a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cymunedau: Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r gweinidog cyllid
  3. Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
  4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drosglwyddo gofal
  5. Dadl Plaid Cymru ar ddiarfogi niwclear
  6. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol ar dwristiaeth
  7. Dadl fer: Gwastraff bwyd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Anna Glyn

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth.

    Senedd
  2. Mentrau

    Y gweinidog cyfoeth naturiol yn dweud bod gan y llywodraeth fentrau i leihau gwastraff bwyd ac ailddosbarthu bwyd.

    Ond mae'n dweud "mae mwy o waith i'w wneud".

    O ran deddfwriaeth mae'n dweud y bydd yn gofyn i'w dîm a oes unrhyw beth y gellir ei wneud.

  3. Dadl Fer

    Y pwnc a ddewiswyd gan Julie Morgan yw: "Y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd: rhoi'r gorau i wastraffu bwyd da yng Nghymru".

    Dywed bod gwastraff bwyd yn "foesol anghywir".

  4. Pleidlais Trident

    Cafodd cynnig Plaid Cymru - yn gwrthwynebu adnewyddu neu ailosod y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU - ei wrthod 35 pleidlais i 14.

  5. Cefnogi gostyngiad mewn TAW

    Y dirprwy weinidog Ken Skates: "Rwyf wedi bod yn glir fy mod yn cefnogi gostyngiad mewn TAW".

    Y mae wedi codi hyn gyda gweinidogion yn San Steffan ond mae'n dweud ei fod yn "peri tristwch" iddo "nad yw'n ymddangos yn debygol" y byddant yn cefnogi hyn.

  6. 200,000 o swyddi

    Dywed Rhun ap Iorwerth bod y diwydiant yn cynnal tua 200,000 o swyddi ac yn un o'n "cryfderau" yng Nghymru.

    "Rwy'n credu'n gryf mewn adeiladu ar ein cryfderau", meddai.

    Traeth
  7. Croeso Cymru

    William Powell yn dweud bod angen am "fwy o atebolrwydd" ar gyfer Croeso Cymru.

  8. Gweithio yn galed

    Suzy Davies AC: "Camgymeriad" os ydym yn rhoi'r argraff i "bobl ifanc bod twristiaeth yn ddiwydiant lle nad oes rhaid i chi weithio yn rhy galed ".

  9. Lleihau TAW ar dwristiaeth?

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i leihau TAW ar dwristiaeth. Eluned Parrott yn dweud y byddai'n creu mwy o swyddi mewn ardaloedd lle mae llawer yn symud i ffwrdd i chwilio am waith.

  10. Twristiaeth

    Rydym wedi cyrraedd dadl y Democratiaid Rhyddfrydol. Y pwnc yw twristiaeth yng Nghymru.

    Twristiaeth
  11. 'Beiau ond dim atebion'

    Darren Millar AC yn ymateb i'r ddadl drwy ddweud bod yr asesiad iechyd y maent yn ei gynnig yn "fesur ataliol".

    Dywed bod y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi dod o hyd i feiau ond heb gynnig "ateb arall".

  12. Her i holl genhedloedd y DU

    Mae'r dirprwy weinidog Vaughan Gething yn dweud bod oedi wrth drosglwyddo gofal yn her i holl genhedloedd y DU.

    Dywed y bu 12% o ostyngiad ers 2010 mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru ac mae'n "optimistaidd" y bydd gwelliant yn yr adroddiad nesaf am drosglwyddo gofal.

    Vaughan Gething
  13. Asesiad 'aros yn y cartref'

    Aled Roberts yn dweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn "barod i dderbyn bod yna broblem" ond "nid yr ateb yr ydych wedi'u rhoi ger ein bron".

    Dywed fod y Ceidwadwyr wedi dod o hyd i "ateb syml iawn" i oedi wrth drosglwyddo gofal, sef cyflwyno'r opsiwn o asesiad 'aros yn y cartref' yng Nghymru ar gyfer pawb sy'n cyrraedd oedran ymddeol.

    Janet Finch-Saunders yn dweud y byddai'r asesiadau yn gwneud gwahaniaeth.

    Aled Roberts
  14. 50 mlynedd nesaf

    Elin Jones AC: "mae angen gwirioneddol i ni integreiddio gwasanaethau" a chynllunio gwasanaethau ar gyfer y 50 mlynedd nesaf.

  15. Ansawdd bywyd

    Mae Dr Altaf Hussain yn disgrifio effaith negyddol y gall oedi wrth drosglwyddo gofal ei chael ar y GIG yng Nghymru ac ansawdd bywyd yr unigolyn;

    Dywed bod angen "grymuso pobl hŷn" trwy eu galluogi i aros yn eu cartrefi cyhyd â phosibl.

