a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
  2. Eitem gynta'r Cyfarfod Llawn oedd cwestiynau i'r gweinidog cyllid.
  3. Mae'r gweinidog gwasanaethau cyhoeddus yn ateb cwestiynau'r aelodau.
  4. Dadleuon ar dlodi ac anghydraddoldeb, undebau ac anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.
  5. Dadl fer ar wasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni am heddiw ac am yr wythnos!

    Fyddwn ni yn ôl ddydd Mawrth 20 Hydref, yn y cyfamser, am fwy o newyddion gwleidyddol cliciwch yma.

    Senedd
  2. 'Israddio gwasanaethau'

    Yn gynharach eleni, protestiodd hyd at 200 o bobl tu allan i'r Senedd dros newidiadau i wasanaethau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro.

    Dywedodd ymgyrchwyr fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi israddio gwasanaethau yn Hwlffordd.

    Protest
  3. Dadl fer

    Ymlaen at eitem olaf y diwrnod, sef y ddadl fer gan y Ceidwadwr Paul Davies ar y teitl 'Diogelu cleifion yn Sir Benfro - pam mae angen gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg.'

    Arweiniodd Mr Davies ddadl debyg yng Ngorffennaf 2011.

  4. Rheol chwe' diwrnod

    Aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn "galw am ddileu'r rheol chwe' diwrnod ar wahardd symud yn gynnar."

    Mae hyn yn rheol gan DEFRA sy'n datgan "na ddylid symud da byw o unrhyw fangre lle mae un neu fwy o anifeiliaid wedi cael eu symud yn y cyfnod o chwe diwrnod cyn y symud", ac eithrio yn uniongyrchol i'r lladd-dy.

    Pryd bynnag y mae gwartheg, defaid, geifr neu foch yn cael eu symud i fferm, nid oes modd iddynt gael eu symud i ffwrdd am gyfnod o chwe diwrnod, oni bai bod eithriadau wedi cael eu cytuno.

    Cafodd symudiadau da byw eu beio am y lledaeniad cyflym o glwy'r traed a'r genau, a ddinistriodd bywyd amaethyddol ar draws y wlad yn 2001.

    Gwartheg
  5. Banciau yn cau

    Banciau

    Y Democrat Rhyddfrydol William Powell yn mynegi gofid am y "rownd ddiweddaraf o gau banciau ar draws cefn gwlad Cymru."

    Mae Trefaldwyn ym Mhowys a Thregaron yng Ngheredigion ymhlith y trefi sydd wedi colli banciau lleol.

    Mae'r banciau mawr yn dweud fod y toriadau yma oherwydd y cynnydd enfawr mewn bancio ar y rhyngrwyd.

    Mae cyfrifon ar-lein y DU yn awr yn cael eu defnyddio saith miliwn o weithiau'r dydd.

  6. Siarter Cig Coch

    Yr Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn Russell George yn galw yn benodol am fesurau newydd i fynd i'r afael â diffyg tai mewn cymunedau gwledig.

    Mae hefyd yn galw am Siarter Cig Coch gan gynnwys cynnydd i ganran caffael cyhoeddus cig o Gymru, ac i fanwerthwyr hyrwyddo cig statws PGI Cymru a chig Tractor Coch Prydeinig.

    Russell George
  7. Dadl nesaf

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at drydedd ddadl y prynhawn yma, y tro hwn gan y Ceidwadwyr ar gymunedau gwledig Cymru.

  8. Mwy o bwerau gan Oliver Twist?

    "Mae hyn yn ymosodiad digynsail ar hawliau gweithwyr" meddai Julie Morgan wrth siarad am y cynigion newydd.

    Fis diwethaf dywedodd llefarydd ar ran Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) y bydd trothwy newydd yn gwneud streiciau cyfreithiol yn agos at amhosibl, gan ychwanegu "bydd cynrychiolwyr undeb yn cael eu gadael heb fwy o bŵer nag Oliver Twist pan ofynnodd am fwy."

    A oedd gan Oliver Twist fwy o bwerau?
    Image caption: A oedd gan Oliver Twist fwy o bwerau?
  9. Mesur yr undebau llafur

    Fe wnaeth Aelodau Seneddol gefnogi mesur yr undebau llafur sy'n cynnig trothwy pleidleisio uwch ar gyfer pleidlais gyfrinachol, o 33 pleidlais ar ail ddarlleniad ym mis Medi.

