a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Aelodau yn cynnal dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg.
  4. Dadl ar egwyddorion cyffredinol Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol a Mesur yr Amgylchedd.
  5. Dadl cyfnod 4 y Mesur Llywodraeth Leol.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Pasiwyd y Mesur Llywodraeth Leol a chyda hynny daw'r diwrnod i ben.

    Ymunwch â ni am 10am bore fory ar gyfer y Pwyllgor Iechyd.

    Senedd
  2. Cytundeb â Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb â Llywodraeth Lafur Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol.

    Does gan Lafur ddim mwyafrif ac felly mae angen cefnogaeth plaid arall i gymeradwyo'r ddeddfwriaeth.

    Byddai'r Mesur Llywodraeth Leol yn ei gwneud hi'n bosib uno cynghorau ond mae'r cytundeb yn golygu na fydd modd uno unrhyw gynghorau cyn etholiad y Cynulliad fis Mai 2016.

  3. Eitem olaf

    Mae'r aelodau wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Mesur Amgylchedd cyn symud ymlaen at ddadl Cyfnod 4 y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru).

  4. Pryderon gan bwyllgor

    Dywed David Melding, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, nad ydy aelodau'r pwyllgor yn derbyn rhesymeg y gweinidog dros gyflwyno deddfwriaeth nad oedd, ym marn y Llywydd, "o fewn cymhwysedd yn llawn".

    Ychwanegodd, "mae'r ffaith bod un o'r cydsyniadau wedi cael ei wrthod yn amlygu i ni berygl yr ymagwedd hon".

    David Melding
  5. Bodlon â'r egwyddorion cyffredinol

    Alun Ffred Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, yn dweud er bod y pwyllgor yn credu fod angen i'r mesur gael ei wella mewn nifer o feysydd, ac mae wedi gwneud 51 o argymhellion, mae'r pwyllgor yn fodlon â'r egwyddorion cyffredinol.

  6. Cytunwyd ar egwyddorion

    Cytunodd aelodau ar egwyddorion cyffredinol Mesur Hanesyddol yr Amgylchedd (Cymru ) cyn symud ymlaen at ddadl ar egwyddorion Mesur yr Amgylchedd.

  7. Amcanion y mesur

    Disgwylir i'r mesur ddod i rym yn 2016.

    Un o'r amcanion yw ei gwneud yn fwy anodd i bobl i hawlio anwybodaeth o statws neu leoliad heneb.

    Rhaid i gynghorau hefyd gadw cofnodion am yr amgylchedd hanesyddol er mwyn ystyried wrth wneud penderfyniadau cynllunio, a sefydlu cofrestr o barciau a gerddi o bwysigrwydd cenedlaethol.

  8. Pryderon gan bwyllgor

    Un o brif bryderon y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol oedd yr effaith y bydd y Mesur hwn yn ei chael ar awdurdodau lleol.

    Eglurodd Cadeirydd y Pwyllgor Christine Chapman bod: "Aelodau yn ymwybodol bod llywodraeth leol ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer newid sylweddol wrth baratoi ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru ), yn ogystal mae llywodraeth leol wedi bod yn destun toriadau cyllideb sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf."

  9. Clawdd Offa

    Gall cynghorau hefyd gymryd camau i atal pydredd drwy adennill costau gwaith brys.

    Yn 2013 cafodd darn o Glawdd Offa, sydd yn 1,200 blwydd oed, ar dir preifat rhwng Y Waun a Llangollen, ei ddifrodi.

    Ond yn 2014 dywedodd yr heddlu nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau am niwed i'r gwrthglawdd hynafol, a adeiladwyd yn yr 8fed ganrif fel ffin rhwng parth y Brenin Offa a Chymru.

    Clawdd Offa
  10. Pwrpas y Mesur

    Pwrpas y gyfraith newydd yw amddiffyn henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru a'i gwneud hi'n fwy anodd i'r rhai sy'n eu niweidio i ddianc rhag erlyniad.

