a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cymru v De Affrica yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd
  2. Tri newid i Gymru: Gethin Jenkins, Dan Lydiate a Tyler Morgan yn dechrau
  3. JP Pietersen yn ôl ar yr asgell i Dde Affrica
  4. Yr ennillydd i wynebu Seland Newydd neu Ffrainc yn y rownd nesaf

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. HWYL FAWR A DIOLCH

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Diolch am ddilyn y llif byw drwy gydol Cwpan Rygbi'r Byd, am siom nad oedd Cymru wedi gallu cyrraedd y brig.

    Tan y tro nesaf, hwyl fawr.

  2. 'GUTTED'

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Ymateb Sam Warburton i'r canlyniad: "Gutted."

    Ond er hynny, dywedodd na fyddai "wedi gallu am fwy gan yr hogiau" a'i fod yn "teimlo'n rhy gynnar i fod yn mynd allan o'r gystadleuaeth".

    Cymru v De Affrica
  3. Trydar

    CYN CHWARAEWR LLOEGR

    Mae cyn-chwaraewr Lloegr, Austin Healey wedi trydar i fynegi ei siom fod Cymru allan o'r gystadleuaeth.

  4. Trydar

    PENNAU'R CYMRY'N UCHEL

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi trydar yn dweud fod Cymru yn gadael Cwpan Rygbi'r byd gyda'u pennau'n uchel, yn dilyn perfformiad da iawn.

  5. Trydar

    CYN-SEREN YN DYMUNO'N DDA I DE AFFRICA

    Mae Shane Williams, cyn-asgellwr Cymru wedi trydar i ddymuno'n dda i'r Sbrinboks yn y rownd nesa'.

  6. Post update

    Y SIOM YN ORMOD I NON

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    "Ni oedd y tim gorau. Dwi methu credu bo ni allan!!!"

    non
  7. CYMRU'N COLLI

    D.A 23-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Dyna hi... Y cloc wedi pasio 80' a'r bel yn disgyn o feddiant y cochion yn y sgarmes i Du Preez ei chicio allan.

    Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd 2015.

    De Affrica
  8. Y FUNUD OLA'

    D.A 23-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    D. Affrica yn methu cic adlam.

    Cymru yn ymosod...

  9. Post update

    PAM Y NEWIDIADAU?

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Pam y newidiadau???

    Oedd eisiau i Cuthbert i ddod i fewn am y dacl.... dwi'n mynd yn wyllt...

    Davies
    Image caption: Gatland yn penderfynu eilyddio Gareth Davies
  10. CIC GOSB ARALL...

    D.A 23-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Lein i Gymru yn hanner y Boks. Y blaenwyr yn gweithio'n galed ond Wayne Barnes yn rhoi cic gosb yn erbyn Roberts am ddal ar y bel ar y llawr.

    Fydd cyfle arall i Gymru?

  11. CAIS I DDE AFFRICA

    D.A 23-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cafodd y sgrym ei throi, ac aeth Lloyd Williams i mewn i'r dacl gan adael Fourie Du Preez yn rhydd i fynd dros y linell i Dde Affrica.

    Dyw hi ddim yn drosiad hawdd, ac mae Pollard wedi methu.

    Llai na pum munud ar ol. Pedair pwynt yw'r gwahaniaeth.

    cais
  12. BIGGAR I FFWRDD

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Penderfyniad mawr.

    Biggar i ffwrdd a Priestland ymlaen yn ei le.

    Dyw Dan ddim eisiau gadael y cae...

  13. GWYNT YN HWYLIAU'R BOKS

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    De Affrica yn mynd drwy'r cymalau, mae angen disgyblaeth, ond Barnes yn rhoi'r sgrym i'r Boks.

    Mae'r gwynt yn hwyliau De Affrica.

  14. CYMRU METHU MANTEISIO

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cymru yn pwyso ond cic gosb yn erbyn Faletau am ddisgyn ar y bel.

    Lloyd Williams ymlaen yn lle Gareth Davies.

  15. AMDDIFFYN CYMRU YN WYCH

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cymru wedi gwneud 167 o daclau yn y gem.

    De Affrica - 61...

  16. Post update

    TACLO LYDIATE YN WYCH!

