelod Plaid Cymru Alun Ffred Jones fod ymweliadau gweinidogol yn cael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddol.

  13. 'Dylid eu cyfeirio at yr heddlu'

    Dywed y Gweinidog Addysg Huw Lewis ei fod yn disgwyl i unrhyw honiadau o weithgarwch troseddol gael eu cyfeirio at yr heddlu.  

  14. Cwestiwn brys

    Andrew RT Davies yn gofyn cwestiwn brys ar benderfyniad llywodraeth Cymru i dynnu cyllid oddi wrth y West London Vocational Training College.

    Cafodd taliadau i gampws y coleg yng Nghaerdydd eu gwahardd wedi i raglen BBC Cymru Week in Week Out cynnal ymchwiliad i honiadau o dwyll.  

  15. Toriadau S4C

    Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn codi pryderon ynghylch toriadau S4C gyda llywodraeth y DU meddai Suzy Davies.  

    S4C
  16. 'Dim toriadau i gyllid'

    "Ni fyddwn yn chwilio i wneud toriadau llym i lywodraeth leol", meddai'r prif weinidog.

    Llywodraeth leol
  17. Dim cynllun ehangach

    Mewn ymateb i arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood mae Mr Jones yn pwysleisio nad yw'n teimlo fod y Prif Weinidog David Cameron wedi llunio cynllun ehangach eto ynghylch Syria.

    Leanne Wood
  18. O blaid bomio o'r awyr

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn i'r prif weinidog am Syria. 

    Ateba Mr Jones ei fod yn bersonol yn cefnogi bomio o'r awyr er y bydd rhai yn ei blaid yn gwrthwynebu.

    Fodd bynnag, ychwanega nid yw ymgyrch bomio yn ddigonol ar ei ben ei hun i ddod â heddwch i Syria.  

    Bomio
  19. 'Datgymalu'r agenda'

    Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams fod llywodraeth y DU yn datgymalu'r agenda gwyrdd. 

    Ateba'r prif weinidog fod ei lywodraeth wedi bod yn "llafar iawn" wrth feirniadu. 

    Kirsty Williams
  20. 'Ansicrwydd'

    Buddsoddwyr yn ffeindio "ansicrwydd" polisi ynni llywodraeth y DU yn anghynes, medd y prif weinidog. 

    Ynni
  21. Prosiect ffantastig

    Wrth sôn am lagŵn Abertawe, dywed yr aelod Llafur David Rees fod llywodraeth y DU yn "mwydro" ac yn "anaddas".

    Dywed y prif weinidog ei fod yn brosiect ffantastig sydd angen "parch".

    Carwyn Jones
  22. Cyfarfod llawn ar fin dechrau

    Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 13:30 gyda chwestiynau i'r prif weinidog.

    Yn dilyn hyn bydd cwestiwn brys.

  23. Hwyl am y tro!

    Mae'r pwyllgor wedi gorffen.

    Dewch yn ôl am 13:30 ar gyfer dechrau'r sesiwn lawn. 

  24. 120 erw o dir fferm ar gyrion Caerdydd

    Roedd y safle mwyaf gwerthfawr oedd ar werth yn cynnwys 120 erw (50 hectar) o dir fferm ar gyrion Caerdydd a allai yn awr gael eu clustnodi ar gyfer tai. 

    Cafodd y tir ei werthu am £15,000 yr erw (£37,500 yr hectar) ond mae un prisiad wedi amcangyfrif yn awr y gallai darnau mawr o'r tir fod yn werth hyd at £2 miliwn yr erw (£5m yr hectar).

  25. "Ddim yn gwneud hyn am resymau dyngarol"

    "Mae pedair swydd barhaol yn cael eu creu gan bob tŷ sy'n cael ei adeiladu" meddai Mr Davies, sy'n disgrifio adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn "gyfyngedig". 

    "Dydych chi ddim yn gwneud hyn am resymau dyngarol" meddai Darren Millar. 

    Daeth Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad: "O ganlyniad i ddiffygion yn y ffordd y sefydlwyd y Gronfa, y broses o ddethol asedau a hefyd y broses werthu ei hun, ni all y Gronfa na Llywodraeth Cymru ddangos y cyflawnwyd gwerth am arian o drafodyn gwerthu'r portffolio."

  26. 'Digon' o arian

    "Rydym wedi gwneud arian ac mae llywodraeth Cymru wedi hefyd", meddai Mr Davies. 

    "Rydych yn sicr wedi gwneud digon o arian" ymatebodd cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar.  

    Arian
  27. Gorswm heb ei gytuno

    Mae Mr Davies yn esbonio'r sefyllfa bresennol o ran y tir yn Nhrefynwy, nid ydynt eto wedi cwblhau ar werthiant y tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl. 

    Er mwyn cwblhau, meddai "Mae angen i RIFW gael gwared ar eu costau ar y tir sy'n ymwneud â'r gorswm." 

    Gorswm yw'r hawl bosibl i dderbyn taliadau yn y dyfodol mewn perthynas â thir, yn yr achos hwn nid yw'r gorswm sy'n ddaliadwy wedi'i gytuno.  

  28. 'Ddim mewn brys'

    "Doeddem ni ddim mewn brys eithriadol, cymerodd hi flwyddyn.

    "Mae 12 mis yn gyfnod hir o amser i daro bargen " meddai Langley Davies.

    Y 15 darn o dir cyhoeddus a werthwyd
    Image caption: Y 15 darn o dir cyhoeddus a werthwyd
  29. 'Teitlau gwallus'

    Roedd "99 achos o deitlau gwallus...nid oeddent mewn cyflwr taclus o gwbl", meddai Mr Davies.  

  30. Tyst

    Langley Davies, Cyfarwyddwr, South Wales Land Developments Limited
    Image caption: Langley Davies, Cyfarwyddwr, South Wales Land Developments Limited
  31. Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

    Am y chweched tro, y Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yw pwnc y pwyllgor.

    Yn gynharach eleni fe wnaeth adroddiad i'r arwerthiant mwyaf o dir cyhoeddus yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ddarganfod y dylai fod wedi creu o leiaf £15 miliwn yn fwy i'r trethdalwr.

    Fe gafodd gasgliad o safleoedd eu gwerthu fel un portffolio gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, neu RIFW, am £21m dair blynedd yn ôl.

    Arwerthiant tir
  32. Bore da

    Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9.00.

    Mae 1 Rhagfyr yn gofiadwy yn y Cynulliad oherwydd ar y dyddiad hwn yn 2004 fe wnaeth Leanne Wood greu hanes fel yr AC cyntaf i gael gorchymyn i adael Siambr y Cynulliad.

    Amlinellwyd rhaglen ddeddfwriaethol llywodraeth y DU yn araith y Frenhines wythnos ynghynt, ac yn ystod dadl ar hynny yn y Cynulliad, fe alwodd Leanne Wood y Frenhines yn "Mrs Windsor".

    Yn hwyrach yn y sesiwn lawn, gofynnodd y Llywydd, Dafydd Elis-Thomas, iddi dynnu'r sylw yn ôl gan ddweud ei fod yn anghwrtais.

    Bu’n rhaid i'r AC dros Ganol De Cymru adael y siambr, gydag aelodau eraill Plaid Cymru yn ei dilyn, ar ôl iddi wrthod gwneud hynny. Gwyliwch yma.

    Senedd