    Mae'n dod ar ôl i 119 o achosion o ddifrod i safleoedd rhwng 2006 a 2012 arwain at ddim ond un erlyniad llwyddiannus.

    Bydd y Mesur yn rhoi pwerau i weinidogion i wneud perchnogion sy'n niweidio henebion i ymgymryd â'r gwaith atgyweirio.

  11. Ail ddadl y prynhawn

    Mae ail ddadl y prynhawn ar Egwyddorion Cyffredinol Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) newydd ddechrau.

    Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates yn agor y ddadl.

    Ken Skates
  12. Galw am amserlen

    Aelod Plaid Cymru Simon Thomas yn galw am amserlen ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y strategaeth 'Iaith fyw: iaith byw' erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

    Mae'n strategaeth bum mlynedd, o 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2017 a ddisodlodd Iaith Pawb a gyhoeddwyd yn 2003.

  13. Meri Huws

    Yn y rhagair mae Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws yn adlewyrchu ar y tair blynedd sydd wedi mynd heibio ers i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddechrau cael ei weithredu.

    Dywed: "Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y tair blynedd yw pa mor weinyddol feichus yw rhannau o'r ddeddfwriaeth. Ffrwyth hen gyfundrefn gyfreithiol y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol — yr LCO gynt — yw Mesur y Gymraeg, pan nad oedd gan Gymru bwerau deddfu llawn ei hun, a phan oedd gwleidyddion San Steffan yn craffu ar fesurau Cymreig. Gyda Chymru, ers hynny, wedi ennill pwerau deddfu llawn, credaf ei bod hi'n amserol i fynd yn ôl at y Mesur i'w gryfhau a'i lyfnhau er mwyn gwarchod hawliau a sicrhau cyfiawnder i bobl Cymru. "

    Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws
  14. Comisiynydd y Gymraeg

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at y cyntaf o dair dadl y prynhawn yma.

    Yn gyntaf, dadl gan y prif weinidog ar ymateb llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg.

  15. Mis Ebrill y flwyddyn nesaf

    Pasiwyd y Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn gan yr aelodau.

    Yn gyfreithiol, o fis Ebrill y flwyddyn nesaf bydd rhaid gosod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru.

  16. Gorfodol

    Mae AC Gogledd Caerdydd Julie Morgan wedi galw'n gyson am wneud microsglodyn yn orfodol er mwyn gallu dod o hyd i berchnogion cŵn sydd wedi ymosod ar bobl.

    Microsglodyn
  17. Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn 2015

    Mae'r aelodau wedi mynd ymlaen i drafod Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015.

    Ym mis Tachwedd 2014, dywedodd yr RSPCA wrth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd fod oedi wrth gyflwyno gorfodaeth i osod microsglodion ar gŵn yng Nghymru yn "siomedig".

    Pan fydd ci yn cael ei drosglwyddo i geidwad newydd, bydd y ceidwad sy'n trosglwyddo yn gyfrifol am ddiweddaru'r gronfa ddata sy'n dal y wybodaeth sy'n gysylltiedig â microsglodyn y ci.

  18. Diwydiant dur

    Dywed y gweinidog: "Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cefnogaeth sylweddol i'r diwydiant dur ar draws meysydd fel sgiliau a hyfforddiant, ymchwil, datblygu ac arloesi a gwelliannau amgylcheddol i gynyddu cystadleurwydd ar draws y gadwyn gyflenwi."

    Ychwanegodd fod costau ynni uchel a mewnforion rhad yn bygwth ffatrioedd yng Nghymru.

    Tata Steel wedi torri cannoedd o swyddi mewn gweithfeydd gan gynnwys Port Talbot mewn ymgais i aros yn gystadleuol
    Image caption: Tata Steel wedi torri cannoedd o swyddi mewn gweithfeydd gan gynnwys Port Talbot mewn ymgais i aros yn gystadleuol
  19. Uwchgynhadledd ar ddur

    Mae'r ddadl nesaf gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart, ar yr uwchgynhadledd ar ddur.