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Mae Dan Lydiate wedi taclo 21 o weithiau yn ystod y gêm, er gwaethaf y ffaith fod ganddo blat yn ei wyneb. Gwych!

  17. NEWIDIADAU I GYMRU

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Justin Tipuric a James Hook ymlaen i Gymru. Lydiate a Morgan i ffwrdd.

    Sawl chwaraewr blinedig iawn ar y cae erbyn hyn.

  18. AMDDIFFYN GWYCH GAN GYMRU

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Pwysau enfawr gan Dde Affrica ond amddiffyn Cymru yn wych.

    Francis yn cipio'r bel a Cymru yn clirio i lawr y cae.

    Eiliad i gael eich gwynt.

  19. DAVIES YMLAEN YN LLE CHARTERIS

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mae Bradley Davies wedi dod i'r cae yn lle Luke Charteris.

  20. TARO'N OL YN SYTH

    D.A 18-19 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Ond cyfle i Gymru daro'n ôl yn syth.

    Cic gosb i Gymru a Dan Biggar yn ei rhoi hi rhwng y pyst unwaith eto.

    All y gem yma ddim bod yn fwy agos!

  21. D.A 18-16 CYMRU

    'CIC ENFAWR I POLLARD'

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    "Cic enfawr i Pollard" medd y sylwebwyr.

    A does dim camgymeriad y tro hwn. Y bel yn sleifio y tu mewn i'r postyn o'r gic ar yr ystlys chwith.

  22. CIC GOSB AM DACL UCHEL

    D.A 15-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cic gosb i Gymru am dacl uchel gan Vermeulen ar Jamie Roberts.

    Biggar yn cicio i'r ystlys, lein i Gymru. Biggar yn cicio yn uchel, ac mae cyfle i olwyr Cymru ymosod.

    Cymru'n colli'r bel ond Anscombe yn curo Habana i'r bel rydd. Cic gosb i Dde Affrica am beidio symud o'r sgarmes.

  23. Post update

    SAFON Y RYGBI'N UCHEL!

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Unwaith eto, fel yn y gêm yn erbyn Awstralia, mae safon y gêm yma yn haeddiannol o gêm rownd derfynol....

  24. BALDWIN I FFWRDD

    D.A 15-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Baldwin oddi ar y cae am asesiad i ergyd i'w ben, felly Ken Owens yn dod i'r cae.

  25. NEWID I GYMRU

    D.A 15-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Newid i Gymru:

    Paul James ar y cae yn lle Gethin Jenkins a Tomas Francis yn lle Samson Lee.

    Yn y cyfamser, anaf i Scott Baldwin. Timau meddygol ar y cae.

  26. METHU ETO

    D.A 15-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mantais i Dde Affrica wrth i Wayne Barnes gosbi Alun Wyn Jones - ac nid am y tro cyntaf heddiw.

    Dim mantais - felly mae gan Pollard gyfle am dri phwynt arall.

    Ond mae'n methu eto!

    Mae'r 'Boks wedi methu allan ar chwe phwynt yn y munudau diwethaf.

    Pollard
  27. Post update

    CIC ADLAM YN WELL NA CAIS YN ERBYN CYMRU!

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Dyna amddyffin gwych gan Gymru.... mae ildio cic adlam yn well nag ildio cais!

  28. GOL ADLAM I DDE AFFRICA

    D.A 15-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Amddiffyn cadarn gan Gymru, ond Hadre Pollard yn eistedd yn ôl ac yn cicio gôl adlam i Dde Affrica.

    Mae'r gêm yma'n ddi-stop.

    cic
  29. Post update

    CIC WYCH!

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Cic wych gan Biggar....dyna'r hyder sydd ei angen ar y maswr!

    cic
  30. WARBURTON YN ACHUB CYMRU

    D.A 12-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    De Jager a Pietersen yn ymosod ar linell Cymru, ond gwaith gwych gan Sam Warburton i gipio'r bel o fewn modfeddi i linell gais ei hun.

  31. TRI PHWYNT I GYMRU

    D.A 12-16 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Burger yn rhwystro Cymru yn y sgarmes, a'r dyfarnwr yn rhoi cic gosb i Gymru ychydig fetrau o fewn hanner De Affrica.