  16. Gofal yn y cartref

    Gofal yn y cartref yw pwnc dadl y Ceidwadwyr Cymreig.

  17. 'Dim safbwynt'

    Carwyn Jones yn dweud nad oedd yn siarad ar ran y llywodraeth gan nad oes ganddynt safbwynt ar Trident.

    Pan ofynnwyd iddo gan Rhun ap Iorweth a fyddai'n dal i groesawu Trident pe byddai'n gadael yr Alban - gan gyfeirio at sylw Mr Jones yn 2012 - mae'n ateb 'na'.

  18. 'Nid Trident yw'r ateb'

    Julie Morgan AC yn dweud bod yr ymosodiadau diweddar ym Mharis a'r bygythiad o derfysgaeth yn golygu nid Trident yw'r ateb cywir.

  19. Gonestrwydd

    Simon Thomas yn dweud bod sylwadau diweddar Jeremy Corbyn "na fyddai'n gwasgu y botwm" yn dangos gonestrwydd sydd ei angen wrth drafod Trident.

  20. Ofni mynegi barn?

    Rhodri Glyn Thomas yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn "ofni mynegi barn" ar Trident.

    Trident
  21. 'Meddylfryd rhyfel oer'

    Mae William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud nad yw ei blaid am i Trident gael ei adnewyddu "tebyg am debyg".

    Mae'n dweud bod gan lywodraeth y DU "feddylfryd rhyfel oer".

    "Mae'r byd wedi newid" ac meddai angen addasu'r ymagweddi i amddiffyn y wlad, meddai.

    William Powell
  22. Angen adnewyddu

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod angen adnewyddu Trident.

    "Yn anffodus nid ydym yn byw mewn byd di-niwclear", meddai.

    Andrew RT Davies
  23. Effaith ar Gymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn galw ar y cynulliad "fel corff" i roi ei farn ar Trident. Mae hi'n dweud y bydd penderfyniad llywodraeth y DU ar ddyfodol Trident yn cael effaith ar Gymru.

    Leanne Wood
  24. Dadl Plaid Cymru

    Dadl Plaid Cymru sydd ar y gweill erbyn hyn, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu ailosod y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; ac

    2. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd.

  25. Ffrwydrad

    Prif Weinidog Cymru yn ymateb i gwestiwn brys am Celsa Steel. Mae'n dweud y bydd yr heddlu yn gwneud datganiad y prynhawn yma a bod dau o weithwyr ar goll wedi ffrwydrad yn ardal Sblot, Caerdydd.

    "Mae ein pryderon ac mae ein meddyliau gyda'r gweithwyr a'r teuluoedd ar yr adeg bryderus ac anodd."

    Mae'n dweud "unwaith y bydd y darlun llawn" yn dod i'r amlwg, yna gall y llywodraeth ystyried beth i'w wneud i gynorthwyo'r gweithwyr a'r gymuned.

    Celsa Steel
  26. Sbwriel

    Eluned Parrott yn dweud bod cyngor Caerdydd yn mynd i arbrofi gyda defnyddio gwasanaeth gorfodi gwastraff o'r sector preifat.

    Mae'r AC yn dweud bod rhai pobl yn dal i aros am y bagiau bin cywir ar ôl i'r cyngor newid ei bolisi yn ddiweddar.

    "Mae trigolion yn arswydo y gallent gael eu cosbi gan gwmni preifat" ar gyfer defnyddio'r biniau anghywir, meddai.

    Dywed y gweinidog ei fod yn fater i'r cyngor ond bod y llywodraeth yn cefnogi gwasanaethau a ddarperir gan y sector cyhoeddus.

  27. Ad-drefnu cynghorau

    Peter Black AC yn cyhuddo'r gweinidog o achosi "ansicrwydd" am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ad-drefnu cynghorau a bod hyn yn "effeithio ar forâl" y rhai sy'n gweithio mewn llywodraeth leol.

    Y gweinidog yn dweud nad oes unrhyw ansicrwydd. Dywed y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi drafft o'r mesur newydd yr wythnos nesaf.

    Mae Leighton Andrews wedi dweud yn y gorffennol y byddai lleihau nifer y cynghorau yn lleihau costau.

  28. Rhyddid gwybodaeth

    Janet Finch-Saunders yn dweud nad yw llawer o gynghorau yn cyhoeddi ceisiadau deddf rhyddid gwybodaeth ar eu gwefannau.