  20. Refferendwm 2011

    Dywed Kirsty Williams "fe wnaeth pobl Cymru wrthod yn y refferendwm diwethaf y dylai'r sefydliad hwn ofyn am ganiatâd gan San Steffan i ddeddfu."

    Yn refferendwm 2011, cafwyd pleidlais glir 'Ie' ar bwerau deddfu uniongyrchol ar gyfer y cynulliad.

  21. 'Cenedl eilradd'

    Dywed arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod ei "hofnau gwaethaf wedi cael eu cadarnhau" gan y gyfraith ddrafft sydd, mae hi'n honni, yn trin Cymru fel "cenedl eilradd."

  22. Pasio mesurau

    Prif weinidog yn honni na fyddai 14 o'r 19 o fesurau a basiwyd ers 2011 wedi bod yn bosibl o dan y system newydd arfaethedig.

  23. 'Feto i Loegr ar gyfreithiau Cymreig'

    Dywed y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y mesur yn gosod "cyfyngiadau newydd ar y pŵer sydd gan lywodraeth Cymru i ddeddfu".

    Mr Jones yn ychwanegu bod y mesur drafft yn gyfystyr â "rhoi feto i Loegr ar ddeddfwriaeth Gymreig."

  24. Mesur Drafft Cymru

    Ymlaen at un o ddatganiadau pwysicaf y diwrnod, sef un gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ar Fesur Drafft Cymru.

  25. Pleidleisiau

    Consensws eang yn y Senedd ar bleidleisiau ar gyfer pobl 16 mlwydd oed, cwestiwn a godwyd gan Julie Morgan heddiw.

    Julie Morgan
  26. Sgiliau digidol

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn gofyn pam fod cymaint o bobl heb sgiliau digidol sylfaenol.

    Y prif weinidog yn pwysleisio fod gwahaniaethau rhwng cenedlaethau.

    Kirsty Williams
  27. Diwydiant dur

    Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn codi colledion swyddi yn y diwydiant dur.

    Mae hi'n awgrymu y gallai caffael yn y sector cyhoeddus helpu'r diwydiant yng Nghymru.

    Y prif weinidog yn dweud fod dadansoddiad Ms Wood o'r argyfwng diwydiant dur yn "naïf".

    Leanne Wood
  28. 'Colled fwyaf i drethdalwyr ers datganoli'

    Andrew RT Davies yn codi achos Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru wrth ofyn a yw gweinidogion yn credu ei bod yn dderbyniol i golli arian ar gytundebau tir.

    Y prif weinidog yn cyhuddo Mr Davies o roi 'ei sbin ei hun arni' ac yn dweud nad yw'n barod i wneud sylwadau nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gorffen ei ymchwiliad.

    Ond mae arweinydd y Torïaid yn dweud mai dyma'r "golled fwyaf i drethdalwyr ers datganoli."

  29. Trydar

    @LlyrGruffydd: "Cyfaddefiad anhygoel gan y Prif Weinidog fod ganddo ni foratoriwm ar ffracio ... "mwy neu lai"! Mae hyn yn cyfiawnhau fy honiad nad oes un."

  30. Croeso nôl

    Prynhawn da!

    Bydd y sesiwn lawn yn dechrau cyn bo hir gyda chwestiynau i'r prif weinidog.

  31. Hwyl am y tro!

    Dyna ni o'r pwyllgor bore 'ma.

    Byddwn ni nôl am 13:30 ar gyfer y sesiwn lawn.

  32. Contract wedi'i derfynu

    Mae contract Lambert Smith Hampton Ltd wedi cael ei derfynu gan Amber - rheolwr y gronfa, mae Jeremy Green cadarnhau.

  33. 'Trafodaeth agored'

    Cafodd y tir ei werthu i gwmni wedi'i leoli yn Guernsey o'r enw South Wales Land Developments.

    Yn ei chyflwyniad ysgrifenedig i'r pwyllgor amddiffynnodd Lambert Smith Hampton ei rôl gan ddweud: "Yn y bôn, rydym yn glir yn ein barn ein bod wedi cyflawni pris da ar gyfer y portffolio o asedau ac wedi gweithredu er lles gorau RIFW bob amser.