    Mae'r llywodraeth yn awyddus i osod isafswm o 50% yn y nifer sy'n bwrw pleidlais. Gyda streiciau yn y sector cyhoeddus eu bwriad hefyd yw ei gwneud hi'n ofynnol i gael cefnogaeth o leiaf 40% o rheiny sy'n gymwys i bleidleisio.

    O dan reolau presennol, gall streiciau gael eu galw os bydd y mwyafrif o'r rhai sy'n cymryd rhan mewn pleidlais, yn pleidleisio o blaid.

    Mae'r mesur, a fyddai'n berthnasol i undebau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban hefyd yn:

    • Dyblu'r faint o rybudd sy'n rhaid i undebau eu rhoi ar gyfer streic o saith diwrnod i 14 diwrnod

    • Caniatáu i gyflogwyr i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth i gymryd lle staff sy'n streicio

    • Cyflwyno dirwyon o hyd at £20,000 ar undebau am fethu dro ar ôl tro i sicrhau bod goruchwylwyr piced yn gwisgo rhwymyn braich swyddogol

    • Rhoi diwedd i'r system 'wirio' ar gyfer casglu arian aelodaeth yn uniongyrchol o gyflogau.

    Streic
  10. Dadl aelodau unigol

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ail ddadl y prynhawn, y tro hwn gan aelodau unigol ar yr undebau llafar.

  11. 'Canolbwyntio'n ddiflino' ar dlodi

    Lesley Griffiths y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn dweud fod llywodraeth Cymru yn "canolbwyntio'n ddiflino ar achosion sylfaenol tlodi".

    Ychwanega bod "holl adrannau'r llywodraeth wedi bod yn cydweithio i ganfod ffyrdd y gallwn wneud hyd yn oed mwy i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, helpu pobl i gael swydd a gwella eu hiechyd a'u lles."

  12. 'Syfrdanol' i wario biliwn o bunnoedd

    Gan gyfeirio at gynllun datblygu ffordd liniaru'r M4, y cyn-weinidog amgylchedd Alun Davies yn dweud: "Mae'n syfrdanol i mi y bydd llywodraeth sydd wedi ymrwymo i leihau tlodi, yn gwario biliwn o bunnoedd o arian cyhoeddus ar brosiect na fydd yn cael unrhyw effaith economaidd ar fy etholwyr, ac ychydig iawn o effaith economaidd mewn rhai o rannau tlotaf y wlad."

    Does dim disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau tan 2018
    Image caption: Does dim disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau tan 2018
  13. Tlodi

    Yn ôl adroddiad y pwyllgor:

    "Ar hyn o bryd, dim ond Llundain sydd â lefel uwch o dlodi na Chymru (28%), ac mae Cymru'n gyfartal â Gorllewin Canolbarth Lloegr, gyda 23% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi.

    "Mewn ardaloedd eraill yn y DU sydd â thlodi uchel, fel gogledd-ddwyrain Lloegr, mae lefel y tlodi wedi gostwng yn fwy nag yng Nghymru dros yr un cyfnod."

  14. Dadl gyntaf y prynhawn

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru - 'Tlodi ac Anghydraddoldeb.'

  15. 'Patrwm amlwg'

    Aelod Plaid Cymru Simon Thomas yn gofyn sut y gall cadeirydd fonitro gwariant os ydynt yn rhwym gan gyfrifoldeb ar y cyd, a pham na chafodd unrhyw weinidogion eu diswyddo yn achos y Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

    Awgrymodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod hyn yn batrwm sydd wedi dod i'r amlwg, gyda llai a llai o graffu ar lywodraeth Cymru.

  16. 'Pryderon rhesymol a dilys'

    Mae Mr Davies yn dyfynnu Jo Stevens, AS Llafur dros Ganol Caerdydd ar ddiswyddiad Jenny Rathbone:

    "Cododd Jenny bryderon rhesymol a dilys am wariant ymgynghoriad ffordd liniaru'r M4."

  17. Cwestiwn brys

    Andrew RT Davies yn gofyn i'r prif weinidog am ddatganiad ar ei benderfyniad i ddiswyddo cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan Ewrop ar gyfer 2014-2020.

    Dywed fod gan y cadeirydd gyfrifoldeb ar y cyd ac yn benodiad gan y llywodraeth.