    Leighton Andrews yn ymateb: "Mae'n ddiddorol i gael y cwestiwn hwn gan y Ceidwadwyr pan fod llywodraeth Geidwadol y DU yn ystyried sut i weithredu'n llymach yn erbyn ceisiadau rhyddid gwybodaeth."

    Mae Janet Finch-Saunders yn gweiddi yn ôl, "Rydym yng Nghymru".

  29. Cyllid yr heddlu

    Y gweinidog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, Leighton Andrews yn ateb cwestiynau am doriadau i gyllid yr heddlu.

    Nid yw plismona yn fater datganoledig, ond dywed y gweinidog bod llywodraeth Cymru wedi cadw at eu haddewid i ariannu 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol.

    Cyflawnwyd yr addewid, a oedd ym maniffesto Llafur yn 2011, yn 2013, meddai.

    Leighton Andrews
  30. Fformiwla Barnett

    Jane Hutt yn ateb cwestiwn am fformiwla Barnett - system o grantiau sy'n pennu lefel y gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi dadlau ers tro bod gwariant cyhoeddus y pen yn sylweddol wahanol mewn gwahanol rannau o'r DU a bod Cymru yn colli arian.

    Mae hi'n dweud bod llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i gyflwyno arian gwaelodol i ddelio â'r mater hwn.

    Arian
  31. Caffael

    Elin Jones AC yn gofyn am gontractau caffael y llywodraeth yng Nghymru. Mae hi'n dweud bod heriau yn wynebu busnesau newydd o ran cael mynediad at gontractau caffael.

    Jane Hutt yn dweud ei fod yn bwysig i godi ymwybyddiaeth am y contractau.

  32. Maes awyr Caerdydd

    Nick Ramsay AC yn gofyn i'r gweinidog am faes awyr Caerdydd, gan ddadlau y dylid edrych yn awr ar ei roi yn ôl yn y sector preifat.

    Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru yn 2013.

    Dywed y gweinidog mai prynu'r maes awyr oedd y penderfyniad cywir.

    Maes awyr Caerdydd
  33. HMRC

    Aelodau'r Cynulliad yn gofyn i'r gweinidog ynghylch colli swyddi mewn swyddfeydd Cyllid a Thollau EM. Peter Black AC yn gofyn i'r gweinidog a ddylai HMRC fod yn gyfrifol am gasglu'r trethi sy'n cael eu datganoli i Gymru. Jane Hutt yn dweud bod hyn yn drafodaeth ar gyfer y llywodraeth ar ôl etholiadau'r Cynulliad.

    Y swyddfa dreth yng Nghaerdydd
  34. Cwestiwn brys

    Bydd cwestiwn brys tua 3pm yn dilyn ffrwydrad ar safle gwaith dur Celsa Steel yn Y Sblot yng Nghaerdydd.

  35. Cyllid a Busnes y Llywodraeth

    Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yw'r eitem gyntaf y prynhawn 'ma.

  36. Da bo am y tro

    Dyna ddiwedd y pwyllgor heddiw.

    Bydd Senedd Fyw nôl am 1.30 ar gyfer y cyfarfod llawn.

  37. Ymddiriedolaeth y BBC

    Yr Athro Tom O'Malley yn dweud ei bod yn debygol yn y dyfodol y bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn diflannu a gwaith goruchwyliaeth yn cael ei roi i gorff allanol, o bosibl OFCOM.

    Mae'n rhybuddio os dyna'r achos "byddai angen ailffurfio radical ... ar amcanion a dibenion" OFCOM oherwydd ei brif ddiben nawr, meddai yw hyrwyddo gwerthoedd masnachol.

  38. Pobl ifanc

    Dr John Geraint yn dweud wrth ACau: "Mae yna bobl ifanc ledled Cymru sydd ddim yn clywed eu straeon yn cael eu dweud ... Dylech fod yn mynegi eu llais".

  39. Opera a dawns

    Angela Graham yn gofyn "Pryd wnaethoch chi weld opera o Gymru neu ddawns o Gymru ar y teledu?"

    Nid trafodaeth haniaethol mo hon, meddai.

    Opera
  40. 'Sefydliad cyhoeddus sydd â chyfrifoldebau cyhoeddus'

    Yr Athro Tom O'Malley: "Mae'r ddadl bod hwn yn fater ariannol ac nid mater o lywodraethu eang yn ymddangos i mi i fod braidd yn wrthnysig yn dod o sefydliad (BBC) sy'n sefydliad cyhoeddus sydd â chyfrifoldebau cyhoeddus ..."