    Mae hi'n gic hir ond Biggar yn ei rhoi hi yn syth i lawr y canol. Tri phwynt arall i Gymru.

    biggar
  32. POLLARD YN METHU

    D.A 12-13 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cic gosb arall i Dde Affrica o fewn metrau i linell Cymru, ond y 'Boks yn penderfynu mynd am y tri phwynt.

    Ac am y tro cyntaf heddiw mae Pollard wedi methu.

    Fydd De Affrica yn difaru hynny?

    rygbi
  33. GWAITH GWYCH GAN FALETAU

    D.A 12-13 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Faletau yn arbed cais sicr i'r Boks yna, gan ddal y bel oddi ar ei sgidiau ar ol cic Burger.

    Roedd Pietersen o fewn modfeddi...

  34. Ebost

    MWYNHAU'R GÊM YN SIR EFROG

    Mae Cymru Fyw wedi derbyn y llun hwn o Brando'r ci yn gwylio ac yn mwynhau'r gêm yn Sir Efrog. Mae'n edrych yn fwy hamddenol nag ydyn ni ar hyn o bryd.

    Brando'r ci
  35. Trydar

    Y PRIF WEINIDOG YN DILYN Y GÊM

    Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi trydar ei fod yn mwynhau y gêm hyd yma, ac yn edrych ymlaen i weld beth fydd gan yr ail hanner i'w gynnig.

  36. Post update

    CARLO V CHARLO

    BBC Cymru Fyw

    Beth fydd yn digwydd yn yr ail hanner?

    Fe wnaeth ein dau arbenigwr rygbi ddarogan y byddai Cymru yn ennill eu tair gêm gyntaf yng Ngrŵp A yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Ond dim ond Charlo broffwydodd y byddai Awstralia yn trechu tîm Warren Gatland.

    Oes na obaith o guro De Affrica a chyrraedd y rownd gyn-derfynol?

    carlo charlo
  37. Post update

    CHAFODD NEB MWY NA GEORGE!

    Mae URC yn trydar bod George North wedi ennill 53 metr yn ystod yr hanner cyntaf.

    Mwy nac unrhyw chwaraewr arall.

  38. Post update

    NERFAU EMYR YN RACS!

    Mae Emyr Lewis wedi trydar i rannu'r ffaith fod ei nerfau'n racs, ond mae'n galw am fwy o ddisgyblaeth hefyd.

    Trydar Emyr
  39. GETHIN JENKINS YN ANLWCUS

    D.A 12-13 CYMRU

    S4C

    Dwayne Peel ar S4C yn dweud y byddai Gethin Jenkins wedi gwneud 'y pas yna' i Tyler Morgan 9 gwaith allan o 10, ond anlwcus oedd o y tro yma.

    Gobeithio am gyfle arall yn yr ail hanner felly!

  40. Post update

    CYMRU Y TÎM GORAU

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Twickenham wedi troi mewn i Stadiwm y Mileniwm.... Ni'n haeddu bod ar y blaen hanner amser.... Ni yw'r tîm gorau, ond ciciau cosb yn ardal y dacl yn ein gadael ni lawr...

    Cic adlam cynta' i Gymru yng Nghwpan y Byd!

    rygbi
  41. GÔL ADLAM GAN BIGGAR

    D.A 12-13 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Y cloc wedi pasio 40' ond sgrym Cymru yn dal yn gryf, Jamie Roberts yn syth i mewn i amddiffyn De Affrica ac mae Biggar yn ôl yn y poced.

    Mae'r bêl yn ôl ato, ac mae'r cicio'r gôl adlam i roi Cymru ar y blaen!

    De Affrica 12-13 Cymru ar yr egwyl.

  42. POSTYN!

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cic gosb i Gymru, Mtawarira yn chwarae'r bel ar lawr.

    Biggar yn paratoi i gicio o'n agos at yr hanner... Ond yn taro'r postyn!

  43. WARBURTON Y TRO HWN

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Lydiate y tro diwethaf, a nawr Sam Warburton.

    Gwaith gwych gan gapten Cymru i ddwyn y bel yn y sgarmes.

  44. LYDIATE ETO

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cymru'n colli lein arall ond amddiffyn gwych eto gan Lydiate yn sicrhau cic gosb i Gymru.