    Jenny Rathbone yn gwrando wrth i Carwyn Jones ateb cwestiwn brys ar ei diswyddiad.
    Image caption: Jenny Rathbone yn gwrando wrth i Carwyn Jones ateb cwestiwn brys ar ei diswyddiad.
  18. 'Methiannau rheoli'

    "Mae streiciau bob amser yn ddewis olaf ac weithiau maent yn ganlyniad i fethiannau rheoli wrth ymgysylltu â'r gweithlu" meddai Jenny Rathbone gan gyfeirio at fesur undebau llafur llywodraeth y DU.

  19. Gyrru oddi ar y ffordd

    Gofynna Llyr Gruffydd am broblemau sy'n cael eu creu gan yrru oddi ar y ffordd.

    Dywed Leighton Andrews fod terfynau i'r portffolio llywodraeth leol, ond mae'n ymrwymo i gynnal trafodaethau ar y mater yma o bobl sy'n cymryd cerbydau ar lwybrau troed, llwybrau marchogaeth ac ar draws tir agored lle nad oes ganddynt hawl i fod.

  20. Mesur yr undebau llafur

    Mr Andrews yn cyhuddo llywodraeth y DU o "Leniniaeth Seneddol" dros fesur yr undebau llafur.

  21. Symud ymlaen

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at gwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews.

    Mae'r cwestiwn cyntaf gan y Ceidwadwr Russell George ar ddatganoli cyfrifoldebau i awdurdodau lleol.

  22. Rhestr swyddi

    Cliciwch yma i weld y rhestr o swyddi y mae Jane Hutt wedi'i chael ers datganoli ym 1999.

  23. Diswyddo

    Y Ceidwadwr Nick Ramsay yn gofyn i'r gweinidog a oedd y prif weinidog wedi ymgynghori gyda hi cyn diswyddo Jenny Rathbone fel cadeirydd y pwyllgor sy'n goruchwylio sut y mae arian Ewropeaidd yn cael ei wario yng Nghymru.

    "Nid yw hyn yn fater i mi" yw ateb Ms Hutt.

    "Rydych yn gyfrifol am gronfeydd strwythurol" , meddai Mr Ramsay.

    Nick Ramsay
  24. Diffyg amcanol o £30 miliwn

    Gofynna Llŷr Gruffydd a fydd yn rhaid i lywodraeth Cymru "achub" Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â diffyg amcanol o £30 miliwn.

    Y gweinidog yn dweud bod rhywfaint o'r £58 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd yn y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol "ar gyfer cefnogi gwelliant mewn perfformiad y byrddau iechyd".

  25. Croeso nôl

    Bydd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt yn ateb cwestiynau'r aelodau ymhen 10 munud.

    I weld rhestr o'r cwestiynau cliciwch yma.

  26. Hwyl am y tro

    Dyna ni o'r pwyllgor bore 'ma!

    Ymunwch â ni eto am 13:30 ar gyfer dechrau'r sesiwn lawn.

  27. Brechu moch daear

    Mae pedwaredd flwyddyn y prosiect brechu moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys yng ngogledd Sir Benfro yn parhau, mae Rebecca Evans yn cadarnhau.

    Hyd yn hyn eleni, mae pump o gylchoedd brechu wedi eu cwblhau ac mae 841 o foch daear wedi'u brechu.

    Mewn blynyddoedd blaenorol, cafodd 1,316 o foch daear eu brechu yn 2014, 1,352 yn 2013 a 1,424 yn 2012.

    Mochyn daear
  28. Cwestiwn brys

    Mae cwestiwn brys wedi ei dderbyn y prynhawn yma am ddiswyddiad Jenny Rathbone.

    Mae'r prif weinidog yn debygol o ateb y cwestiwn gan y Ceidwadwyr am 3pm.

  29. Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol

    Mae nifer o aelodau'r pwyllgor yn gofyn am y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol.

    Mae'r dirprwy weinidog yn dweud mai ei bwriad yw y bydd y gorchymyn yn "codi cyflogau gweithwyr Gradd 2-6 a chategorïau eraill ryw 6%, sy'n gyfwerth â 2% o godiad bob blwyddyn rhwng 2012 a 2015".

    Disgwylir i'r gorchymyn ddod i rym ym mis Rhagfyr 2015.