    BBC
  41. Ewrop

    Ruth McElroy yn dweud bod y materion sydd angen mynd i'r afael â hwy o fewn y diwydiant hefyd yn bodoli yn Ewrop.

    "Efallai bod yr atebion yn Ewrop yn hytrach na Llundain."

  42. Rhagfarn?

    Dr John Geraint yn dweud bod "rhagfarn Lloegr ym mhob comisiynu darlledu". Dywed bod comisiynu'r BBC yn cael ei wneud yn bennaf yn Lloegr a bod hyn yn cael effaith negyddol.

    John Geraint
  43. Llais Cymreig clir

    Ruth McElroy yn dweud ei fod yn "hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu" yn y sgwrs am y siarter. Mae hi'n dweud os nad oes llais Cymreig clir mae 'na berygl na fydd y BBC yn deall cyd-destun y Cymru ddatganoledig.

  44. Hen bryd am adolygiad?

    Angela Graham: "Rwy'n cwestiynu amseriad yr adolygiad" y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdano. "Dwi ddim yn deall pam nad yw wedi ei wneud cyn hyn."

  45. Tystion

    Tystion
    Image caption: (o'r chwith) Yr Athro Tom O'Malley, Prifysgol Aberystwyth, Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig, Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru, Dr John Geraint, Green Bay Media
  46. Atebol

    Natasha Hale yn dweud bod llywodraeth Cymru wedi galw ar y BBC am "gontract clir" yn disgrifio eu darpariaeth i Gymru, "a byddent yn atebol i'r llywodraeth am hynny."

    BBC ac S4C
  47. Ffederaleiddio y BBC?

    Alun Davies AC yn gofyn am farn y dirprwy weinidog o'r posibilrwydd o ffederaleiddio y BBC. Ken Skates yn dweud ei fod am i'r adolygiad gael ei gynnal yn gyntaf, ond nid yw'n diystyru yr awgrym.

  48. Toriadau pellach?

    Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes yn Llywodraeth Cymru, yn dweud y bydd gwasanaethau yn dioddef os oes unrhyw doriadau pellach i BBC Cymru ac S4C.

    "Rydym wedi cymryd yr holl doriadau y gallwn eu cymryd", meddai.

    Natasha Hale a Ken Skates
  49. 'Problem sylfaenol'

    Dywed y cyn-weinidog Alun Davies "y broblem sylfaenol yw bod diwylliant y BBC wedi'i wreiddio yn y dosbarthiadau canol uwch yn Llundain ac nid wedi ei wreiddio ym mhrofiad bywyd beunyddiol pobl Prydain".

    Ken Skates yn dweud bod hynny'n "asesiad teg" ac yn cytuno â Mr Davies fod angen i'r BBC nid yn unig i gynrychioli Cymru yn llawn ond hefyd y DU gyfan.

  50. 'Dim esgus i leihau gwariant'

    "Mae'n wych ein bod yn gallu dathlu Caerdydd fel canolfan ragoriaeth, ond ni ddylid ei defnyddio fel esgus i leihau gwariant ar deledu i Gymru," meddai y dirprwy weinidog wrth drafod pentref drama Porth y Rhath ym Mae Caerdydd.

    Porth y Rhath
  51. 'Dyletswydd i gyflawni'

    Mae'r dirprwy weinidog Ken Skates yn dweud bod y prif weinidog Carwyn Jones yn dal i aros am ymateb i'w alwad am adolygiad o'r hyn y mae gan y BBC "ddyletswydd i gyflawni" yng Nghymru. Mae'n dweud os nad yw'r llywodraeth yn cael "ymateb boddhaol" byddant yn ystyried cynnal yr adolygiad eu hunain.

    Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
    Image caption: Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
  52. 'Siom fawr'

    Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddisgrifio fel "siom fawr" yr hyn maen nhw'n ei alw yn ddiffyg rhaglenni comedi a dramâu Saesneg sy'n cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru.

    Roedd y llywodraeth yn ymateb i ymgynghoriad ar ddyfodol y BBC, gan ddweud fod ganddynt bryder mawr am gyllido yn y dyfodol

    Ym mis Awst, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, alw am wario £30 miliwn yn ychwanegol ar raglenni'r BBC ar gyfer diwallu anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru.

    Dywed y BBC eu bod yn trafod eu cynlluniau gyda'r llywodraethau datganoledig hyn o bryd, ond eu bod yn "wynebu her ariannol anodd."

  53. Bore da

    Bydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dechrau am 9.00, gydag ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC.

    Senedd