    Biggar yn clirio.

  45. PWYSAU AR GYMRU

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mae'r 'Boks yn pwyso ond mae amddiffyn Cymru yn gryf hyd yma.

    Tacl nodweddiadol gan Dan Lydiate, a Biggar ddim ofn bod yn ei chanol hi chwaith, ond sgrym i Dde Affrica.

    Cic i'r asgell y tu ol i North ond dyw Pietersen methu dal y bel, ac mae Cymru'n ddiogel am y tro.

    de affrica
  46. D.A YN AGOSAU

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Roedd JP Pietersen yn meddwl ei fod wedi sgorio, ond y dyfarnwr yn chwythu gan fod pas Vermeulen wedi mynd ymlaen.

  47. GWAITH DA GAN HABANA

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cymru'n cipio'r lein a North yn torri drwy amddiffyn y Springboks, ond does neb yna gyda'r asgellwr ac mae Wayne Barnes yn cosbi Cymru unwaith eto.

    Gwaith da gan Habana yn y sgarmes.

  48. Post update

    BETH AM Y PYST?

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Pam ddim mynd at y pyst? Dim byd i golli... Yn union fel yn erbyn Awstralia.

  49. Trydar

    YR UN HEN BROBLEM?

    Geiriau call gan Gwynfryn Hughes ar Twitter yn dweud hanes un agwedd amlwg o'r gêm hyd yn hyn.

    Trydar Gwynfryn
  50. CYMRU'N COLLI MANTAIS

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Lein i Gymru yn 22 De Affrica ond Baldwin yn taflu yn rhy hir a does dim mantais.

    Tacl wych gan Cuthbert yn dod ag ymosodiad y gwyrddion i ben

  51. Post update

    TÎM Y GAMP LAWN

    BBC Camp Lawn

    Mar criw y Gamp Lawn ar BBC Radio Cymru wedi trydar llun o'r criw sy'n sylwebu ar y gêm yn Twickernham p'nawn 'ma.

    camp lawn
  52. D.AFFRICA NÔL AR Y BLAEN

    D.A 12-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Doedd Cymru ddim ar y blaen am gyfnod hir, wrth i'r cochion roi cic gosb arall eiliadau ar ol sgorio cais.

    Pollard yn sgorio ei bedwerydd cic o'r p'nawn.

    pollard
  53. Post update

    CHWARAE GWYCH GAN GYMRU!

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Chwarae gwych gan Dan Biggar...!! Gareth Davies i mewn am gais unwaith eto!!!! Yr ysbrodoliaeth oedd eisiau ar Gymru ar ôl yr holl cicie cosb! 5 cais nawr i Gareth Davies o Gastell Newydd Emlyn!

  54. CAIS I GYMRU

    D.A 9-10 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cais i Gymru!

    Dan Biggar yn cicio'n uchel ac yn dal y bel ei hun y tu ol i amddiffyn y 'Boks, cyn pasio i Gareth Davies sydd yno hefo fo.

    Dim camgymeriad gan Davies, ac mae Biggar wedi adio'r pwyntiau am y trosiad.

  55. CIC GOSB ARALL

    D.A 9-3 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Bydd Warren Gatland yn sicr yn poeni bod Cymru yn ildio cymaint o giciau cosb mor gynnar yn y gem.

    Cic anodd i Pollard o'r ystlys dde, ond y maswr ifanc yn cicio yn syth drwy ganol y pyst.

  56. PWYNTIAU CYNTAF CYMRU

    D.A 6-3 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Cymru'n ymosod ond yr amddiffyn yn dal yn gryf.

    Y bêl yn cael ei cholli ymlaen a Barnes yn rhoi cic gosb i Gymru.

    Biggar yn cicio pwyntiau cyntaf Cymru o flaen y pyst.

  57. Post update

    ANGEN DISGYBLAETH

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Angen disgyblaeth yn y ryc. Dechreuad gwych gan Gymru ond De Africa sy a'r pwyntiau...

  58. CIC GOSB I DDE AFFRICA

    D.A 6-0 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Du Plessis i lawr yn cael triniaeth yn hanner Cymru, ond cic gosb arall i Dde Affrica yn erbyn Alun Wyn Jones.