  30. EIDCymru

    Dirprwy weinidog yn dweud ei bod hi'n "hyderus y bydd EIDCymru ar gael o fis Tachwedd."

    Mae Janet Howarth yn codi pryderon ynghylch cysylltiadau band eang ar gyfer ffermwyr.

    EIDCymru yw system electronig i gofnodi symudiadau defaid yng Nghymru.

    Yn ôl llywodraeth Cymru: "I ddechrau, bydd yn canolbwyntio ar gofrestru marchnadoedd da byw a lladd-dai i sicrhau bod y system yn gweithio'n effeithiol yn y lleoliadau hynny sy'n delio â niferoedd uchel o anifeiliaid."

  31. Sesiwn nesaf

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at yr ail sesiwn, y tro hwn yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Rebecca Evans.

    Yn ymuno â hi mae Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr a Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol.

    Tystion
  32. Cartrefi di-garbon

    Dywed yr aelod Llafur Jenny Rathbone - a gafodd ei diswyddo ddoe fel cadeirydd pwyllgor gan y prif weinidog ar ôl iddi feirniadu llywodraeth Cymru am wario bron i £20m ar gynlluniau ffordd liniaru'r M4 - fod penderfyniad llywodraeth y DU i "gael gwared ar reoliadau di-garbon ar gyfer cartrefi newydd" yn" siomedig".

    Mae'n gofyn a allai llywodraeth Cymru barhau â'r rheoliadau.

    Mae'r gweinidog yn ateb "rydym yn dal i fynd ar ôl hyn, y cyfleoedd am gartrefi sydd bron yn ddi-garbon.

    "Mae hyn yn parhau yn uchelgais gennym."

  33. Blog diweddar

    Vaughan Roderick

    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mae dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn dipyn o ystrydeb erbyn hyn ond mae geiriau Harold Wilson yn cael ei ddyfynnu mor aml am reswm. Maen nhw'n digwydd bod yn wir.

    Wythnos yn ôl ysgrifennais erthygl ynghylch pwy allai olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru gan enwi Vaughan Gething a Jeremy Miles ymhlith eraill fel posibiliadau. Bellach mae'n rhaid ychwanegu enw Huw Irranca Davies at y rhestr.

    Mae penderfyniad aelod seneddol Ogwr i ymgeisio am set yn y Cynulliad yn foment o bwys yn hanes ein gwleidyddiaeth am fwy nac un rheswm.

    I ddarllen gweddill y blog cliciwch yma.

  34. Poster

    Poster

    "Rwy'n gwybod nad yw hyn yn gweithio'n dda ar gyfer Cofnod y Trafodion" , meddai Andrew Slade wrth iddo ddangos poster o feintiau bwyd môr Cymru.

    Peidiwch â phoeni Mr Slade, mae'n gweithio'n iawn ar Senedd Fyw!

  35. Ffracio

    Gofynna William Powell os oes "moratoriwm ar ecsbloetio nwy siâl yn ei le yng Nghymru," ateb y gweinidog ydy "oes".

    Mae Mr Sargeant wedi dweud yn y gorffennol nad ydy technoleg ffracio wedi ei phrofi.

    Proses o bwmpio dŵr a chemegau i'r ddaear ar bwysedd uchel er mwyn rhyddhau nwy naturiol yw ffracio.

    Mae hwn yn ddiwydiant mawr yn yr Unol Daleithiau, ond mae pryderon ynghylch diogelwch, yr amgylchedd a dŵr o dan y ddaear .

    Cafwyd protestiadau yn erbyn ceisiadau am brawf drilio am nwy ym Mro Morgannwg a Wrecsam, yn ogystal â safleoedd yn Lloegr.

    Ffracio yn Texas
    Image caption: Ffracio yn Texas
  36. Tystion

    Yn rhoi tystiolaeth mae:

    Carl Sargeant Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy ac Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr.

    Tystion
  37. Pwyllgor Amgylchedd

    Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dechrau am 9am gyda'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant yn rhoi tystiolaeth i ddechrau.

    Yn y gorffennol mae Mr Sargeant wedi disgrifio Cymru fel "Real Madrid Ewrop o ran ailgylchu."

    Ar ôl i Gymru ddathlu gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Andorra neithiwr ar ôl cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016, gadewch i ni weld a fydd Mr Sargeant yn defnyddio cyfatebiaeth pêl-droed eto'r bore yma.

    Pêl-droed