    "Roedd y cyngor a ddarparodd LSH i Amber, rheolwr y gronfa, ac i fwrdd RIFW yn glir ac wedi ei drafod yn agored ac fe gytunwyd arno."

  34. Mesur drafft Cymru: Beth i'w ddisgwyl?

    BBC Cymru Fyw

    Yng nghyfarfod wythnosol cabinet llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw, fe fydd yna dipyn o sylw i Gymru.

    Ar ôl misoedd o waith technegol a ffraeo gwleidyddol, fe fydd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn cyflwyno manylion Mesur Drafft Cymru newydd.

    Sail y mesur hwnnw fydd cytundeb trawsbleidiol Dydd Gŵyl Dewi rhwng y pedair plaid sydd wedi eu cynrychioli ym Mae Caerdydd - y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    I ddarllen weddill yr erthygl cliciwch yma.

    Mesur Cymru
  35. Ymateb ysgrifenedig

    "Rhoi cyngor yn unig oeddem ni, doedden ni ddim yn gwneud penderfyniadau " meddai Lee Mogridge.

    Cliciwch yma i weld ymateb ysgrifenedig Lambert Smith Hampton i'r pwyntiau a godwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

  36. Perchnogaeth y tir

    Andrew RT Davies yn gofyn, "O fewn y llinell amser, er eich bod chi am sicrhau'r gwerth mwyaf posibl, bu'n rhaid i chi gael gwared ar yr asedau o fewn y llinell amser a roddwyd i chi?"

    Jeremy Green yn ateb, "ie rwyf yn credu y byddem wedi cael ein beirniadu yn deg os oeddem yn dal i berchen ar y rhan fwyaf o'r asedau hynny yn 2014 ac o ganlyniad, ddim wedi gallu buddsoddi mewn prosiectau adfywio."

    Tir a werthwyd
    Image caption: Tir a werthwyd
  37. Cwestiynau am Chris Munday

    Mae nifer o Aelodau Cynulliad yn gofyn am rôl Chris Munday, gwas sifil y tu ôl i'r gronfa a werthodd filiynau o bunnoedd o dir oedd yn eiddo cyhoeddus.

    Yr wythnos diwethaf, cyfaddefodd Mr Munday ei bod yn anghywir i gynnwys y safle mwyaf gwerthfawr yn y fargen.

    Dywedodd, wrth edrych yn ôl, y dylai 120 erw (50 hectar) o dir fferm ar gyrion Caerdydd wedi cael eu hepgor.

    Chris Munday
    Image caption: Chris Munday o flaen y pwyllgor wythnos diwethaf
  38. Cwymp y banciau

    Jenny Rathbone yn cyfeirio at adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn dweud y gallai'r gwerthiant wedi cynhyrchu o leiaf £15 miliwn yn fwy i'r trethdalwr.

    Meddai Lee Mogridge "mae gweithio wrth edrych yn ôl yn beth gwych."

    Lee Mogridge

    "Beth mae pobl yn tueddu i anghofio yn yr achos hwn yw yn 2008 bu cwymp mawr i'r banciau a syrthiodd y marchnadoedd."

  39. Tystion

    Y tystion bore 'ma yw Jeremy Green a Lee Mogridge o Lambert Smith Hampton Ltd.

    Jeremy Green a Lee Mogridge
  40. Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

    Mae'r pwyllgor yn cynnal sesiwn dystiolaeth arall ar y Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

    Mae adroddiad mewnol a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru wedi codi pryderon pellach am y gwerthiant mwyaf o dir cyhoeddus yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.

    Cafodd pymtheg o safleoedd eu gwerthu am £21m gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) dair blynedd yn ôl.

  41. Bore da

    Bore da a chroeso i Senedd Fyw ar ddiwrnod cyhoeddi Mesur Cymru.

    Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9:15am.

    Senedd