    Pollard yn cicio at y pyst unwaith eto.

    A'r un canlyniad unwaith eto. Triphwynt arall i'r 'Boks.

  59. Post update

    NIFER O GYMRY YN Y STADIWM

    BBC Sport

    Mae nifer o Gymry yn y dorf yn Twickenham heddiw, nifer wedi gwneud ymdrech i wisgo i fyny fel Cennin Pedr!

    stadiwm
  60. PWYNTIAU CYNTAF I DDE AFFRICA

    D.A 3-0 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Wayne Barnes yn cosbi North am ddwyn y bêl ar ôl i'r dyfarnwr alw am y dacl. Cic gosb i Dde Affrica.

    Handre Pollard yn cicio at y pyst o ochr dde y cae, ac mae'r bêl yn mynd yn syth i lawr y canol.

    Pwyntiau cyntaf i Dde Affrica.

  61. CIC GOSB I DDE AFFRICA

    D.A 0-0 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Pwysau gan flaenwyr Cymru ond Wayne Barnes yn rhoi cic gosb am fethu a gadael i'r bel fynd yn y sgarmes.

    De Affrica yn clirio at yr hanner.

  62. CYFLE I GYMRU

    D.A 0-0 CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Tyler Morgan yn cipio'r bêl gan y 'Boks ac yn lledu'r bêl i George North, sy'n carlamu i lawr yr asgell at o fewn metrau i'r linell gais.

    Cymru yn mynd y ffordd arall a phas hir Gethin Jenkins yn rhy uchel i Morgan, fyddai wedi gallu rhedeg yn syth at y linell.

  63. CIC GYNTAF

    D.A 0-0 Cymru

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    De Affrica sy'n cicio gyntaf. Pollard a chic hir i Faletau cyn i Wayne Barnes roi cic gosb gyntaf y gêm i Gymru.

    Cymru'n clirio at yr hanner.

  64. Post update

    TARGEDU CANOL CAE

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Bydd y rheng ôl yn allweddol i ni heddi, ac mae angen targedu canol cae dibrofiad De Africa. Dau dim sy'n chwarae gêm debyg iawn, bydd yn agos iawn dwi'n meddwl...

  65. Post update

    CANFED CAP I ALUN WYN

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Llongyfarchiadau i Alun Wyn Jones, sy'n ennill ei ganfed cap rhyngwladol heddiw.

    Dyma fydd ei 94ain ymddangosiad yng nghrys coch Cymru, gyda'r chwaraewr ail-reng wedi cynrhychioli'r Llewod chwe gwaith.

    Alun Wyn Jones
  66. Post update

    YDYCH CHI'N BAROD AMDANI?

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mae'r timau allan ar y cae yn Twickenham, a'r anthemau yn atseinio o amgylch y stadiwm. Ydych chi'n barod amdani?

  67. Post update

    GWRANDEWCH YN FYW AR RADIO CYMRU

    BBC Camp Lawn

    Cofiwch y gallwch chi wrando ar sylwebaeth fyw o'r gêm gan Radio Cymru wrth glicio ar tab darlledu'n fyw.

  68. Post update

    HABANA I DORRI RECORD CEISIAU?

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Ac nid blaenwyr Cymru fydd yr unig rai all dorri record heddiw.

    Mae hi'n bosib y gallai asgellwr De Affrica Bryan Habana dorri record ceisiau Cwpan Rygbi'r Byd.

    Ar hyn o bryd, mae'n gyfartal gyda Jonah Lomu ar gyfanswm o 15 o geisiau. Ond gobeithio y bydd rhaid iddo ddisgwyl nes 2019 i gyflawni'r record honno!

    Bryan Habana
  69. Post update

    RECORD I RENG-ÔL CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mae cefnogwyr Cymru wedi hen arfer gweld Dan Lydiate, Sam Warburton a Taulupe Faletau yn dechrau gyda'i gilydd yn y rheng-ôl erbyn hyn, ac mae hynny'n dangos wrth iddyn nhw dorri record Cwpan Rygbi'r Byd heddiw.

    Mae'r tri yn dechrau gyda'i gilydd am y seithfed gwaith yn y gystadleuaeth yn Twickenham heddiw - record i dri rheng-ôl.

    Cymru
  70. Post update

    Y FANZONE YN LLENWI!

    Instagram

    Mae Gwenllian Haf Jones wedi cyhoeddi'r llun hwn o'r Fanzone ar Barc yr Arfau, Caerdydd yn prysur lenwi cyn dechrau'r gêm am 16:00.

    Fanzone
  71. Post update

    YR UCHAFBWYNTIAU HYD YN HYN

    BBC Cymru Fyw

    Ar drothwy rownd wyth ola' Cwpan Rygbi'r Byd 2015, Gareth Rhys Owen o dîm Clwb Rygbi sydd wedi bod yn taro golwg ar ei hoff uchafbwyntiau hyd yma i Cymru Fyw.

    Dim syndod bod cyfweliad Mike Brown yn un ohonyn nhw...

    Mike Brown
  72. Post update

    BETH YW PWRPAS Y CYFAN?

    Pobl Caerdydd

    Dyma achos y ffws i gyd!
    Image caption: Dyma achos y ffws i gyd!

    Mae'r gwpan fydd y tîm buddugol yn ei godi ar Hydref 31ain yn y 'Fanzone' yng Ngherdydd ar hyn o bryd. A'i dyma'r agosaf ddeith Cymru i'r gwpan?

  73. Post update

    CYMRU V DE AFFRICA: YCHYDIG O HANES

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mae hi'n deg dweud nad oes gan Gymru record rhy dda yn erbyn De Affrica. Mewn 30 o gemau, De Affrica sydd wedi bod yn fuddugol ar 27 achlysur, dyw Cymru ond wedi ennill dwy, ac roedd un gêm gyfartal yn ôl yn 1970.

    Un peth sydd o blaid y Cymry yw mai nhw oedd yn fuddugol y tro diwethaf i'r ddwy wlad gyfarfod yn ôl ym mis Tachwedd 2014 yn Stadiwm y Mileniwm. Ond De Affrica fu'n fuddugol yr unig dro iddyn nhw gyfarfod yng Nghwpan Rygbi'r Byd, wrth iddyn nhw drechu'r Cymry o 17-16 yn eu grŵp yn 2011.

    Cymru v De Affrica 2011
  74. Post update

    TÎM DE AFFRICA

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Ry'n ni hefyd yn gwybod pwy fydd y 15 fydd yn dechrau i Dde Affrica:

    De Affrica: Willie le Roux; JP Pietersen, Jesse Kriel, Damien de Allende, Bryan Habana; Handre Pollard, Fourie du Preez (capten); Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Frans Malherbe, Lodewyk de Jager, Eben Etzebeth, Schalk Burger, Duane Vermeulen, Francois Louw.

    Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Jannie du Plessis, Pieter-Steph du Toit, Willem Alberts, Ruan Pienaar, Pat Lambie, Jan Serfontein.

    JP Pietersen
  75. Post update

    TÎM CYMRU

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Ry'n ni'n gwybod y tîm fydd yn dechrau i Gymru ers dydd Iau pan gyhoeddodd Warren Gatland pa 15 fyddai'n wynebu De Affrica, a dyma nhw:

    Cymru: Gareth Anscombe; Alex Cuthbert, George North, Jamie Roberts, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Paul James, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Sam Warburton (capten), Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

    Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Tomas Francis, Jake Ball, Ross Moriarty, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook.

    Cymru
  76. Post update

    Y GÊM FWYAF ERIOED?

    Non Evans

    Cyn-Gapten Cymru

    Mae cyn-gapten Cymru Non Evans yn rhoi ei dadansoddiad i ni drwy gydol y gêm:

    "Dyma ni'n mynd... Cymru wedi colli 10 chwaraewr oherwydd anafiadau.... Ond ni'n dal yma! Gêm enfawr...

    "Y gêm fwya erioed? Wayne Barnes sy'n dyfarnu... bydd disgyblaeth yn allweddol!"

  77. Post update

    CROESO I'R LLIF BYW

    Cwpan Rygbi'r Byd 2015

    Mae'r awr fawr bron a chyrraedd. Bydd Cymru yn wynebu De Affrica yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd ymhen hanner awr.

    Arhoswch gyda ni am holl gyffro'r gêm a'r holl ymateb.